Adnodau Beiblaidd

- Hysbysebion -


ADNODDAU AM GARIAD

ADNODDAU AM GARIAD

Dw i'n credu bod pawb ohonom ni angen cariad, ac yn hiraethu am gael ein caru. O'n genedigaeth ymlaen, mae'r angen yna i deimlo'n werthfawr, yn bwysig i bobl eraill. Mae cariad yn deimlad pur, diamod, sydd ddim eisiau gwneud niwed, ond yn hytrach yn edrych am les lles y llall.

Pan fyddwn ni'n profi cariad, rŷn ni'n naturiol eisiau caru'n ôl yn yr un ffordd. Mae cariad yn deimlad cryf sy'n mynd y tu hwnt i unrhyw sefyllfa, ac yn gallu cyflawni unrhyw beth. Mae'n ein newid ni, yn ein cynnal ni, ac yn ein gwneud ni'n bobl gwell bob dydd. Mae cariad yn dod â pharch, derbyniad, ac amynedd gydag ef.

Ym mhob gwerth bydd cariad i'w weld, gan mai dyma'r teimlad mwyaf sy'n dod â'r gweddill i gyd ynghyd. Mae cariad rhwng cwpl yn gydfuddiannol - mae'r hyn rŷn ni'n ei deimlo tuag at rywun yn cael ei deimlo'n ôl. Dyma'r math o gariad sy'n gallu creu perthynas iach ac adeiladol.

Yn y Beibl, mae 'na ddarn sy'n disgrifio sut ddylai cariad fod. 1 Corinthiaid 13: "Mae cariad yn amyneddgar, mae cariad yn garedig. Nid yw'n cenfigennu, nid yw'n ymffrostio, nid yw'n ymchwyddo. Nid yw'n ymddwyn yn amhriodol, nid yw'n chwilio am ei beth ei hun, nid yw'n hawdd ei gythruddo, nid yw'n cadw cofnod o gamweddau. Nid yw'n lladdio wrth anwiredd, ond yn llawenhau gyda'r gwirionedd."




Loan 13:34

Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd: carwch eich gilydd. Fel y cerais i chwi, felly yr ydych chwithau i garu'ch gilydd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Loan 15:17

Dyma'r gorchymyn yr wyf yn ei roi i chwi: carwch eich gilydd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Galatiaid 6:10

Felly, tra bydd amser gennym, gadewch inni wneud da i bawb, ac yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 4:21

A dyma'r gorchymyn sydd gennym oddi wrtho ef: bod i'r sawl sy'n caru Duw garu ei gydaelod hefyd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Corinthiaid 13:3

Ac os rhof fy holl feddiannau i borthi eraill, ac os rhof fy nghorff yn aberth, a hynny er mwyn ymffrostio, a heb fod gennyf gariad, ni wna hyn ddim lles imi.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 133:1

Mor dda ac mor ddymunol yw i bobl fyw'n gytûn.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Diarhebion 3:27

Paid â gwrthod cymwynas i'r sawl sy'n ei haeddu, os yw yn dy allu i'w gwneud.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Loan 15:13

Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Rhufeiniaid 12:10

Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Thesaloniaid 4:9

Ynglŷn â chariad at eich gilydd, nid oes arnoch angen i neb ysgrifennu atoch; oherwydd yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Loan 15:9

Fel y mae'r Tad wedi fy ngharu i, yr wyf finnau wedi eich caru chwi. Arhoswch yn fy nghariad i.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 3:16

Dyma sut yr ydym yn gwybod beth yw cariad: am iddo ef roi ei einioes drosom ni. Ac fe ddylem ninnau roi ein heinioes dros ein cydaelodau.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Mathew 22:39

Ac y mae'r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’

Pennod    |  Fersiynau Copi
Rhufeiniaid 13:10

Ni all cariad wneud cam â chymydog. Y mae cariad, felly, yn gyflawniad o holl ofynion y Gyfraith.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Rhufeiniaid 13:8

Peidiwch â bod mewn dyled i neb, ar wahân i'r ddyled o garu eich gilydd. Y mae'r sawl sy'n caru pobl eraill wedi cyflawni holl ofynion y Gyfraith.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Corinthiaid 16:14

Popeth a wnewch, gwnewch ef mewn cariad.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Diarhebion 17:17

Y mae cyfaill yn gyfaill bob amser; ar gyfer adfyd y genir brawd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Hebraid 10:24-25

Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da,heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â'ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 4:7

Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy'n caru wedi ei eni o Dduw, ac yn adnabod Duw.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 4:8

Y sawl nad yw'n caru, nid yw'n adnabod Duw, oherwydd cariad yw Duw.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Mathew 25:40

A bydd y Brenin yn eu hateb, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.’

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Corinthiaid 13:4-7

Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw'n ymffrostio, nid yw'n ymchwyddo.Nid yw'n gwneud dim sy'n anweddus, nid yw'n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw'n gwylltio, nid yw'n cadw cyfrif o gam;nid yw'n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae'n cydlawenhau â'r gwirionedd.Y mae'n goddef i'r eithaf, yn credu i'r eithaf, yn gobeithio i'r eithaf, yn dal ati i'r eithaf.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 4:12

Nid oes neb wedi gweld Duw erioed; os ydym yn caru ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom, ac y mae ei gariad ef wedi ei berffeithio ynom ni.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Rhufeiniaid 12:4-5

Yn union fel y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ond nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith,felly hefyd yr ydym ni, sy'n llawer, yn un corff yng Nghrist, ac yn aelodau bob un i'w gilydd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Jwdas 1:20-21

Ond rhaid i chwi, gyfeillion annwyl, eich adeiladu eich hunain ar sylfaen eich ffydd holl-sanctaidd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân;cadwch eich hunain yng nghariad Duw, gan ddisgwyl am i'n Harglwydd Iesu Grist yn ei drugaredd roi ichwi fywyd tragwyddol.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Hebraid 13:1

Bydded i frawdgarwch barhau.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Actau 4:32

Yr oedd y lliaws credinwyr o un galon ac enaid, ac ni fyddai neb yn dweud am ddim o'i feddiannau mai ei eiddo ef ei hun ydoedd, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Galatiaid 5:14

Oherwydd y mae'r holl Gyfraith wedi ei mynegi'n gyflawn mewn un gair, sef yn y gorchymyn, “Câr dy gymydog fel ti dy hun.”

Pennod    |  Fersiynau Copi
Hebraid 6:10

Oherwydd nid yw Duw yn anghyfiawn; nid anghofia eich gwaith, a'r cariad tuag at ei enw yr ydych wedi ei amlygu drwy weini i'r saint, ac yn dal ati i weini.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Galatiaid 5:13-14

Fe'ch galwyd chwi, gyfeillion, i ryddid, ond yn unig peidiwch ag arfer eich rhyddid yn gyfle i'r cnawd; yn hytrach trwy gariad byddwch yn weision i'ch gilydd.Oherwydd y mae'r holl Gyfraith wedi ei mynegi'n gyflawn mewn un gair, sef yn y gorchymyn, “Câr dy gymydog fel ti dy hun.”

Pennod    |  Fersiynau Copi
Loan 13:34-35

Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd: carwch eich gilydd. Fel y cerais i chwi, felly yr ydych chwithau i garu'ch gilydd.Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.”

Pennod    |  Fersiynau Copi
Effesiaid 5:2

gan fyw mewn cariad, yn union fel y carodd Crist ni, a'i roi ei hun trosom, yn offrwm ac aberth i Dduw, o arogl pêr.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Actau 12:5

Felly yr oedd Pedr dan warchodaeth yn y carchar. Ond yr oedd yr eglwys yn gweddïo'n daer ar Dduw ar ei ran.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Petr 4:8

O flaen pob peth, cadwch eich cariad at eich gilydd yn llawn angerdd, oherwydd y mae cariad yn dileu lliaws o bechodau.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Luc 6:31

Fel y dymunwch i eraill wneud i chwi, gwnewch chwithau yr un fath iddynt hwy.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Effesiaid 4:32

Byddwch yn dirion wrth eich gilydd; yn dyner eich calon, yn maddau i'ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Lefiticus 19:18

Nid wyt i geisio dial ar un o'th bobl, na dal dig tuag ato, ond yr wyt i garu dy gymydog fel ti dy hun. Myfi yw'r ARGLWYDD.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Loan 17:26

Yr wyf wedi gwneud dy enw di yn hysbys iddynt, ac fe wnaf hynny eto, er mwyn i'r cariad â'r hwn yr wyt wedi fy ngharu i fod ynddynt hwy, ac i minnau fod ynddynt hwy.”

Pennod    |  Fersiynau Copi
Mathew 5:44

Ond rwyf fi'n dweud wrthych: carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid;

Pennod    |  Fersiynau Copi
Diarhebion 10:12

Y mae casineb yn achosi cynnen, ond y mae cariad yn cuddio pob trosedd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Philipiaid 1:8

Oblegid y mae Duw'n dyst i mi, gymaint yr wyf yn hiraethu, â dyhead Crist Iesu ei hun, am bawb ohonoch.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Colosiaid 3:14

Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Petr 1:22

Gan eich bod, trwy eich ufudd-dod i'r gwirionedd, wedi puro eich eneidiau nes ennyn brawdgarwch diragrith, carwch eich gilydd o galon bur yn angerddol.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Petr 2:17

Rhowch barch i bawb, carwch deulu'r ffydd, ofnwch Dduw, parchwch yr ymerawdwr.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 2:10

Y mae'r sawl sy'n caru ei gydaelod yn aros yn y goleuni, ac nid oes dim ynddo i faglu neb.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 3:11

Oherwydd hon yw'r genadwri a glywsoch chwi o'r dechrau: ein bod i garu ein gilydd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 3:17-18

Pwy bynnag sydd â meddiannau'r byd ganddo, ac yn gweld ei gydaelod mewn angen, ac eto'n cau ei galon yn ei erbyn, sut y mae cariad Duw yn aros ynddo?Fy mhlant, gadewch inni garu, nid ar air nac ar dafod ond mewn gweithred a gwirionedd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 3:23

Dyma ei orchymyn: ein bod i gredu yn enw ei Fab ef, Iesu Grist, a charu'n gilydd, yn union fel y rhoddodd ef orchymyn inni.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Philipiaid 2:3-4

Peidiwch â gwneud dim o gymhellion hunanol nac o ymffrost gwag, ond mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun.Bydded gofal gan bob un ohonoch, nid am eich buddiannau eich hunain yn unig ond am fuddiannau pobl eraill hefyd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 3:14

Yr ydym ni'n gwybod ein bod wedi croesi o farwolaeth i fywyd, am ein bod yn caru ein cydaelodau; y mae'r sawl nad yw'n caru yn aros mewn marwolaeth.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Luc 10:27

Atebodd yntau, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth ac â'th holl feddwl, a châr dy gymydog fel ti dy hun.’ ”

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 5:2

Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn caru plant Duw: pan fyddwn yn caru Duw ac yn cadw ei orchmynion.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Galatiaid 6:2

Cariwch feichiau eich gilydd, ac felly fe gyflawnwch Gyfraith Crist.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Mathew 7:12

Pa beth bynnag y dymunwch i eraill ei wneud i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; hyn yw'r Gyfraith a'r proffwydi.

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 4:20-21

Os dywed rhywun, “Rwy'n caru Duw”, ac yntau'n casáu ei gydaelod, y mae'n gelwyddog; oherwydd ni all neb nad yw'n caru cydaelod y mae wedi ei weld, garu Duw nad yw wedi ei weld.A dyma'r gorchymyn sydd gennym oddi wrtho ef: bod i'r sawl sy'n caru Duw garu ei gydaelod hefyd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Rhufeiniaid 15:1-2

Y mae'n ddyletswydd arnom ni, y rhai cryf, oddef gwendidau'r rhai sy'n eiddil eu cydwybod, a pheidio â'n plesio ein hunain.Y mae pob un ohonom i blesio ein cymydog, gan anelu at yr hyn sydd dda er adeiladu ein gilydd.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Lago 2:8

Wrth gwrs, os cyflawni gofynion y Gyfraith frenhinol yr ydych, yn unol â'r Ysgrythur, “Câr dy gymydog fel ti dy hun”, yr ydych yn gwneud yn ardderchog.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Luc 14:12-14

Meddai hefyd wrth ei wahoddwr, “Pan fyddi'n trefnu cinio neu swper, paid â gwahodd dy gyfeillion na'th frodyr na'th berthnasau na'th gymdogion cyfoethog, rhag ofn iddynt hwythau yn eu tro dy wahodd di, ac iti gael dy ad-dalu.Pan fyddi'n trefnu gwledd, gwahodd yn hytrach y tlodion, yr anafusion, y cloffion, a'r deillion;a gwyn fydd dy fyd, am nad oes ganddynt fodd i dalu'n ôl iti; cei dy dalu'n ôl yn atgyfodiad y cyfiawn.”

Pennod    |  Fersiynau Copi
1 Loan 3:10

Dyma sut y mae'n amlwg pwy yw plant Duw a phwy yw plant y diafol: pob un nad yw'n gwneud cyfiawnder, nid yw o Dduw, na'r hwn nad yw'n caru ei gydaelod.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Rhufeiniaid 12:20-21

Yn hytrach, os bydd dy elynion yn newynu, rho fwyd iddynt; os byddant yn sychedu, rho iddynt beth i'w yfed. Os gwnei hyn, byddi'n pentyrru marwor poeth ar eu pennau.Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Mathew 18:21-22

Yna daeth Pedr a gofyn iddo, “Arglwydd, pa sawl gwaith y mae fy nghyfaill i bechu yn fy erbyn a minnau i faddau iddo? Ai hyd seithwaith?”Meddai Iesu wrtho, “Nid hyd seithwaith a ddywedaf wrthyt, ond hyd saith deg seithwaith.

Pennod    |  Fersiynau Copi
Y Salmau 41:1

Gwyn ei fyd y sawl sy'n ystyried y tlawd. Bydd yr ARGLWYDD yn ei waredu yn nydd adfyd;

Pennod    |  Fersiynau Copi
Galatiaid 5:22

Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.

Pennod    |  Fersiynau Copi

Gweddi i Dduw

O Dduw annwyl, derbynia dy holl addoliad a'th ogoniant, ti'n unig sy'n eu haeddu! Mae dy air di, Arglwydd, yn dweud: "Carwn ein gilydd, oherwydd bod cariad yn dod o Dduw, a phob un sy'n caru y mae wedi ei eni o Dduw ac yn adnabod Duw." Rwy'n erfyn arnat i dywallt y cariad hwnnw dros fy nghymdogion, y cymunedau, y teuluoedd, a dros bob cenedl. Boed i ni fod yn oleuni yng nghanol y tywyllwch, i danio eraill â goleuni Crist. Boed i ni fod yn esiampl o wasanaethu eraill, fel y daethost ti i wasanaethu ac nid i gael dy wasanaethu. Boed i ni wrthod hunanoldeb, trais, camdriniaeth, a difaterwch. Sefydla dy Deyrnas dros deuluoedd, cymdogion, a chenhedloedd. Oherwydd i ti y mae'r holl ogoniant a'r anrhydedd. Yn enw nerthol Iesu. Amen.
Dilynwch ni:

Hysbysebion


Hysbysebion