Mae'r cyfnod yma'n un heriol, gyda chyfiawnder yn brin. Rhaid inni ddeall bod diffyg cyfiawnder yn niweidio ac yn llygru'r byd i gyd yn ysbrydol.
Mae cyfiawnder yn rhinwedd ryfeddol, ac yn rhywbeth ddylen ni ei adlewyrchu yn ein bywydau; i greu cytgord, trefn a diogelwch ar y ddaear.
Mae cyfiawnder, fel un o briodoleddau mwyaf nodedig Duw yn yr Ysgrythur, hefyd yn un o'r rhai anoddaf i'w ddeall yn iawn. Mae'n anodd gwahanu cyfiawnder Duw oddi wrth Ei sancteiddrwydd neu Ei ddaioni. Fel mae Salm 11:7 yn dweud, "Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn, ac yn caru cyfiawnder: y rhai uniawn a gânt weld ei wyneb."
Sut allwn ni ymarfer cyfiawnder? Mae'n syml iawn: trwy wneud i eraill yr hyn y mae Duw wedi'i wneud i ni. A wnaeth Duw faddau i ni? Yna, maddau i eraill. A yw Duw yn fy mendithio i? Yna, bendithia eraill.
Peidiwn â meddwl ein bod ni'n berchen ar y byd, oherwydd gall y Gwir Berchennog ddigio. Peidiwn â meddwl ein bod ni'n rheoli ein hamser, oherwydd allwn ni ddim newid dim! Anrhydeddwn y Creawdwr, a bydd yr Arglwydd yn ein bendithio.
Fel mae Colosiaid 3:25 yn ein hatgoffa, "Y sawl sy'n gwneud cam a dderbyn yn ôl am ei gamwedd; nid oes ffafriaeth gyda Duw".
Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn ac yn caru cyfiawnder, a'r uniawn sy'n gweld ei wyneb.
Er hynny, y mae'r ARGLWYDD yn disgwyl i gael trugarhau wrthych, ac yn barod i ddangos tosturi. Canys Duw cyfiawnder yw'r ARGLWYDD; gwyn ei fyd pob un sy'n disgwyl wrtho.
Ef yw'r Graig; perffaith yw ei waith, a chyfiawn yw ei ffyrdd bob un. Duw ffyddlon heb dwyll yw; un cyfiawn ac uniawn yw ef.
Ond y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu am byth, ac wedi paratoi ei orsedd i farn.Fe farna'r byd mewn cyfiawnder, a gwrando achos y bobloedd yn deg.
Peidiwch â mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i'r digofaint dwyfol, fel y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl,’ medd yr Arglwydd.”
“Oherwydd rwyf fi, yr ARGLWYDD, yn hoffi cyfiawnder, ac yn casáu trais a chamwri; rhof iddynt eu gwobr yn ddi-feth, a gwnaf gyfamod tragwyddol â hwy.
Bydd ef yn talu i bawb yn ôl eu gweithredoedd:bywyd tragwyddol i'r rhai sy'n dal ati i wneud daioni, gan geisio gogoniant, anrhydedd ac anfarwoldeb;ond digofaint a dicter i'r rheini a ysgogir gan gymhellion hunanol i fod yn ufudd, nid i'r gwirionedd, ond i anghyfiawnder.
Dywedodd wrthyt, feidrolyn, beth sydd dda, a'r hyn a gais yr ARGLWYDD gennyt: dim ond gwneud beth sy'n iawn, caru teyrngarwch, ac ymostwng i rodio'n ostyngedig gyda'th Dduw.
oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn caru barn, ac nid yw'n gadael ei ffyddloniaid; ond difethir yr anghyfiawn am byth, a thorrir ymaith blant y drygionus.
Oherwydd nid yw Duw yn anghyfiawn; nid anghofia eich gwaith, a'r cariad tuag at ei enw yr ydych wedi ei amlygu drwy weini i'r saint, ac yn dal ati i weini.
Cyfiawn ar ran Duw, yn sicr, yw talu gorthrymder yn ôl i'r rhai sydd yn eich gorthrymu chwi,
Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder, ond daw dinistr ar y rhai sy'n gwneud drwg.
peidiwch â gwneud drwg, dysgwch wneud daioni. Ceisiwch farn, achubwch gam y gorthrymedig, amddiffynnwch yr amddifad, a chymerwch blaid y weddw.
“Ond y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn hyn: ei fod yn fy neall ac yn fy adnabod i, mai myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n gweithredu'n ffyddlon, yn gwneud barn a chyfiawnder ar y ddaear, ac yn ymhyfrydu yn y pethau hyn,” medd yr ARGLWYDD.
ond dyrchefir ARGLWYDD y Lluoedd mewn barn, a sancteiddir y Duw sanctaidd mewn cyfiawnder.
Cyfiawnder yn unig a ddilyni, er mwyn iti gael byw ac etifeddu'r wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw am ei rhoi iti.
“Rhowch ddedfryd o blaid y gwan a'r amddifad, gwnewch gyfiawnder â'r truenus a'r diymgeledd.Gwaredwch y gwan a'r anghenus, achubwch hwy o law'r drygionus.
Yr ARGLWYDD yw ein barnwr, yr ARGLWYDD yw ein deddfwr; yr ARGLWYDD yw ein brenin, ac ef fydd yn ein gwaredu.
Os dywedi, “Ni wyddem ni am hyn”, onid yw'r un sy'n pwyso'r galon yn deall? Y mae'r un sy'n dy wylio yn gwybod, ac yn talu i bob un yn ôl ei waith.
“Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD, “y cyfodaf i Ddafydd Flaguryn cyfiawn, brenin a fydd yn llywodraethu'n ddoeth, yn gwneud barn a chyfiawnder yn y tir.
Deisyfaf di â'm holl galon drwy'r nos, a cheisiaf di'n daer gyda'r wawr; oherwydd pan fydd dy farnedigaethau yn y wlad, bydd trigolion byd yn dysgu cyfiawnder.
ie, i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad yn yr amser presennol hwn, sef ei fod ef ei hun yn gyfiawn a hefyd yn cyfiawnhau'r sawl sy'n meddu ar ffydd yn Iesu.
y mae dy gyfiawnder fel y mynyddoedd uchel a'th farnau fel y dyfnder mawr; cedwi ddyn ac anifail, O ARGLWYDD.
yn dangos cariad i filoedd, yn maddau drygioni a gwrthryfel a phechod, ond heb adael yr euog yn ddi-gosb, ac yn cosbi plant, a phlant eu plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth, am ddrygioni eu hynafiaid.”
Ond dywedais wrthyf fy hun, “Bydd Duw yn barnu'r cyfiawn a'r drygionus, oherwydd y mae wedi trefnu amser i bob gorchwyl a gwaith.”
o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dyfod i farnu'r ddaear; bydd yn barnu'r byd â chyfiawnder, a'r bobloedd ag uniondeb.
Beth, ynteu, a atebwn i hyn? Bod Duw yn coleddu anghyfiawnder? Ddim ar unrhyw gyfrif!Y mae'n dweud wrth Moses: “Trugarhaf wrth bwy bynnag y trugarhaf wrtho, a thosturiaf wrth bwy bynnag y tosturiaf wrtho.”
Y mae'n gwneud cyfiawnder â'r amddifad a'r weddw, yn caru'r dieithr, ac yn rhoi iddynt fwyd a dillad.
Y mae'r cyfiawn yn gwybod hawliau'r tlodion, ond nid yw'r drygionus yn ystyried deall.
“Gwrandewch arnaf, fy mhobl; clywch fi, fy nghenedl; oherwydd daw cyfraith allan oddi wrthyf, a bydd fy marn yn goleuo pobloedd.Y mae fy muddugoliaeth gerllaw, a'm hiachawdwriaeth ar ddod; bydd fy mraich yn rheoli'r bobloedd; bydd yr ynysoedd yn disgwyl wrthyf, ac yn ymddiried yn fy mraich.
