Rhoi. Dyna’r weithred. Ac mae’n bleser i Dduw pan rydyn ni’n rhoi o’r galon. Wrth baratoi dy rodd i Dduw, cofia mai’r gorau sydd gen ti yw’r hyn mae e’n ei haeddu. Rhaid i’r bwriad fod yno hefyd – rhoi o lawenydd a diolchgarwch am yr holl fendithion rydyn ni wedi’u derbyn, er nad ydyn ni’n eu haeddu.
Os dim ond y mwyar sydd gen ti rwyt ti’n ei roi, paid â disgwyl i fywyd dy drin yn well na hynny. Rhaid rhoi fel petaen i ni’n hunain, nid o dan orfodaeth nac yn disgwyl cael rhywbeth yn ôl. Dim ots am glod a chanmoliaeth – dylai’r rhodd ddod o le cudd, heb i’r llaw chwith wybod beth mae’r llaw dde yn ei wneud.
Mae’r Arglwydd wrth ei fodd gyda’r rhai sy’n rhoi’n hael, oherwydd mae’n gweld beth sydd yn y galon. Fel mae’r ysgrythur yn dweud (2 Corinthiaid 9:7), rhaid rhoi yn ôl fel rwyt ti wedi penderfynu yn dy galon, nid yn anfoddog nac o dan orfodaeth, oherwydd mae Duw yn caru’r rhoddwr llawen.
Mae offrymu yn ffordd o addoli, o ddychwelyd rhywfaint o’r hyn a roddodd Duw i ni yn y lle cyntaf. Mae Duw bob amser yn rhoi’n helaeth ac yn hael, felly pan rydyn ni’n offrymu o’r galon, rydyn ni’n agor y drws i fwy o fendithion. Po fwyaf rwyt ti’n ei roi, mwyaf rwyt ti’n ei dderbyn.
gosodaf fy mwa yn y cwmwl, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof a'r ddaear.Pan godaf gwmwl ar y ddaear bydd bwa yn ymddangos yn y cwmwl,a chofiaf fy nghyfamod rhyngof a chwi a phob creadur byw o bob math, ac ni ddaw'r dyfroedd eto yn ddilyw i ddifa pob cnawd.
Y dydd hwnnw, gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod ag Abram a dweud: “I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates.”
Sefydlaf fy nghyfamod yn gyfamod tragwyddol â thi, ac â'th ddisgynyddion ar dy ôl dros eu cenedlaethau, i fod yn Dduw i ti ac i'th ddisgynyddion ar dy ôl.A rhoddaf y wlad yr wyt yn crwydro ynddi, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragwyddol i ti ac i'th ddisgynyddion ar dy ôl, a byddaf yn Dduw iddynt.”
Yn awr, os gwrandewch yn ofalus arnaf a chadw fy nghyfamod, byddwch yn eiddo arbennig i mi ymhlith yr holl bobloedd, oherwydd eiddof fi'r ddaear i gyd.Byddwch hefyd yn deyrnas o offeiriaid i mi, ac yn genedl sanctaidd.’ Dyma'r geiriau yr wyt i'w llefaru wrth bobl Israel.”
Cymerodd lyfr y cyfamod, ac ar ôl iddo'i ddarllen yng nghlyw'r bobl, dywedasant,“Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD, a byddwn yn ufudd iddo.” Yna cymerodd Moses y gwaed a'i daenellu dros y bobl, a dweud, “Dyma waed y cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD â chwi yn unol â'r holl eiriau hyn.”
Byddaf yn edrych yn ffafriol arnoch, yn eich gwneud yn ffrwythlon ac yn eich cynyddu, a byddaf yn cadw fy nghyfamod â chwi.Byddwch yn dal i fwyta'r hen gnwd, ac yn gorfod bwrw allan yr hen i wneud lle i'r newydd.Byddaf yn gosod fy nhabernacl yn eich mysg, ac ni fyddaf yn eich ffieiddio.Byddaf yn rhodio yn eich mysg; byddaf yn Dduw i chwi a chwithau'n bobl i minnau.
Felly deallwch mai'r ARGLWYDD eich Duw sydd Dduw; y mae'n Dduw ffyddlon, yn cadw cyfamod a ffyddlondeb hyd fil o genedlaethau gyda'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion,
Nid oherwydd dy gyfiawnder a'th uniondeb yr wyt yn mynd i feddiannu eu gwlad, ond oherwydd drygioni'r cenhedloedd hyn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu gyrru allan o'th flaen, ac er mwyn cadarnhau'r gair a dyngodd i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob.
Edrych, yr wyf am roi'r dewis iti heddiw rhwng bywyd a marwolaeth, rhwng daioni a drygioni.Oherwydd yr wyf fi heddiw yn gorchymyn iti garu'r ARGLWYDD dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd, a chadw ei orchmynion, ei reolau a'i ddeddfau; yna byddi fyw, a chei amlhau, a bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn y wlad yr wyt yn mynd iddi i'w meddiannu.
Y mae'n cofio ei gyfamod dros byth, gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham, a'i lw i Isaac—yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
Er i'r mynyddoedd symud, ac i'r bryniau siglo, ni symuda fy ffyddlondeb oddi wrthyt, a bydd fy nghyfamod heddwch yn ddi-sigl,” medd yr ARGLWYDD, sy'n tosturio wrthyt.
“Oherwydd rwyf fi, yr ARGLWYDD, yn hoffi cyfiawnder, ac yn casáu trais a chamwri; rhof iddynt eu gwobr yn ddi-feth, a gwnaf gyfamod tragwyddol â hwy.
“Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda.Ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum â'u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i'w harwain allan o wlad yr Aifft. Torasant y cyfamod hwnnw, er mai myfi oedd yn arglwydd arnynt,” medd yr ARGLWYDD.“Ond dyma'r cyfamod a wnaf â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny,” medd yr ARGLWYDD; “rhof fy nghyfraith o'u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi'n Dduw iddynt a hwythau'n bobl i mi.Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gymydog a phob un ei berthynas, gan ddweud, ‘Adnebydd yr ARGLWYDD’; oblegid byddant i gyd yn f'adnabod, o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd maddeuaf iddynt eu drygioni, ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy.”
“ ‘Gwnaf gyfamod heddwch â hwy, a pheri i fwystfilod gwylltion ddarfod o'r wlad; yna byddant yn byw yn yr anialwch ac yn cysgu yn y coedwigoedd mewn diogelwch.
Rhof i chwi galon newydd, a bydd ysbryd newydd ynoch; tynnaf allan ohonoch y galon garreg, a rhof i chwi galon gig.Rhof fy ysbryd ynoch, a gwneud ichwi ddilyn fy neddfau a gofalu cadw fy ngorchmynion.
“Fy nghyfamod ag ef oedd bywyd a heddwch; rhoddais hyn iddo er mwyn iddo ofni, ac ofnodd yntau fi a pharchu fy enw.
oherwydd hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau.
Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan ar ôl swper gan ddweud, “Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt er eich mwyn chwi.
Ond, fel y mae, cafodd Iesu weinidogaeth ragorach, gan ei fod yn gyfryngwr cyfamod cymaint gwell—cyfamod, yn wir, sydd wedi ei sefydlu ar addewidion gwell.Oherwydd pe bai'r cyfamod cyntaf hwnnw yn ddi-fai, ni byddai lle i ail gyfamod.
Am hynny, y mae ef yn gyfryngwr cyfamod newydd, er mwyn i'r rhai sydd wedi eu galw gael derbyn yr etifeddiaeth dragwyddol a addawyd, gan fod marwolaeth wedi digwydd er sicrhau rhyddhad oddi wrth y troseddau a gyflawnwyd dan y cyfamod cyntaf.
“Dyma'r cyfamod a wnaf â hwy ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; rhof fy nghyfreithiau yn eu calon, ac ysgrifennaf hwy ar eu meddwl”,y mae'n ychwanegu: “A'u pechodau a'u drwgweithredoedd, ni chofiaf mohonynt byth mwy.”
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Dos o'th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth a'th deulu, i'r wlad a ddangosaf i ti.Gwnaf di yn genedl fawr a bendithiaf di; mawrygaf dy enw a byddi'n fendith.Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear.”
Pan oedd Abram yn naw deg a naw mlwydd oed ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, “Myfi yw Duw Hollalluog; rhodia ger fy mron a bydd berffaith.Gwnaf fy nghyfamod â thi, ac amlhaf di'n ddirfawr.”
a dweud, “Tyngais i mi fy hun,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd iti wneud hyn, heb wrthod rhoi dy fab, dy unig fab,bendithiaf di yn fawr, ac amlhau dy ddisgynyddion yn ddirfawr, fel sêr y nefoedd ac fel y tywod ar lan y môr. Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu pyrth eu gelynion,a thrwyddynt bendithir holl genhedloedd y ddaear, am iti ufuddhau i'm llais.”
