Wel, wyt ti’n gwybod, mae’n braf cael ymwelwyr, yn y cartref neu yn y capel. Mae’n fendith clywed eu geiriau calonogol ac mae’n naturiol eisiau dymuno’r gorau iddyn nhw wrth iddyn nhw adael. Dwi wastad yn hoffi rhannu adnod o’r Beibl gyda nhw, rhywbeth i’w cadw nhw’n saff ar eu taith ac i’w hatgoffa o gariad Duw.
Mae 3 Ioan 1:2 yn un o’m ffefrynnau i: “Annwyl, yr wyf yn dymuno yn fawr i ti ffynnu ym mhob peth, ac i ti fod yn iach, fel y mae dy enaid yn ffynnu.” Mae’n neges hyfryd, tydi’n meddwl? Gobeithio y bydd yn rhoi cysur a nerth i ti.
Mae’r Beibl yn llawn addewidion gwerthfawr. Chwilia amdanun nhw – mae nhw yno i’n helpu ni i gyd ar ein taith.
A bydd fy Nuw i yn cyflawni eich holl angen chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant yng Nghrist Iesu.
Ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abraham wrth dderw Mamre, pan oedd yn eistedd wrth ddrws y babell yng ngwres y dydd.Cododd ei olwg a gwelodd dri gŵr yn sefyll o'i flaen. Pan welodd hwy, rhedodd o ddrws y babell i'w cyfarfod, ac ymgrymu i'r llawr,a dweud, “F'arglwydd, os cefais ffafr yn d'olwg, paid â mynd heibio i'th was.
“Anrhydedda dy dad a'th fam, er mwyn amlhau dy ddyddiau yn y wlad y mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi iti.
Gyfaill annwyl, yr wyf yn dymuno iechyd iti, a llwyddiant ym mhob peth, fel y mae dy enaid yn llwyddo.
Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn bendithio'r cyfiawn, ac y mae dy ffafr yn ei amddiffyn fel tarian.
Y mae'r estron sy'n byw gyda thi i'w ystyried gennyt fel brodor o'ch plith; yr wyt i'w garu fel ti dy hun, oherwydd estroniaid fuoch chwi yng ngwlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
Yr ydych chwithau i garu'r dieithryn, gan ichwi fod yn ddieithriaid yng ngwlad yr Aifft.
A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.
Dywedodd Dafydd wrtho, “Paid ag ofni, yr wyf wedi penderfynu gwneud caredigrwydd â thi er mwyn Jonathan dy dad; yr wyf am roi'n ôl i ti holl dir dy daid Saul, ac fe gei di dy fwyd bob dydd wrth fy mwrdd i.”
Bydded i Dduw tangnefedd, yr hwn a ddug yn ôl oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol,eich cymhwyso â phob daioni, er mwyn ichwi wneud ei ewyllys ef; a bydded iddo lunio ynom yr hyn sydd gymeradwy ganddo, trwy Iesu Grist, i'r hwn y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
Dywedodd y brenin, “Fe gaiff Cimham fynd drosodd gyda mi, a gwnaf iddo fel y gweli di'n dda; a gwnaf i tithau beth bynnag a ddeisyfi gennyf.”
Ond wedi iddo orwedd a chysgu dan ryw bren banadl, dyna angel yn ei gyffwrdd ac yn dweud wrtho, “Cod, bwyta.”A phan edrychodd, wrth ei ben yr oedd teisen radell a ffiolaid o ddŵr; a bwytaodd ac yfed ac ailgysgu.Daeth yr angel yn ôl eilwaith a'i gyffwrdd a dweud, “Cod, bwyta, rhag i'r daith fod yn ormod iti.”
“ ‘Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio a'th gadw;bydded i'r ARGLWYDD lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt;bydded i'r ARGLWYDD edrych arnat, a rhoi iti heddwch.’
Gwyn ei fyd y sawl sy'n ystyried y tlawd. Bydd yr ARGLWYDD yn ei waredu yn nydd adfyd;bydd yr ARGLWYDD yn ei warchod ac yn ei gadw'n fyw; bydd yn rhoi iddo ddedwyddwch yn y tir, ac ni rydd mohono i fympwy ei elynion.Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal ar ei wely cystudd, ac yn cyweirio'i wely pan fo'n glaf.
Mae Duw yn gosod yr unig mewn cartref, ac yn arwain allan garcharorion mewn llawenydd; ond y mae'r gwrthryfelwyr yn byw mewn diffeithwch.
“Rhowch ddedfryd o blaid y gwan a'r amddifad, gwnewch gyfiawnder â'r truenus a'r diymgeledd.Gwaredwch y gwan a'r anghenus, achubwch hwy o law'r drygionus.
Honni eu bod yn gyfeillion a wna rhai; ond ceir hefyd gyfaill sy'n glynu'n well na brawd.
Y mae dau yn well nag un, oherwydd y maent yn cael tâl da am eu llafur;os bydd y naill yn syrthio, y mae'r llall yn gallu ei godi, ond gwae'r un sydd ar ei ben ei hun; pan yw'n syrthio, nid oes ganddo neb i'w godi.
Onid rhannu dy fara gyda'r newynog, a derbyn y tlawd digartref i'th dŷ, dilladu'r noeth pan y'i gweli, a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun?
Barnodd ef achos y tlawd a'r anghenus, ac yna bu'n dda arno. “Onid hyn yw f'adnabod i?” medd yr ARGLWYDD.
Byddaf yn ceisio'r ddafad golledig ac yn dychwelyd y wasgaredig; byddaf yn rhwymo'r ddolurus ac yn cryfhau'r wan. Ond byddaf yn difa'r fras a'r gref; byddaf yn eu bugeilio â chyfiawnder.
Rho i'r sawl sy'n gofyn gennyt, a phaid â throi i ffwrdd oddi wrth y sawl sydd am fenthyca gennyt.
A phwy bynnag a rydd gymaint â chwpanaid o ddŵr oer i un o'r rhai bychain hyn am ei fod yn ddisgybl, yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr.”
Ond daeth teithiwr o Samariad ato; pan welodd hwn ef, tosturiodd wrtho.Aeth ato a rhwymo ei glwyfau, gan arllwys olew a gwin arnynt; gosododd ef ar ei anifail ei hun, a'i arwain i lety, a gofalu amdano.Trannoeth tynnodd ddau ddarn arian allan a'u rhoi i'r gwesteiwr, gan ddweud, ‘Gofala amdano. Os byddi wedi gwario rhywbeth dros ben, fe dalaf fi yn ôl iti pan ddychwelaf.’
Meddai hefyd wrth ei wahoddwr, “Pan fyddi'n trefnu cinio neu swper, paid â gwahodd dy gyfeillion na'th frodyr na'th berthnasau na'th gymdogion cyfoethog, rhag ofn iddynt hwythau yn eu tro dy wahodd di, ac iti gael dy ad-dalu.Pan fyddi'n trefnu gwledd, gwahodd yn hytrach y tlodion, yr anafusion, y cloffion, a'r deillion;a gwyn fydd dy fyd, am nad oes ganddynt fodd i dalu'n ôl iti; cei dy dalu'n ôl yn atgyfodiad y cyfiawn.”
Os wyf fi, felly, a minnau'n Arglwydd ac yn Athro, wedi golchi eich traed chwi, fe ddylech chwithau hefyd olchi traed eich gilydd.Yr wyf wedi rhoi esiampl i chwi; yr ydych chwithau i wneud fel yr wyf fi wedi ei wneud i chwi.
Yr oedd rhyw ŵr yng Nghesarea o'r enw Cornelius, canwriad o'r fintai Italaidd, fel y gelwid hi;gŵr defosiynol ydoedd, yn ofni Duw, ef a'i holl deulu. Byddai'n rhoi elusennau lawer i'r bobl Iddewig, ac yn gweddïo ar Dduw yn gyson.
Fe'i bedyddiwyd hi a'i theulu, ac yna deisyfodd arnom, gan ddweud, “Os ydych yn barnu fy mod yn credu yn yr Arglwydd, dewch i mewn ac arhoswch yn fy nhŷ.” A mynnodd ein cael yno.
Y mae'n ddyletswydd arnom ni, y rhai cryf, oddef gwendidau'r rhai sy'n eiddil eu cydwybod, a pheidio â'n plesio ein hunain.Y mae pob un ohonom i blesio ein cymydog, gan anelu at yr hyn sydd dda er adeiladu ein gilydd.
rhag bod ymraniad yn y corff, ac er mwyn i'r holl aelodau gymryd yr un gofal dros ei gilydd.Os bydd un aelod yn dioddef, y mae pob aelod yn cyd-ddioddef; neu os bydd un aelod yn cael ei anrhydeddu, y mae pob aelod yn cydlawenhau.
Oherwydd y mae'r cymorth a ddaw o'r gwasanaeth hwn, nid yn unig yn diwallu anghenion y saint ond hefyd yn gorlifo mewn llawer o ddiolchgarwch i Dduw.Ar gyfrif y prawf sydd yn y cymorth hwn, byddant yn gogoneddu Duw am eich ufudd-dod i Efengyl Crist, yr Efengyl yr ydych yn ei chyffesu, ac am haelioni eich cyfraniad iddynt hwy ac i bawb.
Felly, tra bydd amser gennym, gadewch inni wneud da i bawb, ac yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd.
Byddwch yn dirion wrth eich gilydd; yn dyner eich calon, yn maddau i'ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi.
Peidiwch â gwneud dim o gymhellion hunanol nac o ymffrost gwag, ond mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun.Bydded gofal gan bob un ohonoch, nid am eich buddiannau eich hunain yn unig ond am fuddiannau pobl eraill hefyd.
Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch amdanoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd.Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau.Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd.
Ac yr ydym yn eich annog, gyfeillion, ceryddwch y segurwyr, cysurwch y gwangalon, cynorthwywch y rhai eiddil, byddwch yn amyneddgar wrth bawb.
A rhaid cael prawf iddi ymroi i weithredoedd da: iddi fagu plant, iddi roi llety i ddieithriaid, iddi olchi traed y saint, iddi gynorthwyo pobl mewn cyfyngder, yn wir iddi ymdaflu i bob math o weithredoedd da.
Rhaid i'n pobl ni hefyd ddysgu ymroi i waith gonest i gyfarfod ag angenrheidiau bywyd; os na wnânt, byddant yn ddi-les.
Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da,heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â'ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.
Bydded i frawdgarwch barhau.Peidiwch ag anghofio lletygarwch, oherwydd trwyddo y mae rhai, heb wybod hynny, wedi rhoi llety i angylion.
Dyma'r grefydd sy'n bur a dilychwin yng ngolwg Duw ein Tad: bod rhywun yn gofalu am yr amddifad a'r gweddwon yn eu cyfyngder, ac yn ei gadw ei hun heb ei ddifwyno gan y byd.
Byddwch letygar i'ch gilydd heb rwgnach.Yn ôl fel y derbyniodd pob un ohonoch ddawn, defnyddiwch eich dawn yng ngwasanaeth eich gilydd, fel gweinyddwyr da ar amryfal ras Duw.
Pwy bynnag sydd â meddiannau'r byd ganddo, ac yn gweld ei gydaelod mewn angen, ac eto'n cau ei galon yn ei erbyn, sut y mae cariad Duw yn aros ynddo?Fy mhlant, gadewch inni garu, nid ar air nac ar dafod ond mewn gweithred a gwirionedd.
Bydd yr ARGLWYDD yn gweithredu ar fy rhan. O ARGLWYDD, y mae dy gariad hyd byth; paid â gadael gwaith dy ddwylo.
Paid â gwrthod cymwynas i'r sawl sy'n ei haeddu, os yw yn dy allu i'w gwneud.Paid â dweud wrth dy gymydog, “Tyrd yn d'ôl eto, ac fe'i rhoddaf iti yfory”, er ei fod gennyt yn awr.
os bydd y naill yn syrthio, y mae'r llall yn gallu ei godi, ond gwae'r un sydd ar ei ben ei hun; pan yw'n syrthio, nid oes ganddo neb i'w godi.
Y mae ysbryd yr Arglwydd DDUW arnaf, oherwydd i'r ARGLWYDD fy eneinio i gyhoeddi newyddion da i'r tlodion, a chysuro'r toredig o galon; i gyhoeddi rhyddid i'r caethion, a rhoi gollyngdod i'r carcharorion;
A phan welodd ef y tyrfaoedd tosturiodd wrthynt am eu bod yn flinderus a diymadferth fel defaid heb fugail.
Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi.Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i'ch eneidiau.Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a'm baich i yn ysgafn.”
Ni fydd yn mathru corsen doredig, nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu, nes iddo ddwyn barn i fuddugoliaeth.
“Os pecha dy gyfaill yn dy erbyn, dos a dangos ei fai iddo, o'r neilltu rhyngot ti ac ef. Os bydd yn gwrando arnat, fe enillaist dy gyfaill.Ond os na fydd yn gwrando, cymer gyda thi un neu ddau arall, er mwyn i bob peth sefyll ar air dau neu dri o dystion.Os bydd yn gwrthod gwrando arnynt hwy, dywed wrth yr eglwys; ac os bydd yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, cyfrifa ef fel un o'r Cenhedloedd a'r casglwr trethi.
“Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf, oherwydd iddo f'eneinio i bregethu'r newydd da i dlodion. Y mae wedi f'anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i'r gorthrymedig gerdded yn rhydd,
Dyma fy ngorchymyn i: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi.Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.
Yr oedd yr holl gredinwyr ynghyd yn dal pob peth yn gyffredin.Byddent yn gwerthu eu heiddo a'u meddiannau, ac yn eu rhannu rhwng pawb, yn ôl fel y byddai angen pob un.
Yr wyf yn cyflwyno i chwi Phebe, ein chwaer, sydd yn gwasanaethu'r eglwys yn Cenchreae.Derbyniwch hi yn enw'r Arglwydd, mewn modd teilwng o'r saint, a byddwch yn gefn iddi ym mhob peth y gall fod arni angen eich cymorth, oherwydd y mae hithau wedi bod yn gefn i lawer, ac i mi yn bersonol.
gan ddeisyf arnom yn daer iawn am gael y fraint o gyfrannu tuag at y cymorth i'r saint—
Rhaid i bawb roi o wirfodd ei galon, nid o anfodd neu o raid, oherwydd rhoddwr llawen y mae Duw'n ei garu.
Byddaf yn diolch i'm Duw bob tro y byddaf yn cofio amdanoch,a phob amser ym mhob un o'm gweddïau dros bob un ohonoch, yr wyf yn gweddïo gyda llawenydd.Diolch y byddaf am eich partneriaeth yn yr Efengyl o'r dydd cyntaf hyd yn awr;
Yr ydych chwithau, Philipiaid, yn gwybod, pan euthum allan o Facedonia ar gychwyn y genhadaeth, na fu gan yr un eglwys, ar wahân i chwi yn unig, ran gyda mi mewn rhoi a derbyn;oherwydd yn Thesalonica hyd yn oed anfonasoch unwaith, ac eilwaith, i gyfarfod â'm hangen.
Yr ydym yn diolch i Dduw bob amser amdanoch chwi oll, gan eich galw i gof yn ein gweddïau,a chofio'n ddi-baid gerbron ein Duw a'n Tad am weithgarwch eich ffydd, a llafur eich cariad, a'r dyfalbarhad sy'n tarddu o'ch gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist.
Dylem ddiolch i Dduw bob amser amdanoch chwi, gyfeillion, fel y mae'n weddus, am fod eich ffydd yn cynyddu'n ddirfawr, a chariad pob un ohonoch tuag at ei gilydd yn dyfnhau,
Yn hytrach, calonogwch eich gilydd bob dydd, tra gelwir hi'n “heddiw”, rhag i neb ohonoch gael ei galedu gan dwyll pechod.
Oherwydd nid yw Duw yn anghyfiawn; nid anghofia eich gwaith, a'r cariad tuag at ei enw yr ydych wedi ei amlygu drwy weini i'r saint, ac yn dal ati i weini.
Fel yna dyweded y rhai a waredwyd gan yr ARGLWYDD, y rhai a waredodd ef o law'r gelyn,
Y mae'r un a ddirmyga'i gymydog yn pechu, ond dedwydd yw'r un sy'n garedig wrth yr anghenus.
Y mae'r un sy'n gorthrymu'r tlawd yn amharchu ei Greawdwr, ond y sawl sy'n trugarhau wrth yr anghenus yn ei anrhydeddu.
Y mae'r un sy'n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i'r ARGLWYDD, ac fe dâl ef yn ôl iddo am ei weithred.
os rhoddi o'th fodd i'r anghenus, a diwallu angen y cystuddiol, yna cyfyd goleuni i ti o'r tywyllwch, a bydd y caddug fel canol dydd.
a gofalu am alarwyr Seion; a rhoi iddynt goron yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, mantell moliant yn lle digalondid. Gelwir hwy yn brennau cyfiawnder wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i'w ogoniant.
A bydd y Brenin yn eu hateb, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.’
P'run o'r tri hyn, dybi di, fu'n gymydog i'r dyn a syrthiodd i blith lladron?”Meddai ef, “Yr un a gymerodd drugaredd arno.” Ac meddai Iesu wrtho, “Dos, a gwna dithau yr un modd.”
Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd: carwch eich gilydd. Fel y cerais i chwi, felly yr ydych chwithau i garu'ch gilydd.Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.”
Yr oedd yn Jopa ryw ddisgybl o'r enw Tabitha; ystyr hyn, o'i gyfieithu, yw Dorcas. Yr oedd hon yn llawn o weithredoedd da ac o elusennau.
Bydded eich cariad yn ddiragrith. Casewch ddrygioni. Glynwch wrth ddaioni.Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch.
Fe'ch galwyd chwi, gyfeillion, i ryddid, ond yn unig peidiwch ag arfer eich rhyddid yn gyfle i'r cnawd; yn hytrach trwy gariad byddwch yn weision i'ch gilydd.
Byddwch yn ddoeth eich ymddygiad tuag at y rhai sydd y tu allan; daliwch ar eich cyfle.
Annog hwy i wneud daioni, i fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, i fod yn hael ac yn barod i rannu,
Rhoddodd ef ei hun drosom ni i brynu rhyddid inni oddi wrth bob anghyfraith, a'n glanhau ni i fod yn bobl wedi eu neilltuo iddo ef ei hun ac yn llawn sêl dros weithredoedd da.
Peidiwch ag anghofio gwneud daioni a rhannu ag eraill; oherwydd ag aberthau fel hyn y rhyngir bodd Duw.
Os yw brawd neu chwaer yn garpiog ac yn brin o fara beunyddiol,ac un ohonoch yn dweud wrthynt, “Ewch, a phob bendith ichwi; cadwch yn gynnes a mynnwch ddigon o fwyd”, ond heb roi dim iddynt ar gyfer rheidiau'r corff, pa les ydyw?
Yn ôl fel y derbyniodd pob un ohonoch ddawn, defnyddiwch eich dawn yng ngwasanaeth eich gilydd, fel gweinyddwyr da ar amryfal ras Duw.
Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros y dieithriaid, ac yn cynnal y weddw a'r amddifad; y mae'n difetha ffordd y drygionus.
Paid â chefnu ar dy gyfaill a chyfaill dy rieni, a phaid â mynd i dŷ dy frawd yn nydd dy adfyd. Y mae cyfaill agos yn well na brawd ymhell.
Oherwydd bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i'ch cartref;
Pan fyddi'n trefnu gwledd, gwahodd yn hytrach y tlodion, yr anafusion, y cloffion, a'r deillion;
ond os rhodiwn yn y goleuni, fel y mae ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb â'n gilydd, ac y mae gwaed Iesu, ei Fab ef, yn ein glanhau ni o bob pechod.