Yn awr, bydded arnoch ofn yr ARGLWYDD, a gweithredwch yn ofalus, oherwydd nid oes anghyfiawnder na ffafriaeth na llwgrwobr yn perthyn i'r ARGLWYDD ein Duw.”
Y mae'n galw ar y nefoedd uchod, ac ar y ddaear, er mwyn barnu ei bobl:“Casglwch ataf fy ffyddloniaid, a wnaeth gyfamod â mi trwy aberth.”
Oherwydd fe wyddom pwy a ddywedodd: “Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl”; ac eto: “Bydd yr Arglwydd yn barnu ei bobl.”
Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau, a'n glanhau o bob anghyfiawnder.
Clywaist, O ARGLWYDD, ddyhead yr anghenus; yr wyt yn cryfhau eu calon wrth wrando arnynt,yn gweinyddu barn i'r amddifad a'r gorthrymedig, rhag i feidrolion beri ofn mwyach.
Pan fyddai'n cael ei ddifenwi, ni fyddai'n difenwi'n ôl; pan fyddai'n dioddef, ni fyddai'n bygwth, ond yn ei gyflwyno'i hun i'r Un sy'n barnu'n gyfiawn.
Ni fydd yn diffodd, ac ni chaiff ei ddryllio, nes iddo osod barn ar y ddaear; y mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei gyfraith.”
Pwy sydd i ddwyn cyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw'r un sy'n dyfarnu'n gyfiawn.Pwy sydd yn ein collfarnu? Crist Iesu yw'r un a fu farw, yn hytrach a gyfodwyd, yr un hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr un sydd yn ymbil trosom.
mai i mi y perthyn dial a thalu'r pwyth, pan fydd eu troed yn llithro? Yn wir, y mae dydd eu trychineb yn agos, a'u distryw yn brysio atynt.
A fydd Duw yn gwrthod cyfiawnder i'w etholedigion, sy'n galw'n daer arno ddydd a nos? A fydd ef yn oedi yn eu hachos hwy?Rwy'n dweud wrthych y rhydd ef gyfiawnder iddynt yn ebrwydd. Ond eto, pan ddaw Mab y Dyn, a gaiff ef ffydd ar y ddaear?”
Y mae cloriannau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond pwysau cywir wrth ei fodd.
Codwch eich golwg i'r nefoedd, edrychwch ar y ddaear islaw; y mae'r nefoedd yn diflannu fel mwg, a'r ddaear yn treulio fel dilledyn, a'i thrigolion yn marw fel gwybed; ond bydd fy iachawdwriaeth yn parhau byth, ac ni phalla fy muddugoliaeth.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gwnewch farn a chyfiawnder; achubwch yr ysbeiliedig o afael y gormeswr. Peidiwch â gwneud cam na niwed i'r dieithr, na'r amddifad na'r weddw, na thywallt gwaed dieuog yn y lle hwn.
Oherwydd dinistrir y rhai drwg, ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir.Ymhen ychydig eto, ni fydd y drygionus; er iti edrych yn ddyfal am ei le, ni fydd ar gael.Ond bydd y gostyngedig yn meddiannu'r tir ac yn mwynhau heddwch llawn.
Nid oes dim a grewyd yn guddiedig o'i olwg, ond y mae pob peth yn agored ac wedi ei ddinoethi o flaen llygaid yr Un yr ydym ni i roi cyfrif iddo.
“Dyma fy ngwas, yr un a ddewisais, fy anwylyd, yr ymhyfrydodd fy enaid ynddo. Rhoddaf fy Ysbryd arno, a bydd yn cyhoeddi barn i'r Cenhedloedd.Ni fydd yn ymrafael nac yn gweiddi, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.Ni fydd yn mathru corsen doredig, nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu, nes iddo ddwyn barn i fuddugoliaeth.Ac yn ei enw ef y bydd gobaith y Cenhedloedd.”
Barna fi yn ôl dy gyfiawnder, O ARGLWYDD, fy Nuw, ac na fydded iddynt lawenhau o'm hachos.
gwrando di o'r nef a gweithredu. Gweinydda farn i'th bobl drwy gondemnio'r drwgweithredwr yn ôl ei ymddygiad, ond llwydda achos y cyfiawn yn ôl ei gyfiawnder.
Ni allwn ni ganfod yr Hollalluog, y mae'n fawr ei nerth; yn ei farn a'i gyfiawnder ni wna gam.
Ond os yw'n hanghyfiawnder ni yn dwyn i'r golau gyfiawnder Duw, beth a ddywedwn? Mai anghyfiawn yw'r Duw sy'n bwrw ei ddigofaint arnom? (Siarad fel dyn yr wyf.)Ddim ar unrhyw gyfrif! Os nad yw Duw yn gyfiawn, sut y gall farnu'r byd?
Gwae'r rhai a wnânt ddeddfau anghyfiawn a deddfu gormes yn ddi-baid;i droi'r tlodion oddi wrth farn, ac amddifadu'r anghenus o blith fy mhobl o'u hawliau; i wneud gweddwon yn ysbail iddynt a'r rhai amddifad yn anrhaith.
Cyfiawnhau'r drygionus a chondemnio'r cyfiawn— y mae'r ddau fel ei gilydd yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
Y mae ysbryd yr Arglwydd DDUW arnaf, oherwydd i'r ARGLWYDD fy eneinio i gyhoeddi newyddion da i'r tlodion, a chysuro'r toredig o galon; i gyhoeddi rhyddid i'r caethion, a rhoi gollyngdod i'r carcharorion;i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD a dydd dial ein Duw ni; i ddiddanu pawb sy'n galaru,
Ond yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galon ac yn profi cymhellion, i roi i bawb yn ôl eu ffyrdd ac yn ôl ffrwyth eu gweithredoedd.”
“Bwriwch fod dyn cyfiawn sy'n gwneud barn a chyfiawnder.Nid yw'n bwyta yn uchelfeydd y mynyddoedd, nac yn edrych ar eilunod tŷ Israel; nid yw'n halogi gwraig ei gymydog, nac yn mynd at wraig yn ystod ei misglwyf.Nid yw'n gorthrymu neb, ond y mae'n dychwelyd gwystl y dyledwr, ac nid yw'n lladrata; y mae'n rhoi bwyd i'r newynog a dillad am y noeth.Nid yw'n rhoi ei arian ar log nac yn derbyn elw; y mae'n atal ei law rhag drygioni, ac yn gwneud barn gywir rhwng dynion a'i gilydd.Y mae'n dilyn fy neddfau ac yn cadw'n gywir fy marnau; y mae'n ddyn cyfiawn, a bydd yn sicr o fyw,” medd yr Arglwydd DDUW.
Pwy bynnag a ddywed wrth yr euog, “Yr wyt yn ddieuog”, fe'i melltithir gan bobloedd a'i gollfarnu gan genhedloedd.Ond caiff y rhai sy'n eu ceryddu foddhad, a daw gwir fendith arnynt.
canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y cyfiawn, a'i glustiau'n agored i'w deisyfiad, ond y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni.”
yna sefydlir gorsedd trwy deyrngarwch, ac arni fe eistedd un ffyddlon ym mhabell Dafydd, barnwr yn ceisio barn deg ac yn barod i fod yn gyfiawn.
Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn yn ei holl ffyrdd ac yn ffyddlon yn ei holl weithredoedd.
“Yn awr, ynteu, ymresymwn â'n gilydd,” medd yr ARGLWYDD. “Pe bai eich pechodau fel ysgarlad, fe fyddant cyn wynned â'r eira; pe baent cyn goched â phorffor, fe ânt fel gwlân.Os bodlonwch i ufuddhau, cewch fwyta o ddaioni'r tir;
ac yn gwneud barn â'r gorthrymedig; y mae'n rhoi bara i'r newynog. Y mae'r ARGLWYDD yn rhyddhau carcharorion;y mae'r ARGLWYDD yn rhoi golwg i'r deillion, ac yn codi pawb sydd wedi eu darostwng; y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai cyfiawn.Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros y dieithriaid, ac yn cynnal y weddw a'r amddifad; y mae'n difetha ffordd y drygionus.
“Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Barnwch yn deg, a dangoswch drugaredd a thosturi tuag at eich gilydd;peidiwch â gorthrymu'r weddw, yr amddifad, yr estron a'r tlawd, na dyfeisio yn eich meddyliau ddrwg i'ch gilydd.’
“Dyma fy ngwas, yr wyf yn ei gynnal, f'etholedig, yr wyf yn ymhyfrydu ynddo. Rhoddais fy ysbryd ynddo, i gyhoeddi barn i'r cenhedloedd.
“Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn talu degwm o fintys ac anis a chwmin, ond gadawsoch heibio bethau trymach y Gyfraith, cyfiawnder a thrugaredd a ffyddlondeb, yr union bethau y dylasech ofalu amdanynt, heb adael heibio'r lleill.
mawr yn dy gyngor, nerthol yn dy weithred. Y mae dy lygaid ar holl ffyrdd rhai meidrol, i dalu i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd.
Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y cyfiawn, a'i glustiau'n agored i'w cri.Y mae wyneb yr ARGLWYDD yn erbyn y rhai sy'n gwneud drwg, i ddileu eu coffa o'r ddaear.
Nid yw'r Arglwydd yn oedi cyflawni ei addewid, fel y bydd rhai pobl yn deall oedi; bod yn amyneddgar wrthych y mae, am nad yw'n ewyllysio i neb gael ei ddinistrio, ond i bawb ddod i edifeirwch.
Cyfiawnder a barn yw sylfaen dy orsedd; y mae cariad a gwirionedd yn mynd o'th flaen.Gwyn eu byd y bobl sydd wedi dysgu dy glodfori, sy'n rhodio, ARGLWYDD, yng ngoleuni dy wyneb,
Bydded iddo farnu dy bobl yn gyfiawn, a'th rai anghenus yn gywir.Doed y mynyddoedd â heddwch i'r bobl, a'r bryniau â chyfiawnder.Bydded iddo amddiffyn achos tlodion y bobl, a gwaredu'r rhai anghenus, a dryllio'r gorthrymwr.
Gwnaf farn yn llinyn mesur, a chyfiawnder yn blymen; bydd y cenllysg yn ysgubo ymaith eich noddfa celwydd, a'r dyfroedd yn boddi eich lloches;
Fel y gwna'r ddaear i'r blagur dyfu, a'r ardd i'r hadau egino, felly y gwna'r ARGLWYDD Dduw i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd.
Oherwydd rhaid i bawb ohonom ymddangos gerbron brawdle Crist, er mwyn i bob un dderbyn ei dâl yn ôl ei weithredoedd yn y corff, ai da ai drwg.
Casewch ddrygioni, carwch ddaioni, gofalwch am farn yn y porth; efallai y trugarha'r ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, wrth weddill Joseff.
Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth, nac ar ei heddwch i orsedd Dafydd a'i frenhiniaeth, i'w sefydlu'n gadarn â barn a chyfiawnder, o hyn a hyd byth. Bydd sêl ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn.
Y mae'r ARGLWYDD yn dda ac uniawn, am hynny fe ddysg y ffordd i bechaduriaid.Fe arwain y gostyngedig yn yr hyn sy'n iawn, a dysgu ei ffordd i'r gostyngedig.
Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei chanol yn gyfiawn; nid yw'n gwneud cam; fore ar ôl bore y mae'n traddodi barn heb ballu ar doriad y dydd; ond ni ŵyr yr anghyfiawn gywilydd.
o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dod, oherwydd y mae'n dod i farnu'r ddaear. Bydd yn barnu'r byd â chyfiawnder, a'r bobloedd â'i wirionedd.
oherwydd fel y byddwch chwi'n barnu y cewch chwithau eich barnu, ac â'r mesur a rowch y rhoir i chwithau.
Peidiwch â chymryd eich camarwain; ni chaiff Duw mo'i watwar, oherwydd beth bynnag y mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi.
Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, yna fe ddylech wybod bod pob un sy'n gwneud cyfiawnder wedi ei eni ohono ef.
Os gwir wellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, os gwnewch farn yn gyson rhyngoch a'ch gilydd,a pheidio â gorthrymu'r dieithr, yr amddifad a'r weddw, na thywallt gwaed dieuog yn y fan hon, na rhodio ar ôl duwiau eraill i'ch niwed eich hun,yna mi wnaf i chwi drigo yn y lle hwn, yn y wlad a roddais i'ch hynafiaid am byth.
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw ffordd y drygionus, ond y mae'n caru'r rhai sy'n dilyn cyfiawnder.
yn ysbryd tegwch i'r sawl sy'n eistedd mewn barn, ac yn gadernid i'r sawl sy'n troi'r rhyfel draw o'r porth.
ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder oherwydd fy ngelynion, gwna dy ffordd yn union o'm blaen.
Nid yw pobl ddrwg yn deall beth yw cyfiawnder, ond y mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn deall y cyfan.
Byddaf yn ceisio'r ddafad golledig ac yn dychwelyd y wasgaredig; byddaf yn rhwymo'r ddolurus ac yn cryfhau'r wan. Ond byddaf yn difa'r fras a'r gref; byddaf yn eu bugeilio â chyfiawnder.
Gwn, O ARGLWYDD, fod dy farnau'n gyfiawn, ac mai mewn ffyddlondeb yr wyt wedi fy ngheryddu.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Cadwch farn, gwnewch gyfiawnder; oherwydd y mae fy iachawdwriaeth ar ddod, a'm goruchafiaeth ar gael ei datguddio.
ond fe farna'r tlawd yn gyfiawn a dyfarnu'n uniawn i rai anghenus y ddaear. Fe dery'r ddaear â gwialen ei enau, ac â gwynt ei wefusau fe ladd y rhai drygionus.
Oherwydd y mae'n gwaredu'r anghenus pan lefa, a'r tlawd pan yw heb gynorthwywr.Y mae'n tosturio wrth y gwan a'r anghenus, ac yn gwaredu bywyd y tlodion.Y mae'n achub eu bywyd rhag trais a gorthrwm, ac y mae eu gwaed yn werthfawr yn ei olwg.
Yr wyt wedi cyhoeddi dedfryd o'r nefoedd; ofnodd y ddaear a distewipan gododd Duw i farnu, ac i waredu holl drueiniaid y ddaear. Sela
Y mae digofaint Duw yn cael ei ddatguddio o'r nef yn erbyn holl annuwioldeb ac anghyfiawnder pobl sydd, trwy eu hanghyfiawnder, yn atal y gwirionedd.
Y mae Duw yn ei le yn y cyngor dwyfol; yng nghanol y duwiau y mae'n barnu.“Am ba hyd y barnwch yn anghyfiawn, ac y dangoswch ffafr at y drygionus? Sela“Rhowch ddedfryd o blaid y gwan a'r amddifad, gwnewch gyfiawnder â'r truenus a'r diymgeledd.Gwaredwch y gwan a'r anghenus, achubwch hwy o law'r drygionus.
Nid yw unrhyw ddisgyblaeth, yn wir, ar y pryd yn ymddangos yn bleserus, ond yn hytrach yn boenus; ond yn nes ymlaen, y mae'n dwyn heddychol gynhaeaf cyfiawnder i'r rhai sydd wedi eu hyfforddi ganddi.
Datguddiodd yr ARGLWYDD ei hun, gwnaeth farn; maglwyd y drygionus gan waith ei ddwylo'i hun. Higgaion. Sela
Oherwydd yr ARGLWYDD eich Duw yw Duw y duwiau ac Arglwydd yr arglwyddi, Duw mawr, cadarn ac ofnadwy; nid yw'n dangos ffafriaeth nac yn cymryd llwgrwobr.Y mae'n gwneud cyfiawnder â'r amddifad a'r weddw, yn caru'r dieithr, ac yn rhoi iddynt fwyd a dillad.
Y mae llawer yn ceisio ffafr llywodraethwr, ond oddi wrth yr ARGLWYDD y daw cyfiawnder.
Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.
Ond y mae eu Gwaredwr yn gryf; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw. Bydd ef yn dadlau eu hachos yn gadarn, ac yn dwyn llonydd i'w wlad, ond aflonyddwch i breswylwyr Babilon.
Ond yn awr, yn annibynnol ar gyfraith, y mae cyfiawnder Duw wedi ei amlygu. Y mae'r Gyfraith a'r proffwydi, yn wir, yn dwyn tystiolaeth iddo,ond cyfiawnder sydd o Dduw ydyw, trwy ffydd yn Iesu Grist i bawb sy'n credu.Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw.Gan ras Duw, ac am ddim, y maent yn cael eu cyfiawnhau, trwy'r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu,yr hwn a osododd Duw gerbron y byd, yn ei waed, yn aberth cymod trwy ffydd. Gwnaeth Duw hyn i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad, yn wyneb yr anwybyddu a fu ar bechodau'r gorffennol yn amser ymatal Duw;ie, i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad yn yr amser presennol hwn, sef ei fod ef ei hun yn gyfiawn a hefyd yn cyfiawnhau'r sawl sy'n meddu ar ffydd yn Iesu.
Trodd yr ARGLWYDD dy gosb oddi wrthyt, a symud dy elynion. Y mae brenin Israel, yr ARGLWYDD, yn dy ganol, ac nid ofni ddrwg mwyach.
Oherwydd gwir yw gair yr ARGLWYDD, ac y mae ffyddlondeb yn ei holl weithredoedd.Y mae'n caru cyfiawnder a barn; y mae'r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD.
Y mae'n rhaid i bob un ymostwng i'r awdurdodau sy'n ben. Oherwydd nid oes awdurdod heb i Dduw ei sefydlu, ac y mae'r awdurdodau sydd ohoni wedi eu sefydlu gan Dduw.Am hynny, y mae'r sawl sy'n gwrthsefyll y fath awdurdod yn gwrthwynebu sefydliad sydd o Dduw. Ac y mae'r cyfryw yn sicr o dynnu barn arnynt eu hunain.
Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb, ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall.Y mae'n trysori craffter i'r uniawn; y mae'n darian i'r rhai a rodia'n gywir.Y mae'n diogelu llwybrau cyfiawnder, ac yn gwarchod ffordd ei ffyddloniaid.
Felly peidiwch â barnu dim cyn yr amser, nes i'r Arglwydd ddod; bydd ef yn goleuo pethau cudd y tywyllwch ac yn gwneud bwriadau'r galon yn amlwg. Ac yna caiff pob un ei glod gan Dduw.
Yr oeddent yn canu cân Moses, gwas Duw, a chân yr Oen: “Mawr a rhyfeddol yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw hollalluog; cyfiawn a gwir yw dy ffyrdd, O Frenin y cenhedloedd. Pwy nid ofna, Arglwydd, a gogoneddu dy enw? Oherwydd tydi yn unig sydd sanctaidd. Daw'r holl genhedloedd ac addoli ger dy fron, oherwydd y mae dy farnedigaethau cyfiawn wedi eu hamlygu.”