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Ysgrifenna'r geiriau hyn, oherwydd yn ôl y geiriau hyn y gwneuthum gyfamod â thi ac ag Israel.”Bu Moses yno gyda'r ARGLWYDD am ddeugain diwrnod a deugain nos, heb fwyta bara nac yfed dŵr, ac ysgrifennodd ar y llechau eiriau'r cyfamod, sef y deg gorchymyn.
Gwnaeth yr ARGLWYDD ein Duw gyfamod â ni yn Horeb.Nid â'n hynafiaid y gwnaeth yr ARGLWYDD y cyfamod hwn, ond â ni i gyd sy'n fyw yma heddiw.
sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham, a'i lw i Isaac—yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
O ARGLWYDD, fy Nuw ydwyt ti; mawrygaf di a chlodforaf dy enw am iti gyflawni bwriad rhyfeddol, sy'n sicr a chadarn ers oesoedd.
Ond archollwyd ef am ein troseddau ni, a'i ddryllio am ein camweddau ni; roedd pris ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd.
Gwnaf gyfamod heddwch â hwy, ac fe fydd yn gyfamod tragwyddol; sefydlaf hwy, a'u lluosogi, a gosodaf fy nghysegr yn eu mysg am byth.
“Peidiwch â thybio i mi ddod i ddileu'r Gyfraith na'r proffwydi; ni ddeuthum i ddileu ond i gyflawni.Yn wir, rwy'n dweud wrthych, hyd nes i nef a daear ddarfod, ni dderfydd yr un llythyren na'r un manylyn lleiaf o'r Gyfraith nes i'r cwbl ddigwydd.
Y mae'r addewid i Abraham, neu i'w ddisgynyddion, y byddai yn etifedd y byd, wedi ei rhoi, nid trwy'r Gyfraith ond trwy'r cyfiawnder a geir trwy ffydd.
Gyfeillion, i gymryd enghraifft o'r byd dynol, pan fydd ewyllys, sef cyfamod olaf rhywun, wedi ei chadarnhau, ni chaiff neb ei dirymu nac ychwanegu ati.Yn awr, i Abraham y rhoddwyd addewidion y cyfamod, ac i'w had ef. Ni ddywedir, “ac i'th hadau”, yn y lluosog, ond, “ac i'th had di”, yn yr unigol, a'r un hwnnw yw Crist.
Ond y mae ffyddlondeb yr ARGLWYDD o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb ar y rhai sy'n ei ofni, a'i gyfiawnder i blant eu plant,
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “I'r eunuchiaid sy'n cadw fy Sabothau ac yn dewis y pethau a hoffaf ac yn glynu wrth fy nghyfamod,y rhof yn fy nhŷ ac oddi mewn i'm muriau gofgolofn ac enw a fydd yn well na meibion a merched; rhof iddynt enw parhaol nas torrir ymaith.
“Bydd y dydd hwn yn ddydd i'w gofio i chwi, ac yr ydych i'w gadw yn ŵyl i'r ARGLWYDD; cadwch yr ŵyl yn ddeddf am byth dros y cenedlaethau.
Dywedodd yr ARGLWYDD, “Edrych, yr wyf am wneud cyfamod. Yng ngŵydd dy holl bobl gwnaf ryfeddodau na wnaed eu tebyg ymhlith unrhyw genedl ar yr holl ddaear; yna bydd yr holl bobl yr wyt yn eu mysg yn gweld gwaith yr ARGLWYDD, oherwydd yr wyf am wneud â thi beth syfrdanol.
Byddwch ofalus rhag anghofio'r cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw â chwi, a gwneud i chwi eich hunain ddelw gerfiedig ar ffurf unrhyw beth a waharddodd yr ARGLWYDD dy Dduw.Oherwydd tân yn ysu yw'r ARGLWYDD dy Dduw; y mae ef yn Dduw eiddigus.
Os byddwch yn gwrando ar y cyfreithiau hyn ac yn gofalu eu cadw, yna bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cadw'r cyfamod a'r ffyddlondeb a dyngodd i'ch hynafiaid.Bydd yn eich caru, yn eich bendithio ac yn gwneud ichwi gynyddu; bydd hefyd yn bendithio'ch plant a chynnyrch eich tir, eich ŷd, eich gwin a'ch olew, ac epil eich gwartheg a'ch praidd yn y tir y tyngodd i'ch hynafiaid y byddai'n ei roi ichwi.
Bydd yr ARGLWYDD yn dy sefydlu'n bobl sanctaidd iddo, fel yr addawodd iti, os cedwi orchmynion yr ARGLWYDD dy Dduw a rhodio yn ei ffyrdd.Fe wêl holl bobloedd y ddaear mai ar enw'r ARGLWYDD y gelwir di; a bydd dy ofn arnynt.
Y mae holl lwybrau'r ARGLWYDD yn llawn cariad a gwirionedd i'r rhai sy'n cadw ei gyfamod a'i gyngor.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Atebaf di yn adeg ffafr, a'th gynorthwyo ar ddydd iachawdwriaeth; cadwaf di, a'th osod yn gyfamod i'r bobl; adferaf y tir a rhannu'r tiroedd anrhaith yn etifeddiaeth;
“Ond dyma'r cyfamod a wnaf â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny,” medd yr ARGLWYDD; “rhof fy nghyfraith o'u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi'n Dduw iddynt a hwythau'n bobl i mi.
eto fe gofiaf fi fy nghyfamod â thi yn nyddiau dy ieuenctid, a sefydlaf gyfamod tragwyddol â thi.
Yr wyf yn gofyn, felly, a yw'n bosibl fod Duw wedi gwrthod ei bobl ei hun? Nac ydyw, ddim o gwbl! Oherwydd yr wyf fi yn Israeliad, o linach Abraham, o lwyth Benjamin.Nid yw Duw wedi gwrthod ei bobl, y bobl a adnabu cyn eu bod. Gwyddoch beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud wrth adrodd hanes Elias yn galw ar Dduw yn erbyn Israel:
Oblegid y mae Duw'n eu beio pan yw'n dweud: “Y mae'r dyddiau'n dod, medd yr Arglwydd, y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda;ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum â'u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i'w harwain allan o wlad yr Aifft, oherwydd nid arosasant hwy yn fy nghyfamod i. A minnau, fe'u diystyrais hwy, medd yr Arglwydd.Dyma'r cyfamod a wnaf â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd: rhof fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac ysgrifennaf hwy ar eu calon. A byddaf yn Dduw iddynt, a hwythau'n bobl i mi.
Dyma restr achau Iesu Grist, Mab Dafydd, mab Abraham.Yr oedd Abraham yn dad i Isaac, Isaac yn dad i Jacob, a Jacob yn dad i Jwda a'i frodyr.Yr oedd Jwda yn dad i Peres a Sera, a Tamar yn fam iddynt; yr oedd Peres yn dad i Hesron, Hesron i Ram,Ram i Amminadab, Amminadab i Nahson, Nahson i Salmon;yr oedd Salmon yn dad i Boas, a Rahab yn fam iddo, Boas yn dad i Obed, a Ruth yn fam iddo, Obed yn dad i Jesse,a Jesse yn dad i'r Brenin Dafydd. Yr oedd Dafydd yn dad i Solomon, a gwraig Ureia yn fam iddo,yr oedd Solomon yn dad i Rehoboam, Rehoboam yn dad i Abeia, ac Abeia'n dad i Asa.Yr oedd Asa'n dad i Jehosaffat, Jehosaffat i Joram, Joram i Usseia,Usseia i Jotham, Jotham i Ahas, Ahas i Heseceia,Heseceia i Manasse, Manasse i Amon, ac Amon i Joseia.Yr oedd Joseia yn dad i Jechoneia a'i frodyr yng nghyfnod y gaethglud i Fabilon.Ar ôl y gaethglud i Fabilon, yr oedd Jechoneia yn dad i Salathiel, Salathiel i Sorobabel,Sorobabel i Abiwd, Abiwd i Eliacim, Eliacim i Asor,Asor i Sadoc, Sadoc i Achim, Achim i Eliwd,Eliwd i Eleasar, Eleasar i Mathan, a Mathan i Jacob.Yr oedd Jacob yn dad i Joseff, gŵr Mair, a hi a roddodd enedigaeth i Iesu, a elwid y Meseia.Felly, pedair ar ddeg yw cyfanrif y cenedlaethau o Abraham hyd Ddafydd, a phedair ar ddeg o Ddafydd hyd y gaethglud i Fabilon, a phedair ar ddeg hefyd o'r gaethglud i Fabilon hyd y Meseia.
fel hyn y cymerodd drugaredd ar ein hynafiaid, a chofio ei gyfamod sanctaidd,y llw a dyngodd wrth Abraham ein tad, y rhoddai inni
Chwi yw plant y proffwydi, a phlant y cyfamod a wnaeth Duw â'ch tadau pan ddywedodd wrth Abraham, ‘Yn dy ddisgynyddion di y bendithir holl dylwythau'r ddaear.’
Israeliaid ydynt; eu heiddo hwy yw'r mabwysiad, y gogoniant, y cyfamodau, y Gyfraith, yr addoliad a'r addewidion.Iddynt hwy y mae'r hynafiaid yn perthyn, ac oddi wrthynt hwy, yn ôl ei linach naturiol, y daeth y Meseia. I'r Duw sy'n llywodraethu'r cwbl boed bendith am byth. Amen.
Ynddo ef y mae'r “Ie” i holl addewidion Duw. Dyna pam mai trwyddo ef yr ydym yn dweud yr “Amen” er gogoniant Duw.
Oherwydd y mae pawb sy'n dibynnu ar gadw gofynion cyfraith dan felltith, achos y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un nad yw'n cadw at bob peth sy'n ysgrifenedig yn llyfr y Gyfraith, a'i wneud!”Y mae'n amlwg na chaiff neb ei gyfiawnhau gerbron Duw ar dir cyfraith, oherwydd, “Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw.”Eithr nid “trwy ffydd” yw egwyddor y Gyfraith; dweud y mae hi yn hytrach, “Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt hwy.”Prynodd Crist ryddid i ni oddi wrth felltith y Gyfraith pan ddaeth, er ein mwyn, yn wrthrych melltith, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un a grogir ar bren!”Y bwriad oedd cael bendith Abraham i ymledu i'r Cenhedloedd yng Nghrist Iesu, er mwyn i ni dderbyn, trwy ffydd, yr Ysbryd a addawyd.
Yn awr, yr oedd gan y cyfamod cyntaf hefyd ordinhadau addoliad, a chysegr, ond mai cysegr daearol oedd.
Yn hyn, y mae'r Ysbryd Glân yn dangos nad oedd y ffordd i'r cysegr wedi ei hamlygu cyhyd ag yr oedd y tabernacl cyntaf yn sefyll.Y mae hyn oll yn arwyddlun ar gyfer yr amser presennol. Yn ôl y drefn hon offrymir rhoddion ac aberthau na allant berffeithio'r addolwr yn ei gydwybod,
Y mae'r ARGLWYDD yntau yn cydnabod wrthyt heddiw dy fod yn bobl arbennig iddo'i hun, fel yr addawodd wrthyt, ond iti gadw ei holl orchmynion.
Y mae'n mynegi ei air i Jacob, ei ddeddfau a'i farnau i Israel;ni wnaeth fel hyn ag unrhyw genedl, na dysgu iddynt ei farnau. Molwch yr ARGLWYDD.
A safodd yr ARGLWYDD gerllaw iddo a dweud, “Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw Abraham dy dad, a Duw Isaac; rhoddaf y tir yr wyt yn gorwedd arno i ti ac i'th ddisgynyddion;bydd dy hil fel llwch y ddaear, a byddi'n ymestyn i'r gorllewin a'r dwyrain ac i'r gogledd a'r de; a bendithir holl deuluoedd y ddaear ynot ti ac yn dy ddisgynyddion.Wele, yr wyf fi gyda thi, a chadwaf di ple bynnag yr ei, a dof â thi'n ôl i'r wlad hon; oherwydd ni'th adawaf nes imi wneud yr hyn a ddywedais.”
Ond dywedodd Duw, “Na, bydd dy wraig Sara yn geni iti fab, a gelwi ef Isaac. Sefydlaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol i'w ddisgynyddion ar ei ôl.
