Rhoi. Dyna’r weithred. Ac mae’n bleser i Dduw pan rydyn ni’n rhoi o’r galon. Wrth baratoi dy rodd i Dduw, cofia mai’r gorau sydd gen ti yw’r hyn mae e’n ei haeddu. Rhaid i’r bwriad fod yno hefyd – rhoi o lawenydd a diolchgarwch am yr holl fendithion rydyn ni wedi’u derbyn, er nad ydyn ni’n eu haeddu.
Os dim ond y mwyar sydd gen ti rwyt ti’n ei roi, paid â disgwyl i fywyd dy drin yn well na hynny. Rhaid rhoi fel petaen i ni’n hunain, nid o dan orfodaeth nac yn disgwyl cael rhywbeth yn ôl. Dim ots am glod a chanmoliaeth – dylai’r rhodd ddod o le cudd, heb i’r llaw chwith wybod beth mae’r llaw dde yn ei wneud.
Mae’r Arglwydd wrth ei fodd gyda’r rhai sy’n rhoi’n hael, oherwydd mae’n gweld beth sydd yn y galon. Fel mae’r ysgrythur yn dweud (2 Corinthiaid 9:7), rhaid rhoi yn ôl fel rwyt ti wedi penderfynu yn dy galon, nid yn anfoddog nac o dan orfodaeth, oherwydd mae Duw yn caru’r rhoddwr llawen.
Mae offrymu yn ffordd o addoli, o ddychwelyd rhywfaint o’r hyn a roddodd Duw i ni yn y lle cyntaf. Mae Duw bob amser yn rhoi’n helaeth ac yn hael, felly pan rydyn ni’n offrymu o’r galon, rydyn ni’n agor y drws i fwy o fendithion. Po fwyaf rwyt ti’n ei roi, mwyaf rwyt ti’n ei dderbyn.
Chwi rai anffyddlon, oni wyddoch fod cyfeillgarwch â'r byd yn elyniaeth tuag at Dduw? Y mae unrhyw un sy'n mynnu bod yn gyfaill i'r byd yn ei wneud ei hun yn elyn i Dduw.
Honni eu bod yn gyfeillion a wna rhai; ond ceir hefyd gyfaill sy'n glynu'n well na brawd.
Peidiwch â charu'r byd na'r pethau sydd yn y byd. Os yw rhywun yn caru'r byd, nid yw cariad y Tad ynddo,
Paid â chyfeillachu â neb a chanddo dymer ddrwg, nac aros yng nghwmni'r dicllon,
rhag iti ddysgu ei ffordd, a'th gael dy hun mewn magl.
Ond yn awr yr wyf yn ysgrifennu i ddweud wrthych am beidio â chymysgu â neb a elwir yn gredadun os yw'n anfoesol yn rhywiol neu'n trachwantu, yn addoli eilunod, yn difenwi, yn meddwi, neu'n cribddeilio; peidiwch hyd yn oed â bwyta gydag un felly.
Gwyn ei fyd y sawl nad yw'n dilyn cyngor y drygionus nac yn ymdroi hyd ffordd pechaduriaid nac yn eistedd ar sedd gwatwarwyr,
Os daw rhywun atoch heb ddod â'r ddysgeidiaeth hon, peidiwch â'i dderbyn i'ch tŷ na'i gyfarch ef,
oherwydd y mae'r sawl sy'n ei gyfarch yn gyfrannog o'i weithredoedd drygionus.
Y mae'n wylo'n chwerw yn y nos, a dagrau ar ei gruddiau; nid oes ganddi neb i'w chysuro o blith ei holl gariadon; y mae ei chyfeillion i gyd wedi ei bradychu, ac wedi troi'n elynion iddi.
Y mae'r un sy'n cuddio tramgwydd yn ceisio cyfeillgarwch, ond y mae'r sawl sy'n ailadrodd stori yn gwahanu cyfeillion.
Yr ydym yn gorchymyn i chwi, gyfeillion, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, gadw draw oddi wrth bob crediniwr sy'n segura yn lle byw yn ôl y traddodiad a dderbyniodd gennym ni.
Am yr un a fyn greu rhaniadau, ar ôl iddo gael ei rybuddio, a'i ailrybuddio, paid â gwneud dim mwy ag ef;
fe wyddost fod un felly wedi ei wyrdroi, ei fod yn pechu, a thrwy hynny yn ei gollfarnu ei hun.
Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ffieiddio'r cyfeiliornus, ond yn rhannu ei gyfrinach â'r uniawn.
A daeth Jehu fab Hanani y gweledydd allan i'w gyfarfod a dweud wrtho, “A wyt ti'n ymhyfrydu mewn cynorthwyo'r annuwiol a'r rhai sy'n casáu'r ARGLWYDD? Daw llid arnat am hyn.
Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn llawn tlodi.
Ni fûm yn eistedd gyda rhai diwerth, nac yn cyfeillachu gyda rhagrithwyr.
Yr wyf yn casáu cwmni'r rhai drwg, ac nid wyf yn eistedd gyda'r drygionus.
Y mae'r cyfiawn yn cilio oddi wrth ddrwg, ond y mae ffordd y drygionus yn eu camarwain.
Os bydd rhywrai'n gwrthod ufuddhau i'n gair ni yn y llythyr hwn, cadwch eich llygad arnynt, a pheidiwch â chymdeithasu â hwy, er mwyn codi cywilydd arnynt.
Eto peidiwch â'u hystyried fel gelynion, ond rhybuddiwch hwy fel cyfeillion.
Y mae doethineb yn well nag arfau rhyfel, ond y mae un pechadur yn difetha llawer o ddaioni.
Gwyn ei fyd y sawl nad yw'n dilyn cyngor y drygionus nac yn ymdroi hyd ffordd pechaduriaid nac yn eistedd ar sedd gwatwarwyr,
ond sy'n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.
Y mae fel pren wedi ei blannu wrth ffrydiau dŵr ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor, a'i ddeilen heb fod yn gwywo. Beth bynnag a wna, fe lwydda.
Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni.
Peidiwch ag ymgysylltu'n amhriodol ag anghredinwyr, oherwydd pa gyfathrach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfraith? A pha gymdeithas sydd rhwng goleuni a thywyllwch?
Fy Nuw, O na fyddit ti'n lladd y drygionus, fel y byddai rhai gwaedlyd yn troi oddi wrthyf—
y rhai sy'n dy herio di yn ddichellgar, ac yn gwrthryfela'n ofer yn dy erbyn.
Onid wyf yn casáu, O ARGLWYDD, y rhai sy'n dy gasáu di, ac yn ffieiddio'r rhai sy'n codi yn dy erbyn?
Yr wyf yn eu casáu â chas perffaith, ac y maent fel gelynion i mi.
Yr oeddech yn rhedeg yn dda. Pwy a'ch rhwystrodd chwi rhag canlyn y gwirionedd?
Nid oddi wrth yr hwn sy'n eich galw y daeth y perswâd yma.
Y mae ychydig surdoes yn suro'r holl does.
Ymddisgyblwch a byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebydd, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i'w lyncu.
Peidiwch â charu'r byd na'r pethau sydd yn y byd. Os yw rhywun yn caru'r byd, nid yw cariad y Tad ynddo,
oherwydd y cwbl sydd yn y byd—trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid, a balchder mewn meddiannau—nid o'r Tad y mae, ond o'r byd.
Y mae'r byd a'i drachwant yn mynd heibio, ond y mae'r sawl sy'n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.
Yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, gwyliwch y rhai sydd yn peri rhwyg ac yn codi rhwystrau, yn groes i'r athrawiaeth a ddysgasoch chwi. Gochelwch rhagddynt,
oherwydd nid gwasanaethu Crist ein Harglwydd y mae rhai fel hyn, ond eu chwantau eu hunain; pobl ydynt sydd, trwy eiriau teg a gweniaith, yn hudo meddyliau'r diniwed ar gyfeiliorn.
Ond yr wyt ti, ŵr Duw, i ffoi rhag y pethau hyn, ac i roi dy fryd ar uniondeb, duwioldeb, ffydd, cariad, dyfalbarhad ac addfwynder.
Ymdrecha ymdrech lew y ffydd, a chymer feddiant o'r bywyd tragwyddol. I hyn y cefaist dy alw pan wnaethost dy gyffes lew o'r ffydd o flaen tystion lawer.
Fy mab, os hudir di gan bechaduriaid, paid â chytuno â hwy.
Fe ddywedant, “Tyrd gyda ni, inni gynllwynio i dywallt gwaed, a llechu'n ddiachos yn erbyn y diniwed;
fel Sheol, llyncwn hwy'n fyw ac yn gyfan, fel rhai'n disgyn i'r pwll;
fe gymerwn bob math ar gyfoeth, a llenwi ein tai ag ysbail;
bwrw dy goelbren gyda ni, a bydd un pwrs rhyngom i gyd.”
Fy mab, paid â mynd yr un ffordd â hwy; cadw dy droed oddi ar eu llwybr.
Y mae'r un sy'n byw'n uniawn yn cerdded yn ddiogel, ond darostyngir yr un sy'n gwyrdroi ei ffyrdd.
“Gochelwch rhag gau broffwydi, sy'n dod atoch yng ngwisg defaid, ond sydd o'u mewn yn fleiddiaid rheibus.
Yn hyn o beth, y mae pobl yn ei gweld yn rhyfedd nad ydych chwi'n dal i ruthro gyda hwy i'r un llifeiriant o afradlonedd; ac y maent yn eich cablu.
Fel dant drwg, neu droed yn llithro, felly y mae ymddiried mewn twyllwr yn amser adfyd.
Gyfeillion, os caiff rhywun ei ddal mewn rhyw drosedd, eich gwaith chwi, y rhai ysbrydol, yw ei adfer mewn ysbryd addfwyn. Ond edrych atat dy hun, rhag ofn i tithau gael dy demtio.
Ffo oddi wrth nwydau ieuenctid, a chanlyn gyfiawnder a ffydd a chariad a heddwch, yng nghwmni'r rhai sy'n galw ar yr Arglwydd â chalon bur.
Y mae dau yn well nag un, oherwydd y maent yn cael tâl da am eu llafur;
os bydd y naill yn syrthio, y mae'r llall yn gallu ei godi, ond gwae'r un sydd ar ei ben ei hun; pan yw'n syrthio, nid oes ganddo neb i'w godi.
a hwythau yn gyforiog o bob math o anghyfiawnder a drygioni a thrachwant ac anfadwaith. Y maent yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, cynllwyn a malais.
Clepgwn ydynt, a difenwyr, caseion Duw, pobl ryfygus a thrahaus ac ymffrostgar, dyfeiswyr drygioni, anufudd i'w rhieni,
heb ddeall, heb deyrngarwch, heb serch, heb dosturi.
Yr oedd gorchymyn cyfiawn Duw, fod y sawl sy'n cyflawni'r fath droseddau yn teilyngu marwolaeth, yn gwbl hysbys i'r rhai hyn; ond y maent nid yn unig yn dal i'w gwneud, ond hefyd yn cymeradwyo'r sawl sydd yn eu cyflawni.
Peidiwch â charu'r byd na'r pethau sydd yn y byd. Os yw rhywun yn caru'r byd, nid yw cariad y Tad ynddo,
oherwydd y cwbl sydd yn y byd—trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid, a balchder mewn meddiannau—nid o'r Tad y mae, ond o'r byd.