Adnodau Beiblaidd

Hysbysebion


Is-gategori

98 Adnodau o'r Beibl am Ddewiniaeth a Thwyll Ysbrydol


Deuteronomium 18:10-12

Nid yw neb yn eich mysg i roi ei fab na'i ferch yn aberth trwy dân; nac i arfer dewiniaeth, hudoliaeth, na darogan; nac i gonsurio,

arfer swynion, ymwneud ag ysbrydion a bwganod, nac ymofyn â'r meirw.

Y mae unrhyw un sy'n ymhél â'r rhain yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD; o achos yr arferion ffiaidd hyn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu gyrru hwy allan o'th flaen.

Pennod    |  Fersiynau
Lefiticus 19:31

“ ‘Peidiwch â throi at ddewiniaid na cheisio swynwyr, oherwydd fe'ch halogir trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

Pennod    |  Fersiynau
Lefiticus 20:6

Byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn y sawl sy'n troi at ddewiniaid a swynwyr i buteinio ar eu holau, a byddaf yn ei dorri ymaith o blith ei bobl.

Pennod    |  Fersiynau
1 Samuel 15:23

Yn wir, pechod fel dewiniaeth yw anufudd-dod, a throsedd fel addoli eilunod yw cyndynrwydd. Am i ti wrthod gair yr ARGLWYDD, gwrthododd ef di fel brenin.”

Pennod    |  Fersiynau
Exodus 22:18

“Paid â gadael i ddewines fyw.

Pennod    |  Fersiynau
Micha 5:12

Distrywiaf swyngyfaredd o'th afael, ac ni fydd gennyt ddewiniaid.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 8:19

A phan fydd y bobl yn dweud wrthych, “Ewch i ymofyn â'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sisial a sibrwd”, onid yw'r bobl yn ymhél â'r duwiau, ac yn ymofyn â'r meirw dros y byw

Pennod    |  Fersiynau
Galatiaid 5:19-21

Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd,

eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio,

cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw.

Pennod    |  Fersiynau
Datguddiad 21:8

Ond y llwfr, y di-gred, y ffiaidd, y llofruddion, y puteinwyr, y dewiniaid, yr eilunaddolwyr, a phawb celwyddog, eu rhan hwy fydd y llyn sy'n llosgi gan dân a brwmstan, hynny yw yr ail farwolaeth.”

Pennod    |  Fersiynau
2 Tawarikh 33:6

Ef oedd yr un a barodd i'w feibion fynd trwy dân yn nyffryn Ben-hinnom, arferodd hudoliaeth, swynion a chyfaredd, ac ymhél ag ysbrydion a dewiniaeth. Yr oedd yn ymroi i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 27:9

Peidiwch â gwrando ar eich proffwydi na'ch dewiniaid na'ch breuddwydwyr na'ch hudolion na'ch swynwyr, sy'n llefaru wrthych gan ddweud, ‘Ni fyddwch yn gwasanaethu brenin Babilon.’

Pennod    |  Fersiynau
Actau 19:19

Casglodd llawer o'r rhai a fu'n ymarfer â swynion eu llyfrau ynghyd, a'u llosgi yng ngŵydd pawb; cyfrifwyd gwerth y rhain, a'i gael yn hanner can mil o ddarnau arian.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 47:12-13

“Glŷn wrth dy swynion a'th hudoliaethau aml y buost yn ymflino â hwy o'th ieuenctid— efallai y cei help ganddynt; efallai y medri godi arswyd drwyddynt.

Rwyt wedi dy lethu gan nifer dy gynghorwyr; bydded iddynt sefyll yn awr a'th achub— dewiniaid y nefoedd a gwylwyr y sêr, sy'n proffwydo bob mis yr hyn a ddigwydd iti.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 4:19

Gwylia hefyd na fyddi'n codi dy olwg i'r nefoedd ac edrych ar yr haul, y lleuad neu'r sêr, holl lu'r nefoedd, a chael dy ddenu i ymgrymu iddynt a'u haddoli; neilltuodd yr ARGLWYDD dy Dduw y rhain ar gyfer yr holl bobloedd dan y nefoedd.

Pennod    |  Fersiynau
1 Corinthiaid 10:20

Nage, ond mai i gythreuliaid, ac nid i Dduw, y maent yn aberthu eu hebyrth, ac na fynnwn i chwi fod yn gyfranogion o gythreuliaid.

Pennod    |  Fersiynau
2 Petr 2:1

Ymddangosodd hefyd broffwydi gau ymhlith pobl Israel, ac yn yr un modd bydd athrawon gau yn eich plith chwithau, rhai a fydd yn dwyn i mewn yn llechwraidd heresïau dinistriol, yn gwadu'r Meistr a'u prynodd, ac yn dwyn arnynt eu hunain ddistryw buan.

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 24:24

Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau nes arwain ar gyfeiliorn hyd yn oed yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.

Pennod    |  Fersiynau
Datguddiad 22:15

Oddi allan y mae'r cŵn, y dewiniaid, y puteinwyr, y llofruddion, yr eilunaddolwyr, a phawb sy'n caru celwydd ac yn ei wneud.

Pennod    |  Fersiynau
2 Brenhinoedd 17:17

Yr oeddent yn arfer dewiniaeth a swynion, ac yn ymroi'n llwyr i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 44:25

diddymu arwyddion celwyddog, gwneud ffyliaid o'r rhai sy'n dewino; troi doethion yn eu hôl, a gwneud eu gwybodaeth yn ynfydrwydd;

Pennod    |  Fersiynau
1 Timotheus 4:1

Y mae'r Ysbryd yn dweud yn eglur y bydd rhai mewn amserau diweddarach yn cefnu ar y ffydd. Byddant yn troi at ysbrydion twyllodrus ac at bethau y mae cythreuliaid yn eu dysgu trwy ragrith pobl gelwyddog.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 18:14

Y mae'r cenhedloedd yr wyt yn eu disodli yn gwrando ar ddewiniaid a hudolwyr; ond nid yw'r ARGLWYDD dy Dduw yn caniatáu hyn i ti.

Pennod    |  Fersiynau
Exodus 23:24

Paid ag ymgrymu i'w duwiau, na'u gwasanaethu, a phaid â gwneud fel y maent hwy yn gwneud; yr wyt i'w dinistrio'n llwyr a dryllio'u colofnau'n ddarnau.

Pennod    |  Fersiynau
Rhufeiniaid 1:21-23

Oherwydd, er iddynt wybod am Dduw, nid ydynt wedi rhoi gogoniant na diolch iddo fel Duw, ond yn hytrach wedi troi eu meddyliau at bethau cwbl ofer; ac y mae wedi mynd yn dywyllwch arnynt yn eu calon ddiddeall.

Er honni eu bod yn ddoeth, y maent wedi eu gwneud eu hunain yn ffyliaid.

Y maent wedi ffeirio gogoniant yr anfarwol Dduw am ddelw ar lun dyn marwol, neu adar neu anifeiliaid neu ymlusgiaid.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 10:2

Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Peidiwch â dysgu ffordd y cenhedloedd, na chael eich dychryn gan arwyddion y nefoedd, fel y dychrynir y cenhedloedd ganddynt.

Pennod    |  Fersiynau
Colosiaid 2:8

Gwyliwch rhag i neb eich cipio i gaethiwed drwy athroniaeth a gwag hudoliaeth yn ôl traddodiad dynol, yn ôl ysbrydion elfennig y cyfanfyd, ac nid yn ôl Crist.

Pennod    |  Fersiynau
1 Loan 4:1

Gyfeillion annwyl, peidiwch â chredu pob ysbryd, ond profwch yr ysbrydion i gael gwybod a ydynt o Dduw, oherwydd y mae gau broffwydi lawer wedi mynd allan i'r byd.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 2:6

Gwrthodaist dŷ Jacob, dy bobl, oherwydd y maent yn llawn dewiniaid o'r dwyrain, a swynwyr fel y Philistiaid, ac y maent yn gwneud cyfeillion o estroniaid.

Pennod    |  Fersiynau
2 Petr 2:3

Yn eu trachwant gwnânt elw ohonoch â'u storïau ffug; y mae eu barnedigaeth ar gerdded erstalwm, a'u dinistr yn rhythu arnynt.

Pennod    |  Fersiynau
Actau 8:9-11

Yr oedd rhyw ŵr o'r enw Simon eisoes yn y ddinas yn dewino ac yn synnu cenedl Samaria. Yr oedd yn dweud ei fod yn rhywun mawr,

ac yr oedd pawb, o fawr i fân, yn dal sylw arno ac yn dweud, “Hwn yw'r gallu dwyfol a elwir y Gallu Mawr.”

Yr oeddent yn dal sylw arno am ei fod ers cryn amser yn eu synnu â'i ddewiniaeth.

Pennod    |  Fersiynau
1 Tawarikh 10:13-14

Bu Saul farw am iddo fradychu'r ARGLWYDD trwy anufuddhau i'w air, a throi at ddewiniaeth am arweiniad yn lle ceisio arweiniad gan yr ARGLWYDD.

Felly lladdodd yr ARGLWYDD ef a rhoi'r frenhiniaeth i Ddafydd fab Jesse.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 57:3

“Dewch yma, chwi blant hudoles, epil y godinebwr a'r butain.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 8:19

Clyw! Cri merch fy mhobl o wlad bellennig: “Onid yw'r ARGLWYDD yn Seion? Onid yw ei brenin ynddi?” “Pam y maent yn fy nigio â'u delwau, â'u heilunod estron?”

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 106:35-37

ond cymysgu gyda'r cenhedloedd, a dysgu gwneud fel hwythau.

Yr oeddent yn addoli eu delwau, a bu hynny'n fagl iddynt.

Yr oeddent yn aberthu eu meibion a'u merched i'r demoniaid.

Pennod    |  Fersiynau
Effesiaid 5:11

Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni.

Pennod    |  Fersiynau
Lefiticus 19:4

Peidiwch â throi at eilunod na gwneud ichwi eich hunain ddelwau tawdd. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

Pennod    |  Fersiynau
Datguddiad 9:20

Ac am y gweddill o'r ddynolryw, nas lladdwyd gan y plâu hyn, ni bu'n edifar ganddynt am yr hyn a luniodd eu dwylo; ac ni pheidiasant ag addoli'r cythreuliaid a'r delwau aur ac arian a phres a cherrig a phren, pethau na allant na gweld na chlywed na cherdded.

Pennod    |  Fersiynau
2 Corinthiaid 11:14

Ac nid rhyfedd, oherwydd y mae Satan yntau yn ymrithio fel angel goleuni.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 29:8

“Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eich proffwydi sydd yn eich mysg, na'ch dewiniaid, a pheidiwch â gwrando ar y breuddwydion a freuddwydiant.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 31:6

Yr wyf yn casáu'r rhai sy'n glynu wrth eilunod gwag, ac ymddiriedaf fi yn yr ARGLWYDD.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 7:25

Yr ydych i losgi delwau eu duwiau yn y tân; nid ydych i chwennych eu harian a'u haur, na'u cymryd, rhag iddynt fod yn fagl ichwi, oherwydd y maent yn ffieidd-dra i'r ARGLWYDD eich Duw.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 46:1

Crymodd Bel, plygodd Nebo; ar gefn anifail ac ych y mae eu delwau, ac aeth y rhain, a fu'n ddyrchafedig, yn faich ar anifeiliaid blinedig.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 47:13

Rwyt wedi dy lethu gan nifer dy gynghorwyr; bydded iddynt sefyll yn awr a'th achub— dewiniaid y nefoedd a gwylwyr y sêr, sy'n proffwydo bob mis yr hyn a ddigwydd iti.

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 7:15

“Gochelwch rhag gau broffwydi, sy'n dod atoch yng ngwisg defaid, ond sydd o'u mewn yn fleiddiaid rheibus.

Pennod    |  Fersiynau
Hosea 4:12

Y mae fy mhobl yn ymofyn â phren, a'u gwialen sy'n eu cyfarwyddo; oherwydd ysbryd puteindra a'u camarweiniodd, troesant mewn puteindra oddi wrth eu Duw.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 2:11

A fu i unrhyw genedl newid ei duwiau, a hwythau heb fod yn dduwiau? Ond rhoddodd fy mhobl eu gogoniant yn gyfnewid am bethau dilesâd.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 57:5

chwi sy'n llosgi gan nwyd dan bob pren derw, dan bob pren gwyrddlas, ac yn aberthu plant yn y glynnoedd, yn holltau'r clogwyni?