Yr wyf yn galw'r nef a'r ddaear yn dystion yn dy erbyn heddiw, imi roi'r dewis iti rhwng bywyd ac angau, rhwng bendith a melltith. Dewis dithau fywyd, er mwyn iti fyw, tydi a'th ddisgynyddion,gan garu'r ARGLWYDD dy Dduw, a gwrando ar ei lais a glynu wrtho; oherwydd ef yw dy fywyd, ac ef fydd yn estyn dy ddyddiau iti gael byw yn y tir yr addawodd yr ARGLWYDD i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob, y byddai'n ei roi iddynt.
ond dewisodd lwyth Jwda, a Mynydd Seion y mae'n ei garu.Cododd ei gysegr cyn uched â'r nefoedd, a'i sylfeini, fel y ddaear, am byth.
“Dyma,” medd yr ARGLWYDD, “fy nghyfamod â hwy. Bydd fy ysbryd i arnat, a gosodaf fy ngeiriau yn dy enau; nid ymadawant oddi wrthyt nac oddi wrth dy blant, na phlant dy blant, o'r pryd hwn hyd byth,” medd yr ARGLWYDD.
Myfi, yr ARGLWYDD, fydd eu Duw, a'm gwas Dafydd fydd yn dywysog yn eu mysg; myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd.
Rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o hwn, ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef yn newydd gyda chwi yn nheyrnas fy Nhad.”
“Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel am iddo ymweld â'i bobl a'u prynu i ryddid;cododd waredigaeth gadarn i ni yn nhŷ Dafydd ei was—
Oherwydd i chwi y mae'r addewid, ac i'ch plant, ac i bawb sydd ymhell, pob un y bydd yr Arglwydd ein Duw ni yn ei alw ato.”
Nid oes dim gwahaniaeth rhwng Iddewon a Groegiaid. Yr un Arglwydd sydd i bawb, sy'n rhoi o'i gyfoeth i bawb sy'n galw arno.Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “bydd pob un sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.”
Ond yr ydych chwi yn hil etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl sanctaidd, yn bobl o'r eiddo Duw ei hun, i hysbysu gweithredoedd ardderchog yr Un a'ch galwodd chwi allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef:
Sefydlaf fy nghyfamod â chwi, rhag torri ymaith eto bob cnawd trwy ddyfroedd dilyw, na bod dilyw arall i ddifa'r ddaear.”
“Dyma fy nghyfamod i â thi: byddi'n dad i lu o genhedloedd,ac ni'th enwir di mwyach yn Abram, ond yn Abraham, gan imi dy wneud yn dad i lu o genhedloedd.
creawdwr nefoedd a daear a'r môr, a'r cyfan sydd ynddynt. Y mae ef yn cadw'n ffyddlon hyd byth,
Am hynny rhof iddo ran gyda'r mawrion ac fe ranna'r ysbail gyda'r cedyrn, oherwydd iddo dywallt ei fywyd i farwolaeth, a chael ei gyfrif gyda throseddwyr, a dwyn pechodau llaweroedd, ac eiriol dros y troseddwyr.
“Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Os gallwch ddiddymu fy nghyfamod â'r dydd, a'm cyfamod â'r nos, fel na bydd dydd na nos yn eu pryd,yna gellir diddymu fy nghyfamod â'm gwas Dafydd, fel na bydd iddo fab yn teyrnasu ar ei orsedd, a hefyd fy nghyfamod â'r offeiriaid o Lefiaid sy'n gweinyddu i mi.
Rhoddaf iddynt galon unplyg, ac ysbryd newydd ynddynt; tynnaf ohonynt y galon garreg, a rhoi iddynt galon gig.
Am hynny, rhoddwyd yr addewid trwy ffydd er mwyn iddi fod yn ôl gras, fel y byddai yn ddilys i bawb o ddisgynyddion Abraham, nid yn unig i'r rhai sy'n byw yn ôl y Gyfraith, ond hefyd i'r rhai sy'n byw yn ôl ffydd Abraham. Y mae Abraham yn dad i ni i gyd;
Gyfeillion, i gymryd enghraifft o'r byd dynol, pan fydd ewyllys, sef cyfamod olaf rhywun, wedi ei chadarnhau, ni chaiff neb ei dirymu nac ychwanegu ati.
Ond pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonodd Duw ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith,i brynu rhyddid i'r rhai oedd dan y Gyfraith, er mwyn i ni gael braint mabwysiad.
“Peidiwch â thybio i mi ddod i ddileu'r Gyfraith na'r proffwydi; ni ddeuthum i ddileu ond i gyflawni.
“Dyma'r cyfamod a wnaf â hwy ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; rhof fy nghyfreithiau yn eu calon, ac ysgrifennaf hwy ar eu meddwl”,
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Ysgrifenna'r geiriau hyn, oherwydd yn ôl y geiriau hyn y gwneuthum gyfamod â thi ac ag Israel.”
Am iddo garu dy hynafiaid a dewis eu plant ar eu hôl, y daeth â thi allan o'r Aifft trwy ei bresenoldeb â nerth mawr,a gyrru allan o'th flaen genhedloedd oedd yn fwy ac yn gryfach na thi, a'th arwain a rhoi iti eu gwlad yn etifeddiaeth, fel y mae heddiw.
Os bydd ei feibion yn gadael fy nghyfraith, a heb rodio yn fy marnau,os byddant yn torri fy ordeiniadau, a heb gadw fy ngorchmynion,fe gosbaf eu pechodau â gwialen, a'u camweddau â fflangellau;
O ARGLWYDD, cofia dy drugaredd a'th ffyddlondeb, oherwydd y maent erioed.Paid â chofio pechodau fy ieuenctid na'm gwrthryfel, ond yn dy gariad cofia fi, er mwyn dy ddaioni, O ARGLWYDD.
Pan ddigwydd hynny, caiff Israel i gyd ei hachub. Fel y mae'n ysgrifenedig: “Daw'r Gwaredydd o Seion, a throi pob annuwioldeb oddi wrth Jacob;a dyma'r cyfamod a wnaf fi â hwy, pan gymeraf ymaith eu pechodau.”
Trawodd rai cyntafanedig yr Aifft, oherwydd mae ei gariad hyd byth,a daeth ag Israel allan o'u canol, oherwydd mae ei gariad hyd byth;â llaw gref ac â braich estynedig, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
“Dyma fy ngwas, yr un a ddewisais, fy anwylyd, yr ymhyfrydodd fy enaid ynddo. Rhoddaf fy Ysbryd arno, a bydd yn cyhoeddi barn i'r Cenhedloedd.
Gwyddoch nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y prynwyd ichwi ryddid oddi wrth yr ymarweddiad ofer a etifeddwyd gennych,ond â gwaed gwerthfawr Un oedd fel oen di-fai a di-nam, sef Crist.
Rhoes waredigaeth i'w bobl, a gorchymyn ei gyfamod dros byth. Sanctaidd ac ofnadwy yw ei enw.
Yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllio a gwneud iddo ddioddef. Pan rydd ei fywyd yn aberth dros bechod, fe wêl ei had, fe estyn ei ddyddiau, ac fe lwydda ewyllys yr ARGLWYDD yn ei law ef.Wedi helbulon ei fywyd fe wêl oleuni, a chael ei fodloni yn ei wybodaeth; bydd fy ngwas yn cyfiawnhau llawer, ac yn dwyn eu camweddau.
Ond ewch a dysgwch beth yw ystyr hyn, ‘Trugaredd a ddymunaf, nid aberth’. Oherwydd i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.”
Bydd holl gyrrau'r ddaear yn cofio ac yn dychwelyd at yr ARGLWYDD, a holl dylwythau'r cenhedloedd yn ymgrymu o'i flaen.
Am hynny, oherwydd ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch â Duw trwy ein Harglwydd Iesu Grist.Trwyddo ef, yn wir, cawsom ffordd, trwy ffydd, i ddod i'r gras hwn yr ydym yn sefyll ynddo. Yr ydym hefyd yn gorfoleddu yn y gobaith y cawn gyfranogi yng ngogoniant Duw.
Ond yr wyt ti, O Arglwydd, yn Dduw trugarog a graslon, araf i ddigio, a llawn cariad a gwirionedd.
Paid â gollwng gafael ar deyrngarwch a ffyddlondeb; rhwym hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon;a byddi'n ennill ffafr ac enw da yng ngolwg Duw a dynion.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Atebaf di yn adeg ffafr, a'th gynorthwyo ar ddydd iachawdwriaeth; cadwaf di, a'th osod yn gyfamod i'r bobl; adferaf y tir a rhannu'r tiroedd anrhaith yn etifeddiaeth;a dywedaf wrth y carcharorion, ‘Ewch allan’, ac wrth y rhai mewn tywyllwch, ‘Dewch i'r golau’. Cânt bori ar fin y ffyrdd a chael porfa ar y moelydd.
Byddwch yn byw yn y tir a roddais i'ch hynafiaid; byddwch yn bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi.
Oherwydd da yw'r ARGLWYDD; y mae ei gariad hyd byth, a'i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
Peidiwn â blino ar wneud daioni, oherwydd cawn fedi'r cynhaeaf yn ei amser, dim ond inni beidio â llaesu dwylo.
Tywalltaf ddyfroedd ar y tir sychedig a ffrydiau ar y sychdir; tywalltaf fy ysbryd ar dy had a'm bendith ar dy hiliogaeth.
Am ennyd y mae ei ddig, ond ei ffafr am oes; os erys dagrau gyda'r hwyr, daw llawenydd yn y bore.
“Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws.
Nid oes arnaf gywilydd o'r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi ar waith er iachawdwriaeth i bob un sy'n credu, yr Iddewon yn gyntaf a hefyd y Groegiaid.Ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw, a hynny trwy ffydd o'r dechrau i'r diwedd, fel y mae'n ysgrifenedig: “Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw.”
Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth; seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll.
Oherwydd fel hyn y dywed yr uchel a dyrchafedig, sydd â'i drigfan yn nhragwyddoldeb, a'i enw'n Sanctaidd: “Er fy mod yn trigo mewn uchelder sanctaidd, rwyf gyda'r cystuddiol ac isel ei ysbryd, i adfywio'r rhai isel eu hysbryd, a bywhau calon y rhai cystuddiol.
Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith, yn adfywio'r enaid; y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr, yn gwneud y syml yn ddoeth;y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir, yn llawenhau'r galon; y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur, yn goleuo'r llygaid;y mae ofn yr ARGLWYDD yn lân, yn para am byth; y mae barnau'r ARGLWYDD yn wir, yn gyfiawn bob un.Mwy dymunol ydynt nag aur, na llawer o aur coeth, a melysach na mêl, ac na diferion diliau mêl.
Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, a rhoir y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi.
Bydded i Dduw tangnefedd, yr hwn a ddug yn ôl oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol,eich cymhwyso â phob daioni, er mwyn ichwi wneud ei ewyllys ef; a bydded iddo lunio ynom yr hyn sydd gymeradwy ganddo, trwy Iesu Grist, i'r hwn y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
ymhyfrydaf yn dy orchmynion am fy mod yn eu caru.Parchaf dy orchmynion am fy mod yn eu caru, a myfyriaf ar dy ddeddfau.
Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw am dy gariad a'th ffyddlondeb, oherwydd dyrchefaist dy enw a'th air uwchlaw popeth.
Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.
Wrth fynd heibio oddi yno gwelodd Iesu ddyn a elwid Mathew yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, “Canlyn fi.” Cododd yntau a chanlynodd ef.Ac yr oedd wrth bryd bwyd yn ei dŷ, a dyma lawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn dod ac yn cydfwyta gyda Iesu a'i ddisgyblion.
Ni thorraf fy nghyfamod, na newid gair a aeth o'm genau.Unwaith am byth y tyngais i'm sancteiddrwydd, ac ni fyddaf yn twyllo Dafydd.
Ond ni ellir dweud bod gair Duw wedi methu. Oherwydd nid yw pawb sydd o linach Israel yn wir Israel.
“Chwi yw fy nhystion,” medd yr ARGLWYDD, “fy ngwas, a etholais er mwyn ichwi gael gwybod, a chredu ynof, a deall mai myfi yw Duw. Nid oedd duw wedi ei greu o'm blaen, ac ni fydd yr un ar fy ôl.
Nid amheuodd ddim ynglŷn ag addewid Duw, na diffygio mewn ffydd, ond yn hytrach grymusodd yn ei ffydd a rhoi gogoniant i Dduw,
Bydd yr ARGLWYDD yn gweithredu ar fy rhan. O ARGLWYDD, y mae dy gariad hyd byth; paid â gadael gwaith dy ddwylo.
Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD. O ARGLWYDD fy Nuw, mawr iawn wyt ti; yr wyt wedi dy wisgo ag ysblander ac anrhydedd,a'th orchuddio â goleuni fel mantell. Yr wyt yn taenu'r nefoedd fel pabell,yn gosod tulathau dy balas ar y dyfroedd, yn cymryd y cymylau'n gerbyd, yn marchogaeth ar adenydd y gwynt,yn gwneud y gwyntoedd yn negeswyr, a'r fflamau tân yn weision.Gosodaist y ddaear ar ei sylfeini, fel na fydd yn symud byth bythoedd;
Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain.