Mae pwysigrwydd ein geiriau yn glir iawn yn y Beibl. Os ydym ni’n siarad â gras a ffyddlondeb, fe gawn ni fendith Duw, ond os ydym ni’n siarad ag anffyddlondeb a drygioni, fe ddaw melltithion a chanlyniadau anffafriol ar ein ôl ni. Mae gan ein geiriau’r pŵer i roi bywyd neu ddod â marwolaeth.
Felly, beth bynnag a ddywedwn ni i fendithio, fe fydd yn amlygu, a beth bynnag a ddywedwn ni i felltithio, nid yw’n plesio Duw. Dylen ni fod yn ffynnon ddi-baid o fendith, gan osgoi melltithio a bob amser yn chwilio am fendith arnon ni ein hunain. Cawn ni hynny drwy fyfyrio ar air Duw a deall ein cenhadaeth yn y byd fel rhan o chorff Crist.
Cofiwch, fel plant y goleuni, dylai’r ffordd rydyn ni’n siarad adlewyrchu meddwl y Tad Nefol, gan ddangos esiampl o air gwir bob amser. Yng nghanol poenau’r byd, gadewch i ni ddod â bendith Duw i’r ddaear, gan hau heddwch, cytgord, trefn a chariad.
Mae Deuteronomium 28:2 yn dweud y bydd yr holl fendithion hyn yn dod arnon ni ac yn ein cyrraedd os ydym ni’n ufuddhau i’r Arglwydd ein Duw.
Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear.”
Y mae melltith yr ARGLWYDD ar dŷ'r drygionus, ond y mae'n bendithio trigfa'r cyfiawn.
Â'r tafod yr ydym yn bendithio'r Arglwydd a'r Tad; â'r tafod hefyd yr ydym yn melltithio'r rhai a luniwyd ar ddelw Duw.
Wedi hynny darllenodd Josua holl eiriau'r gyfraith, y fendith a'r felltith, fel sy'n ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith.
Ac fel y buoch chwi, dŷ Jwda a thŷ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd, felly y'ch gwaredaf, a byddwch yn fendith. Peidiwch ag ofni, ond cryfhaer eich dwylo.’
bendith os gwrandewch ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw;
am na ddaethant i gyfarfod â'r Israeliaid â bwyd a diod, eithr yn hytrach gyflogi Balaam yn eu herbyn, i'w melltithio; ond fe drodd ein Duw y felltith yn fendith.
O'r un genau y mae bendith a melltith yn dod. Fy nghyfeillion, nid felly y mae pethau i fod.
Prynodd Crist ryddid i ni oddi wrth felltith y Gyfraith pan ddaeth, er ein mwyn, yn wrthrych melltith, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un a grogir ar bren!”
yn blino gan lafur ein dwylo ein hunain. Ein hateb i'r difenwi sydd arnom yw bendithio; i'r erlid, goddef;
Gwelwch, yr wyf yn gosod ger eich bron heddiw fendith a melltith:bendith os gwrandewch ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw;ond melltith os na fyddwch yn gwrando ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, eithr yn troi o'r ffordd yr wyf fi yn ei gorchymyn ichwi heddiw, i ddilyn duwiau estron nad ydych yn eu hadnabod.
Pan fydd yr holl bethau hyn wedi digwydd iti, a thithau'n dwyn ar gof i ti dy hun, ymysg yr holl genhedloedd y gyrrodd yr ARGLWYDD dy Dduw di atynt, y dewis a roddais iti rhwng bendith a melltith;
Bydd y rhai a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir, ond fe dorrir ymaith y rhai a felltithiwyd ganddo.
Ac os na fyddi'n gwrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, i ofalu cyflawni ei holl orchmynion a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu rhoi iti heddiw, yna fe ddaw i'th ran yr holl felltithion hyn, ac fe'th amgylchant:
Yr wyf yn galw'r nef a'r ddaear yn dystion yn dy erbyn heddiw, imi roi'r dewis iti rhwng bywyd ac angau, rhwng bendith a melltith. Dewis dithau fywyd, er mwyn iti fyw, tydi a'th ddisgynyddion,gan garu'r ARGLWYDD dy Dduw, a gwrando ar ei lais a glynu wrtho; oherwydd ef yw dy fywyd, ac ef fydd yn estyn dy ddyddiau iti gael byw yn y tir yr addawodd yr ARGLWYDD i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob, y byddai'n ei roi iddynt.
