Rwyt ti’n bwysig iawn ym mywyd dy blentyn. Ti yw’r arweinydd yn dy gartref, yr un sy’n eu tywys ac yn dysgu gwerthoedd Duw iddyn nhw. Rwyt ti’n esiampl i bawb o’th gwmpas, felly mae’r hyn rwyt ti’n ei wneud yn bwysig iawn gan fod dy blant yn dilyn dy esiampl.
Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd llawenydd mawr gan dad y cyfiawn; a’r hwn sy’n cael plentyn doeth, bydd yn llawenychu ynddo.” (Diarhebion 23:24) Mae Duw wedi’th roi di fel pennaeth dy gartref i arwain a llywio dy deulu. Gofynna am gymorth Duw, a bydd e’n dy ddysgu sut i wneud hynny.
Mae’r Arglwydd mor drugarog â’r rhai sy’n ei ofni ag yw tad at ei blant. (Salm 103:13)
“Anrhydedda dy dad a'th fam, er mwyn amlhau dy ddyddiau yn y wlad y mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi iti.
Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni yn yr Arglwydd, oherwydd hyn sydd iawn.“Anrhydedda dy dad a'th fam”—hwn yw'r gorchymyn cyntaf ac iddo addewid:“er mwyn iti lwyddo a chael hir ddyddiau ar y ddaear.”
Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni ym mhob peth, oherwydd hyn sydd gymeradwy ym mhobl yr Arglwydd.
Fy mab, gwrando ar addysg dy dad, paid â gwrthod cyfarwyddyd dy fam;bydd yn dorch brydferth ar dy ben, ac yn gadwyn am dy wddf.
Fy mab, cadw orchymyn dy dad; paid ag anwybyddu cyfarwyddyd dy fam;clyma hwy'n wastad yn dy galon, rhwym hwy am dy wddf.Fe'th arweiniant ple bynnag yr ei, a gwylio drosot pan orffwysi, ac ymddiddan â thi pan gyfodi.
“Anrhydedda dy dad a'th fam, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti, er mwyn amlhau dy ddyddiau ac fel y bydd yn dda arnat yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti.
Y mae pob un ohonoch i barchu ei fam a'i dad, ac yr ydych i gadw fy Sabothau. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
Bydd rhieni'r cyfiawn yn llawen iawn, a'r rhai a genhedlodd y doeth yn ymhyfrydu ynddo.Bydded i'th dad a'th fam gael llawenydd, ac i'r un a esgorodd arnat gael hyfrydwch.
Y llygad sy'n gwatwar tad, ac yn dirmygu ufudd-dod i fam, fe'i tynnir allan gan gigfrain y dyffryn, ac fe'i bwyteir gan y fwltur.
Oherwydd dywedodd Duw, ‘Anrhydedda dy dad a'th fam’, a ‘Bydded farw'n gelain y sawl a felltithia ei dad neu ei fam.’
“Melltith ar y sawl sy'n dirmygu ei dad neu ei fam.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
Dyma ddiarhebion Solomon: Y mae mab doeth yn gwneud ei dad yn llawen, ond mab ffôl yn dwyn gofid i'w fam.
Oherwydd dywedodd Moses, ‘Anrhydedda dy dad a'th fam’, a, ‘Bydded farw'n gelain y sawl a felltithia ei dad neu ei fam.’
Ond os oes gan y weddw blant neu wyrion, dylai'r rheini yn gyntaf ddysgu ymarfer eu crefydd tuag at eu teulu, a thalu'n ôl i'w rhieni y ddyled sydd arnynt, oherwydd hynny sy'n gymeradwy gan Dduw.
Wele, etifeddiaeth oddi wrth yr ARGLWYDD yw meibion, a gwobr yw ffrwyth y groth.Fel saethau yn llaw rhyfelwr yw meibion ieuenctid dyn.Gwyn ei fyd y sawl sydd â chawell llawn ohonynt; ni chywilyddir ef pan ddadleua â'i elynion yn y porth.
