Du yw dy Greawdwr, dy amddiffynwr, dy gynhaliwr. Du yw’r Hollalluog, y Trugarog, y Maddeuwr, y Da. Gallwn ni ddod i adnabod Duw drwy ei air. Mae e â diddordeb yn dy fywyd di, mae e’n dy garu di, ac mae ganddo gynllun hyfryd i ti.
Mae Duw’n gwybod pob dim, cyn iddyn nhw ddigwydd hyd yn oed. Mae e eisoes yn gwybod. Mae cariad Duw’n ddihysbydd.
“Canys Myfi yw’r ARGLWYDD dy Dduw, yr hwn sy’n gafael yn dy ddeheulaw, ac yn dywedyd wrthyt, ‘Nac ofna; Myfi a’th gynorthwya.’” (Eseia 41:13) Dyna sut mae Duw; bydd e gyda ni bob amser. Mae angen i ni ond nesáu ato fe.
Duw yw Creawdwr a chynhaliwr pob peth, sy’n achub y byd drwy ei Fab, Iesu Grist.
Gadewch inni, felly, drwyddo ef offrymu aberth moliant yn wastadol i Dduw; hynny yw, ffrwyth gwefusau sy'n cyffesu ei enw.
Rhoddodd yn fy ngenau gân newydd, cân o foliant i'n Duw; bydd llawer, pan welant hyn, yn ofni ac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl; y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.
Bydd y ddinas imi'n enw llawen, yn glod a gogoniant i holl genhedloedd y ddaear pan glywant am yr holl ddaioni a wnaf iddi; ac ofnant a chrynant oherwydd yr holl ddaioni a'r holl heddwch a wnaf iddi.’
Dewch i mewn i'w byrth â diolch, ac i'w gynteddau â mawl. Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw.
Ond aberthaf i ti â chân o ddiolch. Talaf yr hyn a addunedais; i'r ARGLWYDD y perthyn gwaredu.”
Llefara fy ngenau foliant yr ARGLWYDD, a bydd pob creadur yn bendithio'i enw sanctaidd byth bythoedd.
Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl; y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.
Dewch, addolwn ac ymgrymwn, plygwn ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD a'n gwnaeth.
Oherwydd ef yw ein Duw, a ninnau'n bobl iddo a defaid ei borfa; heddiw cewch wybod ei rym, os gwrandewch ar ei lais.
Y mae'n dweud: “Fe gyhoeddaf dy enw i'm perthnasau, a chanu mawl iti yng nghanol y gynulleidfa”;
Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân, ac ef yw'r un a'm hachubodd; ef yw fy Nuw, ac fe'i gogoneddaf, Duw fy nhad, ac fe'i dyrchafaf.
Pwy ymhlith y duwiau sy'n debyg i ti, O ARGLWYDD? Pwy sydd fel tydi, yn ogoneddus ei sancteiddrwydd, yn teilyngu parch a mawl, ac yn gwneud rhyfeddodau?
Diolchaf a rhof fawl i ti, O Dduw fy hynafiaid, am i ti roi doethineb a nerth i mi. Dangosaist i mi yn awr yr hyn a ofynnwyd gennym, a rhoi gwybod inni beth sy'n poeni'r brenin.”
Ni chuddiwn hwy oddi wrth eu disgynyddion, ond adroddwn wrth y genhedlaeth sy'n dod weithredoedd gogoneddus yr ARGLWYDD, a'i rym, a'r pethau rhyfeddol a wnaeth.
Nid oes sanct fel yr ARGLWYDD, yn wir nid oes neb heblaw tydi, ac nid oes craig fel ein Duw ni.
Rhowch i'r ARGLWYDD ogoniant ei enw; ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.
Tywalltaf fy enaid mewn gofid wrth gofio hyn— fel yr awn gyda thyrfa'r mawrion i dŷ Dduw yng nghanol banllefau a moliant, torf yn cadw gŵyl.
Yna, byddwn ni, dy bobl a phraidd dy borfa, yn dy foliannu am byth, ac yn adrodd dy foliant dros y cenedlaethau.
Oddi wrthyt ti y daw fy mawl yn y gynulleidfa fawr, a thalaf fy addunedau yng ngŵydd y rhai sy'n ei ofni.
Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n trigo yn Seion, cyhoeddwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i'ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol.
Dychwelodd y bugeiliaid gan ogoneddu a moli Duw am yr holl bethau a glywsant ac a welsant, yn union fel y llefarwyd wrthynt.
A daeth llais allan o'r orsedd yn dweud: “Molwch ein Duw ni, chwi ei holl weision ef, a'r rhai sy'n ei ofni ef, yn fach a mawr.”
Felly, gan ein bod yn derbyn teyrnas ddisigl, gadewch inni fod yn ddiolchgar, a thrwy hynny wasanaethu Duw wrth ei fodd, â pharch ac ofn duwiol.
Oherwydd yn wir, tân yn ysu yw ein Duw ni.
Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. Â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol.
Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, ar air neu ar weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan roi diolch i Dduw, y Tad, drwyddo ef.
Yna dywedodd Iesu wrtho, “Dos ymaith, Satan; oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.’ ”
Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dod ac yn ymgrymu o'th flaen, O Arglwydd, ac yn anrhydeddu dy enw.
rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw, dygwch offrwm a dewch o'i flaen. Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.
“Teilwng wyt ti, ein Harglwydd a'n Duw, i dderbyn y gogoniant a'r anrhydedd a'r gallu, oherwydd tydi a greodd bob peth, a thrwy dy ewyllys y daethant i fod ac y crewyd hwy.”
Dewch, canwn yn llawen i'r ARGLWYDD, rhown floedd o orfoledd i graig ein hiachawdwriaeth.
Down i'w bresenoldeb â diolch, gorfoleddwn ynddo â chaneuon mawl.
I ti, ARGLWYDD, y perthyn mawredd, gallu, gogoniant, ysblander a mawrhydi; oherwydd y mae popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear yn eiddo i ti; ti, ARGLWYDD, biau'r deyrnas, ac fe'th ddyrchafwyd yn ben ar y cwbl.
Oddi wrthyt ti y daw cyfoeth ac anrhydedd, a thi sy'n arglwyddiaethu ar bopeth; yn dy law di y mae nerth a chadernid, a thi sy'n rhoi cynnydd a chryfder i bob dim.
Ond oherwydd dy gariad mawr, dof fi i'th dŷ, plygaf yn dy deml sanctaidd mewn parch i ti.
Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD, “Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf a thalu gwrogaeth i mi â geiriau yn unig, ond eu calon ymhell oddi wrthyf, a'u parch i mi yn ddim ond cyfraith ddynol wedi ei dysgu ar gof,
Fe'th geisiais di â'm holl galon; paid â gadael imi wyro oddi wrth dy orchmynion.
Trysorais dy eiriau yn fy nghalon rhag imi bechu yn dy erbyn.
Clodforaf di â'm holl galon, canaf fawl i ti yng ngŵydd duwiau.
Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw am dy gariad a'th ffyddlondeb, oherwydd dyrchefaist dy enw a'th air uwchlaw popeth.
Canwch fawl i Dduw, canwch fawl; canwch fawl i'n brenin, canwch fawl.
Y mae Duw yn frenin ar yr holl ddaear; canwch fawl yn gelfydd.
Yr oedd yr holl angylion yn sefyll o amgylch yr orsedd a'r henuriaid a'r pedwar creadur byw, a syrthiasant ar eu hwynebau gerbron yr orsedd ac addoli Duw
gan ddweud: “Amen. I'n Duw ni y bo'r mawl a'r gogoniant a'r doethineb a'r diolch a'r anrhydedd a'r gallu a'r nerth byth bythoedd! Amen.”
Felly, beth bynnag a wnewch, p'run ai bwyta, neu yfed, neu unrhyw beth arall, gwnewch bopeth er gogoniant Duw.
Yr oedd y naill yn datgan wrth y llall, “Sanct, Sanct, Sanct yw ARGLWYDD y Lluoedd; y mae'r holl ddaear yn llawn o'i ogoniant.”
O Dduw, ti yw fy Nuw, fe'th geisiaf di; y mae fy enaid yn sychedu amdanat, a'm cnawd yn dihoeni o'th eisiau, fel tir sych a diffaith heb ddŵr.
Fel hyn y syllais arnat yn y cysegr, a gweld dy rym a'th ogoniant.
Y mae dy ffyddlondeb yn well na bywyd; am hynny bydd fy ngwefusau'n dy foliannu.
Moliannaf enw Duw ar gân, mawrygaf ef â diolchgarwch.
Bydd hyn yn well gan yr ARGLWYDD nag ych, neu fustach ifanc â chyrn a charnau.
Atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.’ ”
Y maent wedi ffeirio gwirionedd Duw am anwiredd, ac addoli a gwasanaethu'r hyn a grewyd yn lle'r Creawdwr. Bendigedig yw ef am byth! Amen.
Pwy nid ofna, Arglwydd, a gogoneddu dy enw? Oherwydd tydi yn unig sydd sanctaidd. Daw'r holl genhedloedd ac addoli ger dy fron, oherwydd y mae dy farnedigaethau cyfiawn wedi eu hamlygu.”