Adnodau Beiblaidd

Hysbysebion


Is-gategori

ADNODDAU DYNOL

Mae gair Duw yn bwerus ac yn ein trawsnewid ni. Mae 'na gymaint o adnodau rydyn ni'n eu clywed dro ar ôl tro, ac mae ganddyn nhw'r pŵer i newid ein bywydau, ein meddyliau, a'n ffordd o fyw. Adnodau rydyn ni'n eu dysgu er mwyn eu rhoi ar waith bob dydd.

“Gallaf bob dim trwy Grist sy’n rhoi nerth i mi.” (Philipiaid 4:13) Dyma un rydyn ni'n ei ddysgu'n gynnar, ac yn troi ato fe pan rydyn ni'n teimlo'n wan.

“Canys felly y carodd Duw'r byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael bywyd tragwyddol.” (Ioan 3:16) Mae hwn yn un o'r rhai pwysicaf, ac yn aml un o'r cyntaf i gael ei rannu wrth i ni ddysgu am Iesu Grist ein Harglwydd.

Mae 'na lawer mwy o adnodau pwerus, ac mi gei di gyfle i'w darllen nhw yma.


Genesis 12:3

Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear.”

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 3:33

Y mae melltith yr ARGLWYDD ar dŷ'r drygionus, ond y mae'n bendithio trigfa'r cyfiawn.

Pennod    |  Fersiynau
Lago 3:9

Â'r tafod yr ydym yn bendithio'r Arglwydd a'r Tad; â'r tafod hefyd yr ydym yn melltithio'r rhai a luniwyd ar ddelw Duw.

Pennod    |  Fersiynau
Josua 8:34

Wedi hynny darllenodd Josua holl eiriau'r gyfraith, y fendith a'r felltith, fel sy'n ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith.

Pennod    |  Fersiynau
Sechareia 8:13

Ac fel y buoch chwi, dŷ Jwda a thŷ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd, felly y'ch gwaredaf, a byddwch yn fendith. Peidiwch ag ofni, ond cryfhaer eich dwylo.’

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 11:26

Gwelwch, yr wyf yn gosod ger eich bron heddiw fendith a melltith:

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 11:27

bendith os gwrandewch ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw;

Pennod    |  Fersiynau
Nehemeia 13:2

am na ddaethant i gyfarfod â'r Israeliaid â bwyd a diod, eithr yn hytrach gyflogi Balaam yn eu herbyn, i'w melltithio; ond fe drodd ein Duw y felltith yn fendith.

Pennod    |  Fersiynau
Luc 6:28

bendithiwch y rhai sy'n eich melltithio, gweddïwch dros y rhai sy'n eich cam-drin.

Pennod    |  Fersiynau
Lago 3:10

O'r un genau y mae bendith a melltith yn dod. Fy nghyfeillion, nid felly y mae pethau i fod.

Pennod    |  Fersiynau
Galatiaid 3:13

Prynodd Crist ryddid i ni oddi wrth felltith y Gyfraith pan ddaeth, er ein mwyn, yn wrthrych melltith, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un a grogir ar bren!”

Pennod    |  Fersiynau
1 Corinthiaid 4:12

yn blino gan lafur ein dwylo ein hunain. Ein hateb i'r difenwi sydd arnom yw bendithio; i'r erlid, goddef;

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 11:26-28

Gwelwch, yr wyf yn gosod ger eich bron heddiw fendith a melltith:

bendith os gwrandewch ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw;

ond melltith os na fyddwch yn gwrando ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, eithr yn troi o'r ffordd yr wyf fi yn ei gorchymyn ichwi heddiw, i ddilyn duwiau estron nad ydych yn eu hadnabod.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 30:1

Pan fydd yr holl bethau hyn wedi digwydd iti, a thithau'n dwyn ar gof i ti dy hun, ymysg yr holl genhedloedd y gyrrodd yr ARGLWYDD dy Dduw di atynt, y dewis a roddais iti rhwng bendith a melltith;

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 37:22

Bydd y rhai a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir, ond fe dorrir ymaith y rhai a felltithiwyd ganddo.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 28:15

Ac os na fyddi'n gwrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, i ofalu cyflawni ei holl orchmynion a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu rhoi iti heddiw, yna fe ddaw i'th ran yr holl felltithion hyn, ac fe'th amgylchant:

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 30:19-20

Yr wyf yn galw'r nef a'r ddaear yn dystion yn dy erbyn heddiw, imi roi'r dewis iti rhwng bywyd ac angau, rhwng bendith a melltith. Dewis dithau fywyd, er mwyn iti fyw, tydi a'th ddisgynyddion,

gan garu'r ARGLWYDD dy Dduw, a gwrando ar ei lais a glynu wrtho; oherwydd ef yw dy fywyd, ac ef fydd yn estyn dy ddyddiau iti gael byw yn y tir yr addawodd yr ARGLWYDD i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob, y byddai'n ei roi iddynt.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 28:1-2

Os byddi'n gwrando'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, ac yn gofalu cadw popeth y mae'n ei orchymyn iti heddiw, yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy osod yn uwch na holl genhedloedd y byd.

Daw'r holl fendithion hyn i'th ran ac i'th amgylchu, dim ond iti wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 62:4

Yn wir, cynlluniant i'w dynnu i lawr o'i safle, ac y maent yn ymhyfrydu mewn twyll; y maent yn bendithio â'u genau, ond ynddynt eu hunain yn melltithio. Sela

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 30:19

Yr wyf yn galw'r nef a'r ddaear yn dystion yn dy erbyn heddiw, imi roi'r dewis iti rhwng bywyd ac angau, rhwng bendith a melltith. Dewis dithau fywyd, er mwyn iti fyw, tydi a'th ddisgynyddion,

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 28:2

Daw'r holl fendithion hyn i'th ran ac i'th amgylchu, dim ond iti wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw.

Pennod    |  Fersiynau
Genesis 3:17

Dywedodd wrth Adda: “Am iti wrando ar lais dy wraig, a bwyta o'r pren y gorchmynnais i ti beidio â bwyta ohono, melltigedig yw'r ddaear o'th achos; trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy fywyd.

Pennod    |  Fersiynau
Galatiaid 6:7

Peidiwch â chymryd eich camarwain; ni chaiff Duw mo'i watwar, oherwydd beth bynnag y mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi.

Pennod    |  Fersiynau
Numeri 22:6

Tyrd, yn awr, a melltithia'r bobl hyn imi, oherwydd y maent yn gryfach na mi; yna, hwyrach y gallaf eu gorchfygu a'u gyrru allan o'r wlad, oherwydd gwn y daw bendith i'r sawl yr wyt ti'n ei fendithio, a melltith i'r sawl yr wyt ti'n ei felltithio.”

Pennod    |  Fersiynau
Malachi 2:2

“Os na wrandewch, a gofalu am anrhydeddu fy enw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “yna anfonaf felltith arnoch, a melltithiaf eich bendithion; yn wir, yr wyf wedi eu melltithio eisoes, am nad ydych yn ystyried.

Pennod    |  Fersiynau
Lefiticus 20:9

“ ‘Os bydd unrhyw un yn melltithio ei dad neu ei fam, y mae i'w roi i farwolaeth. Oherwydd iddo felltithio ei dad neu ei fam, y mae'n gyfrifol am ei waed ei hun.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 26:12

Fe welaist un sy'n ddoeth yn ei olwg ei hun; y mae mwy o obaith i ffŵl nag iddo ef.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 10:22

Bendith yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfoeth, ac nid yw'n ychwanegu gofid gyda hi.

Pennod    |  Fersiynau
Exodus 21:17

“Pwy bynnag sy'n melltithio'i dad neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.

Pennod    |  Fersiynau
Numeri 6:24-26

“ ‘Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio a'th gadw;

bydded i'r ARGLWYDD lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt;

bydded i'r ARGLWYDD edrych arnat, a rhoi iti heddwch.’

Pennod    |  Fersiynau
Rhufeiniaid 12:14

Bendithiwch y rhai sy'n eich erlid, bendithiwch heb felltithio byth.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 1:1-3

Gwyn ei fyd y sawl nad yw'n dilyn cyngor y drygionus nac yn ymdroi hyd ffordd pechaduriaid nac yn eistedd ar sedd gwatwarwyr,

ond sy'n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.

Y mae fel pren wedi ei blannu wrth ffrydiau dŵr ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor, a'i ddeilen heb fod yn gwywo. Beth bynnag a wna, fe lwydda.

Pennod    |  Fersiynau
Effesiaid 4:29

Nid oes yr un gair drwg i ddod allan o'ch genau, dim ond geiriau da, sydd er adeiladaeth yn ôl yr angen, ac felly'n dwyn bendith i'r sawl sy'n eu clywed.

Pennod    |  Fersiynau
Galatiaid 3:13-14

Prynodd Crist ryddid i ni oddi wrth felltith y Gyfraith pan ddaeth, er ein mwyn, yn wrthrych melltith, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un a grogir ar bren!”

Y bwriad oedd cael bendith Abraham i ymledu i'r Cenhedloedd yng Nghrist Iesu, er mwyn i ni dderbyn, trwy ffydd, yr Ysbryd a addawyd.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 112:1-3

Molwch yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD, ac yn ymhyfrydu'n llwyr yn ei orchmynion.

Bydd ei ddisgynyddion yn gedyrn ar y ddaear, yn genhedlaeth uniawn wedi ei bendithio.

Bydd golud a chyfoeth yn ei dŷ, a bydd ei gyfiawnder yn para am byth.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 28:1-14

Os byddi'n gwrando'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, ac yn gofalu cadw popeth y mae'n ei orchymyn iti heddiw, yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy osod yn uwch na holl genhedloedd y byd.

Daw'r holl fendithion hyn i'th ran ac i'th amgylchu, dim ond iti wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw.

Byddi'n derbyn bendith yn y dref ac yn y maes.

Bydd bendith ar ffrwyth dy gorff, ar gnwd dy dir a'th fuches, ar gynnydd dy wartheg ac epil dy ddefaid.

Bydd bendith ar dy gawell a'th badell dylino.

Bydd bendith arnat wrth ddod i mewn ac wrth fynd allan.

Bydd yr ARGLWYDD yn peri i'th elynion sy'n codi yn dy erbyn gael eu dryllio o'th flaen; byddant yn dod yn dy erbyn ar hyd un ffordd, ond yn ffoi rhagot ar hyd saith.

Bydd yr ARGLWYDD yn gorchymyn bendith ar dy ysguboriau ac ar bopeth a wnei; bydd yn dy fendithio yn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti.

Bydd yr ARGLWYDD yn dy sefydlu'n bobl sanctaidd iddo, fel yr addawodd iti, os cedwi orchmynion yr ARGLWYDD dy Dduw a rhodio yn ei ffyrdd.

Fe wêl holl bobloedd y ddaear mai ar enw'r ARGLWYDD y gelwir di; a bydd dy ofn arnynt.

Bydd yr ARGLWYDD yn dy lwyddo'n ardderchog yn ffrwyth dy gorff, cynnydd dy fuches, a chnwd dy dir yn y wlad yr addawodd yr ARGLWYDD i'th hynafiaid ei rhoi iti.

Bydd yr ARGLWYDD yn agor y nefoedd, ystordy ei ddaioni, i roi glaw i'th dir yn ei bryd, ac i fendithio holl waith dy ddwylo; byddi'n rhoi benthyg i lawer o genhedloedd, ond heb angen benthyca dy hun.

Bydd yr ARGLWYDD yn dy wneud yn ben ac nid yn gynffon, yn uchaf bob amser ac nid yn isaf, dim ond iti wrando ar orchmynion yr ARGLWYDD dy Dduw, y rhai yr wyf yn eu rhoi iti heddiw i'w cadw a'u gwneud.

Paid â gwyro i'r dde na'r chwith oddi wrth yr un o'r pethau yr wyf fi'n eu gorchymyn iti heddiw, na dilyn duwiau estron i'w haddoli.

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 5:6

Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder, oherwydd cânt hwy eu digon.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 18:21

Y mae'r tafod yn gallu rhoi marwolaeth neu fywyd, ac y mae'r rhai sy'n ei hoffi yn bwyta'i ffrwyth.

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 5:3-12

“Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.

Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru, oherwydd cânt hwy eu cysuro.

Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cânt hwy etifeddu'r ddaear.

Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder, oherwydd cânt hwy eu digon.

Gwyn eu byd y rhai trugarog, oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd.

Gwyn eu byd y rhai pur eu calon, oherwydd cânt hwy weld Duw.

Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw'n blant i Dduw.

Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.

“Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a'ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o'm hachos i.

Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd; felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o'ch blaen chwi.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 94:23

Daw â'u camweddau eu hunain yn ôl arnynt, ac fe'u diddyma am eu drygioni. Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn eu diddymu.

Pennod    |  Fersiynau
Lago 3:9-10

Â'r tafod yr ydym yn bendithio'r Arglwydd a'r Tad; â'r tafod hefyd yr ydym yn melltithio'r rhai a luniwyd ar ddelw Duw.

O'r un genau y mae bendith a melltith yn dod. Fy nghyfeillion, nid felly y mae pethau i fod.

Pennod    |  Fersiynau
Job 1:21

a dweud, “Yn noeth y deuthum o groth fy mam, ac yn noeth y dychwelaf yno. Yr ARGLWYDD a roddodd, a'r ARGLWYDD a ddygodd ymaith. Bendigedig fyddo enw'r ARGLWYDD.”

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 34:8

Profwch, a gwelwch mai da yw'r ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n llochesu ynddo.

Pennod    |  Fersiynau
1 Petr 3:9

Peidiwch â thalu drwg am ddrwg na sen am sen. I'r gwrthwyneb, bendithiwch! Oherwydd i hyn y cawsoch eich galw—er mwyn i chwi etifeddu bendith.

Pennod    |  Fersiynau
Lago 3:10-12

O'r un genau y mae bendith a melltith yn dod. Fy nghyfeillion, nid felly y mae pethau i fod.

A welir dŵr peraidd a dŵr chwerw yn tarddu o lygad yr un ffynnon?

A yw'r pren ffigys, fy nghyfeillion, yn gallu dwyn olifiau, neu'r winwydden ffigys? Nac ydyw, ac ni ddaw dŵr peraidd o ddŵr hallt chwaith.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 30:5

Am ennyd y mae ei ddig, ond ei ffafr am oes; os erys dagrau gyda'r hwyr, daw llawenydd yn y bore.

Pennod    |  Fersiynau
Galatiaid 6:7-8

Peidiwch â chymryd eich camarwain; ni chaiff Duw mo'i watwar, oherwydd beth bynnag y mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi.

Bydd y sawl sy'n hau i'w gnawd ei hun yn medi o'i gnawd lygredigaeth, a'r sawl sy'n hau i'r Ysbryd yn medi o'r Ysbryd fywyd tragwyddol.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 65:4

Gwyn ei fyd y sawl a ddewisi ac a ddygi'n agos, iddo gael preswylio yn dy gynteddau; digoner ninnau â daioni dy dŷ, dy deml sanctaidd.

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 25:34

Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, ‘Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu'r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 107:38

Bydd ef yn eu bendithio ac yn eu hamlhau, ac ni fydd yn gadael i'w gwartheg leihau.

Pennod    |  Fersiynau
Mathew 7:7-11

“Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.

Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws.

Pwy ohonoch, os bydd ei blentyn yn gofyn am fara, a rydd iddo garreg?

Neu os bydd yn gofyn am bysgodyn, a rydd iddo sarff?

Am hynny, os ydych chwi, sy'n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i'ch plant, gymaint mwy y rhydd eich Tad sydd yn y nefoedd bethau da i'r rhai sy'n gofyn ganddo!

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 112:1

Molwch yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD, ac yn ymhyfrydu'n llwyr yn ei orchmynion.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 119:35

gwna imi gerdded yn llwybr dy orchmynion, oherwydd yr wyf yn ymhyfrydu ynddo.

Pennod    |  Fersiynau
Exodus 23:25-26

Yr ydych i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw; bydd ef yn bendithio dy fara a'th ddŵr ac yn cymryd ymaith bob clefyd o'ch plith.

Ni bydd dim o fewn dy dir yn erthylu nac yn ddiffrwyth; rhoddaf i ti nifer llawn o ddyddiau.

Pennod    |  Fersiynau
Exodus 20:5

nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu,

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 19:17

Y mae'r un sy'n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i'r ARGLWYDD, ac fe dâl ef yn ôl iddo am ei weithred.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 128:1-2

Gwyn ei fyd pob un sy'n ofni'r ARGLWYDD ac yn rhodio yn ei ffyrdd.

Cei fwyta o ffrwyth dy lafur; byddi'n hapus ac yn wyn dy fyd.

Pennod    |  Fersiynau
Luc 6:38

Rhowch, ac fe roir i chwi; rhoir yn eich côl fesur da, wedi ei wasgu i lawr a'i ysgwyd ynghyd nes gorlifo; oherwydd â'r mesur y rhowch y rhoir i chwi yn ôl.”

Pennod    |  Fersiynau
Rhufeiniaid 15:29

Gwn y bydd fy ymweliad â chwi dan fendith gyflawn Crist.

Pennod    |  Fersiynau
Hebraid 11:20

Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau ar gyfer pethau i ddod.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 119:17

Bydd dda wrth dy was; gad imi fyw, ac fe gadwaf dy air.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 11:11

Dyrchefir dinas gan fendith yr uniawn, ond dinistrir hi trwy eiriau'r drygionus.

Pennod    |  Fersiynau
Hebraid 11:6

ond heb ffydd y mae'n amhosibl rhyngu ei fodd ef. Oherwydd rhaid i'r sawl sy'n dod at Dduw gredu ei fod ef, a'i fod yn gwobrwyo'r rhai sy'n ei geisio.

Pennod    |  Fersiynau
Deuteronomium 26:2

yna cymer o flaenffrwyth holl gnydau'r tir y byddi'n eu casglu yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti, a gosod hwy mewn cawell, a mynd i'r lle y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw.

Pennod    |  Fersiynau
Y Pregethwr 3:13

a gwn mai rhodd Duw yw fod pob un yn bwyta ac yn yfed ac yn cael mwynhad o'i holl lafur.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 16:5-6

Ti, ARGLWYDD, yw fy nghyfran a'm cwpan, ti sy'n diogelu fy rhan;

syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol, ac y mae gennyf etifeddiaeth ragorol.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 22:9

Bendithir yr un hael am ei fod yn rhannu ei fara i'r tlawd.

Pennod    |  Fersiynau
Eseia 65:16

Bydd pawb ar y ddaear sy'n ceisio bendith yn ceisio'i fendith yn enw Duw gwirionedd, a phawb ar y ddaear sy'n tyngu llw yn tyngu ei lw yn enw Duw gwirionedd.” “Anghofir y treialon gynt, ac fe'u cuddir o'm golwg.

Pennod    |  Fersiynau
Jeremeia 17:7-8

Bendigedig yw'r sawl sy'n hyderu yn yr ARGLWYDD, a'r ARGLWYDD yn hyder iddo.

Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd, yn gwthio'i wreiddiau i'r afon, heb ofni gwres pan ddaw, a'i ddail yn ir; ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid â ffrwytho.

Pennod    |  Fersiynau
Y Salmau 68:19

Bendigedig yw'r Arglwydd, sy'n ein cario ddydd ar ôl dydd; Duw yw ein hiachawdwriaeth. Sela

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 21:21

Y mae'r sawl sy'n dilyn cyfiawnder a theyrngarwch yn cael bywyd llwyddiannus ac anrhydedd.

Pennod    |  Fersiynau
Diarhebion 4:7

Doethineb yw'r pennaf peth; cais ddoethineb; â'r cyfan sydd gennyt, cais ddeall.

Pennod    |  Fersiynau
Genesis 12:2-3

Gwnaf di yn genedl fawr a bendithiaf di; mawrygaf dy enw a byddi'n fendith.

Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear.”

Pennod    |  Fersiynau

Gweddi i Dduw

Diolch iti, O Arglwydd, fy iachawdwr, fy nghyflenwr, a’m ceidwad. Ti yw’r un sy’n ymladd fy mrwydrau ac yn fy arwain o ogoniant i ogoniant. Yn enw nerthol Iesu, diolch am dy air; hi yw fy mhorth bwyd gorau, ac ynddi y mae fy nghres tyfiant ysbrydol. Hi yw’r lamp i’m traed, a’r goleuni i’m llwybr, yn fy nghadw rhag llithro. Rho imi o’th ddoethineb, i’th adnabod a’th ddeall drwyddi. Ti yw’r un sy’n fy nghynnal ac yn dweud wrthyf, “Nac ofna; myfi sydd gyda thi.” Heddiw, rwy’n gofyn iti sefydlu dy deyrnas yn fy mywyd ac ym mywyd fy nheulu. Diolch i ti, mae dy air yn datgan, “Ti yw fy amddiffynfa a’m nerth; fy nghymorth cyflym mewn cyfyngder.” Yn yr amser anodd hwn, rwy’n gwybod dy fod yn gofalu amdanaf, ac rwy’n datgan, er fy mod yn rhodio trwy gwmwd cysgod angau, na ofnaf ddrwg. Gwasgar bob tywyllwch a phob cysgod; gwna i oleuni Crist ddisgleirio yn fy mywyd ac yn fy nghartref. Yn enw Iesu. Amen.