Nid yw neb yn eich mysg i roi ei fab na'i ferch yn aberth trwy dân; nac i arfer dewiniaeth, hudoliaeth, na darogan; nac i gonsurio,arfer swynion, ymwneud ag ysbrydion a bwganod, nac ymofyn â'r meirw.Y mae unrhyw un sy'n ymhél â'r rhain yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD; o achos yr arferion ffiaidd hyn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu gyrru hwy allan o'th flaen.
“ ‘Peidiwch â throi at ddewiniaid na cheisio swynwyr, oherwydd fe'ch halogir trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
Byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn y sawl sy'n troi at ddewiniaid a swynwyr i buteinio ar eu holau, a byddaf yn ei dorri ymaith o blith ei bobl.
Rwyt wedi dy lethu gan nifer dy gynghorwyr; bydded iddynt sefyll yn awr a'th achub— dewiniaid y nefoedd a gwylwyr y sêr, sy'n proffwydo bob mis yr hyn a ddigwydd iti.
A phan fydd y bobl yn dweud wrthych, “Ewch i ymofyn â'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sisial a sibrwd”, onid yw'r bobl yn ymhél â'r duwiau, ac yn ymofyn â'r meirw dros y byw
Gwylia hefyd na fyddi'n codi dy olwg i'r nefoedd ac edrych ar yr haul, y lleuad neu'r sêr, holl lu'r nefoedd, a chael dy ddenu i ymgrymu iddynt a'u haddoli; neilltuodd yr ARGLWYDD dy Dduw y rhain ar gyfer yr holl bobloedd dan y nefoedd.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Peidiwch â dysgu ffordd y cenhedloedd, na chael eich dychryn gan arwyddion y nefoedd, fel y dychrynir y cenhedloedd ganddynt.
Parodd i'w fab fynd trwy dân, ac arferodd hudoliaeth a swynion, a bu'n ymhél ag ysbrydion a dewiniaid. Yr oedd yn ymroi i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.
Ef oedd yr un a barodd i'w feibion fynd trwy dân yn nyffryn Ben-hinnom, arferodd hudoliaeth, swynion a chyfaredd, ac ymhél ag ysbrydion a dewiniaeth. Yr oedd yn ymroi i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.
diddymu arwyddion celwyddog, gwneud ffyliaid o'r rhai sy'n dewino; troi doethion yn eu hôl, a gwneud eu gwybodaeth yn ynfydrwydd;
Peidiwch â gwrando ar eich proffwydi na'ch dewiniaid na'ch breuddwydwyr na'ch hudolion na'ch swynwyr, sy'n llefaru wrthych gan ddweud, ‘Ni fyddwch yn gwasanaethu brenin Babilon.’
Y mae'r cenhedloedd yr wyt yn eu disodli yn gwrando ar ddewiniaid a hudolwyr; ond nid yw'r ARGLWYDD dy Dduw yn caniatáu hyn i ti.
Gwrthodaist dŷ Jacob, dy bobl, oherwydd y maent yn llawn dewiniaid o'r dwyrain, a swynwyr fel y Philistiaid, ac y maent yn gwneud cyfeillion o estroniaid.
Yn wir, pechod fel dewiniaeth yw anufudd-dod, a throsedd fel addoli eilunod yw cyndynrwydd. Am i ti wrthod gair yr ARGLWYDD, gwrthododd ef di fel brenin.”
A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Proffwydo celwyddau yn fy enw i y mae'r proffwydi; nid anfonais hwy, na gorchymyn iddynt, na llefaru wrthynt. Proffwydant i chwi weledigaethau gau, a dewiniaeth ffôl, a thwyll eu dychymyg eu hunain.
Un tro pan oeddem ar ein ffordd i'r lle gweddi, daeth rhyw gaethferch a chanddi ysbryd dewiniaeth i'n cyfarfod, un oedd yn dwyn elw mawr i'w meistri trwy ddweud ffortiwn.Dilynodd hon Paul a ninnau, gan weiddi: “Gweision y Duw Goruchaf yw'r dynion hyn, ac y maent yn cyhoeddi i chwi ffordd iachawdwriaeth.”Gwnaeth hyn am ddyddiau lawer. Blinodd Paul arni, a throes ar yr ysbryd a dweud, “Rwy'n gorchymyn i ti, yn enw Iesu Grist, ddod allan ohoni.” Ac allan y daeth, y munud hwnnw.
Ymddangosodd hefyd broffwydi gau ymhlith pobl Israel, ac yn yr un modd bydd athrawon gau yn eich plith chwithau, rhai a fydd yn dwyn i mewn yn llechwraidd heresïau dinistriol, yn gwadu'r Meistr a'u prynodd, ac yn dwyn arnynt eu hunain ddistryw buan.
Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau nes arwain ar gyfeiliorn hyd yn oed yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.
Oddi allan y mae'r cŵn, y dewiniaid, y puteinwyr, y llofruddion, yr eilunaddolwyr, a phawb sy'n caru celwydd ac yn ei wneud.
Peidiwch â throi at eilunod na gwneud ichwi eich hunain ddelwau tawdd. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
Y mae'r Ysbryd yn dweud yn eglur y bydd rhai mewn amserau diweddarach yn cefnu ar y ffydd. Byddant yn troi at ysbrydion twyllodrus ac at bethau y mae cythreuliaid yn eu dysgu trwy ragrith pobl gelwyddog.
Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd,eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio,cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw.
Ond y llwfr, y di-gred, y ffiaidd, y llofruddion, y puteinwyr, y dewiniaid, yr eilunaddolwyr, a phawb celwyddog, eu rhan hwy fydd y llyn sy'n llosgi gan dân a brwmstan, hynny yw yr ail farwolaeth.”
Casglodd llawer o'r rhai a fu'n ymarfer â swynion eu llyfrau ynghyd, a'u llosgi yng ngŵydd pawb; cyfrifwyd gwerth y rhain, a'i gael yn hanner can mil o ddarnau arian.
Gyfeillion annwyl, peidiwch â chredu pob ysbryd, ond profwch yr ysbrydion i gael gwybod a ydynt o Dduw, oherwydd y mae gau broffwydi lawer wedi mynd allan i'r byd.
Gwyliwch rhag i neb eich cipio i gaethiwed drwy athroniaeth a gwag hudoliaeth yn ôl traddodiad dynol, yn ôl ysbrydion elfennig y cyfanfyd, ac nid yn ôl Crist.
Y mae eu gweledigaethau yn dwyllodrus a'u dewiniaeth yn gelwydd; er nad yw'r ARGLWYDD wedi eu hanfon, y maent yn dweud, ‘Medd yr ARGLWYDD’, ac yn disgwyl iddo gyflawni eu gair.
Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth. Cywilyddir pob eurych gan ei eilun, canys celwydd yw ei ddelwau tawdd, ac nid oes anadl ynddynt.
“Glŷn wrth dy swynion a'th hudoliaethau aml y buost yn ymflino â hwy o'th ieuenctid— efallai y cei help ganddynt; efallai y medri godi arswyd drwyddynt.Rwyt wedi dy lethu gan nifer dy gynghorwyr; bydded iddynt sefyll yn awr a'th achub— dewiniaid y nefoedd a gwylwyr y sêr, sy'n proffwydo bob mis yr hyn a ddigwydd iti.
Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn distrywio o'th flaen y cenhedloedd yr wyt yn mynd i'w disodli. Pan fyddant wedi eu disodli a'u difa o'th flaen, a thithau'n byw yn eu gwlad,gwylia rhag iti gael dy rwydo i'w canlyn, a holi am eu duwiau: “Sut yr oedd y cenhedloedd hyn yn addoli eu duwiau, er mwyn i minnau wneud yr un fath?”Nid yn ôl eu dull hwy y gwnei i'r ARGLWYDD dy Dduw, oherwydd yr oedd y cwbl a wnaent hwy i'w duwiau yn ffieidd-dra atgas gan yr ARGLWYDD; yr oeddent hyd yn oed yn llosgi eu meibion a'u merched yn y tân i'w duwiau.
Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni.
Yr ydych i losgi delwau eu duwiau yn y tân; nid ydych i chwennych eu harian a'u haur, na'u cymryd, rhag iddynt fod yn fagl ichwi, oherwydd y maent yn ffieidd-dra i'r ARGLWYDD eich Duw.
Yr oeddent yn arfer dewiniaeth a swynion, ac yn ymroi'n llwyr i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.
“Wele fi yn erbyn y rhai sy'n proffwydo breuddwydion gau, yn eu hadrodd, ac yn hudo fy mhobl â'u hanwiredd a'u gwagedd,” medd yr ARGLWYDD. “Nid anfonais i mohonynt, na rhoi gorchymyn iddynt; ni wnânt ddim lles i'r bobl hyn,” medd yr ARGLWYDD.
Ac am y gweddill o'r ddynolryw, nas lladdwyd gan y plâu hyn, ni bu'n edifar ganddynt am yr hyn a luniodd eu dwylo; ac ni pheidiasant ag addoli'r cythreuliaid a'r delwau aur ac arian a phres a cherrig a phren, pethau na allant na gweld na chlywed na cherdded.
“Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eich proffwydi sydd yn eich mysg, na'ch dewiniaid, a pheidiwch â gwrando ar y breuddwydion a freuddwydiant.
ond cymysgu gyda'r cenhedloedd, a dysgu gwneud fel hwythau.Yr oeddent yn addoli eu delwau, a bu hynny'n fagl iddynt.
Rhowch i farwolaeth, felly, y rhannau hynny ohonoch sy'n perthyn i'r ddaear: anfoesoldeb rhywiol, amhurdeb, nwyd, blys, a thrachwant, sydd yn eilunaddoliaeth.
Diswyddodd yr offeiriaid gau a osododd brenhinoedd Jwda i arogldarthu yn yr uchelfeydd yn nhrefi Jwda a chyffiniau Jerwsalem, a'r rhai oedd yn arogldarthu i Baal a'r haul a'r lloer a'r planedau a holl lu'r nef.
Fe ffieiddiwch eich delwau arian cerfiedig a'ch eilunod euraid. Gwrthodi hwy fel budreddi; dywedi wrthynt, “Bawiach.”
Gwyliwch rhag ichwi gael eich arwain ar gyfeiliorn, a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Pa fai a gafodd eich hynafiaid ynof, i ymbellhau oddi wrthyf, i rodio ar ôl oferedd, a mynd yn ofer?
Y maent wedi ffeirio gwirionedd Duw am anwiredd, ac addoli a gwasanaethu'r hyn a grewyd yn lle'r Creawdwr. Bendigedig yw ef am byth! Amen.
chwi sy'n llosgi gan nwyd dan bob pren derw, dan bob pren gwyrddlas, ac yn aberthu plant yn y glynnoedd, yn holltau'r clogwyni?
Dywedais wrthynt, “Pob un ohonoch, bwriwch ymaith y pethau atgas y mae eich llygaid yn syllu arnynt, a pheidiwch â'ch halogi eich hunain ag eilunod yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.”
“Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y dŵr dan y ddaear;nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu,
Pa gytundeb sydd rhwng teml Duw ac eilunod? Oherwydd nyni yw teml y Duw byw. Fel y dywedodd Duw: “Trigaf ynddynt hwy, a rhodiaf yn eu plith, a byddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwythau'n bobl i minnau.
“ ‘Nid ydych i fwyta dim gyda gwaed ynddo. Nid ydych i arfer dewiniaeth na swyngyfaredd.
Yr oeddent yn aberthu i ddemoniaid nad oeddent dduwiau, ac i dduwiau nad oeddent yn eu hadnabod, duwiau newydd yn dod oddi wrth eu cymdogion, nad oedd eu hynafiaid wedi eu parchu.
Pan ddaeth Elias at yr holl bobl, gofynnodd, “Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl? Os yr ARGLWYDD sydd Dduw, dilynwch ef; ac os Baal, dilynwch hwnnw.” Ond nid atebodd y bobl air iddo.
“Ni all neb wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casáu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon.
Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD, “Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf a thalu gwrogaeth i mi â geiriau yn unig, ond eu calon ymhell oddi wrthyf, a'u parch i mi yn ddim ond cyfraith ddynol wedi ei dysgu ar gof,
Byddwch yn derbyn cosb am eich anlladrwydd a thâl am ddrygioni eich eilunaddoliad. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.”
Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, brenin Israel, ARGLWYDD y Lluoedd, ei Waredydd: “Myfi yw'r cyntaf, a myfi yw'r olaf; nid oes duw ond myfi.Pwy sy'n debyg i mi? Bydded iddo ddatgan, a mynegi a gosod ei achos ger fy mron. Pwy a gyhoeddodd erstalwm y pethau sydd i ddod? Dyweded wrthym beth sydd i ddigwydd. Peidiwch ag ofni na dychryn; oni ddywedais wrthych erstalwm? Fe fynegais, a chwi yw fy nhystion. A oes duw ond myfi? Nid oes craig. Ni wn i am un.”
Y mae arferion y bobloedd fel eilun— pren wedi ei gymynu o'r goedwig, gwaith dwylo saer â bwyell;ac wedi iddynt ei harddu ag arian ac aur, y maent yn ei sicrhau â morthwyl a hoelion, rhag iddo symud.Fel bwgan brain mewn gardd cucumerau, ni all eilunod lefaru; rhaid eu cludo am na allant gerdded. Peidiwch â'u hofni; ni allant wneud niwed, na gwneud da chwaith.”
Symudodd ymaith allorau'r duwiau dieithr a'r uchelfeydd, a dryllio'r colofnau a chwalu delwau Asera.
Clyw! Cri merch fy mhobl o wlad bellennig: “Onid yw'r ARGLWYDD yn Seion? Onid yw ei brenin ynddi?” “Pam y maent yn fy nigio â'u delwau, â'u heilunod estron?”
Nid edrychant at yr allorau, gwaith eu dwylo, nac ychwaith at yr hyn a wnaeth eu bysedd—y pyst cysegredig a'r allorau arogldarthu.
Yna dywedodd Iesu wrtho, “Dos ymaith, Satan; oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.’ ”
A pheidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.
Arian ac aur yw eu delwau hwy, ac wedi eu gwneud â dwylo dynol.Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad, a llygaid nad ydynt yn gweld;y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed, a ffroenau nad ydynt yn arogli;y mae ganddynt ddwylo nad ydynt yn teimlo, a thraed nad ydynt yn cerdded; ac ni ddaw sŵn o'u gyddfau.
Amlhau gofidiau y mae'r un sy'n blysio duwiau eraill; ni chynigiaf fi waed iddynt yn ddiodoffrwm, na chymryd eu henwau ar fy ngwefusau.
Fel hyn y dywedwch wrthynt: “Y duwiau na wnaethant y nefoedd a'r ddaear, fe gânt eu difa o'r ddaear ac oddi tan y nefoedd.”
yr anghredinwyr y dallodd duw'r oes bresennol eu meddyliau, rhag iddynt weld goleuni Efengyl gogoniant Crist, delw Duw.
“Am i Manasse brenin Jwda wneud y ffieidd-dra hwn, a gweithredu'n waeth na'r Amoriaid oedd o'i flaen, ac arwain Jwda hefyd i bechu gyda'i eilunod,
Yn wir y mae'n ymborthi ar ludw, a'i feddwl crwydredig wedi ei yrru ar gyfeiliorn; ni all ei waredu ei hun a dweud, “Onid twyll yw'r hyn sydd yn fy llaw?”
Peidiwch â chymryd eich gwahardd gan ddyfarniad neb sydd â'i fryd ar ddiraddio'r hunan, ac ar addoli angylion ar sail ei weledigaethau. Meddwl cnawdol sy'n peri i rai felly ymchwyddo heb achos,
Fe wyddoch sut y byddech yn cael eich ysgubo i ffwrdd at eilunod mud, pan oeddech yn baganiaid.
Y mae fy mhobl yn ymofyn â phren, a'u gwialen sy'n eu cyfarwyddo; oherwydd ysbryd puteindra a'u camarweiniodd, troesant mewn puteindra oddi wrth eu Duw.
Nid yw'r bobl yn gwybod nac yn deall; aeth eu llygaid yn ddall rhag gweld, a'u deall rhag amgyffred.
Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth. Cywilyddir pob eurych gan ei eilun, canys celwydd yw ei ddelwau tawdd, ac nid oes anadl ynddynt.
Oherwydd, er iddynt wybod am Dduw, nid ydynt wedi rhoi gogoniant na diolch iddo fel Duw, ond yn hytrach wedi troi eu meddyliau at bethau cwbl ofer; ac y mae wedi mynd yn dywyllwch arnynt yn eu calon ddiddeall.
Dywedodd Samuel wrth yr Israeliaid, “Os ydych yn dychwelyd at yr ARGLWYDD â'ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau estron a'r Astaroth o'ch mysg; rhowch eich meddwl ar yr ARGLWYDD, a'i addoli ef yn unig, ac fe'ch achub o law y Philistiaid.”
ac addoli'r ddraig am iddi roi'r awdurdod i'r bwystfil, ac addoli'r bwystfil hefyd gan ddweud, “Pwy sydd debyg i'r bwystfil, a phwy all ryfela yn ei erbyn ef?”
Neu, oni wyddoch fod eich corff yn deml i'r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn sydd gennych oddi wrth Dduw, ac nad yr eiddoch eich hunain mohonoch?
Peidiwch â mynd ar ôl duwiau eraill, i'w gwasanaethu a'u haddoli, a pheidiwch â'm digio â gwaith eich dwylo; yna ni wnaf niwed i chwi.’
Yna dywedodd Elias wrthynt, “Daliwch broffwydi Baal; peidiwch â gadael i'r un ohonynt ddianc.” Ac wedi iddynt eu dal, aeth Elias â hwy i lawr i nant Cison a'u lladd yno.
Pan heneiddiodd Solomon, hudodd ei wragedd ef i ddilyn duwiau estron, ac nid oedd ei galon yn llwyr gyda'r ARGLWYDD ei Dduw, fel y bu calon ei dad Dafydd.
“Gochelwch rhag gau broffwydi, sy'n dod atoch yng ngwisg defaid, ond sydd o'u mewn yn fleiddiaid rheibus.
Peidiwch â charu'r byd na'r pethau sydd yn y byd. Os yw rhywun yn caru'r byd, nid yw cariad y Tad ynddo,
nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu,