Mae gair Duw yn bwerus ac yn ein trawsnewid ni. Mae 'na gymaint o adnodau rydyn ni'n eu clywed dro ar ôl tro, ac mae ganddyn nhw'r pŵer i newid ein bywydau, ein meddyliau, a'n ffordd o fyw. Adnodau rydyn ni'n eu dysgu er mwyn eu rhoi ar waith bob dydd.
“Gallaf bob dim trwy Grist sy’n rhoi nerth i mi.” (Philipiaid 4:13) Dyma un rydyn ni'n ei ddysgu'n gynnar, ac yn troi ato fe pan rydyn ni'n teimlo'n wan.
“Canys felly y carodd Duw'r byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael bywyd tragwyddol.” (Ioan 3:16) Mae hwn yn un o'r rhai pwysicaf, ac yn aml un o'r cyntaf i gael ei rannu wrth i ni ddysgu am Iesu Grist ein Harglwydd.
Mae 'na lawer mwy o adnodau pwerus, ac mi gei di gyfle i'w darllen nhw yma.
Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth, ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth.
Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun.Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.
Ac os oes un ohonoch yn ddiffygiol mewn doethineb, gofynned gan Dduw, ac fe'i rhoddir iddo, oherwydd y mae Duw yn rhoi i bawb yn hael a heb ddannod.
Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ddisgyblaeth mewn doethineb, a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.
Y mae'r disynnwyr yn codi cynnen trwy ymffrostio, ond y mae doethineb gan y rhai sy'n derbyn cyngor.
Pan amlheir geiriau nid oes ball ar dramgwyddo, ond y mae'r deallus yn atal ei eiriau.
Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi, ond y gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.
Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb, a'r un sy'n berchen deall.Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian, a'i chynnyrch yn well nag aur.
Yn wir, y mae doethineb yn well na gemau, ac ni all yr holl bethau dymunol gystadlu â hi.
Drysir cynlluniau pan nad oes ymgynghori, ond daw llwyddiant pan geir llawer o gynghorwyr.
Fe adeiledir tŷ trwy ddoethineb, a'i sicrhau trwy wybodaeth.Trwy ddeall y llenwir ystafelloedd â phob eiddo gwerthfawr a dymunol.
Y mae doethineb yn gystal amddiffyn ag arian; mantais deall yw bod doethineb yn rhoi bywyd i'w pherchennog.
Y mae'r doeth yn ofalus ac yn cilio oddi wrth ddrwg, ond y mae'r ffôl yn ddiofal a gorhyderus.
Oddi wrth rieni yr etifeddir tŷ a chyfoeth, ond gan yr ARGLWYDD y ceir gwraig ddeallus.
Y mae cynlluniau'r diwyd yn sicr o arwain i ddigonedd, ond daw angen ar bob un sydd mewn brys.
Fy mab, paid ag anghofio fy nghyfarwyddyd; cadw fy ngorchmynion yn dy gof.Oherwydd ychwanegant at nifer dy ddyddiau a rhoi blynyddoedd o fywyd a llwyddiant.
Dyma ddiarhebion Solomon: Y mae mab doeth yn gwneud ei dad yn llawen, ond mab ffôl yn dwyn gofid i'w fam.
Y mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei thŷ, ond y ffôl yn ei dynnu i lawr â'i dwylo'i hun.
Y mae doethineb y call yn peri iddo ddeall ei ffordd, ond ffolineb y ffyliaid yn camarwain.
Y mae calon ddeallus yn ceisio gwybodaeth, ond y mae genau'r ffyliaid yn ymborthi ar ffolineb.
Y mae'r medrus yn ei fater yn llwyddo, a'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn ddedwydd.
Ceidw'r deallus ei olwg ar ddoethineb, ond ar gyrrau'r ddaear y mae llygaid ynfytyn.
Y mae genau'r ynfyd yn arwain at gynnen, a'i eiriau yn gofyn am gurfa.Genau'r ynfyd yw ei ddinistr, ac y mae ei eiriau yn fagl iddo'i hun.
Nid oes gwerth mewn brwdfrydedd heb ddeall; y mae'r chwim ei droed yn colli'r ffordd.
Gwatwarwr yw gwin, a therfysgwr yw diod gadarn; nid doeth mo'r sawl sydd dan eu dylanwad.
oherwydd gelli drefnu dy frwydr â medrusrwydd, a chael buddugoliaeth â llawer o gynghorwyr.
Fel modrwy aur neu addurn o aur gwerthfawr, felly y mae cerydd y doeth i glust sy'n gwrando.
Y mae'r un sy'n ymddiried ynddo'i hun yn ynfyd, ond fe waredir y sawl sy'n dilyn doethineb.
Anrhydedda'r ARGLWYDD â'th gyfoeth, ac â blaenffrwyth dy holl gynnyrch.Yna bydd dy ysguboriau'n orlawn, a'th gafnau'n gorlifo gan win.
Paid ag anghofio na chilio oddi wrth fy ngeiriau. Cais ddoethineb, cais ddeall;paid â'i gadael, a bydd hithau'n dy gadw; câr hi, a bydd yn d'amddiffyn.
Fy mab, dal d'afael ar graffter a phwyll; paid â'u gollwng o'th olwg;byddant yn iechyd i'th enaid, ac yn addurn am dy wddf.
Heb ei chyfarwyddo, methu a wna cenedl, ond y mae diogelwch mewn llawer o gynghorwyr.
Y mae'r drygionus yn ffoi heb i neb ei erlid, ond fe saif y cyfiawn yn gadarn fel llew.
Y mae'r gobaith a oedir yn clafychu'r galon, ond y dymuniad a gyflawnir yn bren bywiol.
Y mae'r un sy'n cuddio tramgwydd yn ceisio cyfeillgarwch, ond y mae'r sawl sy'n ailadrodd stori yn gwahanu cyfeillion.
Y mae'r tafod yn gallu rhoi marwolaeth neu fywyd, ac y mae'r rhai sy'n ei hoffi yn bwyta'i ffrwyth.
Yn wir, y mae Duw yn rhoi doethineb, deall a llawenydd i'r sawl sy'n dda yn ei olwg, ond i'r un sy'n pechu fe roddir y dasg o gasglu a chronni ar gyfer yr un sy'n dda yng ngolwg Duw. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
Paid ag ymffrostio ynglŷn ag yfory, oherwydd ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod.
Buan y dengys y ffôl ei fod wedi ei gythruddo, ond y mae'r call yn anwybyddu sarhad.
Dichell sydd ym meddwl y rhai sy'n cynllwynio drwg, ond daw llawenydd i'r rhai sy'n cynllunio heddwch.
Y mae'r un a ddirmyga'i gymydog yn pechu, ond dedwydd yw'r un sy'n garedig wrth yr anghenus.
Honni eu bod yn gyfeillion a wna rhai; ond ceir hefyd gyfaill sy'n glynu'n well na brawd.
Paid â chyfeillachu â neb a chanddo dymer ddrwg, nac aros yng nghwmni'r dicllon,rhag iti ddysgu ei ffordd, a'th gael dy hun mewn magl.
Fy mab, os bydd dy galon yn ddoeth, bydd fy nghalon innau yn llawen.Byddaf yn llawenhau drwof i gyd pan fydd dy enau yn llefaru'n uniawn.
Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo, a daw carreg yn ôl ar yr un sy'n ei threiglo.
Os yw bwyell yn ddi-fin, a heb ei hogi, yna rhaid defnyddio mwy o nerth; ond y mae medr yn dod â llwyddiant.
Ni lwydda'r un sy'n cuddio'i droseddau, ond y mae'r un sy'n eu cyffesu ac yn cefnu arnynt yn cael trugaredd.
Y mae ofn yr ARGLWYDD yn arwain i fywyd, a'r sawl a'i medd yn gorffwyso heb berygl niwed.
Y mae derbyn disgyblaeth yn arwain i fywyd, ond gwrthod cerydd yn arwain ar ddisberod.
Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi, ond y mae'r gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.
Y mae cloriannau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond pwysau cywir wrth ei fodd.
Chwe pheth sy'n gas gan yr ARGLWYDD, saith peth sy'n ffiaidd ganddo:llygaid balch, tafod ffals, dwylo'n tywallt gwaed dieuog,calon yn cynllunio oferedd, traed yn prysuro i wneud drwg,gau dyst yn dweud celwydd, ac un sy'n codi cynnen rhwng perthnasau.
Y mae'r un sy'n gwylio'i eiriau yn diogelu ei fywyd, ond ei ddinistrio'i hun y mae'r un sy'n siarad gormod.
Casáu ei fab a wna'r un sy'n arbed y wialen, ond ei garu y mae'r sawl a rydd gerydd cyson.
Caiff y ffyddlon lawer o fendithion, ond ni fydd yr un sydd ar frys i ymgyfoethogi heb ei gosb.
Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn ddisynnwyr.
Gwelaist un medrus yn ei waith; bydd yn gwasanaethu brenhinoedd, ond ni fydd yn gwasanaethu pobl ddibwys.
Y mae ffyrdd pob un i gyd yn uniawn yn ei olwg ei hun, ond y mae'r ARGLWYDD yn cloriannu'r galon.
Yr un sy'n gofalu am ffigysbren sy'n bwyta'i ffrwyth, a'r sawl sy'n gwylio tros ei feistr sy'n cael anrhydedd.
Y mae'r un sy'n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i'r ARGLWYDD, ac fe dâl ef yn ôl iddo am ei weithred.
Nid yw pobl ddrwg yn deall beth yw cyfiawnder, ond y mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn deall y cyfan.
Paid â gwrthod cymwynas i'r sawl sy'n ei haeddu, os yw yn dy allu i'w gwneud.Paid â dweud wrth dy gymydog, “Tyrd yn d'ôl eto, ac fe'i rhoddaf iti yfory”, er ei fod gennyt yn awr.
Y mae llwybr y cyfiawn fel golau'r wawr, sy'n cynyddu yn ei lewyrch hyd ganol dydd.Ond y mae ffordd y drygionus fel tywyllwch dudew; ni wyddant beth sy'n eu baglu.
Mewn angen y bydd y sawl sy'n caru pleser, ac ni ddaw'r sawl sy'n hoffi gwin ac olew yn gyfoethog.
Paid â chenfigennu wrth bechaduriaid, ond wrth y rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD bob amser;os felly, bydd dyfodol iti, ac ni thorrir ymaith dy obaith.
Mater i'r ARGLWYDD yw mantol a chloriannau cyfiawn; a'i waith ef yw'r holl bwysau yn y god.
Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear, ac â deall y sicrhaodd y nefoedd;trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau, ac y defnynna'r cymylau wlith.
Paid â gollwng gafael ar deyrngarwch a ffyddlondeb; rhwym hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon;a byddi'n ennill ffafr ac enw da yng ngolwg Duw a dynion.