Nid yw neb yn eich mysg i roi ei fab na'i ferch yn aberth trwy dân; nac i arfer dewiniaeth, hudoliaeth, na darogan; nac i gonsurio,arfer swynion, ymwneud ag ysbrydion a bwganod, nac ymofyn â'r meirw.Y mae unrhyw un sy'n ymhél â'r rhain yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD; o achos yr arferion ffiaidd hyn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu gyrru hwy allan o'th flaen.
“ ‘Peidiwch â throi at ddewiniaid na cheisio swynwyr, oherwydd fe'ch halogir trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
Byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn y sawl sy'n troi at ddewiniaid a swynwyr i buteinio ar eu holau, a byddaf yn ei dorri ymaith o blith ei bobl.
Yn wir, pechod fel dewiniaeth yw anufudd-dod, a throsedd fel addoli eilunod yw cyndynrwydd. Am i ti wrthod gair yr ARGLWYDD, gwrthododd ef di fel brenin.”
A phan fydd y bobl yn dweud wrthych, “Ewch i ymofyn â'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sisial a sibrwd”, onid yw'r bobl yn ymhél â'r duwiau, ac yn ymofyn â'r meirw dros y byw
Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd,eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio,cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw.
Ond y llwfr, y di-gred, y ffiaidd, y llofruddion, y puteinwyr, y dewiniaid, yr eilunaddolwyr, a phawb celwyddog, eu rhan hwy fydd y llyn sy'n llosgi gan dân a brwmstan, hynny yw yr ail farwolaeth.”
Ef oedd yr un a barodd i'w feibion fynd trwy dân yn nyffryn Ben-hinnom, arferodd hudoliaeth, swynion a chyfaredd, ac ymhél ag ysbrydion a dewiniaeth. Yr oedd yn ymroi i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.
Peidiwch â gwrando ar eich proffwydi na'ch dewiniaid na'ch breuddwydwyr na'ch hudolion na'ch swynwyr, sy'n llefaru wrthych gan ddweud, ‘Ni fyddwch yn gwasanaethu brenin Babilon.’
Casglodd llawer o'r rhai a fu'n ymarfer â swynion eu llyfrau ynghyd, a'u llosgi yng ngŵydd pawb; cyfrifwyd gwerth y rhain, a'i gael yn hanner can mil o ddarnau arian.
“Glŷn wrth dy swynion a'th hudoliaethau aml y buost yn ymflino â hwy o'th ieuenctid— efallai y cei help ganddynt; efallai y medri godi arswyd drwyddynt.Rwyt wedi dy lethu gan nifer dy gynghorwyr; bydded iddynt sefyll yn awr a'th achub— dewiniaid y nefoedd a gwylwyr y sêr, sy'n proffwydo bob mis yr hyn a ddigwydd iti.
Gwylia hefyd na fyddi'n codi dy olwg i'r nefoedd ac edrych ar yr haul, y lleuad neu'r sêr, holl lu'r nefoedd, a chael dy ddenu i ymgrymu iddynt a'u haddoli; neilltuodd yr ARGLWYDD dy Dduw y rhain ar gyfer yr holl bobloedd dan y nefoedd.
Nage, ond mai i gythreuliaid, ac nid i Dduw, y maent yn aberthu eu hebyrth, ac na fynnwn i chwi fod yn gyfranogion o gythreuliaid.
Ymddangosodd hefyd broffwydi gau ymhlith pobl Israel, ac yn yr un modd bydd athrawon gau yn eich plith chwithau, rhai a fydd yn dwyn i mewn yn llechwraidd heresïau dinistriol, yn gwadu'r Meistr a'u prynodd, ac yn dwyn arnynt eu hunain ddistryw buan.
Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau nes arwain ar gyfeiliorn hyd yn oed yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.
Oddi allan y mae'r cŵn, y dewiniaid, y puteinwyr, y llofruddion, yr eilunaddolwyr, a phawb sy'n caru celwydd ac yn ei wneud.
Yr oeddent yn arfer dewiniaeth a swynion, ac yn ymroi'n llwyr i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.
diddymu arwyddion celwyddog, gwneud ffyliaid o'r rhai sy'n dewino; troi doethion yn eu hôl, a gwneud eu gwybodaeth yn ynfydrwydd;
Y mae'r Ysbryd yn dweud yn eglur y bydd rhai mewn amserau diweddarach yn cefnu ar y ffydd. Byddant yn troi at ysbrydion twyllodrus ac at bethau y mae cythreuliaid yn eu dysgu trwy ragrith pobl gelwyddog.
Y mae'r cenhedloedd yr wyt yn eu disodli yn gwrando ar ddewiniaid a hudolwyr; ond nid yw'r ARGLWYDD dy Dduw yn caniatáu hyn i ti.
Paid ag ymgrymu i'w duwiau, na'u gwasanaethu, a phaid â gwneud fel y maent hwy yn gwneud; yr wyt i'w dinistrio'n llwyr a dryllio'u colofnau'n ddarnau.
Oherwydd, er iddynt wybod am Dduw, nid ydynt wedi rhoi gogoniant na diolch iddo fel Duw, ond yn hytrach wedi troi eu meddyliau at bethau cwbl ofer; ac y mae wedi mynd yn dywyllwch arnynt yn eu calon ddiddeall.Er honni eu bod yn ddoeth, y maent wedi eu gwneud eu hunain yn ffyliaid.Y maent wedi ffeirio gogoniant yr anfarwol Dduw am ddelw ar lun dyn marwol, neu adar neu anifeiliaid neu ymlusgiaid.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Peidiwch â dysgu ffordd y cenhedloedd, na chael eich dychryn gan arwyddion y nefoedd, fel y dychrynir y cenhedloedd ganddynt.
Gwyliwch rhag i neb eich cipio i gaethiwed drwy athroniaeth a gwag hudoliaeth yn ôl traddodiad dynol, yn ôl ysbrydion elfennig y cyfanfyd, ac nid yn ôl Crist.
Gyfeillion annwyl, peidiwch â chredu pob ysbryd, ond profwch yr ysbrydion i gael gwybod a ydynt o Dduw, oherwydd y mae gau broffwydi lawer wedi mynd allan i'r byd.
Gwrthodaist dŷ Jacob, dy bobl, oherwydd y maent yn llawn dewiniaid o'r dwyrain, a swynwyr fel y Philistiaid, ac y maent yn gwneud cyfeillion o estroniaid.
Yn eu trachwant gwnânt elw ohonoch â'u storïau ffug; y mae eu barnedigaeth ar gerdded erstalwm, a'u dinistr yn rhythu arnynt.
Yr oedd rhyw ŵr o'r enw Simon eisoes yn y ddinas yn dewino ac yn synnu cenedl Samaria. Yr oedd yn dweud ei fod yn rhywun mawr,ac yr oedd pawb, o fawr i fân, yn dal sylw arno ac yn dweud, “Hwn yw'r gallu dwyfol a elwir y Gallu Mawr.”Yr oeddent yn dal sylw arno am ei fod ers cryn amser yn eu synnu â'i ddewiniaeth.
Bu Saul farw am iddo fradychu'r ARGLWYDD trwy anufuddhau i'w air, a throi at ddewiniaeth am arweiniad yn lle ceisio arweiniad gan yr ARGLWYDD.Felly lladdodd yr ARGLWYDD ef a rhoi'r frenhiniaeth i Ddafydd fab Jesse.
Clyw! Cri merch fy mhobl o wlad bellennig: “Onid yw'r ARGLWYDD yn Seion? Onid yw ei brenin ynddi?” “Pam y maent yn fy nigio â'u delwau, â'u heilunod estron?”
ond cymysgu gyda'r cenhedloedd, a dysgu gwneud fel hwythau.Yr oeddent yn addoli eu delwau, a bu hynny'n fagl iddynt.Yr oeddent yn aberthu eu meibion a'u merched i'r demoniaid.
Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni.
Peidiwch â throi at eilunod na gwneud ichwi eich hunain ddelwau tawdd. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
Ac am y gweddill o'r ddynolryw, nas lladdwyd gan y plâu hyn, ni bu'n edifar ganddynt am yr hyn a luniodd eu dwylo; ac ni pheidiasant ag addoli'r cythreuliaid a'r delwau aur ac arian a phres a cherrig a phren, pethau na allant na gweld na chlywed na cherdded.
“Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eich proffwydi sydd yn eich mysg, na'ch dewiniaid, a pheidiwch â gwrando ar y breuddwydion a freuddwydiant.
Yr ydych i losgi delwau eu duwiau yn y tân; nid ydych i chwennych eu harian a'u haur, na'u cymryd, rhag iddynt fod yn fagl ichwi, oherwydd y maent yn ffieidd-dra i'r ARGLWYDD eich Duw.
Crymodd Bel, plygodd Nebo; ar gefn anifail ac ych y mae eu delwau, ac aeth y rhain, a fu'n ddyrchafedig, yn faich ar anifeiliaid blinedig.
Rwyt wedi dy lethu gan nifer dy gynghorwyr; bydded iddynt sefyll yn awr a'th achub— dewiniaid y nefoedd a gwylwyr y sêr, sy'n proffwydo bob mis yr hyn a ddigwydd iti.
“Gochelwch rhag gau broffwydi, sy'n dod atoch yng ngwisg defaid, ond sydd o'u mewn yn fleiddiaid rheibus.
Y mae fy mhobl yn ymofyn â phren, a'u gwialen sy'n eu cyfarwyddo; oherwydd ysbryd puteindra a'u camarweiniodd, troesant mewn puteindra oddi wrth eu Duw.
A fu i unrhyw genedl newid ei duwiau, a hwythau heb fod yn dduwiau? Ond rhoddodd fy mhobl eu gogoniant yn gyfnewid am bethau dilesâd.
chwi sy'n llosgi gan nwyd dan bob pren derw, dan bob pren gwyrddlas, ac yn aberthu plant yn y glynnoedd, yn holltau'r clogwyni?
Gwyliwch rhag ichwi gael eich arwain ar gyfeiliorn, a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli.
Fel bwgan brain mewn gardd cucumerau, ni all eilunod lefaru; rhaid eu cludo am na allant gerdded. Peidiwch â'u hofni; ni allant wneud niwed, na gwneud da chwaith.”
Yn wir, nid ydych chwi'n ddim, ac nid yw'ch gwaith ond diddim. Ffieiddbeth yw'r un sy'n eich dewis.
Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth. Cywilyddir pob eurych gan ei eilun, canys celwydd yw ei ddelwau tawdd, ac nid oes anadl ynddynt.
Rhoes yr ARGLWYDD orchymyn amdanat: “Ni fydd had o'th hil mwyach; torraf ymaith ddelw ac eilun o dŷ dy dduwiau; a rhoddaf i ti fedd am dy fod yn ddirmygedig.”
Dileodd Joseia y swynwyr a'r dewiniaid, y delwau a'r eilunod, a phob ffieidd-dra tebyg a welwyd yng ngwlad Jwda ac yn Jerwsalem. Gwnaeth hyn er mwyn cadw geiriau'r gyfraith a ysgrifennwyd yn y llyfr a ddarganfu'r offeiriad Hilceia yn y deml.
Pa gytundeb sydd rhwng teml Duw ac eilunod? Oherwydd nyni yw teml y Duw byw. Fel y dywedodd Duw: “Trigaf ynddynt hwy, a rhodiaf yn eu plith, a byddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwythau'n bobl i minnau.Am hynny, dewch allan o'u plith hwy, ymwahanwch oddi wrthynt, medd yr Arglwydd, a pheidiwch â chyffwrdd â dim byd aflan. Ac fe'ch derbyniaf chwi,
Rhowch i farwolaeth, felly, y rhannau hynny ohonoch sy'n perthyn i'r ddaear: anfoesoldeb rhywiol, amhurdeb, nwyd, blys, a thrachwant, sydd yn eilunaddoliaeth.
Ond cilio mewn cywilydd a wna'r rhai sy'n ymddiried mewn eilunod ac yn dweud wrth ddelwau tawdd, ‘Chwi yw ein duwiau ni.’ ”
Pam yr ydych yn fy nigio i â gwaith eich dwylo, ac yn arogldarthu i dduwiau eraill yng ngwlad yr Aifft, lle y daethoch i fyw, gan eich difetha eich hunain, a bod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear?
Symudodd ymaith allorau'r duwiau dieithr a'r uchelfeydd, a dryllio'r colofnau a chwalu delwau Asera.
Yr oeddent yn aberthu i ddemoniaid nad oeddent dduwiau, ac i dduwiau nad oeddent yn eu hadnabod, duwiau newydd yn dod oddi wrth eu cymdogion, nad oedd eu hynafiaid wedi eu parchu.
Ymysg y cenhedloedd lle caethgludwyd hwy, bydd y rhai a ddihangodd yn fy nghofio—fel y drylliwyd fi gan eu calonnau godinebus pan oeddent yn troi oddi wrthyf, a chan eu llygaid pan oeddent yn godinebu gydag eilunod; yna byddant yn eu casáu eu hunain am y drygioni a wnaethant ac am eu holl ffieidd-dra.
Beth, felly, yr wyf yn ei ddweud? Bod bwyd sydd wedi ei aberthu i eilunod yn rhywbeth? Neu fod eilun yn rhywbeth?
Pan ddaeth Elias at yr holl bobl, gofynnodd, “Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl? Os yr ARGLWYDD sydd Dduw, dilynwch ef; ac os Baal, dilynwch hwnnw.” Ond nid atebodd y bobl air iddo.
am hynny rhois wybod i ti erstalwm, a'th hysbysu cyn iddynt ddigwydd, rhag i ti ddweud, ‘Fy nelw a'u gwnaeth, fy eilun a'm cerfddelw a'u trefnodd.’
Y mae arferion y bobloedd fel eilun— pren wedi ei gymynu o'r goedwig, gwaith dwylo saer â bwyell;ac wedi iddynt ei harddu ag arian ac aur, y maent yn ei sicrhau â morthwyl a hoelion, rhag iddo symud.Fel bwgan brain mewn gardd cucumerau, ni all eilunod lefaru; rhaid eu cludo am na allant gerdded. Peidiwch â'u hofni; ni allant wneud niwed, na gwneud da chwaith.”
Gofalwch gadw'r holl bethau a ddywedais wrthych, a pheidiwch ag enwi duwiau eraill na sôn amdanynt.
“Ymgasglwch, dewch yma, nesewch gyda'ch gilydd, rai dihangol y cenhedloedd. Nid oes gwybodaeth gan gludwyr delwau pren a'r rhai sy'n gweddïo ar dduw na all eu hachub.
Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD, “Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf a thalu gwrogaeth i mi â geiriau yn unig, ond eu calon ymhell oddi wrthyf, a'u parch i mi yn ddim ond cyfraith ddynol wedi ei dysgu ar gof,
A pheidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.
Arian ac aur yw eu delwau hwy, ac wedi eu gwneud â dwylo dynol.Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad, a llygaid nad ydynt yn gweld;y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed, a ffroenau nad ydynt yn arogli;y mae ganddynt ddwylo nad ydynt yn teimlo, a thraed nad ydynt yn cerdded; ac ni ddaw sŵn o'u gyddfau.
“Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch; codwch faner a chyhoeddwch; peidiwch â chelu ond dywedwch, ‘Goresgynnwyd Babilon, gwaradwyddwyd Bel, brawychwyd Merodach. Daeth cywilydd dros ei heilunod a drylliwyd ei delwau.’
ac addoli'r ddraig am iddi roi'r awdurdod i'r bwystfil, ac addoli'r bwystfil hefyd gan ddweud, “Pwy sydd debyg i'r bwystfil, a phwy all ryfela yn ei erbyn ef?”
Peidiwch â chymryd eich gwahardd gan ddyfarniad neb sydd â'i fryd ar ddiraddio'r hunan, ac ar addoli angylion ar sail ei weledigaethau. Meddwl cnawdol sy'n peri i rai felly ymchwyddo heb achos,
Dywedodd Samuel wrth yr Israeliaid, “Os ydych yn dychwelyd at yr ARGLWYDD â'ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau estron a'r Astaroth o'ch mysg; rhowch eich meddwl ar yr ARGLWYDD, a'i addoli ef yn unig, ac fe'ch achub o law y Philistiaid.”
Codasant uchelfeydd i Baal yn nyffryn Ben-hinnom, i aberthu eu meibion a'u merched i Moloch; ni orchmynnais hyn iddynt, ac ni ddaeth i'm meddwl iddynt wneud y fath ffieidd-dra, i beri i Jwda bechu.’
Yr ydych i lwyr ddinistrio'r holl fannau ar y mynyddoedd uchel a'r bryniau, a than bob pren gwyrddlas, lle mae'r cenhedloedd yr ydych yn eu disodli yn addoli eu duwiau.Yr ydych i dynnu i lawr eu hallorau, dryllio'u colofnau, llosgi eu pyst Asera yn y tân, torri i lawr ddelwau eu duwiau, a dinistrio'u henwau o'r mannau hynny.
a'u taenu yn wyneb yr haul a'r lleuad a holl lu'r nefoedd y buont yn eu caru ac yn eu gwasanaethu, gan rodio ar eu hôl ac ymofyn ganddynt a'u haddoli. Byddant heb eu casglu a heb eu claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear.
Dywedais wrthynt, “Pob un ohonoch, bwriwch ymaith y pethau atgas y mae eich llygaid yn syllu arnynt, a pheidiwch â'ch halogi eich hunain ag eilunod yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.”
sef dryllio'r allorau a'r pyst Asera, a malu'r cerfluniau'n yfflon a dinistrio'r holl arogldarth trwy Israel gyfan; yna dychwelodd i Jerwsalem.
Codant ef ar eu hysgwydd a'i gario, gosodant ef yn ei le, ac yno y saif heb symud; os llefa neb arno, nid yw'n ei ateb, nac yn ei achub o'i gyfyngder.
o achos y drygioni a wnaethant i'm digio, gan losgi arogldarth ac addoli duwiau eraill nad oeddent hwy na chwithau na'ch hynafiaid yn eu hadnabod.
pan weiddi, ni fyddant yn dy waredu. Bydd y gwynt yn eu dwyn ymaith i gyd, ac awel yn eu chwythu i ffwrdd. Ond bydd y sawl a ymddiried ynof fi yn meddiannu'r ddaear, ac yn etifeddu fy mynydd sanctaidd.”
nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu,
“Prun ai lladd ych ai lladd dyn, ai aberthu oen ai tagu ci, ai offrymu bwydoffrwm ai aberthu gwaed moch, ai arogldarthu thus ai bendithio eilun, dewis eu ffordd eu hunain y maent, ac ymhyfrydu yn eu ffieidd-dra
Yr oeddent yn gwrthod ei ddeddfau a'r cyfamod a wnaeth â'u hynafiaid a'r rhybuddion a roddodd iddynt, yn dilyn oferedd ac yn troi'n ofer, yr un fath â'r cenhedloedd oedd o'u cwmpas, er i'r ARGLWYDD orchymyn iddynt beidio â gwneud felly.
“Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y dŵr dan y ddaear;
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Pa fai a gafodd eich hynafiaid ynof, i ymbellhau oddi wrthyf, i rodio ar ôl oferedd, a mynd yn ofer?
Pan glywodd Asa y geiriau hyn, sef y broffwydoliaeth gan Asareia fab Oded y proffwyd, fe ymwrolodd. Ysgubodd ymaith y pethau ffiaidd o holl wlad Jwda a Benjamin, ac o'r dinasoedd a enillodd ym mynydd-dir Effraim, ac adnewyddodd allor yr ARGLWYDD a safai o flaen porth teml yr ARGLWYDD.
Felly dywed wrth dŷ Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Edifarhewch, a throwch oddi wrth eich eilunod ac oddi wrth eich holl ffieidd-dra.