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 11:16

Gwyliwch rhag ichwi gael eich arwain ar gyfeiliorn, a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 10:5

Fel bwgan brain mewn gardd cucumerau, ni all eilunod lefaru; rhaid eu cludo am na allant gerdded. Peidiwch â'u hofni; ni allant wneud niwed, na gwneud da chwaith.”

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 41:24

Yn wir, nid ydych chwi'n ddim, ac nid yw'ch gwaith ond diddim. Ffieiddbeth yw'r un sy'n eich dewis.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 51:17

Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth. Cywilyddir pob eurych gan ei eilun, canys celwydd yw ei ddelwau tawdd, ac nid oes anadl ynddynt.

Pennod    |  Fersiynau
Nahum 1:14

Rhoes yr ARGLWYDD orchymyn amdanat: “Ni fydd had o'th hil mwyach; torraf ymaith ddelw ac eilun o dŷ dy dduwiau; a rhoddaf i ti fedd am dy fod yn ddirmygedig.”

Pennod    |  Fersiynau
2 Brenhinoedd 23:24

Dileodd Joseia y swynwyr a'r dewiniaid, y delwau a'r eilunod, a phob ffieidd-dra tebyg a welwyd yng ngwlad Jwda ac yn Jerwsalem. Gwnaeth hyn er mwyn cadw geiriau'r gyfraith a ysgrifennwyd yn y llyfr a ddarganfu'r offeiriad Hilceia yn y deml.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 1:29

Bydd arnoch gywilydd o'r deri a oedd yn hoff gennych, a gwridwch dros eich gerddi dethol;

Pennod    |  Fersiynau
2 Corinthiaid 6:16-17

Pa gytundeb sydd rhwng teml Duw ac eilunod? Oherwydd nyni yw teml y Duw byw. Fel y dywedodd Duw: “Trigaf ynddynt hwy, a rhodiaf yn eu plith, a byddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwythau'n bobl i minnau.

Am hynny, dewch allan o'u plith hwy, ymwahanwch oddi wrthynt, medd yr Arglwydd, a pheidiwch â chyffwrdd â dim byd aflan. Ac fe'ch derbyniaf chwi,

Pennod    |  Fersiynau
Colosiaid 3:5

Rhowch i farwolaeth, felly, y rhannau hynny ohonoch sy'n perthyn i'r ddaear: anfoesoldeb rhywiol, amhurdeb, nwyd, blys, a thrachwant, sydd yn eilunaddoliaeth.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 78:58

Digiasant ef â'u huchelfeydd, a'i wneud yn eiddigeddus â'u heilunod.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 42:17

Ond cilio mewn cywilydd a wna'r rhai sy'n ymddiried mewn eilunod ac yn dweud wrth ddelwau tawdd, ‘Chwi yw ein duwiau ni.’ ”

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 96:5

Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd, ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 44:8

Pam yr ydych yn fy nigio i â gwaith eich dwylo, ac yn arogldarthu i dduwiau eraill yng ngwlad yr Aifft, lle y daethoch i fyw, gan eich difetha eich hunain, a bod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear?

Pennod    |  Fersiynau
2 Tawarikh 14:3

Symudodd ymaith allorau'r duwiau dieithr a'r uchelfeydd, a dryllio'r colofnau a chwalu delwau Asera.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 32:17

Yr oeddent yn aberthu i ddemoniaid nad oeddent dduwiau, ac i dduwiau nad oeddent yn eu hadnabod, duwiau newydd yn dod oddi wrth eu cymdogion, nad oedd eu hynafiaid wedi eu parchu.

Pennod    |  Fersiynau
Eseciel 6:9

Ymysg y cenhedloedd lle caethgludwyd hwy, bydd y rhai a ddihangodd yn fy nghofio—fel y drylliwyd fi gan eu calonnau godinebus pan oeddent yn troi oddi wrthyf, a chan eu llygaid pan oeddent yn godinebu gydag eilunod; yna byddant yn eu casáu eu hunain am y drygioni a wnaethant ac am eu holl ffieidd-dra.

Pennod    |  Fersiynau
1 Corinthiaid 10:19

Beth, felly, yr wyf yn ei ddweud? Bod bwyd sydd wedi ei aberthu i eilunod yn rhywbeth? Neu fod eilun yn rhywbeth?

Pennod    |  Fersiynau
1 Brenhinoedd 18:21

Pan ddaeth Elias at yr holl bobl, gofynnodd, “Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl? Os yr ARGLWYDD sydd Dduw, dilynwch ef; ac os Baal, dilynwch hwnnw.” Ond nid atebodd y bobl air iddo.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 16:20

A wna rhywun dduw iddo'i hun? Nid yw'r rhain yn dduwiau.”

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 48:5

am hynny rhois wybod i ti erstalwm, a'th hysbysu cyn iddynt ddigwydd, rhag i ti ddweud, ‘Fy nelw a'u gwnaeth, fy eilun a'm cerfddelw a'u trefnodd.’

Pennod    |  Fersiynau
1 Loan 5:21

Blant, ymgadwch rhag eilunod.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 10:3-5

Y mae arferion y bobloedd fel eilun— pren wedi ei gymynu o'r goedwig, gwaith dwylo saer â bwyell;

ac wedi iddynt ei harddu ag arian ac aur, y maent yn ei sicrhau â morthwyl a hoelion, rhag iddo symud.

Fel bwgan brain mewn gardd cucumerau, ni all eilunod lefaru; rhaid eu cludo am na allant gerdded. Peidiwch â'u hofni; ni allant wneud niwed, na gwneud da chwaith.”

Pennod    |  Fersiynau
Exodus 23:13

Gofalwch gadw'r holl bethau a ddywedais wrthych, a pheidiwch ag enwi duwiau eraill na sôn amdanynt.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 45:20

“Ymgasglwch, dewch yma, nesewch gyda'ch gilydd, rai dihangol y cenhedloedd. Nid oes gwybodaeth gan gludwyr delwau pren a'r rhai sy'n gweddïo ar dduw na all eu hachub.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 29:13

Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD, “Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf a thalu gwrogaeth i mi â geiriau yn unig, ond eu calon ymhell oddi wrthyf, a'u parch i mi yn ddim ond cyfraith ddynol wedi ei dysgu ar gof,

Pennod    |  Fersiynau
Rhufeiniaid 12:2

A pheidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 115:4-7

Arian ac aur yw eu delwau hwy, ac wedi eu gwneud â dwylo dynol.

Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad, a llygaid nad ydynt yn gweld;

y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed, a ffroenau nad ydynt yn arogli;

y mae ganddynt ddwylo nad ydynt yn teimlo, a thraed nad ydynt yn cerdded; ac ni ddaw sŵn o'u gyddfau.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 50:2

“Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch; codwch faner a chyhoeddwch; peidiwch â chelu ond dywedwch, ‘Goresgynnwyd Babilon, gwaradwyddwyd Bel, brawychwyd Merodach. Daeth cywilydd dros ei heilunod a drylliwyd ei delwau.’

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 106:36

Yr oeddent yn addoli eu delwau, a bu hynny'n fagl iddynt.

Pennod    |  Fersiynau
Datguddiad 13:4

ac addoli'r ddraig am iddi roi'r awdurdod i'r bwystfil, ac addoli'r bwystfil hefyd gan ddweud, “Pwy sydd debyg i'r bwystfil, a phwy all ryfela yn ei erbyn ef?”

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 2:8

y mae eu gwlad yn llawn o eilunod; ymgrymant i waith eu dwylo, i'r hyn a wnaeth eu bysedd.

Pennod    |  Fersiynau
Colosiaid 2:18

Peidiwch â chymryd eich gwahardd gan ddyfarniad neb sydd â'i fryd ar ddiraddio'r hunan, ac ar addoli angylion ar sail ei weledigaethau. Meddwl cnawdol sy'n peri i rai felly ymchwyddo heb achos,

Pennod    |  Fersiynau
1 Samuel 7:3

Dywedodd Samuel wrth yr Israeliaid, “Os ydych yn dychwelyd at yr ARGLWYDD â'ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau estron a'r Astaroth o'ch mysg; rhowch eich meddwl ar yr ARGLWYDD, a'i addoli ef yn unig, ac fe'ch achub o law y Philistiaid.”

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 32:35

Codasant uchelfeydd i Baal yn nyffryn Ben-hinnom, i aberthu eu meibion a'u merched i Moloch; ni orchmynnais hyn iddynt, ac ni ddaeth i'm meddwl iddynt wneud y fath ffieidd-dra, i beri i Jwda bechu.’

Pennod    |  Fersiynau
Exodus 34:13

Dinistriwch eu hallorau, drylliwch eu colofnau, a thorrwch i lawr eu pyst.

Pennod    |  Fersiynau
Hosea 4:17

“Glynodd Effraim wrth eilunod; gadawer iddo.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 12:2-3

Yr ydych i lwyr ddinistrio'r holl fannau ar y mynyddoedd uchel a'r bryniau, a than bob pren gwyrddlas, lle mae'r cenhedloedd yr ydych yn eu disodli yn addoli eu duwiau.

Yr ydych i dynnu i lawr eu hallorau, dryllio'u colofnau, llosgi eu pyst Asera yn y tân, torri i lawr ddelwau eu duwiau, a dinistrio'u henwau o'r mannau hynny.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 8:2

a'u taenu yn wyneb yr haul a'r lleuad a holl lu'r nefoedd y buont yn eu caru ac yn eu gwasanaethu, gan rodio ar eu hôl ac ymofyn ganddynt a'u haddoli. Byddant heb eu casglu a heb eu claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear.

Pennod    |  Fersiynau
Eseciel 20:7

Dywedais wrthynt, “Pob un ohonoch, bwriwch ymaith y pethau atgas y mae eich llygaid yn syllu arnynt, a pheidiwch â'ch halogi eich hunain ag eilunod yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.”

Pennod    |  Fersiynau
2 Tawarikh 34:7

sef dryllio'r allorau a'r pyst Asera, a malu'r cerfluniau'n yfflon a dinistrio'r holl arogldarth trwy Israel gyfan; yna dychwelodd i Jerwsalem.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 46:7

Codant ef ar eu hysgwydd a'i gario, gosodant ef yn ei le, ac yno y saif heb symud; os llefa neb arno, nid yw'n ei ateb, nac yn ei achub o'i gyfyngder.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 44:3

o achos y drygioni a wnaethant i'm digio, gan losgi arogldarth ac addoli duwiau eraill nad oeddent hwy na chwithau na'ch hynafiaid yn eu hadnabod.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 57:13

pan weiddi, ni fyddant yn dy waredu. Bydd y gwynt yn eu dwyn ymaith i gyd, ac awel yn eu chwythu i ffwrdd. Ond bydd y sawl a ymddiried ynof fi yn meddiannu'r ddaear, ac yn etifeddu fy mynydd sanctaidd.”

Pennod    |  Fersiynau
Exodus 20:5

nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu,

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 66:3

“Prun ai lladd ych ai lladd dyn, ai aberthu oen ai tagu ci, ai offrymu bwydoffrwm ai aberthu gwaed moch, ai arogldarthu thus ai bendithio eilun, dewis eu ffordd eu hunain y maent, ac ymhyfrydu yn eu ffieidd-dra

Pennod    |  Fersiynau
2 Brenhinoedd 17:15

Yr oeddent yn gwrthod ei ddeddfau a'r cyfamod a wnaeth â'u hynafiaid a'r rhybuddion a roddodd iddynt, yn dilyn oferedd ac yn troi'n ofer, yr un fath â'r cenhedloedd oedd o'u cwmpas, er i'r ARGLWYDD orchymyn iddynt beidio â gwneud felly.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 44:10

Pwy sy'n gwneud duw neu'n cerfio delw os nad yw'n elw iddo?

Pennod    |  Fersiynau
Exodus 20:4

“Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y dŵr dan y ddaear;

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 2:5

Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Pa fai a gafodd eich hynafiaid ynof, i ymbellhau oddi wrthyf, i rodio ar ôl oferedd, a mynd yn ofer?

Pennod    |  Fersiynau
2 Tawarikh 15:8

Pan glywodd Asa y geiriau hyn, sef y broffwydoliaeth gan Asareia fab Oded y proffwyd, fe ymwrolodd. Ysgubodd ymaith y pethau ffiaidd o holl wlad Jwda a Benjamin, ac o'r dinasoedd a enillodd ym mynydd-dir Effraim, ac adnewyddodd allor yr ARGLWYDD a safai o flaen porth teml yr ARGLWYDD.

Pennod    |  Fersiynau
Eseciel 14:6

Felly dywed wrth dŷ Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Edifarhewch, a throwch oddi wrth eich eilunod ac oddi wrth eich holl ffieidd-dra.

Pennod    |  Fersiynau