Chwi dadau, peidiwch â chythruddo'ch plant, ond eu meithrin yn nisgyblaeth a hyfforddiant yr Arglwydd.
Yna aeth ef i lawr gyda hwy yn ôl i Nasareth, a bu'n ufudd iddynt. Cadwodd ei fam y cyfan yn ddiogel yn ei chalon.
Mwy na hynny, yr oedd gennym rieni daearol i'n disgyblu, ac yr oeddem yn eu parchu hwy. Oni ddylem, yn fwy o lawer, ymddarostwng i'n Tad ysbrydol, a chael byw?
Ond pwy bynnag nad yw'n darparu ar gyfer ei berthnasau, ac yn arbennig ei deulu ei hun, y mae wedi gwadu'r ffydd ac y mae'n waeth nag anghredadun.
Y mae'r sawl sy'n cam-drin ei dad ac yn diarddel ei fam yn fab gwaradwyddus ac amharchus.
Os bydd rhywun yn melltithio ei dad a'i fam, diffoddir ei oleuni mewn tywyllwch dudew.
“Gwyliwch rhag i chwi ddirmygu un o'r rhai bychain hyn; oherwydd rwy'n dweud wrthych fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn edrych ar wyneb fy Nhad sydd yn y nefoedd.
Y mae gwialen a cherydd yn rhoi doethineb, ond y mae plentyn afreolus yn dwyn gwarth ar ei fam.
Gwyn ei fyd pob un sy'n ofni'r ARGLWYDD ac yn rhodio yn ei ffyrdd.Cei fwyta o ffrwyth dy lafur; byddi'n hapus ac yn wyn dy fyd.Bydd dy wraig yng nghanol dy dŷ fel gwinwydden ffrwythlon, a'th blant o amgylch dy fwrdd fel blagur olewydd.Wele, fel hyn y bendithir y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD.
Fy mab, paid ag anghofio fy nghyfarwyddyd; cadw fy ngorchmynion yn dy gof.Oherwydd ychwanegant at nifer dy ddyddiau a rhoi blynyddoedd o fywyd a llwyddiant.
Y mae'r geiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw i fod yn dy galon.Yr wyt i'w hadrodd i'th blant, ac i sôn amdanynt pan fyddi'n eistedd yn dy dŷ ac yn cerdded ar y ffordd, a phan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi.
Gwrandewch, blant, ar gyfarwyddyd tad, ac ystyriwch i chwi ddysgu deall.Oherwydd yr wyf yn rhoi i chwi hyfforddiant da; peidiwch â gwrthod fy nysgeidiaeth.Bûm innau hefyd yn fab i'm tad, yn annwyl, ac yn unig blentyn fy mam.Dysgodd yntau fi, a dweud wrthyf, “Gosod dy feddwl ar fy ngeiriau; cadw fy ngorchmynion iti gael byw.
Fel y mae tad yn tosturio wrth ei blant, felly y tosturia'r ARGLWYDD wrth y rhai sy'n ei ofni.
Na, fe'i hysbysaf, er mwyn iddo orchymyn i'w blant a'i dylwyth ar ei ôl gadw ffordd yr ARGLWYDD a gwneud cyfiawnder a barn, fel y bydd i'r ARGLWYDD gyflawni ei air i Abraham.”
Pan welodd Iesu ei fam, felly, a'r disgybl yr oedd yn ei garu yn sefyll yn ei hymyl, meddai wrth ei fam, “Wraig, dyma dy fab di.”Yna dywedodd wrth y disgybl, “Dyma dy fam di.” Ac o'r awr honno, cymerodd y disgybl hi i mewn i'w gartref.
Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn ym mhob peth, ac yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad.
nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu,ond yn dangos trugaredd i filoedd o'r rhai sy'n fy ngharu ac yn cadw fy ngorchmynion.
Paid ag atal disgyblaeth oddi wrth blentyn; os byddi'n ei guro â gwialen, ni fydd yn marw.Os byddi'n ei guro â gwialen, byddi'n achub ei fywyd o Sheol.
Fy mab, gwrando, a dal ar fy ngeiriau, ac fe ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd.Hyfforddais di yn ffordd doethineb; dysgais iti gerdded llwybrau union.
Bydded ein meibion fel planhigion yn tyfu'n gryf yn eu hieuenctid, a'n merched fel pileri cerfiedig mewn adeiladwaith palas.
Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth, ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth.
Fy mab, os derbynni fy ngeiriau, a thrysori fy ngorchmynion,a gwrando'n astud ar ddoethineb, a rhoi dy feddwl ar ddeall;os gelwi am ddeall, a chodi dy lais am wybodaeth,a chwilio amdani fel am arian, a chloddio amdani fel am drysor—yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, a chael gwybodaeth o Dduw.
Os nad yw'r ARGLWYDD yn adeiladu'r tŷ, y mae ei adeiladwyr yn gweithio'n ofer. Os nad yw'r ARGLWYDD yn gwylio'r ddinas, y mae'r gwylwyr yn effro'n ofer.Yn ofer y codwch yn fore, a mynd yn hwyr i orffwyso, a llafurio am y bwyd a fwytewch; oherwydd mae ef yn rhoi i'w anwylyd pan yw'n cysgu.
Bydd ofalus, a gwylia'n ddyfal rhag iti anghofio'r pethau a welodd dy lygaid, a rhag iddynt gilio o'th feddwl holl ddyddiau dy fywyd; dysga hwy i'th blant ac i blant dy blant.
Casáu ei fab a wna'r un sy'n arbed y wialen, ond ei garu y mae'r sawl a rydd gerydd cyson.
Y mae'r un sy'n caru doethineb yn rhoi llawenydd i'w dad, ond y mae'r un sy'n cyfeillachu â phuteiniaid yn gwastraffu ei eiddo.
er mwyn i chwi ofni'r ARGLWYDD eich Duw a chadw yr holl ddeddfau a gorchmynion yr wyf yn eu rhoi i chwi a'ch plant a phlant eich plant holl ddyddiau eich bywyd, ac er mwyn estyn eich dyddiau.
Fel y cysurir plentyn gan ei fam byddaf fi'n eich cysuro chwi; ac yn Jerwsalem y'ch cysurir.
Byddwch, felly, yn efelychwyr Duw, fel plant annwyl iddo,gan fyw mewn cariad, yn union fel y carodd Crist ni, a'i roi ei hun trosom, yn offrwm ac aberth i Dduw, o arogl pêr.
a'th fod er yn blentyn yn gyfarwydd â'r Ysgrythurau sanctaidd, sydd yn abl i'th wneud yn ddoeth a'th ddwyn i iachawdwriaeth trwy ffydd yng Nghrist Iesu.
Ni chuddiwn hwy oddi wrth eu disgynyddion, ond adroddwn wrth y genhedlaeth sy'n dod weithredoedd gogoneddus yr ARGLWYDD, a'i rym, a'r pethau rhyfeddol a wnaeth.Fe roes ddyletswydd ar Jacob, a gosod cyfraith yn Israel, a rhoi gorchymyn i'n hynafiaid, i'w dysgu i'w plant;er mwyn i'r to sy'n codi wybod, ac i'r plant sydd heb eu geni eto ddod ac adrodd wrth eu plant;er mwyn iddynt roi eu ffydd yn Nuw, a pheidio ag anghofio gweithredoedd Duw, ond cadw ei orchmynion;
Gwyddost y gorchmynion: ‘Na odineba, na ladd, na ladrata, na chamdystiolaetha, anrhydedda dy dad a'th fam.’ ”
Dysgwch hwy i'ch plant, a'u crybwyll wrth eistedd yn y tŷ ac wrth gerdded ar y ffordd, wrth fynd i orwedd ac wrth godi;
Yn yr un modd, chwi wŷr ifainc, ymostyngwch i'r henuriaid. A phawb ohonoch, gwisgwch amdanoch ostyngeiddrwydd yng ngwasanaeth eich gilydd, oherwydd, fel y dywed yr Ysgrythur: “Y mae Duw'n gwrthwynebu'r beilchion, ond i'r gostyngedig y mae'n rhoi gras.”
