Du yw dy Greawdwr, dy amddiffynwr, dy gynhaliwr. Du yw’r Hollalluog, y Trugarog, y Maddeuwr, y Da. Gallwn ni ddod i adnabod Duw drwy ei air. Mae e â diddordeb yn dy fywyd di, mae e’n dy garu di, ac mae ganddo gynllun hyfryd i ti.
Mae Duw’n gwybod pob dim, cyn iddyn nhw ddigwydd hyd yn oed. Mae e eisoes yn gwybod. Mae cariad Duw’n ddihysbydd.
“Canys Myfi yw’r ARGLWYDD dy Dduw, yr hwn sy’n gafael yn dy ddeheulaw, ac yn dywedyd wrthyt, ‘Nac ofna; Myfi a’th gynorthwya.’” (Eseia 41:13) Dyna sut mae Duw; bydd e gyda ni bob amser. Mae angen i ni ond nesáu ato fe.
Duw yw Creawdwr a chynhaliwr pob peth, sy’n achub y byd drwy ei Fab, Iesu Grist.
Nid yw'r llyfr cyfraith hwn i adael dy enau; yr wyt i fyfyrio ynddo ddydd a nos, er mwyn iti ofalu gwneud y cyfan sy'n ysgrifenedig ynddo. Yna byddi'n llwyddo yn dy ffyrdd ac yn ffynnu.
Peidiwch â bod mewn dyled i neb, ar wahân i'r ddyled o garu eich gilydd. Y mae'r sawl sy'n caru pobl eraill wedi cyflawni holl ofynion y Gyfraith.
Gwyn ei fyd y sawl nad yw'n dilyn cyngor y drygionus nac yn ymdroi hyd ffordd pechaduriaid nac yn eistedd ar sedd gwatwarwyr,ond sy'n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.
Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith, yn adfywio'r enaid; y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr, yn gwneud y syml yn ddoeth;
Caiff pawb a bechodd heb y Gyfraith drengi hefyd heb y Gyfraith, a chaiff pawb a bechodd dan y Gyfraith eu barnu trwy'r Gyfraith.
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Tyrd i fyny ataf i'r mynydd, ac aros yno; yna fe roddaf iti lechau o gerrig, gyda'r gyfraith a'r gorchymyn a ysgrifennais ar eu cyfer i'w hyfforddi.”
Y mae'n wir fod pechod yn y byd cyn bod y Gyfraith, ond yn niffyg cyfraith, nid yw pechod yn cael ei gyfrif.
Nid wyf am ddirymu gras Duw; oherwydd os trwy gyfraith y daw cyfiawnder, yna bu Crist farw yn ddiachos.
Y cwbl yr wyf am ei wybod gennych yw hyn: ai trwy gadw gofynion cyfraith y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu trwy wrando mewn ffydd?
Llefarodd Duw yr holl eiriau hyn, a dweud:“Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th arweiniodd allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.“Na chymer dduwiau eraill ar wahân i mi.“Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y dŵr dan y ddaear;nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu,ond yn dangos trugaredd i filoedd o'r rhai sy'n fy ngharu ac yn cadw fy ngorchmynion.“Na chymer enw'r ARGLWYDD dy Dduw yn ofer, oherwydd ni fydd yr ARGLWYDD yn ystyried yn ddieuog y sawl sy'n cymryd ei enw'n ofer.“Cofia'r dydd Saboth, i'w gadw'n gysegredig.Chwe diwrnod yr wyt i weithio a gwneud dy holl waith,ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr ARGLWYDD dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th anifail, na'r estron sydd o fewn dy byrth;oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r cyfan sydd ynddo; ac ar y seithfed dydd fe orffwysodd; am hynny, bendithiodd yr ARGLWYDD y dydd Saboth a'i gysegru.“Anrhydedda dy dad a'th fam, er mwyn amlhau dy ddyddiau yn y wlad y mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi iti.“Na ladd.“Na odineba.“Na ladrata.“Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog.“Na chwennych dŷ dy gymydog, na'i wraig, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim sy'n eiddo i'th gymydog.”
Ond beth sy'n dilyn? A ydym i ymroi i bechu, am nad ydym dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras? Ddim ar unrhyw gyfrif!
Oherwydd yr wyf fi heddiw yn gorchymyn iti garu'r ARGLWYDD dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd, a chadw ei orchmynion, ei reolau a'i ddeddfau; yna byddi fyw, a chei amlhau, a bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn y wlad yr wyt yn mynd iddi i'w meddiannu.
Oherwydd y mae'r holl Gyfraith wedi ei mynegi'n gyflawn mewn un gair, sef yn y gorchymyn, “Câr dy gymydog fel ti dy hun.”
Câr di yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth.Y mae'r geiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw i fod yn dy galon.Yr wyt i'w hadrodd i'th blant, ac i sôn amdanynt pan fyddi'n eistedd yn dy dŷ ac yn cerdded ar y ffordd, a phan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi.
Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain.
Oherwydd, “gerbron Duw ni chyfiawnheir neb meidrol” trwy gadw gofynion cyfraith. Yr hyn a geir trwy'r Gyfraith yw ymwybyddiaeth o bechod.
Pan ddaeth Moses, a mynegi i'r bobl holl eiriau'r ARGLWYDD a'r holl ddeddfau, atebodd y bobl i gyd yn unfryd, “Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD.”
Yr oeddent yn darllen o lyfr cyfraith Dduw, ac yn ei gyfieithu a'i esbonio fel bod pawb yn deall y darlleniad.
Ond daeth y Gyfraith i mewn, er mwyn i drosedd amlhau; ond lle'r amlhaodd pechod, daeth gorlif helaethach o ras;ac felly, fel y teyrnasodd pechod trwy farwolaeth, y mae gras i deyrnasu trwy gyfiawnder, gan ddwyn bywyd tragwyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Gwyn eu byd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai sy'n rhodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD.Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw ei farnedigaethau, ac yn ei geisio ef â'u holl galon,
Os byddi'n gwrando'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, ac yn gofalu cadw popeth y mae'n ei orchymyn iti heddiw, yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy osod yn uwch na holl genhedloedd y byd.
Oherwydd trwy Moses y rhoddwyd y Gyfraith, ond gras a gwirionedd, trwy Iesu Grist y daethant.
“Gwrandewch arnaf, fy mhobl; clywch fi, fy nghenedl; oherwydd daw cyfraith allan oddi wrthyf, a bydd fy marn yn goleuo pobloedd.
Beth, ynteu, sydd i'w ddweud? Mai pechod yw'r Gyfraith? Ddim ar unrhyw gyfrif! I'r gwrthwyneb, ni buaswn wedi gwybod beth yw pechod ond trwy'r Gyfraith, ac ni buaswn yn gwybod beth yw chwant, oni bai fod y Gyfraith yn dweud, “Na chwennych.”
Felly, bu'r Gyfraith yn was i warchod trosom hyd nes i Grist ddod, ac inni gael ein cyfiawnhau trwy ffydd.Ond gan fod y ffydd hon bellach wedi dod, nid ydym mwyach dan warchodaeth gwas.
“Peidiwch â thybio i mi ddod i ddileu'r Gyfraith na'r proffwydi; ni ddeuthum i ddileu ond i gyflawni.Yn wir, rwy'n dweud wrthych, hyd nes i nef a daear ddarfod, ni dderfydd yr un llythyren na'r un manylyn lleiaf o'r Gyfraith nes i'r cwbl ddigwydd.
Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith, yn adfywio'r enaid; y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr, yn gwneud y syml yn ddoeth;y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir, yn llawenhau'r galon; y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur, yn goleuo'r llygaid;y mae ofn yr ARGLWYDD yn lân, yn para am byth; y mae barnau'r ARGLWYDD yn wir, yn gyfiawn bob un.Mwy dymunol ydynt nag aur, na llawer o aur coeth, a melysach na mêl, ac na diferion diliau mêl.Trwyddynt hwy hefyd rhybuddir fi, ac o'u cadw y mae gwobr fawr.
Yn awr, O Israel, beth y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei ofyn gennyt? Dy fod yn ofni'r ARGLWYDD dy Dduw trwy rodio yn ei ffyrdd a'i garu, a gwasanaethu'r ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid;dy fod hefyd yn cadw ei orchmynion a'i ddeddfau yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw, fel y byddo'n dda arnat.
Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn ei adnabod ef, sef ein bod yn cadw ei orchmynion.Y sawl sy'n dweud, “Rwyf yn ei adnabod”, a heb gadw ei orchmynion, y mae'n gelwyddog, ac nid yw'r gwirionedd ynddo;
Ni chaiff pechod arglwyddiaethu arnoch, oherwydd nid ydych mwyach dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras.
Dyma'r cyfamod a wnaf â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd: rhof fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac ysgrifennaf hwy ar eu calon. A byddaf yn Dduw iddynt, a hwythau'n bobl i mi.
Gan hynny, y mae'r Gyfraith yn sanctaidd, a'r gorchymyn yn sanctaidd a chyfiawn a da.
Dywedodd Iesu wrtho, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl.’Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysicaf.Ac y mae'r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl Gyfraith a'r proffwydi yn dibynnu.”
Peidiwch â bod mewn dyled i neb, ar wahân i'r ddyled o garu eich gilydd. Y mae'r sawl sy'n caru pobl eraill wedi cyflawni holl ofynion y Gyfraith.Oherwydd y mae'r gorchmynion, “Na odineba, na ladd, na ladrata, na chwennych”, a phob gorchymyn arall, wedi eu crynhoi yn y gorchymyn hwn: “Câr dy gymydog fel ti dy hun.”Ni all cariad wneud cam â chymydog. Y mae cariad, felly, yn gyflawniad o holl ofynion y Gyfraith.
Ond am y sawl a roes sylw dyfal i berffaith gyfraith rhyddid ac a ddaliodd ati, a dod yn weithredwr ei gofynion, ac nid yn wrandawr anghofus, bydd hwnnw yn ddedwydd yn ei weithredoedd.
Oherwydd y mae pawb sy'n dibynnu ar gadw gofynion cyfraith dan felltith, achos y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un nad yw'n cadw at bob peth sy'n ysgrifenedig yn llyfr y Gyfraith, a'i wneud!”
Caiff y rhai sy'n caru dy gyfraith wir heddwch, ac nid oes dim yn peri iddynt faglu.
Gwyn ei fyd y sawl nad yw'n dilyn cyngor y drygionus nac yn ymdroi hyd ffordd pechaduriaid nac yn eistedd ar sedd gwatwarwyr,ond sy'n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.Y mae fel pren wedi ei blannu wrth ffrydiau dŵr ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor, a'i ddeilen heb fod yn gwywo. Beth bynnag a wna, fe lwydda.
Paid â dilyn y lliaws i wneud drwg, nac ochri gyda'r mwyafrif i wyrdroi barn wrth dystio mewn achos cyfreithiol.
Nid wyt i geisio dial ar un o'th bobl, na dal dig tuag ato, ond yr wyt i garu dy gymydog fel ti dy hun. Myfi yw'r ARGLWYDD.
Y mae'r rhai sy'n cefnu ar y gyfraith yn canmol y drygionus, ond y mae'r rhai sy'n cadw'r gyfraith yn ymladd yn eu herbyn.
Lle na cheir gweledigaeth, bydd y bobl ar chwâl; ond gwyn ei fyd y sawl sy'n cadw'r gyfraith.
Oherwydd cysgod sydd gan y Gyfraith o'r pethau da sy'n dod, nid gwir ddelw y dirweddau hynny; ac ni all hi o gwbl, trwy'r un aberthau sy'n cael eu hoffrymu'n barhaus, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ddwyn yr addolwyr i berffeithrwydd am byth.
Y Gyfraith a'r proffwydi oedd mewn grym hyd at Ioan; oddi ar hynny, y mae'r newydd da am deyrnas Dduw yn cael ei gyhoeddi, a phawb yn ceisio mynediad iddi trwy drais.
Yr hyn oedd y tu hwnt i allu'r Gyfraith, yn ei gwendid dan gyfyngiadau'r cnawd, y mae Duw wedi ei gyflawni. Wrth anfon ei Fab ei hun, mewn ffurf debyg i'n cnawd pechadurus ni, i ddelio â phechod, y mae wedi collfarnu pechod yn y cnawd.Gwnaeth hyn er mwyn i ofynion cyfiawn y Gyfraith gael eu cyflawni ynom ni, sy'n byw, nid ar wastad y cnawd, ond ar wastad yr Ysbryd.
Cadw ei ddeddfau, a'r gorchmynion yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw, fel y bydd yn dda arnat ac ar dy blant ar dy ôl, ac iti gael oes faith ar y ddaear y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti am byth.
Am hynny, pwy bynnag fydd yn dirymu un o'r gorchmynion lleiaf hyn ac yn dysgu i eraill wneud felly, gelwir ef y lleiaf yn nheyrnas nefoedd. Ond pwy bynnag a'i ceidw ac a'i dysg i eraill, gelwir hwnnw'n fawr yn nheyrnas nefoedd.
I'r rhai sydd heb y Gyfraith, fel un ohonynt hwythau—er nad wyf heb Gyfraith Duw, gan fy mod dan Gyfraith Crist—er mwyn ennill y rhai sydd heb y Gyfraith.
Ac eto fe wyddom na chaiff neb ei gyfiawnhau ond trwy ffydd yn Iesu Grist, nid trwy gadw gofynion cyfraith. Felly fe gredasom ninnau yng Nghrist Iesu er mwyn ein cyfiawnhau, nid trwy gadw gofynion cyfraith, ond trwy ffydd yng Nghrist, oherwydd ni chaiff neb meidrol ei gyfiawnhau trwy gadw gofynion cyfraith.
Nid y rhai sy'n gwrando'r Gyfraith a geir yn gyfiawn gerbron Duw. Na, y rhai sy'n cadw'r Gyfraith a ddyfernir yn gyfiawn ganddo ef.
Y mae pwy bynnag a gadwodd holl ofynion y Gyfraith, ond a lithrodd ar un peth, yn euog o dorri'r cwbl.
Pan ddaw i eistedd ar orsedd ei deyrnas, y mae i arwyddo copi iddo'i hun o'r gyfraith hon mewn llyfr yng ngŵydd yr offeiriaid o Lefiaid.A bydd hwnnw ganddo i'w ddarllen holl ddyddiau ei fywyd, er mwyn iddo ddysgu ofni'r ARGLWYDD ei Dduw a chadw holl eiriau'r gyfraith hon, a gwneud yn ôl y rheolau hyn,rhag iddo ei ystyried ei hun yn uwch na'i gymrodyr, neu rhag iddo wyro i'r dde nac i'r chwith oddi wrth y gorchymyn, ac er mwyn iddo estyn dyddiau ei frenhiniaeth yn Israel iddo'i hun a'i ddisgynyddion.
Atebodd yntau hwy, “A pham yr ydych chwithau yn troseddu yn erbyn gorchymyn Duw er mwyn eich traddodiad?
Chwi sy'n ceisio cyfiawnhad trwy gyfraith, y mae eich perthynas â Christ wedi ei thorri; yr ydych wedi syrthio oddi wrth ras.
Oblegid os yw'r offeiriadaeth yn cael ei newid, rhaid bod y Gyfraith hefyd yn cael ei newid.
A gorchmynnodd yr ARGLWYDD inni gadw'r holl ddeddfau hyn er mwyn inni ofni'r ARGLWYDD ein Duw, ac iddi fod yn dda arnom bob amser, ac inni gael ein cadw'n fyw, fel yr ydym heddiw.
A ydym, ynteu, yn dileu'r Gyfraith trwy'r ffydd hon? Nac ydym, ddim o gwbl! Cadarnhau'r Gyfraith yr ydym.
ac wedi diddymu'r ddogfen oedd yn ein rhwymo i'r gofynion a'n gwnâi ni yn ddyledwyr. Y mae wedi ei bwrw hi o'r neilltu; fe'i hoeliodd ar y groes.
Fe wyddom fod y Gyfraith yn beth ardderchog os caiff ei harfer yn briodol fel cyfraith.
