Mae ein Tad nefol wedi gorchymyn inni weddïo’n ddi-baid. Drwy weddi rydyn ni’n cael cymdeithas â’n Duw. Weddi yw sianel gyfathrebu’r credadun. Drwy weddi rydyn ni’n dod â phob deisyfiad at draed ein Creawdwr. Yno rydyn ni’n mynd pan nad yw dim yn iawn mewn bywyd, pan mae gennym ni feichiau, a phan rydyn ni’n drist.
Drwy weddi mae Duw yn dechrau clywed ein hanghenion a’n llais. Mae E eisoes yn adnabod ein bywydau cyn inni gael ein geni, ond mae E angen inni siarad ag E, i’w geisio E. Mewn gweddi rydych chi’n dechrau cryfhau eich cyfeillgarwch, eich agosrwydd a’ch perthynas â Duw. Mae’n un o’r arfau sydd gennych chi fel credadun yn Iesu, i’ch amddiffyn rhag pob brwydr, oherwydd mewn gweddi y cewch chi fuddugoliaeth ar bopeth.
Nid yw pŵer gweddi yn dod oddi wrthych chi. Mae’r pŵer yn Iesu; efe yw’r un sy’n ateb gweddi ac yn gwneud yr hyn sy’n ymddangos yn amhosibl yn ddynol yn realiti. Pan rydyn ni’n gweddïo o’r galon gallwn ni dderbyn cysur, heddwch a chariad y Tad. Dewch at Dduw â chalon drist a gostyngedig, ac ni fydd E byth yn eich gwrthod. (Effesiaid 6:18)
Gweddïwch yn yr Ysbryd bob amser, gyda deisyfiadau a gweddïau. Byddwch yn effro a pharhewch i weddïo dros yr holl saint. Pan fyddwch chi’n gweddïo, diolchwch, peidiwch â chyflwyno eich deisyfiadau yn unig, ond byddwch yn dawel yn ei bresenoldeb. (1 Thesaloniaid 5:16-18) Byddwch bob amser yn llawen, gweddïwch yn ddi-baid, diolchwch i Dduw ym mhob sefyllfa, oherwydd dyma ei ewyllys i chi yng Nghrist Iesu.
Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân, ac ef yw'r un a'm hachubodd; ef yw fy Nuw, ac fe'i gogoneddaf, Duw fy nhad, ac fe'i dyrchafaf.
A daeth llais allan o'r orsedd yn dweud: “Molwch ein Duw ni, chwi ei holl weision ef, a'r rhai sy'n ei ofni ef, yn fach a mawr.”
Oddi wrthyt ti y daw fy mawl yn y gynulleidfa fawr, a thalaf fy addunedau yng ngŵydd y rhai sy'n ei ofni.
Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl; y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.
Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd, canwch ei glod o eithaf y ddaear; bydded i'r môr a'i gyflawnder ei ganmol, yr ynysoedd a'r rhai sy'n trigo ynddynt.
Yr ydych i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw; bydd ef yn bendithio dy fara a'th ddŵr ac yn cymryd ymaith bob clefyd o'ch plith.
Nid oes sanct fel yr ARGLWYDD, yn wir nid oes neb heblaw tydi, ac nid oes craig fel ein Duw ni.
A chlywais bob peth a grewyd, yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear ac ar y môr, a'r cwbl sydd ynddynt, yn dweud: “I'r hwn sy'n eistedd ar yr orsedd ac i'r Oen y bo'r mawl a'r anrhydedd a'r gogoniant a'r nerth byth bythoedd!”
Bendigedig yw'r Arglwydd, sy'n ein cario ddydd ar ôl dydd; Duw yw ein hiachawdwriaeth. Sela
Y sawl sy'n cyflwyno offrymau diolch sy'n fy anrhydeddu, ac i'r sawl sy'n dilyn fy ffordd y dangosaf iachawdwriaeth Duw.”
Ond y mae amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli'r Tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd rhai felly y mae'r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo.
Ysbryd yw Duw, a rhaid i'w addolwyr ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd.”
Rhoddodd yn fy ngenau gân newydd, cân o foliant i'n Duw; bydd llawer, pan welant hyn, yn ofni ac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
Ond aberthaf i ti â chân o ddiolch. Talaf yr hyn a addunedais; i'r ARGLWYDD y perthyn gwaredu.”
Mawr wyt ti, O Arglwydd DDUW, oblegid ni chlywodd ein clustiau am neb tebyg i ti, nac am un duw ar wahân i ti.
Ac yn awr, fe gyfyd fy mhen goruwch fy ngelynion o'm hamgylch; ac offrymaf finnau yn ei deml aberthau llawn gorfoledd; canaf, canmolaf yr ARGLWYDD.
O ARGLWYDD, fy Nuw ydwyt ti; mawrygaf di a chlodforaf dy enw am iti gyflawni bwriad rhyfeddol, sy'n sicr a chadarn ers oesoedd.
Dywedwch, “Achub ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth; cynnull ni ac arbed ni o blith y cenhedloedd, inni gael rhoi diolch i'th enw sanctaidd ac ymhyfrydu yn dy fawl.”
offrymwch aberth diolch o fara lefeinllyd, cyhoeddwch aberthau gwirfodd, a gwnewch hwy'n hysbys; canys hyn a hoffwch, bobl Israel,” medd yr Arglwydd DDUW.
Tua hanner nos, yr oedd Paul a Silas yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw, a'r carcharorion yn gwrando arnynt.
Gadewch inni, felly, drwyddo ef offrymu aberth moliant yn wastadol i Dduw; hynny yw, ffrwyth gwefusau sy'n cyffesu ei enw.
Cyfarchwch eich gilydd â salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol; canwch a phynciwch o'ch calon i'r Arglwydd.
Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. Â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol.
Fel yr oeddent yn dechrau canu a moli, gosododd yr ARGLWYDD gynllwyn yn erbyn yr Ammoniaid a'r Moabiaid a gwŷr Mynydd Seir, a oedd yn ymosod ar Jwda, a chawsant eu gorchfygu.
Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i'ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol.
Diolchaf i ti, ARGLWYDD, â'm holl galon, adroddaf am dy ryfeddodau.
Llawenhaf a gorfoleddaf ynot ti, canaf fawl i'th enw, y Goruchaf.
a gofalu am alarwyr Seion; a rhoi iddynt goron yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, mantell moliant yn lle digalondid. Gelwir hwy yn brennau cyfiawnder wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i'w ogoniant.
rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw, dygwch offrwm a dewch o'i flaen. Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.
Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dod ac yn ymgrymu o'th flaen, O Arglwydd, ac yn anrhydeddu dy enw.
Canwch fawl i Dduw, canwch fawl; canwch fawl i'n brenin, canwch fawl.
Y mae Duw yn frenin ar yr holl ddaear; canwch fawl yn gelfydd.
Oherwydd ni yw'r rhai gwir enwaededig, ni sy'n addoli trwy Ysbryd Duw, ac yn ymfalchïo yng Nghrist Iesu heb ymddiried yn y cnawd—
Yr Ysbryd yw'r Arglwydd hwn. A lle y mae Ysbryd yr Arglwydd, y mae rhyddid.
Ac yr ydym ni i gyd, heb orchudd ar ein hwyneb, yn edrych, fel mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd ac yn cael ein trawsffurfio o ogoniant i ogoniant, yn wir lun ohono ef. A gwaith yr Arglwydd, yr Ysbryd, yw hyn.
Bydded i Dduw godi, ac i'w elynion wasgaru, ac i'r rhai sy'n ei gasáu ffoi o'i flaen.
Fel y chwelir mwg, chwâl hwy; fel cwyr yn toddi o flaen tân, bydded i'r drygionus ddarfod o flaen Duw.
Ond y mae'r cyfiawn yn llawenhau; y maent yn gorfoleddu gerbron Duw ac yn ymhyfrydu mewn llawenydd.
Molwch yr ARGLWYDD. Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd, ei foliant yng nghynulleidfa'r ffyddloniaid.
Bydded i Israel lawenhau yn ei chreawdwr, ac i blant Seion orfoleddu yn eu brenin.
Molwch ei enw â dawns, canwch fawl iddo â thympan a thelyn.
Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol, ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol. Yr wyt yn fy adnabod mor dda;
A rhodded Duw, ffynhonnell pob dyfalbarhad ac anogaeth, i chwi fod yn gytûn eich meddwl ymhlith eich gilydd, yn ôl ewyllys Crist Iesu,
er mwyn ichwi, yn unfryd ac yn unllais, ogoneddu Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.
Ond da i mi yw bod yn agos at Dduw; yr wyf wedi gwneud yr Arglwydd DDUW yn gysgod i mi, er mwyn imi fynegi dy ryfeddodau.
O ARGLWYDD, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! Gosodaist dy ogoniant uwch y nefoedd,
codaist amddiffyn rhag dy elynion o enau babanod a phlant sugno, a thawelu'r gelyn a'r dialydd.
Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.
Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain.