Adnodau Beiblaidd

- Hysbysebion -


86 Adnodau o'r Beibl am Dwyll o Ddewiniaeth

86 Adnodau o'r Beibl am Dwyll o Ddewiniaeth


Lefiticus 19:31

“ ‘Peidiwch â throi at ddewiniaid na cheisio swynwyr, oherwydd fe'ch halogir trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Lefiticus 20:6

Byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn y sawl sy'n troi at ddewiniaid a swynwyr i buteinio ar eu holau, a byddaf yn ei dorri ymaith o blith ei bobl.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Deuteronomium 18:10-12

Nid yw neb yn eich mysg i roi ei fab na'i ferch yn aberth trwy dân; nac i arfer dewiniaeth, hudoliaeth, na darogan; nac i gonsurio,arfer swynion, ymwneud ag ysbrydion a bwganod, nac ymofyn â'r meirw.Y mae unrhyw un sy'n ymhél â'r rhain yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD; o achos yr arferion ffiaidd hyn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu gyrru hwy allan o'th flaen.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Jeremeia 27:9

Peidiwch â gwrando ar eich proffwydi na'ch dewiniaid na'ch breuddwydwyr na'ch hudolion na'ch swynwyr, sy'n llefaru wrthych gan ddweud, ‘Ni fyddwch yn gwasanaethu brenin Babilon.’

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 44:25

diddymu arwyddion celwyddog, gwneud ffyliaid o'r rhai sy'n dewino; troi doethion yn eu hôl, a gwneud eu gwybodaeth yn ynfydrwydd;

Pennod    |  Fersiynau Copi
Micha 5:12

Distrywiaf swyngyfaredd o'th afael, ac ni fydd gennyt ddewiniaid.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseciel 13:6-7

Y mae eu gweledigaethau yn dwyllodrus a'u dewiniaeth yn gelwydd; er nad yw'r ARGLWYDD wedi eu hanfon, y maent yn dweud, ‘Medd yr ARGLWYDD’, ac yn disgwyl iddo gyflawni eu gair.Onid gweld gweledigaeth dwyllodrus a llefaru dewiniaeth gelwyddog yr oeddech wrth ddweud, ‘Medd yr ARGLWYDD’, a minnau heb lefaru?

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseciel 13:23

felly ni fyddwch yn cael gweledigaethau twyllodrus eto nac yn ymarfer dewiniaeth. Byddaf yn gwaredu fy mhobl o'ch dwylo, a byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

Pennod    |  Fersiynau Copi
2 Corinthiaid 11:14

Ac nid rhyfedd, oherwydd y mae Satan yntau yn ymrithio fel angel goleuni.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Timotheus 4:1

Y mae'r Ysbryd yn dweud yn eglur y bydd rhai mewn amserau diweddarach yn cefnu ar y ffydd. Byddant yn troi at ysbrydion twyllodrus ac at bethau y mae cythreuliaid yn eu dysgu trwy ragrith pobl gelwyddog.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Actau 8:9

Yr oedd rhyw ŵr o'r enw Simon eisoes yn y ddinas yn dewino ac yn synnu cenedl Samaria. Yr oedd yn dweud ei fod yn rhywun mawr,

Pennod    |  Fersiynau Copi
Datguddiad 9:20-21

Ac am y gweddill o'r ddynolryw, nas lladdwyd gan y plâu hyn, ni bu'n edifar ganddynt am yr hyn a luniodd eu dwylo; ac ni pheidiasant ag addoli'r cythreuliaid a'r delwau aur ac arian a phres a cherrig a phren, pethau na allant na gweld na chlywed na cherdded.Ni bu'n edifar ganddynt chwaith am na'u llofruddiaeth na'u dewiniaeth, na'u hanfoesoldeb rhywiol na'u lladrad.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Datguddiad 18:23

a golau lamp, nis gwelir ynot byth mwy; a llais priodfab a phriodferch, nis clywir ynot byth mwy. Mawrion y ddaear oedd dy fasnachwyr di, a thwyllwyd yr holl genhedloedd gan dy ddewiniaeth.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Jeremeia 14:14

A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Proffwydo celwyddau yn fy enw i y mae'r proffwydi; nid anfonais hwy, na gorchymyn iddynt, na llefaru wrthynt. Proffwydant i chwi weledigaethau gau, a dewiniaeth ffôl, a thwyll eu dychymyg eu hunain.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Sechareia 10:2

Oherwydd y mae'r teraffim yn llefaru oferedd, a gweledigaeth y dewiniaid yn gelwydd; cyhoeddant freuddwydion twyllodrus, a chynnig cysur gwag. Am hynny y mae'r bobl yn crwydro fel defaid, yn druenus am eu bod heb fugail.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 8:19

A phan fydd y bobl yn dweud wrthych, “Ewch i ymofyn â'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sisial a sibrwd”, onid yw'r bobl yn ymhél â'r duwiau, ac yn ymofyn â'r meirw dros y byw

Pennod    |  Fersiynau Copi
2 Brenhinoedd 21:6

Parodd i'w fab fynd trwy dân, ac arferodd hudoliaeth a swynion, a bu'n ymhél ag ysbrydion a dewiniaid. Yr oedd yn ymroi i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Samuel 28:7

Yna dywedodd Saul wrth ei weision, “Chwiliwch am ddewines, imi ymweld â hi i ofyn ei chyngor.”

Pennod    |  Fersiynau Copi
2 Tawarikh 33:6

Ef oedd yr un a barodd i'w feibion fynd trwy dân yn nyffryn Ben-hinnom, arferodd hudoliaeth, swynion a chyfaredd, ac ymhél ag ysbrydion a dewiniaeth. Yr oedd yn ymroi i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Actau 16:16-18

Un tro pan oeddem ar ein ffordd i'r lle gweddi, daeth rhyw gaethferch a chanddi ysbryd dewiniaeth i'n cyfarfod, un oedd yn dwyn elw mawr i'w meistri trwy ddweud ffortiwn.Dilynodd hon Paul a ninnau, gan weiddi: “Gweision y Duw Goruchaf yw'r dynion hyn, ac y maent yn cyhoeddi i chwi ffordd iachawdwriaeth.”Gwnaeth hyn am ddyddiau lawer. Blinodd Paul arni, a throes ar yr ysbryd a dweud, “Rwy'n gorchymyn i ti, yn enw Iesu Grist, ddod allan ohoni.” Ac allan y daeth, y munud hwnnw.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 47:12-13

“Glŷn wrth dy swynion a'th hudoliaethau aml y buost yn ymflino â hwy o'th ieuenctid— efallai y cei help ganddynt; efallai y medri godi arswyd drwyddynt.Rwyt wedi dy lethu gan nifer dy gynghorwyr; bydded iddynt sefyll yn awr a'th achub— dewiniaid y nefoedd a gwylwyr y sêr, sy'n proffwydo bob mis yr hyn a ddigwydd iti.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 47:13-14

Rwyt wedi dy lethu gan nifer dy gynghorwyr; bydded iddynt sefyll yn awr a'th achub— dewiniaid y nefoedd a gwylwyr y sêr, sy'n proffwydo bob mis yr hyn a ddigwydd iti.Edrych, y maent fel us, a'r tân yn eu hysu; ni fedrant eu harbed eu hunain rhag y fflam. Nid glo i dwymo wrtho yw hwn, nid tân i eistedd o'i flaen.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Deuteronomium 13:1-3

Os cyfyd yn eich plith broffwyd neu un yn cael breuddwydion, a rhoi ichwi arwydd neu argoel,a hynny'n digwydd fel y dywedodd wrthych, ac yntau wedyn yn eich annog i fynd ac addoli duwiau estron nad ydych yn eu hadnabod,nid ydych i wrando ar eiriau'r proffwyd neu'r breuddwydiwr hwnnw, oherwydd eich profi chwi y mae'r ARGLWYDD eich Duw i gael gwybod a ydych yn ei garu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Lefiticus 20:27

“ ‘Y mae unrhyw ŵr neu wraig yn eich plith sy'n ddewin neu'n swynwr i'w roi i farwolaeth; yr ydych i'w llabyddio â cherrig, a byddant hwy'n gyfrifol am eu gwaed eu hunain.’ ”

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseciel 21:21

Oherwydd fe oeda brenin Babilon ar y groesffordd lle mae'r ddwy ffordd yn fforchi, i geisio argoel; bydd yn bwrw coelbren â saethau, yn ymofyn â'i eilunod ac yn edrych ar yr afu.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 44:24-25

Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, dy Waredydd, a'r hwn a'th luniodd o'r groth: “Myfi, yr ARGLWYDD, a wnaeth y cyfan— estyn y nefoedd fy hunan, a lledu'r ddaear heb neb gyda mi;diddymu arwyddion celwyddog, gwneud ffyliaid o'r rhai sy'n dewino; troi doethion yn eu hôl, a gwneud eu gwybodaeth yn ynfydrwydd;

Pennod    |  Fersiynau Copi
Exodus 7:11

Taflodd Aaron ei wialen o flaen Pharo a'i weision, ac fe drodd yn sarff. Yna anfonodd Pharo am y gwŷr doeth a'r dewiniaid, ac yr oeddent hwythau, swynwyr yr Aifft, hefyd yn medru gwneud hyn trwy eu gallu cyfrin.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Tawarikh 10:13

Bu Saul farw am iddo fradychu'r ARGLWYDD trwy anufuddhau i'w air, a throi at ddewiniaeth am arweiniad yn lle ceisio arweiniad gan yr ARGLWYDD.

Pennod    |  Fersiynau Copi
2 Brenhinoedd 23:24

Dileodd Joseia y swynwyr a'r dewiniaid, y delwau a'r eilunod, a phob ffieidd-dra tebyg a welwyd yng ngwlad Jwda ac yn Jerwsalem. Gwnaeth hyn er mwyn cadw geiriau'r gyfraith a ysgrifennwyd yn y llyfr a ddarganfu'r offeiriad Hilceia yn y deml.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Jeremeia 29:8

“Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eich proffwydi sydd yn eich mysg, na'ch dewiniaid, a pheidiwch â gwrando ar y breuddwydion a freuddwydiant.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Actau 8:9-11

Yr oedd rhyw ŵr o'r enw Simon eisoes yn y ddinas yn dewino ac yn synnu cenedl Samaria. Yr oedd yn dweud ei fod yn rhywun mawr,ac yr oedd pawb, o fawr i fân, yn dal sylw arno ac yn dweud, “Hwn yw'r gallu dwyfol a elwir y Gallu Mawr.”Yr oeddent yn dal sylw arno am ei fod ers cryn amser yn eu synnu â'i ddewiniaeth.

Pennod    |  Fersiynau Copi
2 Brenhinoedd 17:17

Yr oeddent yn arfer dewiniaeth a swynion, ac yn ymroi'n llwyr i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Nahum 3:4

Y cyfan oherwydd puteindra mynych y butain, y deg ei phryd, meistres swynion, a dwyllodd genhedloedd â'i phuteindra, a phobloedd â'i swynion.

Pennod    |  Fersiynau Copi
2 Brenhinoedd 1:2-3

Syrthiodd Ahaseia o ffenestr ei lofft yn Samaria a chael ei anafu. Yna anfonodd negeswyr a dweud wrthynt, “Ewch i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron, a fyddaf yn gwella o'm hanaf.”A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Elias y Thesbiad, “Dos i gyfarfod negeswyr brenin Samaria, a dywed wrthynt, ‘Ai am nad oes Duw yn Israel yr wyt yn anfon i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron?

Pennod    |  Fersiynau Copi
Datguddiad 22:15

Oddi allan y mae'r cŵn, y dewiniaid, y puteinwyr, y llofruddion, yr eilunaddolwyr, a phawb sy'n caru celwydd ac yn ei wneud.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Jeremeia 10:2

Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Peidiwch â dysgu ffordd y cenhedloedd, na chael eich dychryn gan arwyddion y nefoedd, fel y dychrynir y cenhedloedd ganddynt.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 106:28

Yna aethant i gyfathrach â Baal-peor, a bwyta ebyrth y meirw;

Pennod    |  Fersiynau Copi
Galatiaid 5:19-20

Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd,eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio,

Pennod    |  Fersiynau Copi
Exodus 22:18

“Paid â gadael i ddewines fyw.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Lefiticus 19:26

“ ‘Nid ydych i fwyta dim gyda gwaed ynddo. Nid ydych i arfer dewiniaeth na swyngyfaredd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Galatiaid 5:19-21

Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd,eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio,cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Datguddiad 21:8

Ond y llwfr, y di-gred, y ffiaidd, y llofruddion, y puteinwyr, y dewiniaid, yr eilunaddolwyr, a phawb celwyddog, eu rhan hwy fydd y llyn sy'n llosgi gan dân a brwmstan, hynny yw yr ail farwolaeth.”

Pennod    |  Fersiynau Copi
Deuteronomium 4:19

Gwylia hefyd na fyddi'n codi dy olwg i'r nefoedd ac edrych ar yr haul, y lleuad neu'r sêr, holl lu'r nefoedd, a chael dy ddenu i ymgrymu iddynt a'u haddoli; neilltuodd yr ARGLWYDD dy Dduw y rhain ar gyfer yr holl bobloedd dan y nefoedd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Jeremeia 23:25-26

“Clywais yr hyn a ddywedodd y proffwydi sy'n proffwydo celwydd yn fy enw gan ddweud, ‘Breuddwydiais, breuddwydiais!’Pa hyd yr erys ym mwriad y proffwydi broffwydo celwydd—proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain?

Pennod    |  Fersiynau Copi
Jeremeia 23:32

“Wele fi yn erbyn y rhai sy'n proffwydo breuddwydion gau, yn eu hadrodd, ac yn hudo fy mhobl â'u hanwiredd a'u gwagedd,” medd yr ARGLWYDD. “Nid anfonais i mohonynt, na rhoi gorchymyn iddynt; ni wnânt ddim lles i'r bobl hyn,” medd yr ARGLWYDD.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Mathew 7:15

“Gochelwch rhag gau broffwydi, sy'n dod atoch yng ngwisg defaid, ond sydd o'u mewn yn fleiddiaid rheibus.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseciel 22:28

Y mae ei phroffwydi'n gwyngalchu drostynt â gweledigaethau gau ac argoelion twyllodrus, ac yn dweud, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW’, a'r ARGLWYDD heb ddweud.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Mathew 24:24

Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau nes arwain ar gyfeiliorn hyd yn oed yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 4:1

Gyfeillion annwyl, peidiwch â chredu pob ysbryd, ond profwch yr ysbrydion i gael gwybod a ydynt o Dduw, oherwydd y mae gau broffwydi lawer wedi mynd allan i'r byd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Deuteronomium 18:20

Ond am y proffwyd fydd yn rhyfygu llefaru yn f'enw air nad wyf fi wedi ei orchymyn, neu sy'n llefaru yn enw duw arall, y mae'r proffwyd hwnnw i farw.”

Pennod    |  Fersiynau Copi
Jeremeia 14:14-15

A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Proffwydo celwyddau yn fy enw i y mae'r proffwydi; nid anfonais hwy, na gorchymyn iddynt, na llefaru wrthynt. Proffwydant i chwi weledigaethau gau, a dewiniaeth ffôl, a thwyll eu dychymyg eu hunain.Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sy'n proffwydo yn fy enw er nad anfonais hwy, sy'n dweud na bydd cleddyf na newyn yn y wlad hon: ‘Trwy'r cleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 47:9

Fe ddaw'r ddau beth hyn arnat ar unwaith, yr un diwrnod— colli plant a gweddwdod, a'r ddau'n dod arnat yn llawn, er bod dy hudoliaeth yn aml a'th swynion yn nerthol.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseciel 13:18

a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r gwragedd sy'n gwau breichledau hud ar bob garddwrn, ac yn gwneud gorchudd o bob maint ar y pen, er mwyn rhwydo bywydau pobl. A fyddwch yn rhwydo bywydau fy mhobl, ond yn cadw eich bywydau eich hunain yn ddiogel?

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 106:37

Yr oeddent yn aberthu eu meibion a'u merched i'r demoniaid.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Jeremeia 50:38

Cleddyf ar ei dyfroedd, iddynt sychu! Oherwydd gwlad delwau yw hi, wedi ynfydu ar eilunod.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 115:4-7

Arian ac aur yw eu delwau hwy, ac wedi eu gwneud â dwylo dynol.Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad, a llygaid nad ydynt yn gweld;y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed, a ffroenau nad ydynt yn arogli;y mae ganddynt ddwylo nad ydynt yn teimlo, a thraed nad ydynt yn cerdded; ac ni ddaw sŵn o'u gyddfau.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseciel 16:36

Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am iti fod yn gwbl anllad, a dangos dy noethni wrth buteinio gyda'th gariadon, ac oherwydd dy holl eilunod ffiaidd, ac am iti roi iddynt waed dy blant,

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 41:24

Yn wir, nid ydych chwi'n ddim, ac nid yw'ch gwaith ond diddim. Ffieiddbeth yw'r un sy'n eich dewis.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Datguddiad 12:9

Fe'i bwriwyd hi, y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, yr un sy'n twyllo'r holl fyd, fe'i bwriwyd i'r ddaear a'i hangylion gyda hi.

Pennod    |  Fersiynau Copi
2 Thesaloniaid 2:9-10

Bydd dyfodiad yr un digyfraith yn digwydd trwy weithrediad Satan; fe'i nodweddir gan bob math o nerth ac arwyddion a rhyfeddodau gau,a chan bob twyll anghyfiawn, i ddrygu'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth am iddynt beidio â derbyn cariad at y gwirionedd a chael eu hachub.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 57:13

pan weiddi, ni fyddant yn dy waredu. Bydd y gwynt yn eu dwyn ymaith i gyd, ac awel yn eu chwythu i ffwrdd. Ond bydd y sawl a ymddiried ynof fi yn meddiannu'r ddaear, ac yn etifeddu fy mynydd sanctaidd.”

Pennod    |  Fersiynau Copi
Rhufeiniaid 1:28-32

Am iddynt wrthod cydnabod Duw, y mae Duw wedi eu traddodi i feddwl gwyrdroëdig, i wneud y pethau na ddylid eu gwneud,a hwythau yn gyforiog o bob math o anghyfiawnder a drygioni a thrachwant ac anfadwaith. Y maent yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, cynllwyn a malais.Clepgwn ydynt, a difenwyr, caseion Duw, pobl ryfygus a thrahaus ac ymffrostgar, dyfeiswyr drygioni, anufudd i'w rhieni,heb ddeall, heb deyrngarwch, heb serch, heb dosturi.Yr oedd gorchymyn cyfiawn Duw, fod y sawl sy'n cyflawni'r fath droseddau yn teilyngu marwolaeth, yn gwbl hysbys i'r rhai hyn; ond y maent nid yn unig yn dal i'w gwneud, ond hefyd yn cymeradwyo'r sawl sydd yn eu cyflawni.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Exodus 7:11-12

Taflodd Aaron ei wialen o flaen Pharo a'i weision, ac fe drodd yn sarff. Yna anfonodd Pharo am y gwŷr doeth a'r dewiniaid, ac yr oeddent hwythau, swynwyr yr Aifft, hefyd yn medru gwneud hyn trwy eu gallu cyfrin.Taflodd pob un ei wialen, a throdd pob gwialen yn sarff; ond llyncodd gwialen Aaron eu gwiail hwy.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Samuel 15:23

Yn wir, pechod fel dewiniaeth yw anufudd-dod, a throsedd fel addoli eilunod yw cyndynrwydd. Am i ti wrthod gair yr ARGLWYDD, gwrthododd ef di fel brenin.”

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseciel 13:6-9

Y mae eu gweledigaethau yn dwyllodrus a'u dewiniaeth yn gelwydd; er nad yw'r ARGLWYDD wedi eu hanfon, y maent yn dweud, ‘Medd yr ARGLWYDD’, ac yn disgwyl iddo gyflawni eu gair.Onid gweld gweledigaeth dwyllodrus a llefaru dewiniaeth gelwyddog yr oeddech wrth ddweud, ‘Medd yr ARGLWYDD’, a minnau heb lefaru?“Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am ichwi lefaru'n dwyllodrus a chael gweledigaethau celwyddog, yr wyf fi yn eich erbyn, medd yr Arglwydd DDUW.Bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sy'n cael gweledigaethau twyllodrus ac yn llefaru dewiniaeth gelwyddog; ni fyddant yn perthyn i gyngor fy mhobl nac wedi eu rhestru ar gofrestr tŷ Israel, ac ni fyddant yn dod i dir Israel. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 8:19-20

A phan fydd y bobl yn dweud wrthych, “Ewch i ymofyn â'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sisial a sibrwd”, onid yw'r bobl yn ymhél â'r duwiau, ac yn ymofyn â'r meirw dros y bywam gyfarwyddyd a thystiolaeth? Dyma'r gair a ddywedant, ac nid oes oleuni ynddo.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 101:3

ni osodaf fy llygaid ar ddim annheilwng. Cas gennyf yr un sy'n twyllo; nid oes a wnelwyf ddim ag ef.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 119:104

O'th ofynion di y caf ddeall; dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Galatiaid 6:7

Peidiwch â chymryd eich camarwain; ni chaiff Duw mo'i watwar, oherwydd beth bynnag y mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Diarhebion 14:15

Y mae'r gwirion yn credu pob gair, ond y mae'r call yn ystyried pob cam.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Colosiaid 2:8

Gwyliwch rhag i neb eich cipio i gaethiwed drwy athroniaeth a gwag hudoliaeth yn ôl traddodiad dynol, yn ôl ysbrydion elfennig y cyfanfyd, ac nid yn ôl Crist.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Effesiaid 5:11

Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Petr 5:8

Ymddisgyblwch a byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebydd, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i'w lyncu.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Lago 4:7

Felly, ymddarostyngwch i Dduw. Gwrthsafwch y diafol, ac fe ffy oddi wrthych.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Philipiaid 4:8

Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Rhufeiniaid 12:2

A pheidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Hebraid 4:12

Y mae gair Duw yn fyw a grymus; y mae'n llymach na'r un cleddyf daufiniog, ac yn treiddio hyd at wahaniad yr enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mêr; ac y mae'n barnu bwriadau a meddyliau'r galon.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Mathew 12:30

Os nad yw rhywun gyda mi, yn fy erbyn i y mae, ac os nad yw'n casglu gyda mi, gwasgaru y mae.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 119:128

Am hyn cerddaf yn union yn ôl dy holl ofynion, a chasâf lwybrau twyll.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Diarhebion 3:5-6

Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun.Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 54:17

Ond ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn; gwrthbrofir pob tafod a'th gyhudda mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD, ac oddi wrthyf fi y daw eu goruchafiaeth,” medd yr ARGLWYDD.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 91:10-11

ni ddigwydd niwed i ti, ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.Oherwydd rhydd orchymyn i'w angylion i'th gadw yn dy holl ffyrdd;

Pennod    |  Fersiynau Copi
2 Thesaloniaid 2:9-12

Bydd dyfodiad yr un digyfraith yn digwydd trwy weithrediad Satan; fe'i nodweddir gan bob math o nerth ac arwyddion a rhyfeddodau gau,a chan bob twyll anghyfiawn, i ddrygu'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth am iddynt beidio â derbyn cariad at y gwirionedd a chael eu hachub.Oherwydd hyn y mae Duw yn anfon arnynt dwyll, i beri iddynt gredu celwydd,ac felly bydd pawb sydd heb gredu'r gwirionedd, ond wedi ymhyfrydu mewn anghyfiawnder, yn cael eu barnu.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 5:18

Yr ydym yn gwybod nad yw'r sawl sydd wedi ei eni o Dduw yn dal i bechu, ond y mae'r Un a anwyd o Dduw yn ei gadw, ac nid yw'r Un drwg yn ei gyffwrdd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 34:7

Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy'n ei ofni, ac y mae'n eu gwaredu.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Diarhebion 12:5

Y mae bwriadau'r cyfiawn yn gywir, ond cynlluniau'r drygionus yn dwyllodrus.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Dilynwch ni:

Hysbysebion


Hysbysebion