Cariad, wyt ti’n gwybod fod Iesu wedi marw ar y groes er dy fwyn di? Fe wnaeth o, Duw’n fab annwyl, aberu ei hun allan o’i gariad tuag atat ti’n ddi-ben-ddi-wael. Drwyddo fe, mae gennym ni obaith bywyd tragwyddol.
Mae Iesu, Brenin y Brenhinoedd ac Arglwydd yr Arglwyddi, wedi diodde’ dy beiau di. Mae o eisiau i ti ddod yn agos ato fe bob dydd, i’w adnabod o, i siarad ag o fel fyt ti’n siarad gyda ffrind. A dyna beth yw o – dy ffrind pennaf, ffrind sy’n dy garu di gymaint nes iddo farw er mwyn dy achub di.
Dyweda Lucas 19:10 “Daeth Mab y Dyn i geisio ac i achub y coll.” Mae’r geiriau hynny’n llaith gariad a gobaith. Mae Iesu eisiau dy ganfod di, ble bynnag wyt ti ar dy daith, a dy arwain di i fywyd llawn.
Cofía’r addewid yn Actau 4:12 hefyd: “Nid oes iachawdwriaeth mewn un ar arall, oherwydd nid oes enw arall dan y nef wedi ei roi i ddynion, y gallwn gael ein hachub drwyddo.” Dim ond drwy Iesu y gallwn ni gael gwir ryddid o gaethiwed y byd hwn a derbyn bywyd tragwyddol.
Cod fi i fyny yn nydd fy ofn; yr wyf yn ymddiried ynot ti.
Yn Nuw, yr un y molaf ei air, yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni; beth a all pobl ei wneud imi?
Ond daw gwaredigaeth y cyfiawn oddi wrth yr ARGLWYDD; ef yw eu hamddiffyn yn amser adfyd.
Ond gwaeddaf fi ar Dduw, a bydd yr ARGLWYDD yn fy achub.
Hwyr a bore a chanol dydd fe gwynaf a griddfan, a chlyw ef fy llais.
Canwch i'r ARGLWYDD. Moliannwch yr ARGLWYDD. Achubodd einioes y tlawd o afael y rhai drygionus.
Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid, ac mor gythryblus o'm mewn! Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef, fy Ngwaredydd a'm Duw.
Y mae'r ARGLWYDD yn dda—yn amddiffynfa yn nydd argyfwng; y mae'n adnabod y rhai sy'n ymddiried ynddo.
Yr wyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i chwi, ynof fi, gael tangnefedd. Yn y byd fe gewch orthrymder, ond codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu'r byd.”
Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân, ac ef yw'r un a'm hachubodd; ef yw fy Nuw, ac fe'i gogoneddaf, Duw fy nhad, ac fe'i dyrchafaf.
Y mae dy ffyddlondeb yn well na bywyd; am hynny bydd fy ngwefusau'n dy foliannu.
Fel hyn y byddaf yn dy fendithio trwy fy oes, ac yn codi fy nwylo mewn gweddi yn dy enw.
Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.
Bendithiaf yr ARGLWYDD a roddodd gyngor i mi; yn y nos y mae fy meddyliau'n fy hyfforddi.
Gosodais yr ARGLWYDD o'm blaen yn wastad; am ei fod ar fy neheulaw, ni'm symudir.
bydded i'r rhai sy'n hau mewn dagrau fedi mewn gorfoledd.
Bydd yr un sy'n mynd allan dan wylo, ac yn cario ei sach o hadyd, yn dychwelyd drachefn mewn gorfoledd, ac yn cario ei ysgubau.
Ond safodd yr Arglwydd gyda mi, a rhoddodd nerth imi, er mwyn, trwof fi, i'r pregethu gael ei gyflawni ac i'r holl Genhedloedd gael ei glywed; a chefais fy ngwaredu o enau'r llew.
A bydd yr Arglwydd eto'n fy ngwaredu i rhag pob cam, a'm dwyn yn ddiogel i'w deyrnas nefol. Iddo ef y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
fel y bydd i'r rhai sy'n cydnabod dy enw ymddiried ynot; oherwydd ni adewaist, ARGLWYDD, y rhai sy'n dy geisio.
Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder.
Felly, nid ofnwn er i'r ddaear symud ac i'r mynyddoedd ddisgyn i ganol y môr,
Y mae fy enaid yn glynu wrth y llwch; adfywia fi yn ôl dy air.
Adroddais am fy hynt ac atebaist fi; dysg i mi dy ddeddfau.
Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog,
yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Fy noddfa a'm caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.”
Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na'r presennol na'r dyfodol,
na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Os cymeraf adenydd y wawr a thrigo ym mhellafoedd y môr,
yno hefyd fe fydd dy law yn fy arwain, a'th ddeheulaw yn fy nghynnal.
“Byddwch yn gryf a dewr. Peidiwch ag ofni na digalonni o flaen brenin Asyria a'i holl fintai. Y mae gennym ni fwy nag sydd ganddo ef.
Gallu dynol sydd ganddo ef, ond y mae yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni i'n cynorthwyo ac i ymladd ein brwydrau.” Ac fe ymddiriedodd y bobl yng ngeiriau Heseceia brenin Jwda.
Dewch i mewn i'w byrth â diolch, ac i'w gynteddau â mawl. Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw.
Duw'r oesoedd yw dy noddfa, ac oddi tanodd y mae'r breichiau tragwyddol. Gyrrodd allan y gelyn o'th flaen, a dweud, “Difetha ef.”
Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, bydd drugarog wrthyf, oherwydd ynot ti yr wyf yn llochesu; yng nghysgod dy adenydd y mae fy lloches nes i'r stormydd fynd heibio.
Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD, a'r cyfan sydd ynof ei enw sanctaidd.
Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD, a phaid ag anghofio'i holl ddoniau:
Fe'u cuddi dan orchudd dy bresenoldeb rhag y rhai sy'n cynllwyn; fe'u cedwi dan dy gysgod rhag ymryson tafodau.
fel y buost yn gymorth imi, ac fel yr arhosais yng nghysgod dy adenydd—
bydd fy enaid yn glynu wrthyt; a bydd dy ddeheulaw yn fy nghynnal.
Ef yw dy fawl, ac ef yw dy Dduw, a wnaeth iti'r pethau mawr ac ofnadwy hyn a welaist â'th lygaid dy hun.
Nid oes sanct fel yr ARGLWYDD, yn wir nid oes neb heblaw tydi, ac nid oes craig fel ein Duw ni.
a gofalu am alarwyr Seion; a rhoi iddynt goron yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, mantell moliant yn lle digalondid. Gelwir hwy yn brennau cyfiawnder wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i'w ogoniant.
Mawr wyt ti, O Arglwydd DDUW, oblegid ni chlywodd ein clustiau am neb tebyg i ti, nac am un duw ar wahân i ti.
Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad.
Bendigedig yw'r Arglwydd, sy'n ein cario ddydd ar ôl dydd; Duw yw ein hiachawdwriaeth. Sela
Ond dywedodd wrthyf, “Digon i ti fy ngras i; mewn gwendid y daw fy nerth i'w anterth.” Felly, yn llawen iawn fe ymffrostiaf fwyfwy yn fy ngwendidau, er mwyn i nerth Crist orffwys arnaf.
Am hynny, yr wyf yn ymhyfrydu, er mwyn Crist, mewn gwendid, sarhad, gofid, erledigaeth, a chyfyngder. Oherwydd pan wyf wan, yna rwyf gryf.
Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid, ac mor gythryblus o'm mewn! Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef, fy Ngwaredydd a'm Duw.
Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch.
A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
Gan iddo gael y fath rybudd, bwriodd yntau hwy i'r carchar mewnol, a rhwymo'u traed yn y cyffion.
Tua hanner nos, yr oedd Paul a Silas yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw, a'r carcharorion yn gwrando arnynt.
Gadewch inni, felly, drwyddo ef offrymu aberth moliant yn wastadol i Dduw; hynny yw, ffrwyth gwefusau sy'n cyffesu ei enw.
Llawenhewch bob amser.
Gweddïwch yn ddi-baid.
Ym mhob dim rhowch ddiolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi.
Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?
“Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD, ac fe'th gynnal di; ni ad i'r cyfiawn gael ei ysgwyd byth.
Clyw fy nghri, O Dduw, a gwrando ar fy ngweddi;
o eithaf y ddaear yr wyf yn galw arnat, pan yw fy nghalon ar suddo. Arwain fi at graig sy'n uwch na mi;
oherwydd buost ti'n gysgod imi, yn dŵr cadarn rhag y gelyn.
Bloeddiwch mewn gorfoledd i Dduw, yr holl ddaear;
canwch i ogoniant ei enw; rhowch iddo foliant gogoneddus.
Er i'm calon a'm cnawd ballu, eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth.
Pan fydd yn galw arnaf, fe'i hatebaf; byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder, gwaredaf ef a'i anrhydeddu.
Nid yw'n ofni newyddion drwg; y mae ei galon yn ddi-gryn, yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
Y mae ei galon yn ddisigl, ac nid ofna nes iddo weld diwedd ar ei elynion.
Yr wyf yn caru'r ARGLWYDD, am iddo wrando ar lef fy ngweddi,
am iddo droi ei glust ataf y dydd y gwaeddais arno.
O'r dyfnderau y gwaeddais arnat, O ARGLWYDD.
Arglwydd, clyw fy llef; bydded dy glustiau'n agored i lef fy ngweddi.
I ble yr af oddi wrth dy ysbryd? I ble y ffoaf o'th bresenoldeb?
Os dringaf i'r nefoedd, yr wyt yno; os cyweiriaf wely yn Sheol, yr wyt yno hefyd.
Os cymeraf adenydd y wawr a thrigo ym mhellafoedd y môr,
yno hefyd fe fydd dy law yn fy arwain, a'th ddeheulaw yn fy nghynnal.
O ARGLWYDD, fy Nuw ydwyt ti; mawrygaf di a chlodforaf dy enw am iti gyflawni bwriad rhyfeddol, sy'n sicr a chadarn ers oesoedd.
Oherwydd myfi sy'n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,’ medd yr ARGLWYDD, ‘bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol.
Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.
Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb.
A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.
Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi.
Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i'ch eneidiau.
Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a'm baich i yn ysgafn.”
Oherwydd haul a tharian yw'r ARGLWYDD Dduw; rhydd ras ac anrhydedd. Nid atal yr ARGLWYDD unrhyw ddaioni oddi wrth y rhai sy'n rhodio'n gywir.
Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd; o ble y daw cymorth i mi?
Daw fy nghymorth oddi wrth yr ARGLWYDD, creawdwr nefoedd a daear.
Heblaw hynny, yr ydym hyd yn oed yn gorfoleddu yn ein gorthrymderau, oherwydd fe wyddom mai o orthrymder y daw'r gallu i ymddál,
ac o'r gallu i ymddál y daw rhuddin cymeriad, ac o gymeriad y daw gobaith.
A dyma obaith na chawn ein siomi ganddo, oherwydd y mae cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau trwy'r Ysbryd Glân y mae ef wedi ei roi i ni.
Peidiwn â blino ar wneud daioni, oherwydd cawn fedi'r cynhaeaf yn ei amser, dim ond inni beidio â llaesu dwylo.
Bydded yr ARGLWYDD yn amddiffynfa i'r gorthrymedig, yn amddiffynfa yn amser cyfyngder,
fel y bydd i'r rhai sy'n cydnabod dy enw ymddiried ynot; oherwydd ni adewaist, ARGLWYDD, y rhai sy'n dy geisio.
Gosodais yr ARGLWYDD o'm blaen yn wastad; am ei fod ar fy neheulaw, ni'm symudir.
Am hynny, llawenha fy nghalon a gorfoledda f'ysbryd, a chaiff fy nghnawd fyw'n ddiogel;
Yr wyf yn sicr y caf weld daioni'r ARGLWYDD yn nhir y rhai byw.
Disgwyl wrth yr ARGLWYDD, bydd gryf a gwrol dy galon a disgwyl wrth yr ARGLWYDD.
Am ennyd y mae ei ddig, ond ei ffafr am oes; os erys dagrau gyda'r hwyr, daw llawenydd yn y bore.