Roedd Iesu wedi’i amgylchynu gan ffrindiau ac mae’n esiampl wych i ni o beth ydy gwir gyfeillgarwch. Mae ffrindiau’n bwysig iawn yn ein bywydau. Mae’r Beibl yn dweud ei bod hi’n well dau fod gyda’i gilydd na bod ar eich pen eich hunain, oherwydd os yw un yn cwympo, mae’r llall yno i’w godi. Mae cael ffrind da, gwir ffrind, yn fendith ac yn fraint.
Mae ffrind fel brawd neu chwaer mewn amser o angen. Maen nhw’n cynnig cyngor, yn rhannu dy lwyddiannau, ac yn dy gefnogi pan wyt ti’n drist. Mae ffrind da wastad eisiau’r gorau i ti, eisiau dy weld ti’n llwyddo, ac yn dy helpu i ddod yn agosach at Dduw.
Mae cyfeillgarwch yn rhan o bob cam o’n bywydau. Mae ffrindiau’n dod yn deulu i ni, a dyna pam ei bod hi mor bwysig gwybod bod gen ti ffrind gyda chalon bur. “Ni cheir cariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.” (Ioan 15:13)
Peidiwch â charu'r byd na'r pethau sydd yn y byd. Os yw rhywun yn caru'r byd, nid yw cariad y Tad ynddo,
Honni eu bod yn gyfeillion a wna rhai; ond ceir hefyd gyfaill sy'n glynu'n well na brawd.
Fel y mae tad yn tosturio wrth ei blant, felly y tosturia'r ARGLWYDD wrth y rhai sy'n ei ofni.
Felly cyflawnwyd yr Ysgrythur sy'n dweud, “Credodd Abraham yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder”; a galwyd ef yn gyfaill Duw.
Oherwydd pwy bynnag sy'n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd, y mae hwnnw'n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam.”
Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw rhywun fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato, a bydd y ddau ohonom yn cydfwyta gyda'n gilydd.
Y mae Duw'n ffyddlon, a thrwyddo ef y'ch galwyd chwi i gymdeithas ei Fab ef, Iesu Grist ein Harglwydd ni.
“Cytuna ag ef, a chei lwyddiant; trwy hyn y daw daioni i ti.Derbyn gyfarwyddyd o'i enau, a chadw ei eiriau yn dy galon.Os dychweli at yr Hollalluog mewn gwirionedd, a gyrru anghyfiawnder ymhell o'th babell,os ystyri aur fel pridd, aur Offir fel cerrig y nentydd,yna bydd yr Hollalluog yn aur iti, ac yn arian pur.
Nid wyf mwyach yn eich galw yn weision, oherwydd nid yw'r gwas yn gwybod beth y mae ei feistr yn ei wneud. Yr wyf wedi eich galw yn gyfeillion, oherwydd yr wyf wedi gwneud yn hysbys i chwi bob peth a glywais gan fy Nhad.
Dyma fy ngorchymyn i: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi.Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.
Onid ti, ein Duw, a yrraist drigolion y wlad hon allan o flaen dy bobl Israel, a'i rhoi hi am byth i had Abraham, dy gyfaill?
Y priodfab yw'r hwn y mae'r briodferch ganddo; y mae cyfaill y priodfab, sydd wrth ei ochr ac yn gwrando arno, yn fawr ei lawenydd wrth glywed llais y priodfab. Dyma fy llawenydd i yn ei gyflawnder.
Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ffieiddio'r cyfeiliornus, ond yn rhannu ei gyfrinach â'r uniawn.
Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD, dyma'r wyf yn ei geisio: cael byw yn nhŷ'r ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDD ac i ymofyn yn ei deml.
Ond da i mi yw bod yn agos at Dduw; yr wyf wedi gwneud yr Arglwydd DDUW yn gysgod i mi, er mwyn imi fynegi dy ryfeddodau.
Ond yr ydych chwi yn hil etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl sanctaidd, yn bobl o'r eiddo Duw ei hun, i hysbysu gweithredoedd ardderchog yr Un a'ch galwodd chwi allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef:
Y mae'r ARGLWYDD yn agos at bawb sy'n galw arno, at bawb sy'n galw arno mewn gwirionedd.
“Am iddo lynu wrthyf, fe'i gwaredaf; fe'i diogelaf am ei fod yn adnabod fy enw.Pan fydd yn galw arnaf, fe'i hatebaf; byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder, gwaredaf ef a'i anrhydeddu.
Oherwydd os cymodwyd ni â Duw trwy farwolaeth ei Fab pan oeddem yn elynion, y mae'n sicrach fyth, ar ôl ein cymodi, y cawn ein hachub trwy ei fywyd.
Yr oeddech chwithau ar un adeg wedi ymddieithrio, ac yn elyniaethus eich meddwl, a'ch gweithredoedd yn ddrwg. Ond yn awr fe'ch cymododd,yng nghorff ei gnawd trwy ei farwolaeth, i'ch cyflwyno'n sanctaidd a di-fai a di-fefl ger ei fron.
Dywedodd wrthyt, feidrolyn, beth sydd dda, a'r hyn a gais yr ARGLWYDD gennyt: dim ond gwneud beth sy'n iawn, caru teyrngarwch, ac ymostwng i rodio'n ostyngedig gyda'th Dduw.
Pwy bynnag y mae fy ngorchmynion i ganddo, ac sy'n eu cadw hwy, yw'r un sy'n fy ngharu i. A'r un sy'n fy ngharu i, fe'i cerir gan fy Nhad, a byddaf finnau yn ei garu, ac yn f'amlygu fy hun iddo.”
“Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws.
Ond gwaith Duw yw'r cyfan—Duw, yr hwn sydd wedi ein cymodi ni ag ef ei hun trwy Grist a rhoi i ni weinidogaeth y cymod.Hynny yw, yr oedd Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag ef ei hun, heb ddal neb yn gyfrifol am ei droseddau, ac y mae wedi ymddiried i ni neges y cymod.
Ond yn awr, yng Nghrist Iesu, yr ydych chwi, a fu unwaith ymhell, wedi eich dwyn yn agos trwy waed Crist.
gadewch inni nesáu â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, a'n calonnau wedi eu taenellu'n lân oddi wrth gydwybod ddrwg, a'n cyrff wedi eu golchi â dŵr glân.
Nesewch at Dduw, ac fe nesâ ef atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi bobl ddau feddwl.
Yr hyn yr ydym wedi ei weld a'i glywed, yr ydym yn ei gyhoeddi i chwi hefyd, er mwyn i chwithau gael cymundeb â ni. Ac yn wir, y mae ein cymundeb ni gyda'r Tad a chyda'i Fab ef, Iesu Grist.
Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy'n caru wedi ei eni o Dduw, ac yn adnabod Duw.Y sawl nad yw'n caru, nid yw'n adnabod Duw, oherwydd cariad yw Duw.