Oni wyddost, oni chlywaist? Duw tragwyddol yw'r ARGLWYDD a greodd gyrrau'r ddaear; ni ddiffygia ac ni flina, ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy.
Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaed y nefoedd, a'i holl lu trwy anadl ei enau.Casglodd y môr fel dŵr mewn potel, a rhoi'r dyfnderoedd mewn ystordai.Bydded i'r holl ddaear ofni'r ARGLWYDD, ac i holl drigolion y byd arswydo rhagddo.Oherwydd llefarodd ef, ac felly y bu; gorchmynnodd ef, a dyna a safodd.
oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu.
Yn wir, er pan greodd Duw y byd, y mae ei briodoleddau anweledig ef, ei dragwyddol allu a'i dduwdod, i'w gweld yn eglur gan y deall yn y pethau a greodd. Am hynny, y maent yn ddiesgus.
Dywedodd Duw, “Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni, i lywodraethu ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ar yr anifeiliaid gwyllt, ar yr holl ddaear, ac ar bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear.”Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef; yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy.
Mor niferus yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD! Gwnaethost y cyfan mewn doethineb; y mae'r ddaear yn llawn o'th greaduriaid.Dyma'r môr mawr a llydan, gydag ymlusgiaid dirifedi a chreaduriaid bach a mawr.
“Ble'r oeddit ti pan osodais i sylfaen i'r ddaear? Ateb, os gwyddost.Pwy a benderfynodd ei mesurau? Mae'n siŵr dy fod yn gwybod! Pwy a estynnodd linyn mesur arni?Ar beth y seiliwyd ei sylfeini, a phwy a osododd ei chonglfaen?
Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, creawdwr y nefoedd, yr un sy'n Dduw, lluniwr y ddaear a'i gwneuthurwr, yr un a'i sefydlodd, yr un a'i creodd, nid i fod yn afluniaidd, ond a'i ffurfiodd i'w phreswylio: “Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall;
Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn. A bu hwyr a bu bore, y chweched dydd.
Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a'r sêr, a roddaist yn eu lle,beth yw meidrolyn, iti ei gofio, a'r teulu dynol, iti ofalu amdano?
Ti a greodd fy ymysgaroedd, a'm llunio yng nghroth fy mam.Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol, ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol. Yr wyt yn fy adnabod mor dda;
Trwy ffydd yr ydym yn deall i'r bydysawd gael ei lunio gan air Duw yn y fath fodd nes bod yr hyn sy'n weledig wedi tarddu o'r hyn nad yw'n weladwy.
“Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu, ac i adar y nefoedd fynegi i ti,neu i blanhigion y tir dy hyfforddi, ac i bysgod y môr dy gyfarwyddo.Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gyd mai llaw'r ARGLWYDD a'u gwnaeth?Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw, ac anadl pob un meidrol.
Yr wyf fi'n creu nefoedd newydd a daear newydd; ni chofir y pethau gynt na meddwl amdanynt.
Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw.
Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD. O ARGLWYDD fy Nuw, mawr iawn wyt ti; yr wyt wedi dy wisgo ag ysblander ac anrhydedd,a'th orchuddio â goleuni fel mantell. Yr wyt yn taenu'r nefoedd fel pabell,
Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o'r dechrau i'r diwedd.
Yn ei law ef y mae dyfnderau'r ddaear, ac eiddo ef yw uchelderau'r mynyddoedd.Eiddo ef yw'r môr, ac ef a'i gwnaeth; ei ddwylo ef a greodd y sychdir.
Oherwydd ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pob peth. Iddo ef y bo'r gogoniant am byth! Amen.
Molwch yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD o'r nefoedd, molwch ef yn yr uchelderau.Molwch ef, ei holl angylion; molwch ef, ei holl luoedd.Molwch ef, haul a lleuad; molwch ef, yr holl sêr disglair.Molwch ef, nef y nefoedd, a'r dyfroedd sydd uwch y nefoedd.Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD, oherwydd ef a orchmynnodd, a chrewyd hwy;
Yna dywedodd Duw, “Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd i wahanu'r dydd oddi wrth y nos, ac i fod yn arwyddion i'r tymhorau, a hefyd i'r dyddiau a'r blynyddoedd.Bydded iddynt fod yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear.” A bu felly.Gwnaeth Duw y ddau olau mawr, y golau mwyaf i reoli'r dydd, a'r golau lleiaf y nos; a gwnaeth y sêr hefyd.A gosododd Duw hwy yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear,i reoli'r dydd a'r nos ac i wahanu'r goleuni oddi wrth y tywyllwch. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.A bu hwyr a bu bore, y pedwerydd dydd.
Fel hyn y dywed Duw, yr ARGLWYDD, a greodd y nefoedd a'i thaenu allan, a luniodd y ddaear a'i chynnyrch, a roddodd anadl i'r bobl sydd arni, ac ysbryd i'r rhai sy'n rhodio ynddi:
Yna dywedodd Duw, “Heigied y dyfroedd o greaduriaid byw, ac uwchlaw'r ddaear eheded adar ar draws ffurfafen y nefoedd.”A chreodd Duw y morfilod mawr, a'r holl greaduriaid byw sy'n heigio yn y dyfroedd yn ôl eu rhywogaeth, a phob aderyn asgellog yn ôl ei rywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.Bendithiodd Duw hwy a dweud, “Byddwch ffrwythlon ac amlhewch a llanwch ddyfroedd y moroedd, a lluosoged yr adar ar y ddaear.”
gwnaeth y nefoedd mewn doethineb, oherwydd mae ei gariad hyd byth;taenodd y ddaear dros y dyfroedd, oherwydd mae ei gariad hyd byth;gwnaeth oleuadau mawrion, oherwydd mae ei gariad hyd byth;yr haul i reoli'r dydd, oherwydd mae ei gariad hyd byth,y lleuad a'r sêr i reoli'r nos, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
Rwyt yn gofalu am y ddaear ac yn ei dyfrhau, gwnaethost hi'n doreithiog iawn; y mae afon Duw'n llawn o ddŵr; darperaist iddynt ŷd. Fel hyn yr wyt yn trefnu ar ei chyfer:dyfrhau ei rhychau, gwastatáu ei chefnau, ei mwydo â chawodydd a bendithio'i chnwd.Yr wyt yn coroni'r flwyddyn â'th ddaioni, ac y mae dy lwybrau'n diferu gan fraster.Y mae porfeydd yr anialdir yn diferu, a'r bryniau wedi eu gwregysu â llawenydd;y mae'r dolydd wedi eu gwisgo â defaid, a'r dyffrynnoedd wedi eu gorchuddio ag ŷd. Y maent yn bloeddio ac yn gorfoleddu.
Fy llaw a sylfaenodd y ddaear, a'm deheulaw a daenodd y nefoedd; pan alwaf arnynt, ufuddhânt ar unwaith.”
Dyma'r môr mawr a llydan, gydag ymlusgiaid dirifedi a chreaduriaid bach a mawr.Arno y mae'r llongau yn tramwyo, a Lefiathan, a greaist i chwarae ynddo.
Felly fe luniodd yr ARGLWYDD Dduw o'r ddaear yr holl fwystfilod gwyllt a holl adar yr awyr, a daeth â hwy at y dyn i weld pa enw a roddai arnynt; a pha enw bynnag a roes y dyn ar unrhyw greadur, dyna fu ei enw.Rhoes y dyn enw ar yr holl anifeiliaid, ar adar yr awyr, ac ar yr holl fwystfilod gwyllt; ond ni chafodd ymgeledd cymwys iddo'i hun.
Eiddo'r ARGLWYDD yw'r ddaear a'i llawnder, y byd a'r rhai sy'n byw ynddo;oherwydd ef a'i sylfaenodd ar y moroedd a'i sefydlu ar yr afonydd.
Y mae'n pennu nifer y sêr, ac yn rhoi enwau arnynt i gyd.Mawr yw ein Harglwydd ni, a chryf o nerth; y mae ei ddoethineb yn ddifesur.
Megis nad wyt yn gwybod sut y daw bywyd i'r esgyrn yng nghroth y feichiog, felly nid wyt yn deall gwaith Duw, yr Un sy'n gwneud popeth.
Pwy a fesurodd y dyfroedd yng nghledr ei law, a gosod terfyn y nefoedd â'i rychwant? Pwy a roes holl bridd y ddaear mewn mantol, a phwyso'r mynyddoedd mewn tafol, a'r bryniau mewn clorian?
Yna dywedodd Duw, “Dyged y ddaear greaduriaid byw yn ôl eu rhywogaeth: anifeiliaid, ymlusgiaid a bwystfilod gwyllt yn ôl eu rhywogaeth.” A bu felly.Gwnaeth Duw y bwystfilod gwyllt yn ôl eu rhywogaeth, a'r anifeiliaid yn ôl eu rhywogaeth, a holl ymlusgiaid y tir yn ôl eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth; seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll.
Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear, ac â deall y sicrhaodd y nefoedd;trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau, ac y defnynna'r cymylau wlith.
fel y mae'n ysgrifenedig: “Yr wyf yn dy benodi yn dad cenhedloedd lawer.” Yn y Duw a ddywedodd hyn y credodd Abraham, y Duw sy'n gwneud y meirw'n fyw, ac yn galw i fod yr hyn nad yw'n bod.
A dywedodd Duw, “Yr wyf yn rhoi i chwi bob llysieuyn sy'n dwyn had ar wyneb y ddaear, a phob coeden â had yn ei ffrwyth; byddant yn fwyd i chwi.Ac i bob bwystfil gwyllt, i holl adar yr awyr, ac i bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear, popeth ag anadl einioes ynddo, bydd pob llysieuyn glas yn fwyd.” A bu felly.
ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthyt pan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel, ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear.
Y mae hefyd yn dweud: “Ti, yn y dechrau, Arglwydd, a osodaist sylfeini'r ddaear, a gwaith dy ddwylo di yw'r nefoedd.
O ARGLWYDD, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! Gosodaist dy ogoniant uwch y nefoedd,codaist amddiffyn rhag dy elynion o enau babanod a phlant sugno, a thawelu'r gelyn a'r dialydd.
Yr oeddwn i yno pan oedd yn gosod y nefoedd yn ei lle ac yn rhoi cylch dros y dyfnder,pan oedd yn cadarnhau'r cymylau uwchben ac yn sicrhau ffynhonnau'r dyfnder,pan oedd yn gosod terfyn i'r môr, rhag i'r dyfroedd anufuddhau i'w air, a phan oedd yn cynllunio sylfeini'r ddaear.
Y mae'r ARGLWYDD yn frenin; y mae wedi ei wisgo â mawredd, y mae'r ARGLWYDD wedi ei wisgo, a nerth yn wregys iddo. Yn wir, y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir;
A gwnaeth Duw y ffurfafen, a gwahanodd y dyfroedd odani oddi wrth y dyfroedd uwchlaw iddi. A bu felly.
“Ai ymhlith yr oedrannus y ceir doethineb, a deall gyda'r rhai sydd ymlaen mewn dyddiau?Gan Dduw y mae doethineb a chryfder, a chyngor a deall sydd eiddo iddo.
Nid oes iaith na geiriau ganddynt, ni chlywir eu llais;eto fe â eu sain allan drwy'r holl ddaear a'u lleferydd hyd eithafoedd byd. Ynddynt gosododd babell i'r haul,
Dyma hanes cenhedlu'r nefoedd a'r ddaear pan grewyd hwy. Yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddaear a nefoedd,
y mae'r holl ddaear yn ymgrymu o'th flaen, ac yn canu mawl i ti, yn canu mawl i'th enw.” Sela
“A fuost ti yn ystordai'r eira, neu'n gweld cistiau'r cesair?Dyma'r pethau a gedwais at gyfnod trallod, at ddydd brwydr a rhyfel.
Yr wyt yn gwneud i'r gwellt dyfu i'r gwartheg, a phlanhigion at wasanaeth pobl, i ddwyn allan fwyd o'r ddaear,
Oherwydd fe wyddom fod yr holl greadigaeth yn ochneidio, ac mewn gwewyr drwyddi, hyd heddiw.
Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a'r cyfan sydd ynddo,llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo. Yna bydd holl brennau'r goedwig yn canu'n llaweno flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dod, oherwydd y mae'n dod i farnu'r ddaear. Bydd yn barnu'r byd â chyfiawnder, a'r bobloedd â'i wirionedd.
Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo.Y mae dydd yn llefaru wrth ddydd, a nos yn cyhoeddi gwybodaeth wrth nos.Nid oes iaith na geiriau ganddynt, ni chlywir eu llais;
Codwch eich golwg i'r nefoedd, edrychwch ar y ddaear islaw; y mae'r nefoedd yn diflannu fel mwg, a'r ddaear yn treulio fel dilledyn, a'i thrigolion yn marw fel gwybed; ond bydd fy iachawdwriaeth yn parhau byth, ac ni phalla fy muddugoliaeth.
Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun; y mae'r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr; cafodd fy nyddiau eu ffurfio pan nad oedd yr un ohonynt.
Dywedodd Duw, “Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni, i lywodraethu ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ar yr anifeiliaid gwyllt, ar yr holl ddaear, ac ar bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear.”
Am ysblander gogoneddus dy fawredd y dywedant, a myfyrio ar dy ryfeddodau. Cyhoeddant rym dy weithredoedd ofnadwy, ac adrodd am dy fawredd.
Y mae ef yn eistedd ar gromen y ddaear, a'i thrigolion yn ymddangos fel locustiaid. Y mae'n taenu'r nefoedd fel llen, ac yn ei lledu fel pabell i drigo ynddi.
Yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder, ac ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd.
Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, ac yna disgyn? Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddwrn? Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn gwisg? Pwy a sefydlodd holl derfynau'r ddaear? Beth yw ei enw, neu enw ei fab, os wyt yn gwybod?
Dygodd y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had yn ôl eu rhywogaeth, a choed yn dwyn ffrwyth â had ynddo, yn ôl eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
Gosododd yr ARGLWYDD ei orsedd yn y nefoedd, ac y mae ei frenhiniaeth ef yn rheoli pob peth.
Fe wna'r ARGLWYDD beth bynnag a ddymuna, yn y nefoedd ac ar y ddaear, yn y moroedd a'r holl ddyfnderau.
“I bwy, ynteu, y cyffelybwch fi? Tebyg i bwy?” meddai'r Sanct.Codwch eich llygaid i fyny; edrychwch, pwy a fu'n creu'r pethau hyn? Pwy a fu'n galw allan eu llu fesul un ac yn rhoi enw i bob un ohonynt? Gan faint ei nerth, a'i fod mor eithriadol gryf, nid oes yr un ar ôl.
A phlannodd yr ARGLWYDD Dduw ardd yn Eden, tua'r dwyrain; a gosododd yno y dyn yr oedd wedi ei lunio.
Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas, a saif dy lywodraeth byth bythoedd. Y mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon yn ei holl eiriau, ac yn drugarog yn ei holl weithredoedd.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Y nefoedd yw fy ngorsedd, a'r ddaear fy nhroedfainc; ple, felly, y codwch dŷ i mi, a phle y caf fan i orffwys?
A chreodd Duw y morfilod mawr, a'r holl greaduriaid byw sy'n heigio yn y dyfroedd yn ôl eu rhywogaeth, a phob aderyn asgellog yn ôl ei rywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
“A wyddost ti amser llydnu y geifr gwylltion? A fuost ti'n gwylio'r ewigod yn esgor,yn cyfrif y misoedd a gyflawnant ac yn gwybod amser eu llydnu?Y maent yn crymu i eni eu llydnod, ac yn bwrw eu brych.Y mae eu llydnod yn cryfhau ac yn prifio yn y maes, yn mynd ymaith, ac ni ddônt yn ôl.
Oherwydd y mae'r hyn y gellir ei wybod am Dduw yn amlwg iddynt, a Duw sydd wedi ei amlygu iddynt.Yn wir, er pan greodd Duw y byd, y mae ei briodoleddau anweledig ef, ei dragwyddol allu a'i dduwdod, i'w gweld yn eglur gan y deall yn y pethau a greodd. Am hynny, y maent yn ddiesgus.
“Fel y bydd y nefoedd newydd a'r ddaear newydd, yr wyf fi yn eu creu, yn parhau ger fy mron,” medd yr ARGLWYDD, “felly y parha eich had a'ch enw chwi.
Gwnaeth Duw y ddau olau mawr, y golau mwyaf i reoli'r dydd, a'r golau lleiaf y nos; a gwnaeth y sêr hefyd.
A fedri di gau cadwynau Pleiades, neu ddatod rhwymau Orion?A fedri di ddwyn Masaroth allan yn ei bryd, a thywys yr Arth gyda'i phlant?A wyddost ti reolau'r awyr? A fedri di gymhwyso i'r ddaear ei threfn?
Myfi a wnaeth y ddaear, a chreu pobl arni; fy llaw i a estynnodd y nefoedd, a threfnu ei holl lu.
Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith, yn adfywio'r enaid; y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr, yn gwneud y syml yn ddoeth;
Dywedodd Duw, “Dyged y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had, a choed ir ar y ddaear yn dwyn ffrwyth â had ynddo, yn ôl eu rhywogaeth.” A bu felly.
a gwin i lonni calonnau pobl, olew i ddisgleirio'u hwynebau, a bara i gynnal eu calonnau.
Bydd anifeiliaid gwylltion yn fy mawrygu, y bleiddiaid a'r estrys, am imi roi dŵr yn yr anialwch ac afonydd yn y diffeithwch, er mwyn rhoi dŵr i'm pobl, f'etholedig,sef y bobl a luniais i mi fy hun, iddynt fynegi fy nghlod.
Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dod ac yn ymgrymu o'th flaen, O Arglwydd, ac yn anrhydeddu dy enw.
Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn yn ei holl ffyrdd ac yn ffyddlon yn ei holl weithredoedd.
Edrychwch ar adar yr awyr: nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu bwydo. Onid ydych chwi yn llawer mwy gwerthfawr na hwy?
Oherwydd fe wn i fod yr ARGLWYDD yn fawr, a bod ein Harglwydd ni yn rhagori ar yr holl dduwiau.
Galwodd Duw y tir sych yn ddaear, a chronfa'r dyfroedd yn foroedd. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
Cofiwch y pethau gynt, ymhell yn ôl; oherwydd myfi sydd Dduw, ac nid arall, yn Dduw heb neb yn debyg i mi.Rwyf o'r dechreuad yn mynegi'r diwedd, ac o'r cychwyn yr hyn oedd heb ei wneud. Dywedaf, ‘Fe saif fy nghyngor, a chyflawnaf fy holl fwriad.’
yn y gobaith y câi'r greadigaeth hithau ei rhyddhau o gaethiwed a llygredigaeth, a'i dwyn i ryddid a gogoniant plant Duw.
Mor niferus yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD! Gwnaethost y cyfan mewn doethineb; y mae'r ddaear yn llawn o'th greaduriaid.
Bendithiodd Duw hwy a dweud, “Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy'n ymlusgo ar y ddaear.”
Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo; ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth.”
Gan dy gerydd di fe ffoesant, gan sŵn dy daranau ciliasant draw,a chodi dros fynyddoedd a disgyn i'r dyffrynnoedd, i'r lle a bennaist ti iddynt;
Cywilyddier y trahaus oherwydd i'w celwydd fy niweidio, ond byddaf fi'n myfyrio ar dy ofynion.
Yna dywedodd Duw, “Heigied y dyfroedd o greaduriaid byw, ac uwchlaw'r ddaear eheded adar ar draws ffurfafen y nefoedd.”
“Lluniodd yr ARGLWYDD fi ar ddechrau ei waith, yn gyntaf o'i weithredoedd gynt.Fe'm sefydlwyd yn y gorffennol pell, yn y dechrau, cyn bod daear.Ganwyd fi cyn bod dyfnderau, cyn bod ffynhonnau yn llawn dŵr.Cyn gosod sylfeini'r mynyddoedd, cyn bod y bryniau, y ganwyd fi,
Felly cânt weld a gwybod, ystyried ac amgyffred mai llaw'r ARGLWYDD a wnaeth hyn, ac mai Sanct Israel a'i creodd.”
Molwch yr ARGLWYDD o'r ddaear, chwi ddreigiau a'r holl ddyfnderau,tân a chenllysg, eira a mwg, y gwynt stormus sy'n ufudd i'w air;y mynyddoedd a'r holl fryniau, y coed ffrwythau a'r holl gedrwydd;anifeiliaid gwyllt a'r holl rai dof, ymlusgiaid ac adar hedegog;
Felly fe luniodd yr ARGLWYDD Dduw o'r ddaear yr holl fwystfilod gwyllt a holl adar yr awyr, a daeth â hwy at y dyn i weld pa enw a roddai arnynt; a pha enw bynnag a roes y dyn ar unrhyw greadur, dyna fu ei enw.