Mae pobl arbennig mae Duw wedi’u rhoi yn dy fywyd di, pobl sy’n fendith ac yn bleser. Rydw i’n gweddïo am fendith arnyn nhw yn enw Iesu. Mae’r Beibl yn llawn adnodau sy’n ein hannog i ddiolch a bendithio’r rhai sy’n ein hamgylchynu ni.
Dydyn ni ddim ond yn bendithio’r bobl yma, ond ein teuluoedd hefyd, ein gwlad a’n brodyr a’n chwiorydd yng Nghrist. “Bendithia’r ARGLWYDD di, a’th gadwo di: goleuo’r ARGLWYDD ei wyneb arnat ti, a’th druga di: cyfoded yr ARGLWYDD ei wyneb atat ti, a rhoddo heddwch i ti.” (Numeri 6:24-26). Rydyn ni’n bendithio ein bugeiliaid hefyd, sy’n cael eu defnyddio gan Dduw.
“Canys ti, ARGLWYDD, a fendithi’r cyfiawn: amgylchyni ef â ffafr fel â tharian.” (Salm 5:12). A chofiwch, dydyn ni ddim ond i fendithio’r rhai sy’n garedig wrthym ni. Mae Duw yn ein gorchymyn i fendithio’r rhai sy’n ein herlid ni hefyd. “Bendithiwch y rhai sy’n eich erlid; bendithiwch, a pheidiwch â melltithio.” (Rhufeiniaid 12:14).
Oherwydd bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i'ch cartref;bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bûm yn glaf ac ymwelsoch â mi, bûm yng ngharchar a daethoch ataf.’Yna bydd y rhai cyfiawn yn ei ateb: ‘Arglwydd,’ gofynnant, ‘pryd y'th welsom di'n newynog a'th borthi, neu'n sychedig a rhoi diod iti?A phryd y'th welsom di'n ddieithr a'th gymryd i'n cartref, neu'n noeth a rhoi dillad amdanat?Pryd y'th welsom di'n glaf neu yng ngharchar ac ymweld â thi?’A bydd y Brenin yn eu hateb, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.’
Y mae'r un sy'n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i'r ARGLWYDD, ac fe dâl ef yn ôl iddo am ei weithred.
os rhoddi o'th fodd i'r anghenus, a diwallu angen y cystuddiol, yna cyfyd goleuni i ti o'r tywyllwch, a bydd y caddug fel canol dydd.
“Rhowch ddedfryd o blaid y gwan a'r amddifad, gwnewch gyfiawnder â'r truenus a'r diymgeledd.Gwaredwch y gwan a'r anghenus, achubwch hwy o law'r drygionus.
Atebai yntau, “Rhaid i'r sawl sydd ganddo ddau grys eu rhannu ag unrhyw un sydd heb grys, a rhaid i'r sawl sydd ganddo fwyd wneud yr un peth.”
Gwyn ei fyd y sawl sy'n ystyried y tlawd. Bydd yr ARGLWYDD yn ei waredu yn nydd adfyd;bydd yr ARGLWYDD yn ei warchod ac yn ei gadw'n fyw; bydd yn rhoi iddo ddedwyddwch yn y tir, ac ni rydd mohono i fympwy ei elynion.Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal ar ei wely cystudd, ac yn cyweirio'i wely pan fo'n glaf.
Y mae'r un sy'n gorthrymu'r tlawd yn amharchu ei Greawdwr, ond y sawl sy'n trugarhau wrth yr anghenus yn ei anrhydeddu.
Pwy bynnag sydd â meddiannau'r byd ganddo, ac yn gweld ei gydaelod mewn angen, ac eto'n cau ei galon yn ei erbyn, sut y mae cariad Duw yn aros ynddo?Fy mhlant, gadewch inni garu, nid ar air nac ar dafod ond mewn gweithred a gwirionedd.
“Cymerwch ofal i beidio â chyflawni eich dyletswyddau crefyddol o flaen eraill, er mwyn cael eich gweld ganddynt; os gwnewch, nid oes gwobr i chwi gan eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.“Felly, pan fyddi'n rhoi elusen, paid â chanu utgorn o'th flaen, fel y mae'r rhagrithwyr yn gwneud yn y synagogau ac yn yr heolydd, er mwyn cael eu canmol gan eraill. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes.Ond pan fyddi di'n rhoi elusen, paid â gadael i'th law chwith wybod beth y mae dy law dde yn ei wneud.Felly bydd dy elusen di yn y dirgel, a bydd dy Dad, sydd yn gweld yn y dirgel, yn dy wobrwyo.
Fy nghyfeillion, pa les yw i rywun ddweud fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A all y ffydd honno ei achub?Os yw brawd neu chwaer yn garpiog ac yn brin o fara beunyddiol,ac un ohonoch yn dweud wrthynt, “Ewch, a phob bendith ichwi; cadwch yn gynnes a mynnwch ddigon o fwyd”, ond heb roi dim iddynt ar gyfer rheidiau'r corff, pa les ydyw?Felly hefyd y mae ffydd ar ei phen ei hun, os nad oes ganddi weithredoedd, yn farw.
Ond daeth teithiwr o Samariad ato; pan welodd hwn ef, tosturiodd wrtho.Aeth ato a rhwymo ei glwyfau, gan arllwys olew a gwin arnynt; gosododd ef ar ei anifail ei hun, a'i arwain i lety, a gofalu amdano.
Ym mhopeth, dangosais i chwi mai wrth lafurio felly y mae'n rhaid cynorthwyo'r rhai gwan, a dwyn ar gof y geiriau a lefarodd yr Arglwydd Iesu ei hun: ‘Dedwyddach yw rhoi na derbyn.’ ”
Os bydd un yn dlawd ymhlith dy berthnasau yn un o'th drefi yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti, paid â chaledu dy galon na chau dy law yn ei erbyn.Yn hytrach agor dy law yn llydan iddo, ac ar bob cyfrif rho'n fenthyg iddo ddigon ar gyfer ei angen.
Cofiwch hyn: a heuo'n brin a fed yn brin, a heuo'n hael a fed yn hael.Rhaid i bawb roi o wirfodd ei galon, nid o anfodd neu o raid, oherwydd rhoddwr llawen y mae Duw'n ei garu.
Ni ddaw angen ar yr un sy'n rhoi i'r tlawd, ond daw llawer o felltithion ar yr un sy'n cau ei lygaid.
“Onid dyma'r dydd ympryd a ddewisais: tynnu ymaith rwymau anghyfiawn, a llacio clymau'r iau, gollwng yn rhydd y rhai a orthrymwyd, a dryllio pob iau?Onid rhannu dy fara gyda'r newynog, a derbyn y tlawd digartref i'th dŷ, dilladu'r noeth pan y'i gweli, a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun?
Rho i'r sawl sy'n gofyn gennyt, a phaid â throi i ffwrdd oddi wrth y sawl sydd am fenthyca gennyt.
Oherwydd y mae Macedonia ac Achaia wedi gweld yn dda gyfrannu i gronfa ar ran y tlodion ymhlith y saint yn Jerwsalem.Gwelsant yn dda, do, ond yr oeddent hefyd dan ddyled iddynt. Oherwydd os cafodd y Cenhedloedd gyfran o'u trysor ysbrydol hwy, y mae'n ddyled ar y Cenhedloedd weini arnynt mewn pethau tymhorol.
ac yn gwneud barn â'r gorthrymedig; y mae'n rhoi bara i'r newynog. Y mae'r ARGLWYDD yn rhyddhau carcharorion;y mae'r ARGLWYDD yn rhoi golwg i'r deillion, ac yn codi pawb sydd wedi eu darostwng; y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai cyfiawn.Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros y dieithriaid, ac yn cynnal y weddw a'r amddifad; y mae'n difetha ffordd y drygionus.
Pan fyddi'n trefnu gwledd, gwahodd yn hytrach y tlodion, yr anafusion, y cloffion, a'r deillion;a gwyn fydd dy fyd, am nad oes ganddynt fodd i dalu'n ôl iti; cei dy dalu'n ôl yn atgyfodiad y cyfiawn.”
“Pan fenthyci arian i unrhyw un o'm pobl sy'n dlawd yn eich plith, paid ag ymddwyn tuag ato fel y gwna'r echwynnwr, a phaid â mynnu llog ganddo.Os cymeri fantell dy gymydog yn wystl, yr wyt i'w rhoi'n ôl iddo cyn machlud haul,oherwydd dyna'r unig orchudd sydd ganddo, a dyna'r wisg sydd am ei gorff; beth arall sydd ganddo i gysgu ynddo? Os bydd yn galw arnaf fi, fe wrandawaf arno am fy mod yn drugarog.
Gorchymyn di i gyfoethogion y byd presennol beidio â bod yn falch, ac iddynt sefydlu eu gobaith, nid ar ansicrwydd cyfoeth ond ar y Duw sy'n rhoi inni yn helaeth bob peth i'w fwynhau.Annog hwy i wneud daioni, i fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, i fod yn hael ac yn barod i rannu,ac felly i gael trysor iddynt eu hunain fydd yn sylfaen sicr ar gyfer y dyfodol, i feddiannu'r bywyd sydd yn fywyd yn wir.
Dyma'r grefydd sy'n bur a dilychwin yng ngolwg Duw ein Tad: bod rhywun yn gofalu am yr amddifad a'r gweddwon yn eu cyfyngder, ac yn ei gadw ei hun heb ei ddifwyno gan y byd.
A phwy bynnag a rydd gymaint â chwpanaid o ddŵr oer i un o'r rhai bychain hyn am ei fod yn ddisgybl, yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr.”
Onid rhannu dy fara gyda'r newynog, a derbyn y tlawd digartref i'th dŷ, dilladu'r noeth pan y'i gweli, a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun?
Gwerthwch eich eiddo a rhowch ef yn elusen; gwnewch i chwi eich hunain byrsau nad ydynt yn treulio, trysor dihysbydd yn y nefoedd, lle nad yw lleidr yn dod ar y cyfyl, na gwyfyn yn difa.Oherwydd lle mae eich trysor, yno hefyd y bydd eich calon.
Pan fyddi wedi medi dy gynhaeaf ond wedi anghofio ysgub yn y maes, paid â throi'n ôl i'w chyrchu; gad hi yno ar gyfer y dieithryn, yr amddifad a'r weddw, er mwyn i'r ARGLWYDD dy Dduw dy fendithio yn holl waith dy ddwylo.Pan fyddi'n curo'r ffrwyth oddi ar dy olewydden, paid â lloffa wedyn; gad y gweddill yno ar gyfer y dieithryn, yr amddifad a'r weddw.Pan fyddi'n casglu ffrwyth dy winllan, paid â lloffa wedyn; gad y gweddill yno ar gyfer y dieithryn, yr amddifad a'r weddw.
Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch.
Nid fy mwriad yw cael esmwythyd i eraill ar draul gorthrymder i chwi,ond eich gwneud yn gyfartal. Yn yr amser presennol hwn y mae'r hyn sydd dros ben gennych chwi yn cyflenwi eu diffyg hwy, fel y bydd i'r hyn sydd dros ben ganddynt hwy gyflenwi eich diffyg chwi maes o law. Cyfartaledd yw'r diben.Fel y mae'n ysgrifenedig: “Nid oedd gormod gan y sawl a gasglodd lawer, na phrinder gan y sawl a gasglodd ychydig.”
Pa beth bynnag y dymunwch i eraill ei wneud i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; hyn yw'r Gyfraith a'r proffwydi.
Eu hunig gais oedd ein bod i gofio'r tlodion; a dyna'r union beth yr oeddwn wedi ymroi i'w wneud.
Peidiwch ag anghofio gwneud daioni a rhannu ag eraill; oherwydd ag aberthau fel hyn y rhyngir bodd Duw.
Clywaist, O ARGLWYDD, ddyhead yr anghenus; yr wyt yn cryfhau eu calon wrth wrando arnynt,yn gweinyddu barn i'r amddifad a'r gorthrymedig, rhag i feidrolion beri ofn mwyach.
Rhowch, ac fe roir i chwi; rhoir yn eich côl fesur da, wedi ei wasgu i lawr a'i ysgwyd ynghyd nes gorlifo; oherwydd â'r mesur y rhowch y rhoir i chwi yn ôl.”
“Am chwe blynedd yr wyt i hau dy dir a chasglu ei gynnyrch,ond yn y seithfed flwyddyn yr wyt i'w adael heb ei drin, er mwyn i'r rhai tlawd ymysg dy bobl gael bwyta, ac i'r anifeiliaid gwyllt gael bwydo ar yr hyn a adewir yn weddill. Yr wyt i wneud yr un modd gyda'th winllan a'th goed olewydd.
Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros y dieithriaid, ac yn cynnal y weddw a'r amddifad; y mae'n difetha ffordd y drygionus.
Y mae Duw yn gallu rhoi pob gras i chwi yn helaeth, er mwyn i chwi, ar ben eich digon bob amser ym mhob peth, allu rhoi yn helaeth i bob gwaith da.
Felly boed i'ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
Ni all cariad wneud cam â chymydog. Y mae cariad, felly, yn gyflawniad o holl ofynion y Gyfraith.
oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gwrando'r anghenus, ac nid yw'n diystyru ei eiddo sy'n gaethion.
Y mae'r un sy'n cynyddu ei gyfoeth trwy log ac usuriaeth yn ei gasglu i'r un sy'n garedig wrth y tlawd.
Yn ôl fel y derbyniodd pob un ohonoch ddawn, defnyddiwch eich dawn yng ngwasanaeth eich gilydd, fel gweinyddwyr da ar amryfal ras Duw.
Y mae ef yn codi'r gwan o'r llwch ac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen,i'w gosod gyda phendefigion, gyda phendefigion ei bobl.
Pan fyddi wedi gorffen degymu dy holl gynnyrch yn y drydedd flwyddyn, sef blwyddyn y degwm, rho ef i'r Lefiad, y dieithryn, yr amddifad a'r weddw, iddynt gael bwyta'u gwala yn dy drefi.A dywed gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, “Yr wyf wedi gwacáu'r tŷ o'r hyn oedd wedi ei gysegru, ac wedi ei roi i'r Lefiad, y dieithryn, yr amddifad a'r weddw, yn union fel y gorchmynnaist imi; nid wyf wedi troseddu yn erbyn yr un o'th orchmynion na'u hanghofio.
Pan elwi, bydd yr ARGLWYDD yn ateb, a phan waeddi, fe ddywed, ‘Dyma fi.’ “Os symudi'r gorthrwm ymaith, os peidi â chodi bys i gyhuddo ar gam,
A bydd y Brenin yn eu hateb, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.’
Peidiwn â blino ar wneud daioni, oherwydd cawn fedi'r cynhaeaf yn ei amser, dim ond inni beidio â llaesu dwylo.
Y mae'n ddyletswydd arnom ni, y rhai cryf, oddef gwendidau'r rhai sy'n eiddil eu cydwybod, a pheidio â'n plesio ein hunain.
Dyma sut yr ydym yn gwybod beth yw cariad: am iddo ef roi ei einioes drosom ni. Ac fe ddylem ninnau roi ein heinioes dros ein cydaelodau.Pwy bynnag sydd â meddiannau'r byd ganddo, ac yn gweld ei gydaelod mewn angen, ac eto'n cau ei galon yn ei erbyn, sut y mae cariad Duw yn aros ynddo?Fy mhlant, gadewch inni garu, nid ar air nac ar dafod ond mewn gweithred a gwirionedd.
Rho i bawb sy'n gofyn gennyt, ac os bydd rhywun yn cymryd dy eiddo, paid â gofyn amdano'n ôl.
Yr oedd yr holl gredinwyr ynghyd yn dal pob peth yn gyffredin.Byddent yn gwerthu eu heiddo a'u meddiannau, ac yn eu rhannu rhwng pawb, yn ôl fel y byddai angen pob un.
“Pan fydd y tlawd a'r anghenus yn chwilio am ddŵr, heb ei gael, a'u tafodau'n gras gan syched, byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn eu hateb; ni fyddaf fi, Duw Israel, yn eu gadael.
“Oherwydd anrhaith yr anghenus a chri'r tlawd, codaf yn awr,” meddai'r ARGLWYDD, “rhoddaf iddo'r diogelwch yr hiraetha amdano.”
Y mae'r trahaus yn fy mhardduo â chelwydd, ond yr wyf fi'n ufuddhau i'th ofynion â'm holl galon;y mae eu calon hwy'n drwm gan fraster, ond yr wyf fi'n ymhyfrydu yn dy gyfraith.
Iachewch y cleifion, cyfodwch y meirw, glanhewch y gwahanglwyfus, bwriwch allan gythreuliaid; derbyniasoch heb dâl, rhowch heb dâl.
Os yw brawd neu chwaer yn garpiog ac yn brin o fara beunyddiol,ac un ohonoch yn dweud wrthynt, “Ewch, a phob bendith ichwi; cadwch yn gynnes a mynnwch ddigon o fwyd”, ond heb roi dim iddynt ar gyfer rheidiau'r corff, pa les ydyw?
Os wyt yn rhannu ag eraill, gwna hynny gyda haelioni; os wyt yn arweinydd, gwna'r gwaith gydag ymroddiad; os wyt yn dangos tosturi, gwna hynny gyda llawenydd.
Pan glywodd Iesu hyn, dywedodd wrtho, “Un peth sydd ar ôl i ti ei wneud: gwerth y cwbl sydd gennyt, a rhanna ef ymhlith y tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi.”
Paid ag ysbeilio'r tlawd am ei fod yn dlawd, a phaid â sathru'r anghenus yn y porth;oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn dadlau eu hachos, ac yn difetha'r rhai sy'n eu difetha hwy.
Syllodd yntau arno a brawychodd, ac meddai, “Beth sydd, f'arglwydd?” Dywedodd yr angel wrtho, “Y mae dy weddïau a'th elusennau wedi esgyn yn offrwm coffa gerbron Duw.
Bûm ifanc, ac yn awr yr wyf yn hen, ond ni welais y cyfiawn wedi ei adael, na'i blant yn cardota am fara;
Ym mhob peth cewch eich cyfoethogi ar gyfer pob haelioni, a bydd hynny trwom ni yn esgor ar ddiolchgarwch i Dduw.
Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser, yn diwallu dy angen mewn cyfnod sych, ac yn cryfhau dy esgyrn; yna byddi fel gardd ddyfradwy, ac fel ffynnon ddŵr a'i dyfroedd heb ballu.
Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i'ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol.A pheidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.
Rho'n hael iddo, heb warafun yn dy galon wrth roi, ac oherwydd hyn bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn dy holl waith ac ym mhopeth a wnei.
Un tlawd ac anghenus wyf fi, ond y mae'r Arglwydd yn meddwl amdanaf. Ti yw fy nghymorth a'm gwaredydd; fy Nuw, paid ag oedi!
Meddai Iesu wrtho, “Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi.”
Y mae'r cyfiawn yn gwybod hawliau'r tlodion, ond nid yw'r drygionus yn ystyried deall.
Ond pwy bynnag nad yw'n darparu ar gyfer ei berthnasau, ac yn arbennig ei deulu ei hun, y mae wedi gwadu'r ffydd ac y mae'n waeth nag anghredadun.
Bydded i'r darostyngedig weld hyn a llawenhau; chwi sy'n ceisio Duw, bydded i'ch calonnau adfywio;oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gwrando'r anghenus, ac nid yw'n diystyru ei eiddo sy'n gaethion.
“Paid â gwneud cam â'r estron, na'i orthrymu, oherwydd estroniaid fuoch chwi yng ngwlad yr Aifft.Peidiwch â cham-drin y weddw na'r amddifad.Os byddwch yn eu cam-drin a hwythau'n galw arnaf, byddaf yn sicr o glywed eu cri.Bydd fy nicter yn cael ei gyffroi, ac fe'ch lladdaf â'r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon a'ch plant yn amddifaid.
“ ‘Pam y gwnawn ympryd, a thithau heb edrych? Pam y'n cystuddiwn ein hunain, a thithau heb sylwi?’ meddant. Yn wir, wrth ymprydio, ceisio'ch lles eich hunain yr ydych, a gyrru ar eich gweision yn galetach.
Oherwydd haul a tharian yw'r ARGLWYDD Dduw; rhydd ras ac anrhydedd. Nid atal yr ARGLWYDD unrhyw ddaioni oddi wrth y rhai sy'n rhodio'n gywir.
Felly, tra bydd amser gennym, gadewch inni wneud da i bawb, ac yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd.
Y mae wedi rhoi'n hael i'r tlodion; y mae ei gyfiawnder yn para am byth, a'i gorn wedi ei ddyrchafu mewn anrhydedd.
“Na chwennych dŷ dy gymydog, na'i wraig, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim sy'n eiddo i'th gymydog.”
Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, a rhoir y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi.
Bydded i frawdgarwch barhau.Peidiwch ag anghofio lletygarwch, oherwydd trwyddo y mae rhai, heb wybod hynny, wedi rhoi llety i angylion.
Canys buost yn noddfa i'r tlawd, yn noddfa i'r anghenus yn ei gyfyngder, yn lloches rhag y storm ac yn gysgod rhag y gwres. Oherwydd y mae anadl y rhai trahaus fel gwynt oer,
Diolchwch i'r ARGLWYDD am mai da yw, oherwydd mae ei gariad hyd byth.Diolchwch i Dduw y duwiau, oherwydd mae ei gariad hyd byth.Diolchwch i Arglwydd yr arglwyddi, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
“Rhowch ddedfryd o blaid y gwan a'r amddifad, gwnewch gyfiawnder â'r truenus a'r diymgeledd.
Y mae ysbryd yr Arglwydd DDUW arnaf, oherwydd i'r ARGLWYDD fy eneinio i gyhoeddi newyddion da i'r tlodion, a chysuro'r toredig o galon; i gyhoeddi rhyddid i'r caethion, a rhoi gollyngdod i'r carcharorion;i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD a dydd dial ein Duw ni; i ddiddanu pawb sy'n galaru,a gofalu am alarwyr Seion; a rhoi iddynt goron yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, mantell moliant yn lle digalondid. Gelwir hwy yn brennau cyfiawnder wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i'w ogoniant.
bydd yr ARGLWYDD yn ei warchod ac yn ei gadw'n fyw; bydd yn rhoi iddo ddedwyddwch yn y tir, ac ni rydd mohono i fympwy ei elynion.
Oherwydd y mae'n gwaredu'r anghenus pan lefa, a'r tlawd pan yw heb gynorthwywr.Y mae'n tosturio wrth y gwan a'r anghenus, ac yn gwaredu bywyd y tlodion.Y mae'n achub eu bywyd rhag trais a gorthrwm, ac y mae eu gwaed yn werthfawr yn ei olwg.
Y mae'n gwneud cyfiawnder â'r amddifad a'r weddw, yn caru'r dieithr, ac yn rhoi iddynt fwyd a dillad.
Meddai ef, “Yr un a gymerodd drugaredd arno.” Ac meddai Iesu wrtho, “Dos, a gwna dithau yr un modd.”
Y mae'r gwylwyr i gyd yn ddall a heb ddeall; y maent i gyd yn gŵn mud heb fedru cyfarth, yn breuddwydio, yn gorweddian, yn hoffi hepian,yn gŵn barus na wyddant beth yw digon. Y maent hefyd yn fugeiliaid heb fedru deall, pob un yn troi i'w ffordd ei hun, a phob un yn edrych am elw iddo'i hun,
Yr oedd y lliaws credinwyr o un galon ac enaid, ac ni fyddai neb yn dweud am ddim o'i feddiannau mai ei eiddo ef ei hun ydoedd, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin. nerth mawr yr oedd yr apostolion yn rhoi eu tystiolaeth am atgyfodiad yr Arglwydd Iesu, a gras mawr oedd arnynt oll.Yn wir, nid oedd neb anghenus yn eu plith, oherwydd byddai pawb oedd yn berchenogion tiroedd neu dai yn eu gwerthu, yn dod â'r tâl am y pethau a werthid,ac yn ei roi wrth draed yr apostolion; a rhennid i bawb yn ôl fel y byddai angen pob un.
Onid rhannu dy fara gyda'r newynog, a derbyn y tlawd digartref i'th dŷ, dilladu'r noeth pan y'i gweli, a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun?Yna fe ddisgleiria d'oleuni fel y wawr, a byddi'n ffynnu mewn iechyd yn fuan; bydd dy gyfiawnder yn mynd o'th flaen, a gogoniant yr ARGLWYDD yn dy ddilyn.
Y mae un yn hael, ac eto'n ennill cyfoeth, ond arall yn grintach, a phob amser mewn angen.
“Cymerwch ofal i beidio â chyflawni eich dyletswyddau crefyddol o flaen eraill, er mwyn cael eich gweld ganddynt; os gwnewch, nid oes gwobr i chwi gan eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
O Israel, gobeithia yn yr ARGLWYDD, oherwydd gyda'r ARGLWYDD y mae ffyddlondeb, a chydag ef y mae gwaredigaeth helaeth.
creawdwr nefoedd a daear a'r môr, a'r cyfan sydd ynddynt. Y mae ef yn cadw'n ffyddlon hyd byth,
Bydded gofal gan bob un ohonoch, nid am eich buddiannau eich hunain yn unig ond am fuddiannau pobl eraill hefyd.
Graslon yw'r ARGLWYDD, a chyfiawn, ac y mae ein Duw ni'n tosturio.Ceidw'r ARGLWYDD y rhai syml; pan ddarostyngwyd fi, fe'm gwaredodd.
Trwy ffrwyth ei eiriau y digonir pob un â daioni, a thelir iddo yn ôl yr hyn a wnaeth.
Pwy bynnag sydd â meddiannau'r byd ganddo, ac yn gweld ei gydaelod mewn angen, ac eto'n cau ei galon yn ei erbyn, sut y mae cariad Duw yn aros ynddo?
Ond ar hyn o bryd yr wyf ar fy ffordd i Jerwsalem, i fynd â chymorth i'r saint yno.Oherwydd y mae Macedonia ac Achaia wedi gweld yn dda gyfrannu i gronfa ar ran y tlodion ymhlith y saint yn Jerwsalem.Gwelsant yn dda, do, ond yr oeddent hefyd dan ddyled iddynt. Oherwydd os cafodd y Cenhedloedd gyfran o'u trysor ysbrydol hwy, y mae'n ddyled ar y Cenhedloedd weini arnynt mewn pethau tymhorol.
Bydded iddo amddiffyn achos tlodion y bobl, a gwaredu'r rhai anghenus, a dryllio'r gorthrymwr.
Felly gadewch inni geisio'r pethau sy'n arwain i heddwch, ac yn adeiladu perthynas gadarn â'n gilydd.
Mor dda ac mor ddymunol yw i bobl fyw'n gytûn.Y mae fel olew gwerthfawr ar y pen, yn llifo i lawr dros y farf, dros farf Aaron, yn llifo i lawr dros goler ei wisgoedd.
Gyfeillion, os caiff rhywun ei ddal mewn rhyw drosedd, eich gwaith chwi, y rhai ysbrydol, yw ei adfer mewn ysbryd addfwyn. Ond edrych atat dy hun, rhag ofn i tithau gael dy demtio.
Yr wyf yn caru'r ARGLWYDD, am iddo wrando ar lef fy ngweddi,am iddo droi ei glust ataf y dydd y gwaeddais arno.
Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD, a'r cyfan sydd ynof ei enw sanctaidd.Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD, a phaid ag anghofio'i holl ddoniau:ef sy'n maddau fy holl gamweddau, yn iacháu fy holl afiechyd;ef sy'n gwaredu fy mywyd o'r pwll, ac yn fy nghoroni â chariad a thrugaredd;ef sy'n fy nigoni â daioni dros fy holl ddyddiau i adnewyddu fy ieuenctid fel eryr.