Pan fydd dy blentyn yn gofyn iti yn y dyfodol, “Beth yw ystyr y tystiolaethau, y deddfau a'r cyfreithiau a orchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw ichwi?”,yna dywed wrtho, “Yr oeddem ni yn gaethion i Pharo yn yr Aifft, a daeth yr ARGLWYDD â ni allan oddi yno â llaw gadarn,ac yn ein gŵydd dangosodd arwyddion a rhyfeddodau mawr ac arswydus i'r Eifftiaid a Pharo a'i holl dŷ.Daeth â ni allan oddi yno er mwyn ein harwain i'r wlad y tyngodd i'n hynafiaid y byddai'n ei rhoi inni.A gorchmynnodd yr ARGLWYDD inni gadw'r holl ddeddfau hyn er mwyn inni ofni'r ARGLWYDD ein Duw, ac iddi fod yn dda arnom bob amser, ac inni gael ein cadw'n fyw, fel yr ydym heddiw.A bydd yn gyfiawnder inni os gofalwn gadw'r holl orchmynion hyn gerbron yr ARGLWYDD ein Duw, fel y gorchmynnodd ef inni.”
Y mae mab sy'n cywain yn yr haf yn ddeallus, ond un sy'n cysgu trwy'r cynhaeaf yn dod â chywilydd.
Y mae'r un sy'n peri helbul i'w deulu'n etifeddu'r gwynt, a bydd y ffôl yn was i'r doeth.
Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch.
Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw'n ymffrostio, nid yw'n ymchwyddo.Nid yw'n gwneud dim sy'n anweddus, nid yw'n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw'n gwylltio, nid yw'n cadw cyfrif o gam;
Pa beth bynnag y dymunwch i eraill ei wneud i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; hyn yw'r Gyfraith a'r proffwydi.
Molwch yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD, ac yn ymhyfrydu'n llwyr yn ei orchmynion.Bydd ei ddisgynyddion yn gedyrn ar y ddaear, yn genhedlaeth uniawn wedi ei bendithio.
Peidiwch â gwneud dim o gymhellion hunanol nac o ymffrost gwag, ond mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun.
nid yw'n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae'n cydlawenhau â'r gwirionedd.Y mae'n goddef i'r eithaf, yn credu i'r eithaf, yn gobeithio i'r eithaf, yn dal ati i'r eithaf.
Y mae ffolineb ynghlwm wrth feddwl plentyn, ond y mae gwialen disgyblaeth yn ei yrru oddi wrtho.
Yn olaf, bawb ohonoch, byddwch o'r un meddwl yn cydymdeimlo â'ch gilydd yn frawdol, yn dyner eich calon, yn ostyngedig eich ysbryd.
Oherwydd y mae gorchymyn yn llusern, a chyfarwyddyd yn oleuni, a cherydd disgyblaeth yn arwain i fywyd,
Gwyn ei fyd y sawl sydd â chawell llawn ohonynt; ni chywilyddir ef pan ddadleua â'i elynion yn y porth.
Cofia'r dyddiau gynt, ystyria flynyddoedd y cenedlaethau a fu; gofyn i'th dad, ac fe fynega ef iti; neu i'th hynafgwyr, ac fe ddywedant hwy wrthyt.
Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy'n caru wedi ei eni o Dduw, ac yn adnabod Duw.Y sawl nad yw'n caru, nid yw'n adnabod Duw, oherwydd cariad yw Duw.
Felly y mae deall a doethineb i'th fywyd; os cei hwy, yna y mae iti ddyfodol, ac ni thorrir ymaith dy obaith.
Talwch i bob un ohonynt beth bynnag sy'n ddyledus, boed dreth, boed doll, boed barch, boed anrhydedd.
“Ond pwy bynnag sy'n achos cwymp i un o'r rhai bychain hyn sy'n credu ynof fi, byddai'n well iddo pe crogid maen melin mawr am ei wddf a'i foddi yn eigion y môr.
Yna galwodd Isaac ar Jacob, a bendithiodd ef. Gorchmynnodd iddo, “Paid â phriodi gwraig o blith merched Canaan.
Bellach, gyfeillion, ffarwel. Mynnwch eich adfer, gwrandewch ar fy apêl, byddwch o'r un meddwl, a byw'n heddychlon; a bydd Duw'r cariad a'r tangnefedd gyda chwi.
Fy mab, os bydd dy galon yn ddoeth, bydd fy nghalon innau yn llawen.Byddaf yn llawenhau drwof i gyd pan fydd dy enau yn llefaru'n uniawn.
Y mae pob un ohonom i blesio ein cymydog, gan anelu at yr hyn sydd dda er adeiladu ein gilydd.
Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn.
Oherwydd dywedodd Duw, ‘Anrhydedda dy dad a'th fam’, a ‘Bydded farw'n gelain y sawl a felltithia ei dad neu ei fam.’Ond yr ydych chwi'n dweud, ‘Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, “Offrwm i Dduw yw beth bynnag y gallasit ei dderbyn yn gymorth gennyf fi”, ni chaiff anrhydeddu ei dad.’Ac yr ydych wedi dirymu gair Duw er mwyn eich traddodiad chwi.
Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch amdanoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd.Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau.
Peidiwch â bod mewn dyled i neb, ar wahân i'r ddyled o garu eich gilydd. Y mae'r sawl sy'n caru pobl eraill wedi cyflawni holl ofynion y Gyfraith.
Y mae ei phlant yn tyfu ac yn ei bendithio; a bydd ei gŵr yn ei chanmol:“Y mae llawer o ferched wedi gweithio'n fedrus, ond yr wyt ti'n rhagori arnynt i gyd.”
Dywedodd hefyd, “Pwy fuasai wedi dweud wrth Abraham y rhoddai Sara sugn i blant? Eto mi enais fab iddo yn ei henaint.”
Y mae plentyn deallus yn cadw'r gyfraith, ond y mae'r un sy'n cyfeillachu â'r glwth yn dwyn anfri ar ei rieni.
Oherwydd dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion. Ac nid yw ei orchmynion ef yn feichus,
Dechrau doethineb yw ofn yr ARGLWYDD; y mae deall da gan bawb sy'n ufudd. Y mae ei foliant yn para byth.
Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd. Gochelwch feddyliau mawreddog; yn hytrach, rhodiwch gyda'r distadl. Peidiwch â'ch cyfrif eich hunain yn ddoeth.
Fe'ch galwyd chwi, gyfeillion, i ryddid, ond yn unig peidiwch ag arfer eich rhyddid yn gyfle i'r cnawd; yn hytrach trwy gariad byddwch yn weision i'ch gilydd.Oherwydd y mae'r holl Gyfraith wedi ei mynegi'n gyflawn mewn un gair, sef yn y gorchymyn, “Câr dy gymydog fel ti dy hun.”
“Anrhydedda dy dad a'th fam”—hwn yw'r gorchymyn cyntaf ac iddo addewid:“er mwyn iti lwyddo a chael hir ddyddiau ar y ddaear.”
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, y Tad sy'n trugarhau a'r Duw sy'n rhoi pob diddanwch.Y mae'n ein diddanu ym mhob gorthrymder, er mwyn i ninnau, trwy'r diddanwch a gawn ganddo ef, allu diddanu'r rhai sydd dan bob math o orthrymder.
Byddwch yn dirion wrth eich gilydd; yn dyner eich calon, yn maddau i'ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi.
Pan glywodd Esau eiriau ei dad, gwaeddodd yn uchel a chwerw, a dweud wrth ei dad, “Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad.”Ond dywedodd ef, “Y mae dy frawd wedi dod trwy dwyll, a chymryd dy fendith.”
Fe adeiledir tŷ trwy ddoethineb, a'i sicrhau trwy wybodaeth.Trwy ddeall y llenwir ystafelloedd â phob eiddo gwerthfawr a dymunol.
Y mae wedi ei gwisgo â nerth ac anrhydedd, ac yn wynebu'r dyfodol dan chwerthin.Y mae'n siarad yn ddoeth, a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod.
Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau.
Dywedodd Iesu wrtho, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl.’Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysicaf.Ac y mae'r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’
Gwrando'n awr arnaf fi, ac fe'th gynghoraf, a bydded Duw gyda thi. Ti sydd i gynrychioli'r bobl o flaen Duw, a dod â'u hachosion ato ef.Ti hefyd sydd i ddysgu i'r bobl y deddfau a'r cyfreithiau, a rhoi gwybod iddynt sut y dylent ymddwyn a beth y dylent ei wneud.
“Os pecha dy gyfaill yn dy erbyn, dos a dangos ei fai iddo, o'r neilltu rhyngot ti ac ef. Os bydd yn gwrando arnat, fe enillaist dy gyfaill.
“Yn awr, blant, gwrandewch arnaf; gwyn eu byd y rhai sy'n cadw fy ffyrdd.Gwrandewch ar gyfarwyddyd, a byddwch ddoeth; peidiwch â'i anwybyddu.
Fy mab, gwrando a bydd ddoeth, a gosod dy feddwl ar y ffordd iawn.Paid â chyfathrachu â'r rhai sy'n yfed gwin, nac ychwaith â'r rhai glwth;oherwydd bydd y diotwr a'r glwth yn mynd yn dlawd, a bydd syrthni'n eu gwisgo mewn carpiau.
Ac atebodd Joseff ei dad, “Dyma fy meibion a roddodd Duw imi yma.” Dywedodd yntau, “Tyrd â hwy ataf i mi eu bendithio.”
O Dduw, dysgaist fi o'm hieuenctid, ac yr wyf yn dal i gyhoeddi dy ryfeddodau;a hyd yn oed pan wyf yn hen a phenwyn, O Dduw, paid â'm gadael, nes imi fynegi dy rym i'r cenedlaethau sy'n codi.
Ond y byw, y byw yn unig fydd yn diolch i ti, fel y gwnaf finnau heddiw; gwna tad i'w blant wybod am dy ffyddlondeb.
Mewn gair, y mae ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, yn aros. A'r mwyaf o'r rhain yw cariad.
Bwriwch ymaith oddi wrthych bob chwerwder, llid, digofaint, twrw, a sen, ynghyd â phob drwgdeimlad.Byddwch yn dirion wrth eich gilydd; yn dyner eich calon, yn maddau i'ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi.
Pwy bynnag sy'n ofni'r ARGLWYDD, fe'i dysg pa ffordd i'w dewis;fe gaiff fyw'n ffyniannus, a bydd ei blant yn etifeddu'r tir.
Bydded i frawdgarwch barhau.Peidiwch ag anghofio lletygarwch, oherwydd trwyddo y mae rhai, heb wybod hynny, wedi rhoi llety i angylion.
ond dywedodd Iesu, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas nefoedd yn perthyn.”
Ond y mae ffyddlondeb yr ARGLWYDD o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb ar y rhai sy'n ei ofni, a'i gyfiawnder i blant eu plant,i'r rhai sy'n cadw ei gyfamod, yn cofio'i orchmynion ac yn ufuddhau.
Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad.
a bydd fy mhlant yn ei wasanaethu; dywedir am yr ARGLWYDD wrth genedlaethau i ddod,a chyhoeddi ei gyfiawnder wrth bobl heb eu geni, mai ef a fu'n gweithredu.
Felly boed i'ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.