Ei niweidio'i hun y mae'r un sy'n dirmygu cyngor, ond gwobrwyir yr un sy'n parchu gorchymyn.
Dymunodd yr ARGLWYDD, er mwyn ei gyfiawnder, fawrhau'r gyfraith, a'i gwneud yn anrhydeddus;
Pa beth bynnag y dymunwch i eraill ei wneud i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; hyn yw'r Gyfraith a'r proffwydi.
Yr oedd gorchymyn cyfiawn Duw, fod y sawl sy'n cyflawni'r fath droseddau yn teilyngu marwolaeth, yn gwbl hysbys i'r rhai hyn; ond y maent nid yn unig yn dal i'w gwneud, ond hefyd yn cymeradwyo'r sawl sydd yn eu cyflawni.
Os byddi'n gwrando'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, ac yn gofalu cadw popeth y mae'n ei orchymyn iti heddiw, yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy osod yn uwch na holl genhedloedd y byd.Daw'r holl fendithion hyn i'th ran ac i'th amgylchu, dim ond iti wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw.
Beth, ynteu, am y Gyfraith? Ar gyfrif troseddau yr ychwanegwyd hi, i aros hyd nes y byddai'r had, yr un y gwnaed yr addewid iddo, yn dod. Fe'i gorchmynnwyd trwy angylion, gyda chymorth canolwr.
Ond os trwy Ysbryd Duw yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, yna y mae teyrnas Dduw wedi cyrraedd atoch.
Pan yw Cenhedloedd sydd heb y Gyfraith yn cadw gofynion y Gyfraith wrth reddf, y maent, gan eu bod heb y Gyfraith, yn gyfraith iddynt eu hunain.Y maent yn dangos bod yr hyn a ofynnir gan y Gyfraith wedi ei ysgrifennu yn eu calonnau, gan fod eu cydwybod yn cyd-dystiolaethu â'r Gyfraith, ac felly y mae eu meddyliau weithiau'n eu cyhuddo, ac weithiau hefyd yn eu hamddiffyn.
Wrth gwrs, os cyflawni gofynion y Gyfraith frenhinol yr ydych, yn unol â'r Ysgrythur, “Câr dy gymydog fel ti dy hun”, yr ydych yn gwneud yn ardderchog.
Ond y mae ffyddlondeb yr ARGLWYDD o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb ar y rhai sy'n ei ofni, a'i gyfiawnder i blant eu plant,i'r rhai sy'n cadw ei gyfamod, yn cofio'i orchmynion ac yn ufuddhau.
Ceisiwch heddwch â phawb, a'r bywyd sanctaidd hwnnw nad oes modd i neb weld yr Arglwydd hebddo.
Ond ni chaiff yr un gwryw heb ei enwaedu fwyta ohono. Yr un gyfraith fydd i'r brodor ac i'r dieithryn sy'n byw yn eich plith.”
Ysgrifennodd Moses y gyfraith hon a'i rhoi i'r offeiriaid, meibion Lefi, a oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac i holl henuriaid Israel hefyd.Gorchmynnodd Moses iddynt, “Ar ddiwedd pob saith mlynedd, yr adeg a bennir yn flwyddyn gollyngdod, ar ŵyl y Pebyll,pan fydd Israel gyfan yn dod i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd yn ei ddewis, yr wyt ti i gyhoeddi'r gyfraith hon yng ngŵydd ac yng nghlyw Israel gyfan.Cynnull y bobl, yn wŷr, gwragedd a phlant, a'r dieithriaid sy'n byw yn dy drefi, er mwyn iddynt glywed, a dysgu ofni'r ARGLWYDD dy Dduw a gofalu gwneud popeth yn y gyfraith hon.Y mae eu plant hefyd, nad ydynt yn ei gwybod, i wrando arni a dysgu ofni'r ARGLWYDD dy Dduw tra byddant yn byw yn y tir yr wyt yn croesi'r Iorddonen i'w feddiannu.”
Oherwydd Crist yw diwedd y Gyfraith, ac felly, i bob un sy'n credu y daw cyfiawnder Duw.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Cadwch farn, gwnewch gyfiawnder; oherwydd y mae fy iachawdwriaeth ar ddod, a'm goruchafiaeth ar gael ei datguddio.
Fy mab, paid ag anghofio fy nghyfarwyddyd; cadw fy ngorchmynion yn dy gof.Oherwydd ychwanegant at nifer dy ddyddiau a rhoi blynyddoedd o fywyd a llwyddiant.
Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn caru plant Duw: pan fyddwn yn caru Duw ac yn cadw ei orchmynion.Oherwydd dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion. Ac nid yw ei orchmynion ef yn feichus,
Nid bwyta ac yfed yw teyrnas Dduw, ond cyfiawnder a heddwch a llawenydd yn yr Ysbryd Glân.
y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir, yn llawenhau'r galon; y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur, yn goleuo'r llygaid;
Fe'ch galwyd chwi, gyfeillion, i ryddid, ond yn unig peidiwch ag arfer eich rhyddid yn gyfle i'r cnawd; yn hytrach trwy gariad byddwch yn weision i'ch gilydd.
Er i'r mynyddoedd symud, ac i'r bryniau siglo, ni symuda fy ffyddlondeb oddi wrthyt, a bydd fy nghyfamod heddwch yn ddi-sigl,” medd yr ARGLWYDD, sy'n tosturio wrthyt.
Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. Â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol.Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, ar air neu ar weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan roi diolch i Dduw, y Tad, drwyddo ef.
Pâr i'th drugaredd ddod ataf, fel y byddaf fyw, oherwydd y mae dy gyfraith yn hyfrydwch i mi.
Y mae'n rhaid i bob un ymostwng i'r awdurdodau sy'n ben. Oherwydd nid oes awdurdod heb i Dduw ei sefydlu, ac y mae'r awdurdodau sydd ohoni wedi eu sefydlu gan Dduw.Am hynny, y mae'r sawl sy'n gwrthsefyll y fath awdurdod yn gwrthwynebu sefydliad sydd o Dduw. Ac y mae'r cyfryw yn sicr o dynnu barn arnynt eu hunain.
“Y mae popeth yn gyfreithlon i mi,” meddwch; ond nid yw popeth er lles. “Y mae popeth yn gyfreithlon i mi,” meddwch; ond ni chaiff dim fy nghaethiwo i.
Y mae gair Duw yn fyw a grymus; y mae'n llymach na'r un cleddyf daufiniog, ac yn treiddio hyd at wahaniad yr enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mêr; ac y mae'n barnu bwriadau a meddyliau'r galon.
Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, a rhoir y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi.
Wedi clywed y cyfan, dyma swm y mater: ofna Dduw a chadw ei orchmynion, oherwydd dyma ddyletswydd pob un.Yn wir, y mae Duw yn barnu pob gweithred, hyd yn oed yr un guddiedig, boed dda neu ddrwg.
Dywedwch i mi, chwi sy'n mynnu bod dan gyfraith, oni wrandewch ar y Gyfraith?Y mae'n ysgrifenedig i Abraham gael dau fab, un o'i gaethferch ac un o'i wraig rydd.Ganwyd mab y gaethferch yn ôl greddfau'r cnawd, ond ganwyd mab y wraig rydd trwy addewid Duw.Alegori yw hyn oll. Y mae'r gwragedd yn cynrychioli dau gyfamod. Y mae un o Fynydd Sinai, yn geni plant i gaethiwed.
Yn awr, yr oedd gan y cyfamod cyntaf hefyd ordinhadau addoliad, a chysegr, ond mai cysegr daearol oedd.Oblegid codwyd pabell, sef y gyntaf, ac ynddi hi yr oedd y canhwyllbren a'r bwrdd a'r bara gosod; gelwir hon yn Gysegr.
Ond yr ydych chwi yn hil etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl sanctaidd, yn bobl o'r eiddo Duw ei hun, i hysbysu gweithredoedd ardderchog yr Un a'ch galwodd chwi allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef:
Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw.Gan ras Duw, ac am ddim, y maent yn cael eu cyfiawnhau, trwy'r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu,