Adnodau Beiblaidd

- Hysbysebion -



80 Adnodau o'r Beibl i Dorri Arferion Dewiniaeth

80 Adnodau o'r Beibl i Dorri Arferion Dewiniaeth


Lago 4:7

Felly, ymddarostyngwch i Dduw. Gwrthsafwch y diafol, ac fe ffy oddi wrthych.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Petr 5:8-9

Ymddisgyblwch a byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebydd, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i'w lyncu.Gwrthsafwch ef yn gadarn mewn ffydd, gan wybod fod eich cyd-Gristionogion yn y byd yn profi'r un math o ddioddefiadau.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Rhufeiniaid 12:2

A pheidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 4:4

Blant, yr ydych chwi o Dduw, ac yr ydych wedi eu gorchfygu hwy; oherwydd y mae'r hwn sydd ynoch chwi yn gryfach na'r hwn sydd yn y byd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Colosiaid 1:13

Gwaredodd ni o afael y tywyllwch, a'n trosglwyddo i deyrnas ei annwyl Fab,

Pennod    |  Fersiynau Copi
Deuteronomium 7:25

Yr ydych i losgi delwau eu duwiau yn y tân; nid ydych i chwennych eu harian a'u haur, na'u cymryd, rhag iddynt fod yn fagl ichwi, oherwydd y maent yn ffieidd-dra i'r ARGLWYDD eich Duw.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Deuteronomium 32:17

Yr oeddent yn aberthu i ddemoniaid nad oeddent dduwiau, ac i dduwiau nad oeddent yn eu hadnabod, duwiau newydd yn dod oddi wrth eu cymdogion, nad oedd eu hynafiaid wedi eu parchu.

Pennod    |  Fersiynau Copi
2 Brenhinoedd 17:17

Yr oeddent yn arfer dewiniaeth a swynion, ac yn ymroi'n llwyr i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Mathew 6:13

a phaid â'n dwyn i brawf, ond gwared ni rhag yr Un drwg.’

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Corinthiaid 10:20

Nage, ond mai i gythreuliaid, ac nid i Dduw, y maent yn aberthu eu hebyrth, ac na fynnwn i chwi fod yn gyfranogion o gythreuliaid.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 91:1-2

Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog,yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Fy noddfa a'm caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.”

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 27:1

Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 23:4

Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi, a'th wialen a'th ffon yn fy nghysuro.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Loan 10:10

Ni ddaw'r lleidr ond i ladrata ac i ladd ac i ddinistrio. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a'i gael yn ei holl gyflawnder.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Rhufeiniaid 16:20

Ac felly, buan y bydd Duw yr heddwch yn malu Satan dan eich traed. Gras ein Harglwydd Iesu fyddo gyda chwi!

Pennod    |  Fersiynau Copi
Diarhebion 3:7

Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun; ofna'r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 54:17

Ond ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn; gwrthbrofir pob tafod a'th gyhudda mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD, ac oddi wrthyf fi y daw eu goruchafiaeth,” medd yr ARGLWYDD.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 37:28

oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn caru barn, ac nid yw'n gadael ei ffyddloniaid; ond difethir yr anghyfiawn am byth, a thorrir ymaith blant y drygionus.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 34:7

Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy'n ei ofni, ac y mae'n eu gwaredu.

Pennod    |  Fersiynau Copi
2 Thesaloniaid 3:3

Ond y mae'r Arglwydd yn ffyddlon, ac fe'ch cadarnha chwi a'ch gwarchod rhag yr Un drwg.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 41:10

Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 43:2

Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi; a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot. Pan fyddi'n rhodio trwy'r tân, ni'th ddeifir, a thrwy'r fflamau, ni losgant di.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Deuteronomium 31:6

Bydd yn gryf a dewr; paid â'u hofni na dychryn rhagddynt, oherwydd bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn mynd gyda thi, ac ni fydd yn dy adael nac yn cefnu arnat.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Josua 1:9

Onid wyf wedi gorchymyn iti: bydd yn gryf a dewr? Paid ag arswydo na dychryn, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, gyda thi ple bynnag yr ei.”

Pennod    |  Fersiynau Copi
Diarhebion 30:5

Y mae pob un o eiriau Duw wedi ei brofi; y mae ef yn darian i'r rhai sy'n ymddiried ynddo.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Samuel 15:23

Yn wir, pechod fel dewiniaeth yw anufudd-dod, a throsedd fel addoli eilunod yw cyndynrwydd. Am i ti wrthod gair yr ARGLWYDD, gwrthododd ef di fel brenin.”

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 46:1

Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Nahum 1:7

Y mae'r ARGLWYDD yn dda—yn amddiffynfa yn nydd argyfwng; y mae'n adnabod y rhai sy'n ymddiried ynddo.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Effesiaid 6:10

Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Datguddiad 12:11

Ond y maent hwy wedi ei orchfygu trwy waed yr Oen a thrwy air eu tystiolaeth, yn ddibris o'u bywyd hyd angau.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Mathew 10:1

Wedi galw ato ei ddeuddeg disgybl rhoddodd Iesu iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan, i'w bwrw allan, ac i iacháu pob afiechyd a phob llesgedd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Luc 10:19

Dyma fi wedi rhoi i chwi yr awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac i drechu holl nerth y gelyn; ac ni'ch niweidir chwi gan ddim.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 5:18

Yr ydym yn gwybod nad yw'r sawl sydd wedi ei eni o Dduw yn dal i bechu, ond y mae'r Un a anwyd o Dduw yn ei gadw, ac nid yw'r Un drwg yn ei gyffwrdd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Hebraid 4:12

Y mae gair Duw yn fyw a grymus; y mae'n llymach na'r un cleddyf daufiniog, ac yn treiddio hyd at wahaniad yr enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mêr; ac y mae'n barnu bwriadau a meddyliau'r galon.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Mathew 18:18

“Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pa bethau bynnag a waherddwch ar y ddaear, fe'u gwaherddir yn y nef, a pha bethau bynnag a ganiatewch ar y ddaear, fe'u caniateir yn y nef.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Diarhebion 18:10

Y mae enw'r ARGLWYDD yn dŵr cadarn; rhed y cyfiawn ato ac y mae'n ddiogel.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Rhufeiniaid 8:37

Ond yn y pethau hyn i gyd y mae gennym fuddugoliaeth lwyr trwy'r hwn a'n carodd ni.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 3:3

Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn darian i mi, yn ogoniant i mi ac yn fy nyrchafu.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Corinthiaid 15:57

Ond i Dduw y bo'r diolch, yr hwn sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 40:31

ond y mae'r rhai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD yn adennill eu nerth; y maent yn magu adenydd fel eryr, yn rhedeg heb flino, ac yn rhodio heb ddiffygio.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Philipiaid 4:13

Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Colosiaid 2:15

Diarfogodd y tywysogaethau a'r awdurdodau, a'u gwneud yn sioe gerbron y byd yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth arnynt ar y groes.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Lefiticus 19:26

“ ‘Nid ydych i fwyta dim gyda gwaed ynddo. Nid ydych i arfer dewiniaeth na swyngyfaredd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Galatiaid 5:19-21

Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd,eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio,cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Datguddiad 22:15

Oddi allan y mae'r cŵn, y dewiniaid, y puteinwyr, y llofruddion, yr eilunaddolwyr, a phawb sy'n caru celwydd ac yn ei wneud.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 118:6

Y mae'r ARGLWYDD o'm tu, nid ofnaf; beth a wna pobl i mi?

Pennod    |  Fersiynau Copi
Loan 16:33

Yr wyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i chwi, ynof fi, gael tangnefedd. Yn y byd fe gewch orthrymder, ond codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu'r byd.”

Pennod    |  Fersiynau Copi
Deuteronomium 18:10-12

Nid yw neb yn eich mysg i roi ei fab na'i ferch yn aberth trwy dân; nac i arfer dewiniaeth, hudoliaeth, na darogan; nac i gonsurio,arfer swynion, ymwneud ag ysbrydion a bwganod, nac ymofyn â'r meirw.Y mae unrhyw un sy'n ymhél â'r rhain yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD; o achos yr arferion ffiaidd hyn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu gyrru hwy allan o'th flaen.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Exodus 22:18

“Paid â gadael i ddewines fyw.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Lefiticus 19:31

“ ‘Peidiwch â throi at ddewiniaid na cheisio swynwyr, oherwydd fe'ch halogir trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Lefiticus 20:6

Byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn y sawl sy'n troi at ddewiniaid a swynwyr i buteinio ar eu holau, a byddaf yn ei dorri ymaith o blith ei bobl.

Pennod    |  Fersiynau Copi
2 Tawarikh 33:6

Ef oedd yr un a barodd i'w feibion fynd trwy dân yn nyffryn Ben-hinnom, arferodd hudoliaeth, swynion a chyfaredd, ac ymhél ag ysbrydion a dewiniaeth. Yr oedd yn ymroi i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Galatiaid 5:19-20

Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd,eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio,

Pennod    |  Fersiynau Copi
Datguddiad 21:8

Ond y llwfr, y di-gred, y ffiaidd, y llofruddion, y puteinwyr, y dewiniaid, yr eilunaddolwyr, a phawb celwyddog, eu rhan hwy fydd y llyn sy'n llosgi gan dân a brwmstan, hynny yw yr ail farwolaeth.”

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 8:19

A phan fydd y bobl yn dweud wrthych, “Ewch i ymofyn â'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sisial a sibrwd”, onid yw'r bobl yn ymhél â'r duwiau, ac yn ymofyn â'r meirw dros y byw

Pennod    |  Fersiynau Copi
2 Brenhinoedd 23:24

Dileodd Joseia y swynwyr a'r dewiniaid, y delwau a'r eilunod, a phob ffieidd-dra tebyg a welwyd yng ngwlad Jwda ac yn Jerwsalem. Gwnaeth hyn er mwyn cadw geiriau'r gyfraith a ysgrifennwyd yn y llyfr a ddarganfu'r offeiriad Hilceia yn y deml.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Actau 19:19

Casglodd llawer o'r rhai a fu'n ymarfer â swynion eu llyfrau ynghyd, a'u llosgi yng ngŵydd pawb; cyfrifwyd gwerth y rhain, a'i gael yn hanner can mil o ddarnau arian.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Effesiaid 5:11

Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Effesiaid 6:12

Nid â meidrolion yr ydym yn yr afael, ond â thywysogaethau ac awdurdodau, â llywodraethwyr tywyllwch y byd hwn, â phwerau ysbrydol drygionus yn y nefolion leoedd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 47:12-14

“Glŷn wrth dy swynion a'th hudoliaethau aml y buost yn ymflino â hwy o'th ieuenctid— efallai y cei help ganddynt; efallai y medri godi arswyd drwyddynt.Rwyt wedi dy lethu gan nifer dy gynghorwyr; bydded iddynt sefyll yn awr a'th achub— dewiniaid y nefoedd a gwylwyr y sêr, sy'n proffwydo bob mis yr hyn a ddigwydd iti.Edrych, y maent fel us, a'r tân yn eu hysu; ni fedrant eu harbed eu hunain rhag y fflam. Nid glo i dwymo wrtho yw hwn, nid tân i eistedd o'i flaen.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Micha 5:12

Distrywiaf swyngyfaredd o'th afael, ac ni fydd gennyt ddewiniaid.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Rhufeiniaid 1:28-32

Am iddynt wrthod cydnabod Duw, y mae Duw wedi eu traddodi i feddwl gwyrdroëdig, i wneud y pethau na ddylid eu gwneud,a hwythau yn gyforiog o bob math o anghyfiawnder a drygioni a thrachwant ac anfadwaith. Y maent yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, cynllwyn a malais.Clepgwn ydynt, a difenwyr, caseion Duw, pobl ryfygus a thrahaus ac ymffrostgar, dyfeiswyr drygioni, anufudd i'w rhieni,heb ddeall, heb deyrngarwch, heb serch, heb dosturi.Yr oedd gorchymyn cyfiawn Duw, fod y sawl sy'n cyflawni'r fath droseddau yn teilyngu marwolaeth, yn gwbl hysbys i'r rhai hyn; ond y maent nid yn unig yn dal i'w gwneud, ond hefyd yn cymeradwyo'r sawl sydd yn eu cyflawni.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 101:3

ni osodaf fy llygaid ar ddim annheilwng. Cas gennyf yr un sy'n twyllo; nid oes a wnelwyf ddim ag ef.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseia 8:19-20

A phan fydd y bobl yn dweud wrthych, “Ewch i ymofyn â'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sisial a sibrwd”, onid yw'r bobl yn ymhél â'r duwiau, ac yn ymofyn â'r meirw dros y bywam gyfarwyddyd a thystiolaeth? Dyma'r gair a ddywedant, ac nid oes oleuni ynddo.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Corinthiaid 10:21

Ni allwch yfed cwpan yr Arglwydd a chwpan cythreuliaid; ni allwch gyfranogi o fwrdd yr Arglwydd ac o fwrdd cythreuliaid.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Galatiaid 3:1

Y Galatiaid dwl! Pwy sydd wedi eich rheibio chwi, chwi y darluniwyd ar goedd o flaen eich llygaid, Iesu Grist wedi'i groeshoelio?

Pennod    |  Fersiynau Copi
Deuteronomium 13:1-3

Os cyfyd yn eich plith broffwyd neu un yn cael breuddwydion, a rhoi ichwi arwydd neu argoel,a hynny'n digwydd fel y dywedodd wrthych, ac yntau wedyn yn eich annog i fynd ac addoli duwiau estron nad ydych yn eu hadnabod,nid ydych i wrando ar eiriau'r proffwyd neu'r breuddwydiwr hwnnw, oherwydd eich profi chwi y mae'r ARGLWYDD eich Duw i gael gwybod a ydych yn ei garu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Eseciel 13:18

a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r gwragedd sy'n gwau breichledau hud ar bob garddwrn, ac yn gwneud gorchudd o bob maint ar y pen, er mwyn rhwydo bywydau pobl. A fyddwch yn rhwydo bywydau fy mhobl, ond yn cadw eich bywydau eich hunain yn ddiogel?

Pennod    |  Fersiynau Copi
2 Brenhinoedd 21:6

Parodd i'w fab fynd trwy dân, ac arferodd hudoliaeth a swynion, a bu'n ymhél ag ysbrydion a dewiniaid. Yr oedd yn ymroi i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 119:104

O'th ofynion di y caf ddeall; dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 119:128

Am hyn cerddaf yn union yn ôl dy holl ofynion, a chasâf lwybrau twyll.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 97:10

Y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n casáu drygioni, y mae'n cadw bywydau ei ffyddloniaid, ac yn eu gwaredu o ddwylo'r drygionus.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Mathew 12:30

Os nad yw rhywun gyda mi, yn fy erbyn i y mae, ac os nad yw'n casglu gyda mi, gwasgaru y mae.

Pennod    |  Fersiynau Copi
2 Corinthiaid 6:14-17

Peidiwch ag ymgysylltu'n amhriodol ag anghredinwyr, oherwydd pa gyfathrach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfraith? A pha gymdeithas sydd rhwng goleuni a thywyllwch?Pa gytgord sydd rhwng Crist a Belial? Neu pa gyfran sydd i gredadun gydag anghredadun?Pa gytundeb sydd rhwng teml Duw ac eilunod? Oherwydd nyni yw teml y Duw byw. Fel y dywedodd Duw: “Trigaf ynddynt hwy, a rhodiaf yn eu plith, a byddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwythau'n bobl i minnau.Am hynny, dewch allan o'u plith hwy, ymwahanwch oddi wrthynt, medd yr Arglwydd, a pheidiwch â chyffwrdd â dim byd aflan. Ac fe'ch derbyniaf chwi,

Pennod    |  Fersiynau Copi
2 Timotheus 2:19

Ond dal i sefyll y mae'r sylfaen gadarn a osododd Duw, a'r sêl sydd arni yw: “Y mae'r Arglwydd yn adnabod y rhai sy'n eiddo iddo”, a “Pob un sy'n enwi enw'r Arglwydd, cefned ar ddrygioni”.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Colosiaid 2:8

Gwyliwch rhag i neb eich cipio i gaethiwed drwy athroniaeth a gwag hudoliaeth yn ôl traddodiad dynol, yn ôl ysbrydion elfennig y cyfanfyd, ac nid yn ôl Crist.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Petr 5:8

Ymddisgyblwch a byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebydd, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i'w lyncu.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Mathew 28:18

Daeth Iesu atynt a llefaru wrthynt: “Rhoddwyd i mi,” meddai, “bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Diarhebion 3:5-6

Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun.Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 91:10-11

ni ddigwydd niwed i ti, ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.Oherwydd rhydd orchymyn i'w angylion i'th gadw yn dy holl ffyrdd;

Pennod    |  Fersiynau Copi
Dilynwch ni:

Hysbysebion


Hysbysebion