Adnodau Beiblaidd

Hysbysebion


Is-gategori

145 Adnodau o'r Beibl am Ddigonedd


Loan 10:10

Ni ddaw'r lleidr ond i ladrata ac i ladd ac i ddinistrio. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a'i gael yn ei holl gyflawnder.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 23:1

Yr ARGLWYDD yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.

Pennod    |  Fersiynau
Philipiaid 4:19

A bydd fy Nuw i yn cyflawni eich holl angen chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant yng Nghrist Iesu.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 65:11

Yr wyt yn coroni'r flwyddyn â'th ddaioni, ac y mae dy lwybrau'n diferu gan fraster.

Pennod    |  Fersiynau
2 Corinthiaid 9:8

Y mae Duw yn gallu rhoi pob gras i chwi yn helaeth, er mwyn i chwi, ar ben eich digon bob amser ym mhob peth, allu rhoi yn helaeth i bob gwaith da.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 3:9-10

Anrhydedda'r ARGLWYDD â'th gyfoeth, ac â blaenffrwyth dy holl gynnyrch.

Yna bydd dy ysguboriau'n orlawn, a'th gafnau'n gorlifo gan win.

Pennod    |  Fersiynau
Malachi 3:10

Dygwch y degwm llawn i'r trysordy, fel y bo bwyd yn fy nhŷ. Profwch fi yn hyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “nes imi agor i chwi ffenestri'r nefoedd a thywallt arnoch fendith yn helaeth.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 37:25

Bûm ifanc, ac yn awr yr wyf yn hen, ond ni welais y cyfiawn wedi ei adael, na'i blant yn cardota am fara;

Pennod    |  Fersiynau
2 Corinthiaid 8:9

Oherwydd yr ydych yn gwybod am ras ein Harglwydd Iesu Grist, fel y bu iddo, ac yntau'n gyfoethog, ddod yn dlawd drosoch chwi, er mwyn i chwi ddod yn gyfoethog trwy ei dlodi ef.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 36:8

Fe'u digonir â llawnder dy dŷ, a diodi hwy o afon dy gysuron;

Pennod    |  Fersiynau
Effesiaid 3:20

Iddo ef, sydd â'r gallu ganddo i wneud yn anhraethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu na'i ddychmygu, trwy'r gallu sydd ar waith ynom ni,

Pennod    |  Fersiynau
Luc 6:38

Rhowch, ac fe roir i chwi; rhoir yn eich côl fesur da, wedi ei wasgu i lawr a'i ysgwyd ynghyd nes gorlifo; oherwydd â'r mesur y rhowch y rhoir i chwi yn ôl.”

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 34:10

Y mae'r anffyddwyr yn dioddef angen ac yn newynu, ond nid yw'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn brin o ddim da.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 28:12

Bydd yr ARGLWYDD yn agor y nefoedd, ystordy ei ddaioni, i roi glaw i'th dir yn ei bryd, ac i fendithio holl waith dy ddwylo; byddi'n rhoi benthyg i lawer o genhedloedd, ond heb angen benthyca dy hun.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 11:24-25

Y mae un yn hael, ac eto'n ennill cyfoeth, ond arall yn grintach, a phob amser mewn angen.

Llwydda'r un a wasgar fendithion, a diwellir yr un a ddiwalla eraill.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 84:11

Oherwydd haul a tharian yw'r ARGLWYDD Dduw; rhydd ras ac anrhydedd. Nid atal yr ARGLWYDD unrhyw ddaioni oddi wrth y rhai sy'n rhodio'n gywir.

Pennod    |  Fersiynau
1 Tawarikh 29:12

Oddi wrthyt ti y daw cyfoeth ac anrhydedd, a thi sy'n arglwyddiaethu ar bopeth; yn dy law di y mae nerth a chadernid, a thi sy'n rhoi cynnydd a chryfder i bob dim.

Pennod    |  Fersiynau
3 Loan 1:2

Gyfaill annwyl, yr wyf yn dymuno iechyd iti, a llwyddiant ym mhob peth, fel y mae dy enaid yn llwyddo.

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 6:33

Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, a rhoir y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 66:12

gadewaist i ddynion farchogaeth dros ein pennau, aethom trwy dân a dyfroedd; ond dygaist ni allan i ryddid.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 58:11

Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser, yn diwallu dy angen mewn cyfnod sych, ac yn cryfhau dy esgyrn; yna byddi fel gardd ddyfradwy, ac fel ffynnon ddŵr a'i dyfroedd heb ballu.

Pennod    |  Fersiynau
1 Brenhinoedd 17:14-16

Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: ‘Nid â'r celwrn blawd yn wag na'r stên olew yn sych hyd y dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi glaw ar wyneb y tir.’ ”

Gwnaeth hithau yn ôl gair Elias, a chafodd ef a hi a'i theulu fwyd am amser.

Nid aeth y celwrn blawd yn wag na'r stên olew yn sych, yn ôl gair yr ARGLWYDD drwy Elias.

Pennod    |  Fersiynau
Exodus 34:6

Aeth yr ARGLWYDD heibio o'i flaen, a chyhoeddi: “Yr ARGLWYDD, yr ARGLWYDD, Duw trugarog a graslon, araf i ddigio, llawn cariad a ffyddlondeb;

Pennod    |  Fersiynau
1 Timotheus 6:17

Gorchymyn di i gyfoethogion y byd presennol beidio â bod yn falch, ac iddynt sefydlu eu gobaith, nid ar ansicrwydd cyfoeth ond ar y Duw sy'n rhoi inni yn helaeth bob peth i'w fwynhau.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 104:24

Mor niferus yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD! Gwnaethost y cyfan mewn doethineb; y mae'r ddaear yn llawn o'th greaduriaid.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 61:7

Yn lle'r rhan ddwbl o gywilydd, yn lle'r gwarth a'r cwynfan a ddaeth i'w rhan, fe etifeddant ran ddwbl yn eu gwlad, a chael llawenydd di-baid.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 8:18

yna cofiwch yr ARGLWYDD eich Duw, oherwydd ef sy'n rhoi nerth ichwi i ennill cyfoeth, er mwyn cadarnhau'r cyfamod a dyngodd i'ch hynafiaid, fel y mae heddiw.

Pennod    |  Fersiynau
Luc 12:15

A dywedodd wrthynt, “Gofalwch ymgadw rhag trachwant o bob math, oherwydd, er cymaint ei gyfoeth, nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau.”

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 10:22

Bendith yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfoeth, ac nid yw'n ychwanegu gofid gyda hi.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 145:16

y mae dy law yn agored, ac yr wyt yn diwallu popeth byw yn ôl d'ewyllys.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 1:3

Y mae fel pren wedi ei blannu wrth ffrydiau dŵr ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor, a'i ddeilen heb fod yn gwywo. Beth bynnag a wna, fe lwydda.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 33:3

‘Galw arnaf, ac atebaf di; mynegaf i ti bethau mawr a dirgel na wyddost amdanynt.’

Pennod    |  Fersiynau
Job 42:10

Wedi i Job weddïo dros ei gyfeillion, adferodd yr ARGLWYDD iddo ei lwyddiant, a rhoi'n ôl i Job ddwywaith yr hyn oedd ganddo o'r blaen.

Pennod    |  Fersiynau
Y Pregethwr 5:19

Yn wir y mae pob un y rhoddodd Duw iddo gyfoeth a meddiannau a'r gallu i'w mwynhau, i dderbyn ei dynged, a bod yn llawen yn ei lafur; rhodd Duw yw hyn.

Pennod    |  Fersiynau
Genesis 13:2

Yr oedd Abram yn gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian ac aur.

Pennod    |  Fersiynau
2 Petr 1:3

Y mae ei allu dwyfol wedi rhoi i ni bob peth sy'n angenrheidiol i fywyd a duwioldeb trwy ein hadnabyddiaeth o'r hwn a'n galwodd â'i weithred ogoneddus a rhagorol ei hun.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 28:20

Caiff y ffyddlon lawer o fendithion, ond ni fydd yr un sydd ar frys i ymgyfoethogi heb ei gosb.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 112:3

Bydd golud a chyfoeth yn ei dŷ, a bydd ei gyfiawnder yn para am byth.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 55:1-2

“Dewch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno; dewch, er eich bod heb arian; prynwch a bwytewch. Dewch, prynwch win a llaeth, heb arian a heb dâl.

Pam y gwariwch arian am yr hyn nad yw'n fara, a llafurio am yr hyn nad yw'n digoni? Gwrandewch arnaf yn astud, a chewch fwyta'r hyn sydd dda, a mwynhau danteithion.

Pennod    |  Fersiynau
2 Corinthiaid 9:6

Cofiwch hyn: a heuo'n brin a fed yn brin, a heuo'n hael a fed yn hael.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 132:15

Bendithiaf hi â digonedd o ymborth, a digonaf ei thlodion â bara.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 45:3

Rhof iti drysorau o leoedd tywyll, wedi eu cronni mewn mannau dirgel, er mwyn iti wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, Duw Israel, sy'n dy gyfarch wrth dy enw.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 19:17

Y mae'r un sy'n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i'r ARGLWYDD, ac fe dâl ef yn ôl iddo am ei weithred.

Pennod    |  Fersiynau
Genesis 22:14

Ac enwodd Abraham y lle hwnnw, “Yr ARGLWYDD sy'n darparu”; fel y dywedir hyd heddiw, “Ar fynydd yr ARGLWYDD fe ddarperir.”

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 19:29

A phob un a adawodd dai neu frodyr neu chwiorydd neu dad neu fam neu blant neu diroedd er mwyn fy enw i, caiff dderbyn ganwaith cymaint ac etifeddu bywyd tragwyddol.

Pennod    |  Fersiynau
Luc 5:4-6

Pan orffennodd lefaru dywedodd wrth Simon, “Dos allan i'r dŵr dwfn, a gollyngwch eich rhwydau am ddalfa.”

Atebodd Simon, “Meistr, drwy gydol y nos buom yn llafurio heb ddal dim, ond ar dy air di mi ollyngaf y rhwydau.”

Gwnaethant hyn, a daliasant nifer enfawr o bysgod, nes bod eu rhwydau bron â rhwygo.

Pennod    |  Fersiynau
Exodus 23:25

Yr ydych i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw; bydd ef yn bendithio dy fara a'th ddŵr ac yn cymryd ymaith bob clefyd o'ch plith.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 34:9-10

Ofnwch yr ARGLWYDD, ei saint ef, oherwydd nid oes eisiau ar y rhai a'i hofna.

Y mae'r anffyddwyr yn dioddef angen ac yn newynu, ond nid yw'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn brin o ddim da.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 32:15

Pan dywelltir arnom ysbryd oddi fry, a'r anialwch yn mynd yn ddoldir, a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir,

Pennod    |  Fersiynau
Philipiaid 1:6

ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 60:5

pan weli, bydd dy wyneb yn gloywi, bydd dy galon yn llawn cyffro a llawenydd; troir atat gyflawnder y môr, a daw golud y cenhedloedd yn eiddo iti.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 111:5

Mae'n rhoi bwyd i'r rhai sy'n ei ofni, ac yn cofio ei gyfamod am byth.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 11:25

Llwydda'r un a wasgar fendithion, a diwellir yr un a ddiwalla eraill.

Pennod    |  Fersiynau
2 Brenhinoedd 4:6-7

Pan oedd wedi llenwi'r llestri, meddai hi wrth ei mab, “Tyrd â llestr arall imi,” a dywedodd yntau, “Nid oes yr un llestr arall.” Yna peidiodd yr olew.

Pan ddaeth a dweud yr hanes wrth ŵr Duw, dywedodd ef, “Dos, gwerth yr olew a thâl dy ddyled, a chei di a'th feibion fyw ar y gweddill.”

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 67:6-7

Rhoes y ddaear ei chnwd; Duw, ein Duw ni, a'n bendithiodd.

Bendithiodd Duw ni; bydded holl gyrrau'r ddaear yn ei ofni.

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 14:20

Bwytasant oll a chael digon, a chodasant ddeuddeg basgedaid lawn o'r tameidiau oedd dros ben.

Pennod    |  Fersiynau
Actau 4:34-35

Yn wir, nid oedd neb anghenus yn eu plith, oherwydd byddai pawb oedd yn berchenogion tiroedd neu dai yn eu gwerthu, yn dod â'r tâl am y pethau a werthid,

ac yn ei roi wrth draed yr apostolion; a rhennid i bawb yn ôl fel y byddai angen pob un.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 145:7

Dygant i gof dy ddaioni helaeth, a chanu am dy gyfiawnder.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 30:9

Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn peri iti lwyddo'n helaeth ym mhopeth a wnei, ac yn ffrwyth dy gorff, a chynnydd dy fuches a chnwd dy dir; oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn ymhyfrydu eto ynot er dy les, fel y bu'n ymhyfrydu yn dy hynafiaid,

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 63:5

Caf fy nigoni, fel pe ar fêr a braster, a moliannaf di â gwefusau llawen.

Pennod    |  Fersiynau
Rhufeiniaid 15:13

A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 104:28

Pan roddi iddynt, y maent yn ei gasglu ynghyd; pan agori dy law, cânt eu diwallu'n llwyr.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 10:3

Nid yw'r ARGLWYDD yn gadael i'r cyfiawn newynu, ond y mae'n siomi chwant y rhai drwg.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 103:5

ef sy'n fy nigoni â daioni dros fy holl ddyddiau i adnewyddu fy ieuenctid fel eryr.

Pennod    |  Fersiynau
Eseciel 34:26

Gwnaf hwy, a'r mannau o amgylch fy mynyddoedd, yn fendith; anfonaf i lawr y cawodydd yn eu pryd, a byddant yn gawodydd bendith.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 68:19

Bendigedig yw'r Arglwydd, sy'n ein cario ddydd ar ôl dydd; Duw yw ein hiachawdwriaeth. Sela

Pennod    |  Fersiynau
1 Thesaloniaid 4:12

Felly byddwch yn ymddwyn yn weddaidd yng ngolwg y rhai sydd y tu allan, ac ni fydd angen dim arnoch.

Pennod    |  Fersiynau
Job 22:25

yna bydd yr Hollalluog yn aur iti, ac yn arian pur.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 115:14

Bydded yr ARGLWYDD yn eich amlhau, chwi a'ch plant hefyd.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 28:11

Bydd yr ARGLWYDD yn dy lwyddo'n ardderchog yn ffrwyth dy gorff, cynnydd dy fuches, a chnwd dy dir yn y wlad yr addawodd yr ARGLWYDD i'th hynafiaid ei rhoi iti.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 43:19-20

Edrychwch, rwyf yn gwneud peth newydd; y mae'n tarddu yn awr; oni allwch ei adnabod? Yn wir, rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch.

Bydd anifeiliaid gwylltion yn fy mawrygu, y bleiddiaid a'r estrys, am imi roi dŵr yn yr anialwch ac afonydd yn y diffeithwch, er mwyn rhoi dŵr i'm pobl, f'etholedig,

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 22:4

Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDD yw cyfoeth, anrhydedd a bywyd.

Pennod    |  Fersiynau
Y Pregethwr 5:10

Ni ddigonir yr ariangar ag arian, na'r un sy'n caru cyfoeth ag elw. Y mae hyn hefyd yn wagedd.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 128:2

Cei fwyta o ffrwyth dy lafur; byddi'n hapus ac yn wyn dy fyd.

Pennod    |  Fersiynau
1 Brenhinoedd 3:13

Rhoddaf hefyd iti yr hyn nis gofynnaist, sef cyfoeth a gogoniant, fel na bydd dy fath ymysg brenhinoedd, dy holl ddyddiau di.

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 25:29

Oherwydd i bawb y mae ganddo y rhoddir, a bydd ar ben ei ddigon, ond oddi ar yr hwn nad oes ganddo fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo.

Pennod    |  Fersiynau
Exodus 16:18

ac wedi iddynt ei fesur wrth yr omer, nid oedd gormod gan y sawl a gasglodd lawer, na phrinder gan y sawl a gasglodd ychydig. Yr oedd pob un yn casglu cymaint ag a allai ei fwyta.

Pennod    |  Fersiynau
Hebraid 13:5

Byddwch yn ddiariangar yn eich dull o fyw; byddwch yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Oherwydd y mae ef wedi dweud, “Ni'th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.”

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 92:14-15

Rhônt ffrwyth hyd yn oed mewn henaint, a pharhânt yn wyrdd ac iraidd.

Cyhoeddant fod yr ARGLWYDD yn uniawn, ac am fy nghraig, nad oes anghyfiawnder ynddo.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 8:18-21

Gennyf fi y mae cyfoeth ac anrhydedd, digonedd o olud a chyfiawnder.

Y mae fy ffrwythau'n well nag aur, aur coeth, a'm cynnyrch yn well nag arian pur.

Rhodiaf ar hyd ffordd cyfiawnder, ar ganol llwybrau barn,

a rhoddaf gyfoeth i'r rhai a'm câr, a llenwi eu trysordai.

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 6:19-21

“Peidiwch â chasglu ichwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn torri trwodd ac yn lladrata.

Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata.

Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon.

Pennod    |  Fersiynau
Luc 12:32

Peidiwch ag ofni, fy mhraidd bychan, oherwydd gwelodd eich Tad yn dda roi i chwi'r deyrnas.

Pennod    |  Fersiynau
2 Corinthiaid 8:14-15

ond eich gwneud yn gyfartal. Yn yr amser presennol hwn y mae'r hyn sydd dros ben gennych chwi yn cyflenwi eu diffyg hwy, fel y bydd i'r hyn sydd dros ben ganddynt hwy gyflenwi eich diffyg chwi maes o law. Cyfartaledd yw'r diben.

Fel y mae'n ysgrifenedig: “Nid oedd gormod gan y sawl a gasglodd lawer, na phrinder gan y sawl a gasglodd ychydig.”

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 132:13-15

Oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD Seion, a'i chwennych yn drigfan iddo:

“Dyma fy ngorffwysfa am byth; yma y trigaf am imi ei dewis.

Bendithiaf hi â digonedd o ymborth, a digonaf ei thlodion â bara.

Pennod    |  Fersiynau
Rhufeiniaid 8:32

Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef?

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 67:7

Bendithiodd Duw ni; bydded holl gyrrau'r ddaear yn ei ofni.

Pennod    |  Fersiynau
Philipiaid 4:12-13

Gwn sut i gymryd fy narostwng, a gwn hefyd sut i fod uwchben fy nigon. Ym mhob rhyw amgylchiadau, yr wyf wedi dysgu'r gyfrinach sut i ddygymod, boed â llawnder neu newyn, â helaethrwydd neu brinder.

Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 8:7-10

oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn dod â chwi i wlad dda, gwlad ac ynddi ffrydiau dŵr, ffynhonnau, a chronfeydd yn tarddu yn y dyffrynnoedd ac ar y mynyddoedd;

gwlad lle mae gwenith a haidd, gwinwydd, ffigys a phomgranadau, olewydd a mêl;

gwlad lle cewch fwyta heb brinder, a lle ni bydd arnoch angen am ddim; gwlad y mae ei cherrig yn haearn a lle y byddwch yn cloddio copr o'i mynyddoedd.

Wedi ichwi fwyta a chael digon, byddwch yn bendithio'r ARGLWYDD eich Duw am y wlad dda y mae'n ei rhoi ichwi.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 119:64

Y mae'r ddaear, O ARGLWYDD, yn llawn o'th ffyddlondeb; dysg i mi dy ddeddfau.

Pennod    |  Fersiynau
1 Brenhinoedd 17:6

Bore a hwyr dôi cigfrain â bara a chig iddo, ac yfai o'r nant.

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 7:7-8

“Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.

Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 116:7

Gorffwysa unwaith eto, fy enaid, oherwydd bu'r ARGLWYDD yn hael wrthyt;

Pennod    |  Fersiynau
Luc 16:10-12

Y mae rhywun sy'n gywir yn y pethau lleiaf yn gywir yn y pethau mawr hefyd, a'r un sy'n anonest yn y pethau lleiaf yn anonest yn y pethau mawr hefyd.

Gan hynny, os na fuoch yn gywir wrth drin y Mamon anonest, pwy a ymddirieda i chwi y gwir olud?

Ac os na fuoch yn gywir wrth drin eiddo pobl eraill, pwy a rydd i chwi eich eiddo eich hunain?

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 111:9

Rhoes waredigaeth i'w bobl, a gorchymyn ei gyfamod dros byth. Sanctaidd ac ofnadwy yw ei enw.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 15:6

Y mae llawer o gyfoeth yn nhŷ'r cyfiawn, ond trallod sydd yn enillion y drygionus.

Pennod    |  Fersiynau
2 Corinthiaid 3:5

Nid ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain; ni allwn briodoli dim i ni ein hunain; o Dduw y daw ein digonolrwydd ni,

Pennod    |  Fersiynau
Luc 22:35

Dywedodd wrthynt, “Pan anfonais chwi allan heb bwrs na chod na sandalau, a fuoch yn brin o ddim?” “Naddo,” atebasant.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 41:10

Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 37:19

Ni ddaw cywilydd arnynt mewn cyfnod drwg, a bydd ganddynt ddigon mewn dyddiau o newyn.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 3:5-6

Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun.

Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 29:11

Oherwydd myfi sy'n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,’ medd yr ARGLWYDD, ‘bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol.

Pennod    |  Fersiynau
1 Tawarikh 4:10

Gweddïodd Jabes ar Dduw Israel, a dweud, “O na fyddit yn fy mendithio ac yn ehangu fy nherfynau! O na fyddai dy law gyda mi i'm hamddiffyn oddi wrth niwed rhag fy mhoeni!” Rhoddodd Duw ei ddymuniad iddo.

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 19:21

Meddai Iesu wrtho, “Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi.”

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 21:5

Y mae cynlluniau'r diwyd yn sicr o arwain i ddigonedd, ond daw angen ar bob un sydd mewn brys.

Pennod    |  Fersiynau
Rhufeiniaid 12:12

Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthrymder. Daliwch ati i weddïo.

Pennod    |  Fersiynau
Actau 2:46-47

A chan ddyfalbarhau beunydd yn unfryd yn y deml, a thorri bara yn eu tai, yr oeddent yn cydfwyta mewn llawenydd a symledd calon,

dan foli Duw a chael ewyllys da'r holl bobl. Ac yr oedd yr Arglwydd yn ychwanegu beunydd at y gynulleidfa y rhai oedd yn cael eu hachub.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 147:14

Y mae'n rhoi heddwch i'th derfynau, ac yn dy ddigoni â'r ŷd gorau.

Pennod    |  Fersiynau
Effesiaid 2:4-5

Ond gan mor gyfoethog yw Duw yn ei drugaredd, a chan fod ei gariad tuag atom mor fawr, fe'n gwnaeth ni,

ni oedd yn feirw yn ein camweddau, yn fyw gyda Christ; trwy ras yr ydych wedi eich achub.

Pennod    |  Fersiynau
Luc 9:16-17

Cymerodd yntau y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef fe'u bendithiodd, a'u torri, a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron y dyrfa.

Bwytasant a chafodd pawb ddigon. A chodwyd deuddeg basgedaid o dameidiau o'r hyn oedd dros ben ganddynt.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 107:9

Oherwydd rhoes eu digon i'r sychedig, a llenwi'r newynog â phethau daionus.

Pennod    |  Fersiynau
2 Corinthiaid 9:11

Ym mhob peth cewch eich cyfoethogi ar gyfer pob haelioni, a bydd hynny trwom ni yn esgor ar ddiolchgarwch i Dduw.

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 6:11

Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol;

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 107:37-38

heuant feysydd a phlannu gwinwydd, a chânt gnydau toreithiog.

Bydd ef yn eu bendithio ac yn eu hamlhau, ac ni fydd yn gadael i'w gwartheg leihau.

Pennod    |  Fersiynau
Genesis 41:49

Felly pentyrrodd Joseff ŷd fel tywod y môr, nes peidio â chadw cyfrif, am na ellid ei fesur.

Pennod    |  Fersiynau
2 Corinthiaid 8:2

Er iddynt gael eu profi'n llym gan orthrymder, gorlifodd cyflawnder eu llawenydd a dyfnder eu tlodi yn gyfoeth o haelioni ynddynt.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 21:26

Trachwantu y mae'r annuwiol bob amser, ond y mae'r cyfiawn yn rhoi heb arbed.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 65:9

Rwyt yn gofalu am y ddaear ac yn ei dyfrhau, gwnaethost hi'n doreithiog iawn; y mae afon Duw'n llawn o ddŵr; darperaist iddynt ŷd. Fel hyn yr wyt yn trefnu ar ei chyfer:

Pennod    |  Fersiynau
Loan 14:13-14

Beth bynnag a ofynnwch yn fy enw i, fe'i gwnaf, er mwyn i'r Tad gael ei ogoneddu yn y Mab.

Os gofynnwch unrhyw beth i mi yn fy enw i, fe'i gwnaf.

Pennod    |  Fersiynau
Effesiaid 1:3

Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Y mae wedi'n bendithio ni yng Nghrist â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 15:6

A phan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio, fel yr addawodd iti, yna byddi di'n rhoi benthyg i genhedloedd lawer, heb i ti fenthyca gan neb; a byddi'n rheoli cenhedloedd lawer, heb iddynt hwy dy reoli di.

Pennod    |  Fersiynau
Philipiaid 4:7

A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 13:12

Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, a bydd ganddo fwy na digon; ond oddi ar yr sawl nad oes ganddo y dygir hyd yn oed hynny sydd ganddo.

Pennod    |  Fersiynau
1 Tawarikh 29:11-12

I ti, ARGLWYDD, y perthyn mawredd, gallu, gogoniant, ysblander a mawrhydi; oherwydd y mae popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear yn eiddo i ti; ti, ARGLWYDD, biau'r deyrnas, ac fe'th ddyrchafwyd yn ben ar y cwbl.

Oddi wrthyt ti y daw cyfoeth ac anrhydedd, a thi sy'n arglwyddiaethu ar bopeth; yn dy law di y mae nerth a chadernid, a thi sy'n rhoi cynnydd a chryfder i bob dim.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 22:2

Y mae un peth yn gyffredin i gyfoethog a thlawd: yr ARGLWYDD a'u creodd ill dau.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 30:23

Ac fe rydd ef iti law i'r had a heui yn y pridd, a bydd cynnyrch y ddaear yn rawn bras a llawn; bydd dy anifeiliaid yn pori mewn porfa eang yn y dydd hwnnw,

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 23:5

Yr wyt yn arlwyo bwrdd o'm blaen yng ngŵydd fy ngelynion; yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew; y mae fy nghwpan yn llawn.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 17:7-8

Bendigedig yw'r sawl sy'n hyderu yn yr ARGLWYDD, a'r ARGLWYDD yn hyder iddo.

Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd, yn gwthio'i wreiddiau i'r afon, heb ofni gwres pan ddaw, a'i ddail yn ir; ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid â ffrwytho.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 28:3-6

Byddi'n derbyn bendith yn y dref ac yn y maes.

Bydd bendith ar ffrwyth dy gorff, ar gnwd dy dir a'th fuches, ar gynnydd dy wartheg ac epil dy ddefaid.

Bydd bendith ar dy gawell a'th badell dylino.

Bydd bendith arnat wrth ddod i mewn ac wrth fynd allan.

Pennod    |  Fersiynau
1 Timotheus 6:6-8

Ac wrth gwrs, y mae cyfoeth mawr mewn bywyd duwiol ynghyd â bodlonrwydd mewnol.

A'r ffaith yw, na ddaethom â dim i'r byd, ac felly hefyd na allwn fynd â dim allan ohono.

Os oes gennym fwyd a dillad, gadewch inni fodloni ar hynny.

Pennod    |  Fersiynau
Luc 12:24

Ystyriwch y brain: nid ydynt yn hau nac yn medi, nid oes ganddynt ystordy nac ysgubor, ac eto y mae Duw yn eu bwydo. Gymaint mwy gwerthfawr ydych chwi na'r adar!

Pennod    |  Fersiynau
Genesis 24:35

Y mae'r ARGLWYDD wedi bendithio fy meistr yn helaeth, ac y mae yntau wedi llwyddo; y mae wedi rhoi iddo ddefaid ac ychen, arian ac aur, gweision a morynion, camelod ac asynnod.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 28:27

Ni ddaw angen ar yr un sy'n rhoi i'r tlawd, ond daw llawer o felltithion ar yr un sy'n cau ei lygaid.

Pennod    |  Fersiynau
1 Petr 5:7

Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch.

Pennod    |  Fersiynau
Job 1:21

a dweud, “Yn noeth y deuthum o groth fy mam, ac yn noeth y dychwelaf yno. Yr ARGLWYDD a roddodd, a'r ARGLWYDD a ddygodd ymaith. Bendigedig fyddo enw'r ARGLWYDD.”

Pennod    |  Fersiynau
Luc 11:9-10

Ac yr wyf fi'n dweud wrthych: gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.

Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 105:37

Yna dygodd hwy allan gydag arian ac aur, ac nid oedd un yn baglu ymysg y llwythau.

Pennod    |  Fersiynau
Rhufeiniaid 11:33

O ddyfnder cyfoeth Duw, a'i ddoethineb a'i wybodaeth! Mor anchwiliadwy ei farnedigaethau, mor anolrheiniadwy ei ffyrdd!

Pennod    |  Fersiynau
1 Brenhinoedd 2:3

Cadw ofynion yr ARGLWYDD dy Dduw, gan rodio yn ei ffyrdd, ac ufuddhau i'w ddeddfau, ei orchmynion, ei farnedigaethau a'i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd hwy yng nghyfraith Moses. Yna fe lwyddi ym mhob peth a wnei ym mhle bynnag y byddi'n troi;

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 10:30-31

Amdanoch chwi, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo.

Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chwi'n werth mwy na llawer o adar y to.

Pennod    |  Fersiynau
Hebraid 12:2

gan gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ffydd. Er mwyn y llawenydd oedd o'i flaen, fe oddefodd ef y groes heb ddiffygio, gan ddiystyru gwarth, ac y mae wedi eistedd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw.

Pennod    |  Fersiynau
Philipiaid 4:4-5

Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe'i dywedaf eto, llawenhewch.

Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn. Y mae'r Arglwydd yn agos.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 100:4-5

Dewch i mewn i'w byrth â diolch, ac i'w gynteddau â mawl. Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw.

Oherwydd da yw'r ARGLWYDD; y mae ei gariad hyd byth, a'i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 6:31-33

Peidiwch felly â phryderu a dweud, ‘Beth yr ydym i'w fwyta?’ neu ‘Beth yr ydym i'w yfed?’ neu ‘Beth yr ydym i'w wisgo?’

Dyna'r holl bethau y mae'r Cenhedloedd yn eu ceisio; y mae eich Tad nefol yn gwybod fod arnoch angen y rhain i gyd.

Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, a rhoir y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi.

Pennod    |  Fersiynau
1 Corinthiaid 2:9

Ond fel y mae'n ysgrifenedig: “Pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i feddwl neb, y cwbl a ddarparodd Duw ar gyfer y rhai sy'n ei garu.”

Pennod    |  Fersiynau
Datguddiad 3:8

“Gwn am dy weithredoedd, a dyma fi wedi rhoi o'th flaen ddrws agored na fedr neb ei gau. Gwn mai ychydig nerth sydd gennyt, ond cedwaist fy ngair ac ni wedaist fy enw.

Pennod    |  Fersiynau