Os byddi'n gwrando'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, ac yn gofalu cadw popeth y mae'n ei orchymyn iti heddiw, yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy osod yn uwch na holl genhedloedd y byd.Daw'r holl fendithion hyn i'th ran ac i'th amgylchu, dim ond iti wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw.
Yn wir, cynlluniant i'w dynnu i lawr o'i safle, ac y maent yn ymhyfrydu mewn twyll; y maent yn bendithio â'u genau, ond ynddynt eu hunain yn melltithio. Sela
Yr wyf yn galw'r nef a'r ddaear yn dystion yn dy erbyn heddiw, imi roi'r dewis iti rhwng bywyd ac angau, rhwng bendith a melltith. Dewis dithau fywyd, er mwyn iti fyw, tydi a'th ddisgynyddion,
Daw'r holl fendithion hyn i'th ran ac i'th amgylchu, dim ond iti wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw.
Dywedodd wrth Adda: “Am iti wrando ar lais dy wraig, a bwyta o'r pren y gorchmynnais i ti beidio â bwyta ohono, melltigedig yw'r ddaear o'th achos; trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy fywyd.
Peidiwch â chymryd eich camarwain; ni chaiff Duw mo'i watwar, oherwydd beth bynnag y mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi.
Tyrd, yn awr, a melltithia'r bobl hyn imi, oherwydd y maent yn gryfach na mi; yna, hwyrach y gallaf eu gorchfygu a'u gyrru allan o'r wlad, oherwydd gwn y daw bendith i'r sawl yr wyt ti'n ei fendithio, a melltith i'r sawl yr wyt ti'n ei felltithio.”
“Os na wrandewch, a gofalu am anrhydeddu fy enw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “yna anfonaf felltith arnoch, a melltithiaf eich bendithion; yn wir, yr wyf wedi eu melltithio eisoes, am nad ydych yn ystyried.
“ ‘Os bydd unrhyw un yn melltithio ei dad neu ei fam, y mae i'w roi i farwolaeth. Oherwydd iddo felltithio ei dad neu ei fam, y mae'n gyfrifol am ei waed ei hun.
“ ‘Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio a'th gadw;bydded i'r ARGLWYDD lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt;bydded i'r ARGLWYDD edrych arnat, a rhoi iti heddwch.’
Gwyn ei fyd y sawl nad yw'n dilyn cyngor y drygionus nac yn ymdroi hyd ffordd pechaduriaid nac yn eistedd ar sedd gwatwarwyr,ond sy'n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.Y mae fel pren wedi ei blannu wrth ffrydiau dŵr ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor, a'i ddeilen heb fod yn gwywo. Beth bynnag a wna, fe lwydda.
Nid oes yr un gair drwg i ddod allan o'ch genau, dim ond geiriau da, sydd er adeiladaeth yn ôl yr angen, ac felly'n dwyn bendith i'r sawl sy'n eu clywed.
Prynodd Crist ryddid i ni oddi wrth felltith y Gyfraith pan ddaeth, er ein mwyn, yn wrthrych melltith, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un a grogir ar bren!”Y bwriad oedd cael bendith Abraham i ymledu i'r Cenhedloedd yng Nghrist Iesu, er mwyn i ni dderbyn, trwy ffydd, yr Ysbryd a addawyd.
Molwch yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD, ac yn ymhyfrydu'n llwyr yn ei orchmynion.Bydd ei ddisgynyddion yn gedyrn ar y ddaear, yn genhedlaeth uniawn wedi ei bendithio.Bydd golud a chyfoeth yn ei dŷ, a bydd ei gyfiawnder yn para am byth.
Os byddi'n gwrando'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, ac yn gofalu cadw popeth y mae'n ei orchymyn iti heddiw, yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy osod yn uwch na holl genhedloedd y byd.Daw'r holl fendithion hyn i'th ran ac i'th amgylchu, dim ond iti wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw.Byddi'n derbyn bendith yn y dref ac yn y maes.Bydd bendith ar ffrwyth dy gorff, ar gnwd dy dir a'th fuches, ar gynnydd dy wartheg ac epil dy ddefaid.Bydd bendith ar dy gawell a'th badell dylino.Bydd bendith arnat wrth ddod i mewn ac wrth fynd allan.Bydd yr ARGLWYDD yn peri i'th elynion sy'n codi yn dy erbyn gael eu dryllio o'th flaen; byddant yn dod yn dy erbyn ar hyd un ffordd, ond yn ffoi rhagot ar hyd saith.Bydd yr ARGLWYDD yn gorchymyn bendith ar dy ysguboriau ac ar bopeth a wnei; bydd yn dy fendithio yn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti.Bydd yr ARGLWYDD yn dy sefydlu'n bobl sanctaidd iddo, fel yr addawodd iti, os cedwi orchmynion yr ARGLWYDD dy Dduw a rhodio yn ei ffyrdd.Fe wêl holl bobloedd y ddaear mai ar enw'r ARGLWYDD y gelwir di; a bydd dy ofn arnynt.Bydd yr ARGLWYDD yn dy lwyddo'n ardderchog yn ffrwyth dy gorff, cynnydd dy fuches, a chnwd dy dir yn y wlad yr addawodd yr ARGLWYDD i'th hynafiaid ei rhoi iti.Bydd yr ARGLWYDD yn agor y nefoedd, ystordy ei ddaioni, i roi glaw i'th dir yn ei bryd, ac i fendithio holl waith dy ddwylo; byddi'n rhoi benthyg i lawer o genhedloedd, ond heb angen benthyca dy hun.Bydd yr ARGLWYDD yn dy wneud yn ben ac nid yn gynffon, yn uchaf bob amser ac nid yn isaf, dim ond iti wrando ar orchmynion yr ARGLWYDD dy Dduw, y rhai yr wyf yn eu rhoi iti heddiw i'w cadw a'u gwneud.Paid â gwyro i'r dde na'r chwith oddi wrth yr un o'r pethau yr wyf fi'n eu gorchymyn iti heddiw, na dilyn duwiau estron i'w haddoli.
Y mae'r tafod yn gallu rhoi marwolaeth neu fywyd, ac y mae'r rhai sy'n ei hoffi yn bwyta'i ffrwyth.
“Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru, oherwydd cânt hwy eu cysuro.Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cânt hwy etifeddu'r ddaear.Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder, oherwydd cânt hwy eu digon.Gwyn eu byd y rhai trugarog, oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd.Gwyn eu byd y rhai pur eu calon, oherwydd cânt hwy weld Duw.Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw'n blant i Dduw.Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.“Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a'ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o'm hachos i.Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd; felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o'ch blaen chwi.
Daw â'u camweddau eu hunain yn ôl arnynt, ac fe'u diddyma am eu drygioni. Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn eu diddymu.
Â'r tafod yr ydym yn bendithio'r Arglwydd a'r Tad; â'r tafod hefyd yr ydym yn melltithio'r rhai a luniwyd ar ddelw Duw.O'r un genau y mae bendith a melltith yn dod. Fy nghyfeillion, nid felly y mae pethau i fod.
a dweud, “Yn noeth y deuthum o groth fy mam, ac yn noeth y dychwelaf yno. Yr ARGLWYDD a roddodd, a'r ARGLWYDD a ddygodd ymaith. Bendigedig fyddo enw'r ARGLWYDD.”
Peidiwch â thalu drwg am ddrwg na sen am sen. I'r gwrthwyneb, bendithiwch! Oherwydd i hyn y cawsoch eich galw—er mwyn i chwi etifeddu bendith.
O'r un genau y mae bendith a melltith yn dod. Fy nghyfeillion, nid felly y mae pethau i fod.A welir dŵr peraidd a dŵr chwerw yn tarddu o lygad yr un ffynnon?A yw'r pren ffigys, fy nghyfeillion, yn gallu dwyn olifiau, neu'r winwydden ffigys? Nac ydyw, ac ni ddaw dŵr peraidd o ddŵr hallt chwaith.
Am ennyd y mae ei ddig, ond ei ffafr am oes; os erys dagrau gyda'r hwyr, daw llawenydd yn y bore.
Peidiwch â chymryd eich camarwain; ni chaiff Duw mo'i watwar, oherwydd beth bynnag y mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi.Bydd y sawl sy'n hau i'w gnawd ei hun yn medi o'i gnawd lygredigaeth, a'r sawl sy'n hau i'r Ysbryd yn medi o'r Ysbryd fywyd tragwyddol.
Gwyn ei fyd y sawl a ddewisi ac a ddygi'n agos, iddo gael preswylio yn dy gynteddau; digoner ninnau â daioni dy dŷ, dy deml sanctaidd.
Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, ‘Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu'r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd.
“Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws.Pwy ohonoch, os bydd ei blentyn yn gofyn am fara, a rydd iddo garreg?Neu os bydd yn gofyn am bysgodyn, a rydd iddo sarff?Am hynny, os ydych chwi, sy'n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i'ch plant, gymaint mwy y rhydd eich Tad sydd yn y nefoedd bethau da i'r rhai sy'n gofyn ganddo!
Molwch yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD, ac yn ymhyfrydu'n llwyr yn ei orchmynion.
Yr ydych i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw; bydd ef yn bendithio dy fara a'th ddŵr ac yn cymryd ymaith bob clefyd o'ch plith.Ni bydd dim o fewn dy dir yn erthylu nac yn ddiffrwyth; rhoddaf i ti nifer llawn o ddyddiau.
nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu,
Y mae'r un sy'n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i'r ARGLWYDD, ac fe dâl ef yn ôl iddo am ei weithred.
Gwyn ei fyd pob un sy'n ofni'r ARGLWYDD ac yn rhodio yn ei ffyrdd.Cei fwyta o ffrwyth dy lafur; byddi'n hapus ac yn wyn dy fyd.
Rhowch, ac fe roir i chwi; rhoir yn eich côl fesur da, wedi ei wasgu i lawr a'i ysgwyd ynghyd nes gorlifo; oherwydd â'r mesur y rhowch y rhoir i chwi yn ôl.”
ond heb ffydd y mae'n amhosibl rhyngu ei fodd ef. Oherwydd rhaid i'r sawl sy'n dod at Dduw gredu ei fod ef, a'i fod yn gwobrwyo'r rhai sy'n ei geisio.
yna cymer o flaenffrwyth holl gnydau'r tir y byddi'n eu casglu yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti, a gosod hwy mewn cawell, a mynd i'r lle y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw.
a gwn mai rhodd Duw yw fod pob un yn bwyta ac yn yfed ac yn cael mwynhad o'i holl lafur.
Ti, ARGLWYDD, yw fy nghyfran a'm cwpan, ti sy'n diogelu fy rhan;syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol, ac y mae gennyf etifeddiaeth ragorol.
Bydd pawb ar y ddaear sy'n ceisio bendith yn ceisio'i fendith yn enw Duw gwirionedd, a phawb ar y ddaear sy'n tyngu llw yn tyngu ei lw yn enw Duw gwirionedd.” “Anghofir y treialon gynt, ac fe'u cuddir o'm golwg.
Bendigedig yw'r sawl sy'n hyderu yn yr ARGLWYDD, a'r ARGLWYDD yn hyder iddo.Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd, yn gwthio'i wreiddiau i'r afon, heb ofni gwres pan ddaw, a'i ddail yn ir; ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid â ffrwytho.
Bendigedig yw'r Arglwydd, sy'n ein cario ddydd ar ôl dydd; Duw yw ein hiachawdwriaeth. Sela
Y mae'r sawl sy'n dilyn cyfiawnder a theyrngarwch yn cael bywyd llwyddiannus ac anrhydedd.
Gwnaf di yn genedl fawr a bendithiaf di; mawrygaf dy enw a byddi'n fendith.Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear.”