Blant, yr ydych chwi o Dduw, ac yr ydych wedi eu gorchfygu hwy; oherwydd y mae'r hwn sydd ynoch chwi yn gryfach na'r hwn sydd yn y byd.
Ond y mae'r Arglwydd yn ffyddlon, ac fe'ch cadarnha chwi a'ch gwarchod rhag yr Un drwg.
Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog,yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Fy noddfa a'm caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.”
Ond ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn; gwrthbrofir pob tafod a'th gyhudda mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD, ac oddi wrthyf fi y daw eu goruchafiaeth,” medd yr ARGLWYDD.
Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi, a'th wialen a'th ffon yn fy nghysuro.
Bydd yn gryf a dewr; paid â'u hofni na dychryn rhagddynt, oherwydd bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn mynd gyda thi, ac ni fydd yn dy adael nac yn cefnu arnat.
Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?
Gwisgwch amdanoch holl arfogaeth Duw, er mwyn ichwi fedru sefyll yn gadarn yn erbyn cynllwynion y diafol.
Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.
canys nid arfau gwan y cnawd yw arfau ein milwriaeth ni, ond rhai nerthol Duw sy'n dymchwel cestyll.
Ac felly, buan y bydd Duw yr heddwch yn malu Satan dan eich traed. Gras ein Harglwydd Iesu fyddo gyda chwi!
A byddaf fi,’ medd yr ARGLWYDD, ‘yn fur o dân o'i hamgylch, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.’ ”
Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi; a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot. Pan fyddi'n rhodio trwy'r tân, ni'th ddeifir, a thrwy'r fflamau, ni losgant di.
fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer, fy noddfa, a'm hachubwr sy'n fy achub rhag trais.“Gwaeddaf ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu mawl, ac fe'm gwaredir rhag fy ngelynion.
Ac rwyf fi'n dweud wrthyt mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau Hades y trechaf arni.
Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw rhag pob drwg, bydd yn cadw dy einioes.Bydd yr ARGLWYDD yn gwylio dy fynd a'th ddod yn awr a hyd byth.
Ymddisgyblwch a byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebydd, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i'w lyncu.Gwrthsafwch ef yn gadarn mewn ffydd, gan wybod fod eich cyd-Gristionogion yn y byd yn profi'r un math o ddioddefiadau.
A bydd yr Arglwydd eto'n fy ngwaredu i rhag pob cam, a'm dwyn yn ddiogel i'w deyrnas nefol. Iddo ef y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
Yr wyt ti'n gysgod i mi; cedwi fi rhag cyfyngder; amgylchi fi â chaneuon gwaredigaeth. Sela
Yr ydym yn gwybod nad yw'r sawl sydd wedi ei eni o Dduw yn dal i bechu, ond y mae'r Un a anwyd o Dduw yn ei gadw, ac nid yw'r Un drwg yn ei gyffwrdd.
Felly, ofnant enw'r ARGLWYDD yn y gorllewin, a'i ogoniant yn y dwyrain; oherwydd fe ddaw fel afon mewn llif yn cael ei gyrru gan ysbryd yr ARGLWYDD.
Heblaw hyn oll, ymarfogwch â tharian ffydd; â hon byddwch yn gallu diffodd holl saethau tanllyd yr Un drwg.
Pan eisteddi, ni fyddi'n ofni, a phan orweddi, bydd dy gwsg yn felys.Paid ag ofni rhag unrhyw ddychryn disymwth, na dinistr y drygionus pan ddaw;oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn hyder iti, ac yn cadw dy droed rhag y fagl.
Fel y mae'r mynyddoedd o amgylch Jerwsalem, felly y mae'r ARGLWYDD o amgylch ei bobl yn awr a hyd byth.
Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; rwy'n hyderus, ac nid ofnaf; canys yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth a'm cân, ac ef yw fy iachawdwr.”
Y mae'r rhai sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD fel Mynydd Seion, na ellir ei symud, ond sy'n aros hyd byth.
Er imi fynd trwy ganol cyfyngder, adfywiaist fi; estynnaist dy law yn erbyn llid fy ngelynion, a gwaredaist fi â'th ddeheulaw.
Yr wyt yn cadw mewn heddwch perffaith y sawl sydd â'i feddylfryd arnat, am ei fod yn ymddiried ynot.
oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chwi, i frwydro trosoch yn erbyn eich gelynion, ac i'ch gwaredu.”
Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos, na rhag saeth yn hedfan yn y dydd,rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch, na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd.
Ond i Dduw y bo'r diolch, yr hwn sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân, ac ef yw'r un a'm hachubodd; ef yw fy Nuw, ac fe'i gogoneddaf, Duw fy nhad, ac fe'i dyrchafaf.
“Myfi, myfi sy'n eich diddanu; pam, ynteu, yr ofnwch neb meidrol, neu rywun sydd fel glaswelltyn?
Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm tarian; ynddo yr ymddiried fy nghalon; yn sicr caf gymorth, a llawenycha fy nghalon, a rhof foliant iddo ar gân.
Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd, ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur; y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.
hyd eich henaint, myfi yw Duw, hyd eich penwynni, mi a'ch cariaf. Myfi sy'n gwneud, myfi sy'n cludo, myfi sy'n cario, a myfi sy'n arbed.
a dywedodd, “Gwrandewch, holl Jwda a thrigolion Jerwsalem ynghyd â'r brenin Jehosaffat. Y mae'r ARGLWYDD yn dweud wrthych am beidio ag ofni na digalonni o achos y fintai fawr yma, oherwydd brwydr Duw yw hon, nid eich brwydr chwi.
Onid wyf wedi gorchymyn iti: bydd yn gryf a dewr? Paid ag arswydo na dychryn, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, gyda thi ple bynnag yr ei.”
Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn bendithio'r cyfiawn, ac y mae dy ffafr yn ei amddiffyn fel tarian.
Am hynny dywedwn ninnau'n hyderus: “Yr Arglwydd yw fy nghynorthwywr, ac nid ofnaf; beth a wna pobl i mi?”
Iddo ef, sydd â'r gallu ganddo i wneud yn anhraethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu na'i ddychmygu, trwy'r gallu sydd ar waith ynom ni,
Oherwydd fe'm ceidw yn ei gysgod yn nydd adfyd, a'm cuddio i mewn yn ei babell, a'm codi ar graig.
Y mae'r ARGLWYDD yn dda—yn amddiffynfa yn nydd argyfwng; y mae'n adnabod y rhai sy'n ymddiried ynddo.
Y mae pob un o eiriau Duw wedi ei brofi; y mae ef yn darian i'r rhai sy'n ymddiried ynddo.
“Byddwch yn gryf a dewr. Peidiwch ag ofni na digalonni o flaen brenin Asyria a'i holl fintai. Y mae gennym ni fwy nag sydd ganddo ef.Gallu dynol sydd ganddo ef, ond y mae yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni i'n cynorthwyo ac i ymladd ein brwydrau.” Ac fe ymddiriedodd y bobl yng ngeiriau Heseceia brenin Jwda.
Ond i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa; gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa; ni ddigwydd niwed i ti, ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.
Yr wyf fi'n rhoi bywyd tragwyddol iddynt; nid ânt byth i ddistryw, ac ni chaiff neb eu cipio hwy allan o'm llaw i.
Oherwydd haul a tharian yw'r ARGLWYDD Dduw; rhydd ras ac anrhydedd. Nid atal yr ARGLWYDD unrhyw ddaioni oddi wrth y rhai sy'n rhodio'n gywir.
Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel: “Wrth ddychwelyd a bod yn dawel y byddwch gadwedig, wrth lonyddu a bod yn hyderus y byddwch gadarn. Ni fynnwch chwi hyn, ond dweud,
Iddo ef, sydd â'r gallu ganddo i'ch cadw rhag syrthio, a'ch gosod yn ddi-fai a gorfoleddus gerbron ei ogoniant,
“Mi af o'th flaen di i lefelu'r mynyddoedd; torraf y dorau pres, a dryllio'r barrau haearn.
Duw'r oesoedd yw dy noddfa, ac oddi tanodd y mae'r breichiau tragwyddol. Gyrrodd allan y gelyn o'th flaen, a dweud, “Difetha ef.”
O ARGLWYDD, arbed fi rhag dwylo'r drygionus; cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu, rhai sy'n cynllunio i faglu fy nhraed.
A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
dywedwch wrth y pryderus, “Ymgryfhewch, nac ofnwch. Wele, fe ddisgyn ar Edom, ar y bobl a ddedfryda i farn.
Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd; o ble y daw cymorth i mi?Daw fy nghymorth oddi wrth yr ARGLWYDD, creawdwr nefoedd a daear.
Gwaredodd ef ni gynt oddi wrth y fath berygl marwol, ac fe'n gwared eto; ynddo ef y mae ein gobaith. Fe'n gwared eto,
na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Nid yw'n ofni newyddion drwg; y mae ei galon yn ddi-gryn, yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
Felly, gadewch inni nesáu mewn hyder at orsedd gras, er mwyn derbyn trugaredd a chael gras yn gymorth yn ei bryd.
Cadarnhewch y dwylo llesg, cryfhewch y gliniau gwan;dywedwch wrth y pryderus, “Ymgryfhewch, nac ofnwch. Wele, fe ddisgyn ar Edom, ar y bobl a ddedfryda i farn.
Ond daw gwaredigaeth y cyfiawn oddi wrth yr ARGLWYDD; ef yw eu hamddiffyn yn amser adfyd.
Y mae'n gwarchod camre ei ffyddloniaid, ond y mae'r drygionus yn tewi mewn tywyllwch; canys nid trwy rym y mae trechu.
Nid oes un prawf wedi dod ar eich gwarthaf nad yw'n gyffredin i bawb. Y mae Duw'n ffyddlon, ac ni fydd ef yn gadael ichwi gael eich profi y tu hwnt i'ch gallu; yn wir, gyda'r prawf, fe rydd ef ddihangfa hefyd, a'ch galluogi i ymgynnal dano.
Er i'r mynyddoedd symud, ac i'r bryniau siglo, ni symuda fy ffyddlondeb oddi wrthyt, a bydd fy nghyfamod heddwch yn ddi-sigl,” medd yr ARGLWYDD, sy'n tosturio wrthyt.
Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd allan o'r byd, ond ar i ti eu cadw'n ddiogel rhag yr Un drwg.
Oherwydd fel hyn y dywed yr uchel a dyrchafedig, sydd â'i drigfan yn nhragwyddoldeb, a'i enw'n Sanctaidd: “Er fy mod yn trigo mewn uchelder sanctaidd, rwyf gyda'r cystuddiol ac isel ei ysbryd, i adfywio'r rhai isel eu hysbryd, a bywhau calon y rhai cystuddiol.
a dysgu iddynt gadw'r holl orchmynion a roddais i chwi. Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.”