Dych chi byth wedi meddwl tybed pam fod angen gofyn i Dduw am bethau? Fel Tad da, mae'n gwybod beth sydd ei angen ar ei blant. Ond mae gweddi, a gofyn yn benodol, yn cydnabod ein bod ni'n ddibynnol arno fe. Beth bynnag yw'ch sefyllfa chi – angen am ddarpariaeth, amddiffyniad, iechyd, neu arweiniad – cofiwch gyflwyno'ch angen i'r Arglwydd. Mae Salm 139:4 yn dweud, "O ARGLWYDD, yr wyt ti'n gwybod popeth amdanaf; yr wyt ti'n deall fy meddyliau cyn i mi siarad."
Mae gweddi fel allwedd i drysorau'r Nefoedd, allwedd mae'r Creawdwr wedi'i rhoi yn ein dwylo ni. Mae'n hawdd iddo fe roi'r hyn sydd ei angen arnom ni; mae popeth yn eiddo iddo fe, ac mae'r bydysawd o dan ei reolaeth. Gallai roi popeth i ni heb i ni ofyn, ond nid dyna'r ffordd mae o wedi'i drefnu. Mae Duw yn ein caru ni, ac mae eisiau perthynas agos gyda ni. Gweddi yw'r sianel y mae ei ddarpariaeth yn llifo drwyddi atom ni.
Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi, a'th wialen a'th ffon yn fy nghysuro.
Felly chwithau, yr ydych yn awr mewn tristwch. Ond fe'ch gwelaf chwi eto, ac fe lawenha eich calon, ac ni chaiff neb ddwyn eich llawenydd oddi arnoch.
“Myfi, myfi sy'n eich diddanu; pam, ynteu, yr ofnwch neb meidrol, neu rywun sydd fel glaswelltyn?
Yr ydym yn deisyf ar ichwi gael eich grymuso â phob grymuster, yn ôl nerth ei ogoniant ef, i ddyfalbarhau a hirymaros yn llawen ym mhob dim,
Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid, ac mor gythryblus o'm mewn! Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef, fy Ngwaredydd a'm Duw.
Ond bydd yr Eiriolwr, yr Ysbryd Glân, a anfona'r Tad yn fy enw i, yn dysgu popeth ichwi, ac yn dwyn ar gof ichwi y cwbl a ddywedais i wrthych.
Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.
Fel y cysurir plentyn gan ei fam byddaf fi'n eich cysuro chwi; ac yn Jerwsalem y'ch cysurir.
Am ennyd y mae ei ddig, ond ei ffafr am oes; os erys dagrau gyda'r hwyr, daw llawenydd yn y bore.
Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, oherwydd yr wyf yn llesg; iachâ fi, ARGLWYDD, oherwydd brawychwyd fy esgyrn,
Oherwydd y baich ysgafn o orthrymder sydd arnom yn awr, darparu y mae, y tu hwnt i bob mesur, bwysau tragwyddol o ogoniant i ni,
dim ond inni gadw'n golwg, nid ar y pethau a welir, ond ar y pethau na welir. Dros amser y mae'r pethau a welir, ond y mae'r pethau na welir yn dragwyddol.
Dyma un isel a waeddodd, a'r ARGLWYDD yn ei glywed ac yn ei waredu o'i holl gyfyngderau.
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, y Tad sy'n trugarhau a'r Duw sy'n rhoi pob diddanwch.
Y mae'n ein diddanu ym mhob gorthrymder, er mwyn i ninnau, trwy'r diddanwch a gawn ganddo ef, allu diddanu'r rhai sydd dan bob math o orthrymder.
Yr wyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i chwi, ynof fi, gael tangnefedd. Yn y byd fe gewch orthrymder, ond codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu'r byd.”
Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad.
Oherwydd fel y mae dioddefiadau Crist yn gorlifo hyd atom ni, felly hefyd trwy Grist y mae ein diddanwch yn gorlifo.
oherwydd bydd yr Oen sydd yng nghanol yr orsedd yn eu bugeilio hwy, ac yn eu harwain i ffynhonnau dyfroedd bywyd, a bydd Duw yn sychu pob deigryn o'u llygaid hwy.”
Os gorthrymir ni, er mwyn eich diddanwch chwi a'ch iachawdwriaeth y mae hynny; neu os diddenir ni, er mwyn eich diddanwch chwi y mae hynny hefyd, i'ch nerthu i ymgynnal dan yr un dioddefiadau ag yr ydym ni yn eu dioddef.
A bydded i'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw ein Tad, yr hwn sydd wedi ein caru ac wedi rhoi i ni ddiddanwch tragwyddol a gobaith da trwy ras,
Yr wyf fi'n cyfrif nad yw dioddefiadau'r presennol i'w cymharu â'r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio i ni.
Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.
Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb.
Er i'm calon a'm cnawd ballu, eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth.
Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch.
A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
Canys nid archoffeiriad heb allu cyd-ddioddef â'n gwendidau sydd gennym, ond un sydd wedi ei demtio ym mhob peth, yn yr un modd â ni, ac eto heb bechod.
Felly, gadewch inni nesáu mewn hyder at orsedd gras, er mwyn derbyn trugaredd a chael gras yn gymorth yn ei bryd.
Yr wyt ti wedi cofnodi fy ocheneidiau, ac wedi costrelu fy nagrau— onid ydynt yn dy lyfr?
Oherwydd nid ysbryd sy'n peri llwfrdra a roddodd Duw i ni, ond ysbryd sy'n peri nerth a chariad a hunanddisgyblaeth.
A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.
Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi.
Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i'ch eneidiau.
Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a'm baich i yn ysgafn.”
Yr ydym am ichwi wybod, gyfeillion, am y rhai sydd yn huno, rhag ichwi fod yn drallodus, fel y rhelyw sydd heb ddim gobaith.
Os ydym yn credu i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd bydd Duw, gydag ef, yn dod â'r rhai a hunodd drwy Iesu.
Fe sych bob deigryn o'u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae'r pethau cyntaf wedi mynd heibio.”
Cafwyd geiriau gennyt, ac aethant yn ymborth i mi; daeth dy air yn llawenydd i mi, ac yn hyfrydwch fy nghalon; canys galwyd dy enw arnaf, O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd.
ymhyfrydaf yn dy orchmynion am fy mod yn eu caru.
Parchaf dy orchmynion am fy mod yn eu caru, a myfyriaf ar dy ddeddfau.
Cofia dy air i'th was, y gair y gwnaethost imi ymddiried ynddo.
Hyn fu fy nghysur mewn adfyd, fod dy addewid di yn fy adfywio.
A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.