gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo; clywodd fy llef o'i deml, a daeth fy ngwaedd i'w glustiau.
Y mae'r ARGLWYDD yn dda—yn amddiffynfa yn nydd argyfwng; y mae'n adnabod y rhai sy'n ymddiried ynddo.
Yr wyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i chwi, ynof fi, gael tangnefedd. Yn y byd fe gewch orthrymder, ond codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu'r byd.”
Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?
Ond i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa; gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa;
ni ddigwydd niwed i ti, ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.
“Er i goeden gael ei thorri, y mae gobaith iddi ailflaguro, ac ni pheidia ei blagur â thyfu.
Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae'r byd yn rhoi yr wyf fi'n rhoi i chwi. Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calon, a pheidiwch ag ofni.
Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid, ac mor gythryblus o'm mewn! Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef, fy Ngwaredydd a'm Duw.
Os cymeraf adenydd y wawr a thrigo ym mhellafoedd y môr,
yno hefyd fe fydd dy law yn fy arwain, a'th ddeheulaw yn fy nghynnal.
Cod fi i fyny yn nydd fy ofn; yr wyf yn ymddiried ynot ti.
Yn Nuw, yr un y molaf ei air, yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni; beth a all pobl ei wneud imi?
Ond daw gwaredigaeth y cyfiawn oddi wrth yr ARGLWYDD; ef yw eu hamddiffyn yn amser adfyd.
Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.
Ond gwaeddaf fi ar Dduw, a bydd yr ARGLWYDD yn fy achub.
Hwyr a bore a chanol dydd fe gwynaf a griddfan, a chlyw ef fy llais.
Gwareda fy mywyd yn ddiogel o'r rhyfel yr wyf ynddo, oherwydd y mae llawer i'm herbyn.
Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na'r presennol na'r dyfodol,
na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Ym mhob peth yr ydym yn cael ein gorthrymu ond nid ein llethu, ein bwrw i ansicrwydd ond nid i anobaith,
Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder.
Felly, nid ofnwn er i'r ddaear symud ac i'r mynyddoedd ddisgyn i ganol y môr,
Oherwydd nid ysbryd sy'n peri llwfrdra a roddodd Duw i ni, ond ysbryd sy'n peri nerth a chariad a hunanddisgyblaeth.
Bydd yr ARGLWYDD yn mynd o'th flaen, a bydd ef gyda thi; ni fydd yn dy adael nac yn cefnu arnat. Paid ag ofni na dychryn.”
Y mae fy enaid yn glynu wrth y llwch; adfywia fi yn ôl dy air.
Adroddais am fy hynt ac atebaist fi; dysg i mi dy ddeddfau.
Bendithiaf yr ARGLWYDD a roddodd gyngor i mi; yn y nos y mae fy meddyliau'n fy hyfforddi.
Gosodais yr ARGLWYDD o'm blaen yn wastad; am ei fod ar fy neheulaw, ni'm symudir.
bydded i'r rhai sy'n hau mewn dagrau fedi mewn gorfoledd.
Bydd yr un sy'n mynd allan dan wylo, ac yn cario ei sach o hadyd, yn dychwelyd drachefn mewn gorfoledd, ac yn cario ei ysgubau.
Gadewch inni ddal yn ddiwyro at gyffes ein gobaith, oherwydd y mae'r hwn a roddodd yr addewid yn ffyddlon.
Dychwelwch i'ch amddiffynfa, chwi garcharorion hyderus; heddiw yr wyf yn cyhoeddi i chwi adferiad dauddyblyg.
Ymddiriedwch ynddo bob amser, O bobl, tywalltwch allan eich calon iddo; Duw yw ein noddfa. Sela
Yn wyneb hyn yr ydych yn gorfoleddu, er eich bod, fe ddichon, yn awr yn profi blinder dros dro dan amrywiol brofedigaethau.
Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid; oddi wrtho ef y daw fy ngobaith.
Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth, fy amddiffynfa, fel na'm symudir.
ond y mae'r rhai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD yn adennill eu nerth; y maent yn magu adenydd fel eryr, yn rhedeg heb flino, ac yn rhodio heb ddiffygio.
Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi; a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot. Pan fyddi'n rhodio trwy'r tân, ni'th ddeifir, a thrwy'r fflamau, ni losgant di.
Oherwydd myfi sy'n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,’ medd yr ARGLWYDD, ‘bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol.
Heblaw hynny, yr ydym hyd yn oed yn gorfoleddu yn ein gorthrymderau, oherwydd fe wyddom mai o orthrymder y daw'r gallu i ymddál,
ac o'r gallu i ymddál y daw rhuddin cymeriad, ac o gymeriad y daw gobaith.
A dyma obaith na chawn ein siomi ganddo, oherwydd y mae cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau trwy'r Ysbryd Glân y mae ef wedi ei roi i ni.
A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.
Am hynny, nid ydym yn digalonni. Er ein bod yn allanol yn dadfeilio, yn fewnol fe'n hadnewyddir ddydd ar ôl dydd.
Oherwydd y baich ysgafn o orthrymder sydd arnom yn awr, darparu y mae, y tu hwnt i bob mesur, bwysau tragwyddol o ogoniant i ni,
dim ond inni gadw'n golwg, nid ar y pethau a welir, ond ar y pethau na welir. Dros amser y mae'r pethau a welir, ond y mae'r pethau na welir yn dragwyddol.
Y mae'r gobaith hwn gennym fel angor i'n bywyd, un diogel a chadarn, ac un sy'n mynd trwodd i'r tu mewn i'r llen,
Meddyliaf yn wastad am hyn, ac felly disgwyliaf yn eiddgar.
Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.
Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb.
Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi.
Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i'ch eneidiau.
Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a'm baich i yn ysgafn.”
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! O'i fawr drugaredd, fe barodd ef ein geni ni o'r newydd i obaith bywiol trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw,
Gwyn ei fyd y sawl y mae Duw Jacob yn ei gynorthwyo, ac y mae ei obaith yn yr ARGLWYDD ei Dduw,
Felly y mae deall a doethineb i'th fywyd; os cei hwy, yna y mae iti ddyfodol, ac ni thorrir ymaith dy obaith.
Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd; o ble y daw cymorth i mi?
Daw fy nghymorth oddi wrth yr ARGLWYDD, creawdwr nefoedd a daear.
Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch.
A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
Peidiwn â blino ar wneud daioni, oherwydd cawn fedi'r cynhaeaf yn ei amser, dim ond inni beidio â llaesu dwylo.
Ewyllysiodd Duw hysbysu iddynt hwy beth yw cyfoeth gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd. Dyma'r dirgelwch: Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant.
Iddo ef, sydd â'r gallu ganddo i wneud yn anhraethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu na'i ddychmygu, trwy'r gallu sydd ar waith ynom ni,
iddo ef y bo'r gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu, o genhedlaeth i genhedlaeth, byth bythoedd! Amen.
Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad.
Yr wyf yn sicr y caf weld daioni'r ARGLWYDD yn nhir y rhai byw.
Disgwyl wrth yr ARGLWYDD, bydd gryf a gwrol dy galon a disgwyl wrth yr ARGLWYDD.
ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu.