Mae gobaith yn beth pwysig iawn yn ein bywydau. Daliwch ati i ymddiried yn Nuw a byddwch yn hyderus y gwelwch chi ddyheadau eich calon yn cael eu cyflawni. Cadwch yr ysfa honno, y gwthiad i symud ymlaen, nes i chi gyrraedd eich nod. Daliwch ati bob amser, a rhowch bopeth rydych chi'n ei ddymuno yn nwylo ein Tad Nefol.
Fel Cristion, cofiwch y gobaith y cawn weld ein Harglwydd wyneb yn wyneb, a thrwy aberth yr Arglwydd Iesu Grist, rydym ni wedi ein hachub trwy ras, a byddwn gydag ef am byth. Mae gobaith yn Nuw yn ein rhyddhau ni o ofn y dyfodol ac o ansicrwydd. Ymddiriedwch ynddo ef bob amser, a bydd yn rhoi'r nerth i chi oresgyn unrhyw anhawster.
Oherwydd “Myfi a wn y meddyliau a feddyliais amdanoch chwi,” medd yr ARGLWYDD, “meddyliau heddwch, ac nid drygfyd, i roi i chwi ddyfodol a gobaith.” (Jeremeia 29:11)
Y mae fy nghariad yn eiddo i mi, a minnau'n eiddo iddo ef; y mae'n bugeilio'i braidd ymysg y lilïau.
Ni all dyfroedd lawer ddiffodd cariad, ac ni all afonydd ei foddi. Pe byddai rhywun yn cynnig holl gyfoeth ei dŷ am gariad, byddai hynny yn cael ei ddirmygu'n llwyr.
Mor brydferth wyt, fy nghariad. O mor ddymunol! Y mae ein gwely wedi ei orchuddio â dail.
Fy chwaer a'm priodferch, yr wyt wedi ennill fy nghalon, wedi ennill fy nghalon ag un edrychiad, ag un gem o'r gadwyn am dy wddf.
Mor hyfryd yw dy gariad, fy chwaer a'm priodferch! Y mae dy gariad yn well na gwin, ac arogl dy bersawr yn hyfrytach na'r holl berlysiau.
Nid yw cariad yn darfod byth. Ond proffwydoliaethau, fe'u diddymir hwy; a thafodau, bydd taw arnynt hwy; a gwybodaeth, fe'i diddymir hithau.
Tyn fi ar dy ôl, gad inni redeg gyda'n gilydd; cymer fi i'th ystafell, O frenin. Gad inni lawenhau ac ymhyfrydu ynot, a chanmol dy gariad yn fwy na gwin; mor briodol yw iddynt dy garu!
Er y gellir trechu un, y mae dau yn gallu gwrthsefyll. Ni ellir torri rhaff deircainc ar frys.
Mewn gair, y mae ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, yn aros. A'r mwyaf o'r rhain yw cariad.
Yr wyf fi'n eiddo fy nghariad, ac yntau'n eiddof finnau; y mae'n bugeilio ymysg y lilïau.
Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam, ac yn glynu wrth ei wraig, a byddant yn un cnawd.
Rhoddodd imi rawnwin i'w bwyta, a'm hadfywio ag afalau, oherwydd yr oeddwn yn glaf o gariad.
Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw'n ymffrostio, nid yw'n ymchwyddo.
Nid yw'n gwneud dim sy'n anweddus, nid yw'n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw'n gwylltio, nid yw'n cadw cyfrif o gam;
nid yw'n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae'n cydlawenhau â'r gwirionedd.
Y mae'n goddef i'r eithaf, yn credu i'r eithaf, yn gobeithio i'r eithaf, yn dal ati i'r eithaf.
Gosod fi fel sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich; oherwydd y mae cariad mor gryf â marwolaeth, a nwyd mor greulon â'r bedd; y mae'n llosgi fel ffaglau tanllyd, fel fflam angerddol.
Ni all dyfroedd lawer ddiffodd cariad, ac ni all afonydd ei foddi. Pe byddai rhywun yn cynnig holl gyfoeth ei dŷ am gariad, byddai hynny yn cael ei ddirmygu'n llwyr.
Ond yr ydych chwithau bob un i garu ei wraig fel ef ei hun; ac y mae'r wraig hithau i barchu ei gŵr.
Mwynha fywyd gyda'r wraig yr wyt yn ei charu, a hynny yn ystod holl ddyddiau dy fywyd gwag a roddodd ef iti dan yr haul, oherwydd dyma yw dy dynged mewn bywyd, ac yn y llafur a gyflawni dan yr haul.
Gosod fi fel sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich; oherwydd y mae cariad mor gryf â marwolaeth, a nwyd mor greulon â'r bedd; y mae'n llosgi fel ffaglau tanllyd, fel fflam angerddol.
Yn hyn y mae cariad wedi cael ei berffeithio ynom: bod gennym hyder yn Nydd y Farn, oherwydd fel y mae ef, felly yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.
Y mae calon ei gŵr yn ymddiried ynddi, ac ni fydd pall ar ei henillion.
Y mae'n gwneud daioni iddo yn hytrach na cholled, a hynny ar hyd ei hoes.
A chwithau, bydded i'r Arglwydd beri ichwi gynyddu, a rhagori mewn cariad tuag at eich gilydd a thuag at bawb, fel yr ydym ni tuag atoch chwi,
Nid oes ofn mewn cariad, ond y mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn; y mae a wnelo ofn â chosb, ac nid yw'r sawl sy'n ofni wedi ei berffeithio mewn cariad.
O flaen pob peth, cadwch eich cariad at eich gilydd yn llawn angerdd, oherwydd y mae cariad yn dileu lliaws o bechodau.
Dywedodd yr ARGLWYDD Dduw hefyd, “Nid da bod y dyn ar ei ben ei hun; gwnaf iddo ymgeledd cymwys.”
Y mae dau yn well nag un, oherwydd y maent yn cael tâl da am eu llafur;
os bydd y naill yn syrthio, y mae'r llall yn gallu ei godi, ond gwae'r un sydd ar ei ben ei hun; pan yw'n syrthio, nid oes ganddo neb i'w godi.
Fel pren afalau ymhlith prennau'r goedwig yw fy nghariad ymysg y bechgyn. Yr oeddwn wrth fy modd yn eistedd yn ei gysgod, ac yr oedd ei ffrwyth yn felys i'm genau.
Felly gweithiodd Jacob saith mlynedd am Rachel, ac yr oeddent fel ychydig ddyddiau yn ei olwg am ei fod yn ei charu.
Paid â gollwng gafael ar deyrngarwch a ffyddlondeb; rhwym hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon;
a byddi'n ennill ffafr ac enw da yng ngolwg Duw a dynion.
Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, fel y carodd Crist yntau'r eglwys a'i roi ei hun drosti,
Ni all cariad wneud cam â chymydog. Y mae cariad, felly, yn gyflawniad o holl ofynion y Gyfraith.
Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn ym mhob peth, ac yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad.
Ymrowch i gadw, â rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae'r Ysbryd yn ei roi.
Y mae ei wefusau yn felys; y mae popeth ynddo'n ddymunol. Un fel hyn yw fy nghariad, un fel hyn yw fy nghyfaill, O ferched Jerwsalem.
Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.
Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain.
Cusana fi â chusanau dy wefusau, oherwydd y mae dy gariad yn well na gwin,
ac arogl dy bersawr yn hyfryd, a'th enw fel persawr wedi ei wasgaru; dyna pam y mae merched yn dy garu.
Paid â cheryddu hynafgwr, ond ei gymell fel petai'n dad i ti, y dynion ifainc fel brodyr,
y gwragedd hŷn fel mamau, a'r merched ifainc â phurdeb llwyr fel chwiorydd.
Yn yr un modd, chwi wŷr, byddwch yn ystyriol yn eich bywyd priodasol; rhowch y parch dyladwy i'r wraig, gan mai hi yw'r llestr gwannaf, a chan eich bod yn gydetifeddion y gras sy'n rhoi bywyd. Felly, ni chaiff eich gweddïau mo'u rhwystro.
Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch.
Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy'n caru wedi ei eni o Dduw, ac yn adnabod Duw.
Bydded priodas mewn parch gan bawb, a'r gwely yn ddihalog; oherwydd bydd Duw yn barnu puteinwyr a godinebwyr.
cyflawnwch fy llawenydd trwy fod o'r un meddwl, a'r un cariad gennych at eich gilydd, yn unfryd ac yn unfarn.
Byddwch yn dirion wrth eich gilydd; yn dyner eich calon, yn maddau i'ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi.