Mae Duw wedi rhoi cymaint o fendithion i mi, nes bod gen i gymaint dros beth i fod yn ddiolgar amdano bob dydd. Mae Duw yn dda ac yn llenwi fy mywyd â’i fendithion yn ddyddiol. Dw i’n gweld ac yn mwynhau’r fraint o’r bendithion hynny; to dros fy mhen, iechyd da, teulu a ffrindiau, a gwaith. Mae cymaint o bethau lle dw i’n gweld llaw Duw, felly bydd 'na bob amser reswm i fod yn ddiolgar iddo. Weithiau, dw i’n canolbwyntio gormod ar fy mhroblemau neu'r pethau sydd ar goll yn hytrach na mynegi fy llawenydd a’m diolchgarwch i Dduw am yr holl bethau da yn fy mywyd.
Ein Duw ni yw rhoddwr pob peth da! Rwy'n ceisio creu'r arfer o ddiolch iddo bob dydd am ei holl ddaioni. Fel mae'r Beibl yn dweud yn Hebreaid 12:28, “Gan ein bod ni’n derbyn teyrnas na ellir ei siglo, gadewch inni fod yn ddiolchgar a thrwy hynny addoli Duw yn y ffordd sy’n ei blesio, gyda pharch ac ofn.”
codaist amddiffyn rhag dy elynion o enau babanod a phlant sugno, a thawelu'r gelyn a'r dialydd.
ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthyt pan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel, ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear.
Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun; y mae'r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr; cafodd fy nyddiau eu ffurfio pan nad oedd yr un ohonynt.
Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, dy Waredydd, a'r hwn a'th luniodd o'r groth: “Myfi, yr ARGLWYDD, a wnaeth y cyfan— estyn y nefoedd fy hunan, a lledu'r ddaear heb neb gyda mi;
ond dywedodd Iesu, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas nefoedd yn perthyn.”
Am y bachgen hwn yr oeddwn yn gweddïo, a rhoddodd yr ARGLWYDD imi'r hyn a ofynnais ganddo.
“Cyn i mi dy lunio yn y groth, fe'th adnabûm; a chyn dy eni, fe'th gysegrais; rhoddais di'n broffwyd i'r cenhedloedd.”
Ond galwodd Iesu'r plant ato gan ddweud, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn.
Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. Fe'i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon”.
Yr amser hwnnw daeth y disgyblion at Iesu a gofyn, “Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?”
Galwodd Iesu blentyn ato, a'i osod yn eu canol hwy,
a dywedodd, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, heb gymryd eich troi a dod fel plant, nid ewch fyth i mewn i deyrnas nefoedd.
Pwy bynnag, felly, fydd yn ei ddarostwng ei hun i fod fel y plentyn hwn, dyma'r un sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd.
Ti a greodd fy ymysgaroedd, a'm llunio yng nghroth fy mam.
Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol, ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol. Yr wyt yn fy adnabod mor dda;
Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio o Seion, iti gael gweld llwyddiant Jerwsalem holl ddyddiau dy fywyd,
ac iti gael gweld plant dy blant. Bydded heddwch ar Israel!
ac meddai wrthynt, “Pwy bynnag sy'n derbyn y plentyn hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i; a phwy bynnag sy'n fy nerbyn i, y mae'n derbyn yr hwn a'm hanfonodd i. Oherwydd y lleiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw sydd fawr.”
a dywedodd, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, heb gymryd eich troi a dod fel plant, nid ewch fyth i mewn i deyrnas nefoedd.
hyd eich henaint, myfi yw Duw, hyd eich penwynni, mi a'ch cariaf. Myfi sy'n gwneud, myfi sy'n cludo, myfi sy'n cario, a myfi sy'n arbed.
Gosod fi fel sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich; oherwydd y mae cariad mor gryf â marwolaeth, a nwyd mor greulon â'r bedd; y mae'n llosgi fel ffaglau tanllyd, fel fflam angerddol.
Tywalltaf ddyfroedd ar y tir sychedig a ffrydiau ar y sychdir; tywalltaf fy ysbryd ar dy had a'm bendith ar dy hiliogaeth.
Yna cododd Esau ei olwg a gweld y gwragedd a'r plant, a gofynnodd, “Pwy yw'r rhain sydd gyda thi?” Atebodd yntau, “Dyma'r plant y mae Duw o'i ffafr wedi eu rhoi i'th was.”
Bydd dy wraig yng nghanol dy dŷ fel gwinwydden ffrwythlon, a'th blant o amgylch dy fwrdd fel blagur olewydd.
“Gwyliwch rhag i chwi ddirmygu un o'r rhai bychain hyn; oherwydd rwy'n dweud wrthych fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn edrych ar wyneb fy Nhad sydd yn y nefoedd.
Y mae'n porthi ei braidd fel bugail, ac â'i fraich yn eu casglu ynghyd; y mae'n cludo'r ŵyn yn ei gôl, ac yn coleddu'r mamogiaid.
Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun.
Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.