Credu ydy ffydd, a rhaid i ti gael ffydd yn dy daith ddyddiol. Mae Duw’n hoff iawn pan mae gennym ni ffydd, ac mae’n amhosib ei blesio heb ffydd. Cyn i bethau ddigwydd, rydyn ni’n credu, ac yna maen nhw’n digwydd.
Mae bywyd Cristnogol yn cael ei yrru gan ffydd. Dyna ddylai fod ein peiriant ni bob dydd - credu yn Nuw ac yn yr holl addewidion rhyfeddol y mae wedi’u rhoi i ni yn ei air. Dw i’n dy annog i ddal ati i gredu y byddi di’n derbyn yr hyn rwyt ti wedi bod yn ei ofyn. Gyda ffydd, gelli di gyflawni pethau gwych. Ymarfer dy ffydd bob dydd, gwna iddi dyfu’n gryfach, a byddi di’n byw bywyd cyfiawn a iachusol. Darllena’r Beibl bob dydd a bwydo dy ffydd drwyddo.
Mae ffydd mor bwerus! Dywedodd Iesu Grist petaet ti’n meddu ar ffydd maint gronyn o fwstard, gallech chi ddweud wrth y mynyddoedd am symud, ac fe fydden nhw’n symud. Dysg i gerdded trwy ffydd, hyd yn oed os nad wyt ti’n gweld dim. Bydd yn sicr y byddi di’n derbyn yr hyn wyt ti wedi’i ofyn i Dduw mewn gweddi os wyt ti’n credu. Yn wir, mae’n amhosib plesio Duw heb ffydd, oherwydd rhaid i bawb sy’n dod ato gredu ei fod yn bodoli ac yn gwobrwyo’r rhai sy’n ei geisio (Hebreaid 11:6).
Y mae gair Duw yn fyw a grymus; y mae'n llymach na'r un cleddyf daufiniog, ac yn treiddio hyd at wahaniad yr enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mêr; ac y mae'n barnu bwriadau a meddyliau'r galon.
Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd, ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur; y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.
“Pob un felly sy'n gwrando ar y geiriau hyn o'r eiddof ac yn eu gwneud, fe'i cyffelybir i un call, a adeiladodd ei dŷ ar y graig.
Ond atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw, ond ar bob gair sy'n dod allan o enau Duw.’ ”
Yna dywedodd Iesu wrth yr Iddewon oedd wedi credu ynddo, “Os arhoswch chwi yn fy ngair i, yr ydych mewn gwirionedd yn ddisgyblion i mi.
Cewch wybod y gwirionedd, a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau.”
felly y mae fy ngair sy'n dod o'm genau; ni ddychwel ataf yn ofer, ond fe wna'r hyn a ddymunaf, a llwyddo â'm neges.
Os arhoswch ynof fi, ac os erys fy ngeiriau ynoch chwi, gofynnwch am beth a fynnwch, ac fe'i rhoddir ichwi.
Fy mab, rho sylw i'm geiriau, a gwrando ar fy ymadrodd.
Paid â'u gollwng o'th olwg; cadw hwy yn dy feddwl;
Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. Â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol.
Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd, ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur; y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.
Yr ydych wedi eich geni o'r newydd, nid o had llygradwy, ond anllygradwy, trwy air Duw, sydd yn fyw ac yn aros.
Yn wir, rwy'n dweud wrthych, hyd nes i nef a daear ddarfod, ni dderfydd yr un llythyren na'r un manylyn lleiaf o'r Gyfraith nes i'r cwbl ddigwydd.
Nid yw'r llyfr cyfraith hwn i adael dy enau; yr wyt i fyfyrio ynddo ddydd a nos, er mwyn iti ofalu gwneud y cyfan sy'n ysgrifenedig ynddo. Yna byddi'n llwyddo yn dy ffyrdd ac yn ffynnu.
Peidiwch ag ychwanegu dim at yr hyn yr wyf yn ei orchymyn ichwi, nac ychwaith dynnu oddi wrtho, ond cadw at orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw yr wyf fi yn eu gorchymyn ichwi.
Am hynny gosodwch y geiriau hyn yn eich calon ac yn eich enaid, a'u rhwymo'n arwydd ar eich llaw, ac yn rhactalau rhwng eich llygaid.
Y mae geiriau'r ARGLWYDD yn eiriau pur: arian wedi ei goethi mewn ffwrnais, aur wedi ei buro seithwaith.
Cafwyd geiriau gennyt, ac aethant yn ymborth i mi; daeth dy air yn llawenydd i mi, ac yn hyfrydwch fy nghalon; canys galwyd dy enw arnaf, O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd.
Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y sawl sy'n gwrando ar fy ngair i, ac yn credu'r hwn a'm hanfonodd i, yn meddu ar fywyd tragwyddol. Nid yw'n dod dan gondemniad; i'r gwrthwyneb, y mae wedi croesi o farwolaeth i fywyd.
Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder.
Felly y darperir pob un sy'n perthyn i Dduw â chyflawn ddarpariaeth ar gyfer pob math o weithredoedd da.
Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo; ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth.”
Felly dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Nid oedir fy ngeiriau rhagor; cyflawnir yr hyn a lefaraf,’ medd yr Arglwydd DDUW.”
y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir, yn llawenhau'r galon; y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur, yn goleuo'r llygaid;
Ef yw disgleirdeb gogoniant Duw, ac y mae stamp ei sylwedd ef arno; ac y mae'n cynnal pob peth â'i air nerthol. Ar ôl iddo gyflawni puredigaeth pechodau, eisteddodd ar ddeheulaw'r Mawrhydi yn yr uchelder,
Y mae pob un o eiriau Duw wedi ei brofi; y mae ef yn darian i'r rhai sy'n ymddiried ynddo.
Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith, yn adfywio'r enaid; y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr, yn gwneud y syml yn ddoeth;
Caiff y rhai sy'n caru dy gyfraith wir heddwch, ac nid oes dim yn peri iddynt faglu.
ond y mae gair yr Arglwydd yn aros am byth.” A dyma'r gair a bregethwyd yn Efengyl i chwi.
Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith, yn adfywio'r enaid; y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr, yn gwneud y syml yn ddoeth;
y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir, yn llawenhau'r galon; y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur, yn goleuo'r llygaid;
Ond petai rhywun, ni ein hunain hyd yn oed, neu angel o'r nef, yn pregethu i chwi efengyl sy'n groes i'r Efengyl a bregethasom ichwi, melltith arno!
Fel yr ydym wedi dweud o'r blaen, felly yr wyf yn dweud eto yn awr: os oes rhywun yn pregethu efengyl i chwi sy'n groes i'r Efengyl a dderbyniasoch, melltith arno!
Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw am dy gariad a'th ffyddlondeb, oherwydd dyrchefaist dy enw a'th air uwchlaw popeth.
Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, dadau, am eich bod yn adnabod yr hwn sydd wedi bod o'r dechreuad. Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, wŷr ifainc, am eich bod yn gryf, ac am fod gair Duw yn aros ynoch, a'ch bod wedi gorchfygu'r Un drwg.
Yr ydym ni'n diolch i Dduw yn ddi-baid ar gyfrif hyn hefyd: eich bod chwi, wrth dderbyn gair Duw fel y clywsoch ef gennym ni, wedi ei groesawu, nid fel gair dynol ond fel yr hyn ydyw mewn gwirionedd, sef gair Duw, sydd hefyd ar waith ynoch chwi sy'n gredinwyr.
Y mae'r geiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw i fod yn dy galon.
Yr wyt i'w hadrodd i'th blant, ac i sôn amdanynt pan fyddi'n eistedd yn dy dŷ ac yn cerdded ar y ffordd, a phan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi.
Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDD nag ymddiried yn neb meidrol.
Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDD nag ymddiried mewn tywysogion.
Ac fe ysgrifennwyd yr Ysgrythurau gynt er mwyn ein dysgu ni, er mwyn i ni, trwy ddyfalbarhad a thrwy eu hanogaeth hwy, ddal ein gafael yn ein gobaith.
ond pwy bynnag sy'n cadw ei air ef, yn hwnnw, yn wir, y mae cariad at Dduw wedi ei berffeithio. Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod ynddo ef:
er mwyn i ddau beth digyfnewid, dau beth yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog ynddynt, beri i ni sydd wedi ffoi am noddfa dderbyn symbyliad cryf i ymaflyd yn y gobaith a osodwyd o'n blaen.
Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, gwrando ar yr holl eiriau yr wyf yn eu llefaru wrthyt, a derbyn hwy i'th galon.