Dw i eisiau dy atgoffa heddiw fod Duw yn dy alluogi di i wynebu pob sefyllfa anodd. Mae’n hawdd meddwl weithiau nad ydyn ni’n barod i ddelio â’r problemau sy’n dod i’n bywydau, ond ti’n anghywir. Mae Duw wastad yn ein paratoi ni. Mae’r Beibl yn dweud nad ysbryd llwfrgi a roddodd Duw i ni, ond ysbryd nerth, cariad a hunanreolaeth. Felly, cymer galon, mae Duw gyda ti, yn ymladd drostat ti ym mhob brwydr.
Defnyddia’r offer y mae ein Duw wedi’u rhoi i ti drwy ei air a’i Ysbryd Glân. Bydd yn ddewr a chymer gamau cadarn a phendant. “Byddwch yn gryf a dewch â nerth i’ch calon, chi sydd yn gobeithio yn yr ARGLWYDD” (Salm 31:24). Felly, cymer galon, dydy Duw byth yn methu.
Duw yw dy nerth, dy waredwr, dy gymorth, dy darian, dy loches uchel. Ymddiried yn dy Dad Nefol; bydd popeth yn iawn. Duw sy’n rhoi nerth i mi; Duw sy’n gwneud fy llwybr yn syth (2 Samuel 22:33).
Felly, tra bydd amser gennym, gadewch inni wneud da i bawb, ac yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd.
Honni eu bod yn gyfeillion a wna rhai; ond ceir hefyd gyfaill sy'n glynu'n well na brawd.
Y mae'r un sy'n cuddio tramgwydd yn ceisio cyfeillgarwch, ond y mae'r sawl sy'n ailadrodd stori yn gwahanu cyfeillion.
Yn olaf, bawb ohonoch, byddwch o'r un meddwl yn cydymdeimlo â'ch gilydd yn frawdol, yn dyner eich calon, yn ostyngedig eich ysbryd.
os bydd y naill yn syrthio, y mae'r llall yn gallu ei godi, ond gwae'r un sydd ar ei ben ei hun; pan yw'n syrthio, nid oes ganddo neb i'w godi.
Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy'n caru wedi ei eni o Dduw, ac yn adnabod Duw.
Yr ydych chwi'n gyfeillion i mi os gwnewch yr hyn yr wyf fi'n ei orchymyn ichwi.
Nid wyf mwyach yn eich galw yn weision, oherwydd nid yw'r gwas yn gwybod beth y mae ei feistr yn ei wneud. Yr wyf wedi eich galw yn gyfeillion, oherwydd yr wyf wedi gwneud yn hysbys i chwi bob peth a glywais gan fy Nhad.
Paid â chefnu ar dy gyfaill a chyfaill dy rieni, a phaid â mynd i dŷ dy frawd yn nydd dy adfyd. Y mae cyfaill agos yn well na brawd ymhell.
Y mae'r cyfiawn yn cilio oddi wrth ddrwg, ond y mae ffordd y drygionus yn eu camarwain.
Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch.
Y mae dau yn well nag un, oherwydd y maent yn cael tâl da am eu llafur;
os bydd y naill yn syrthio, y mae'r llall yn gallu ei godi, ond gwae'r un sydd ar ei ben ei hun; pan yw'n syrthio, nid oes ganddo neb i'w godi.
Felly cyflawnwyd yr Ysgrythur sy'n dweud, “Credodd Abraham yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder”; a galwyd ef yn gyfaill Duw.
Paid â chyfeillachu â neb a chanddo dymer ddrwg, nac aros yng nghwmni'r dicllon,
rhag iti ddysgu ei ffordd, a'th gael dy hun mewn magl.
Byddai'r ARGLWYDD yn siarad â Moses wyneb yn wyneb, fel y bydd rhywun yn siarad â'i gyfaill. Pan ddychwelai Moses i'r gwersyll, ni fyddai ei was ifanc, Josua fab Nun, yn symud o'r babell.
“Saul a Jonathan, yr anwylaf a'r hyfrytaf o wŷr, yn eu bywyd ac yn eu hangau ni wahanwyd hwy; cyflymach nag eryrod oeddent, a chryfach na llewod.
Am hynny, calonogwch eich gilydd, ac adeiladwch bob un ei gilydd—fel, yn wir, yr ydych yn gwneud.
Os dywed rhywun wrtho, ‘Beth yw'r creithiau hyn ar dy gorff?’ fe etyb, ‘Fe'u cefais yn nhŷ fy nghyfeillion.’ ”
Wedi i Job weddïo dros ei gyfeillion, adferodd yr ARGLWYDD iddo ei lwyddiant, a rhoi'n ôl i Job ddwywaith yr hyn oedd ganddo o'r blaen.
Wedi i Ddafydd orffen siarad â Saul, ymglymodd enaid Jonathan wrth enaid Dafydd, a charodd ef fel ef ei hun.
Tyngodd Jonathan eto i Ddafydd am ei fod yn ei garu, oherwydd yr oedd yn ei garu fel ei enaid ei hun.
Byddaf yn diolch i'm Duw bob tro y byddaf yn cofio amdanoch,
a phob amser ym mhob un o'm gweddïau dros bob un ohonoch, yr wyf yn gweddïo gyda llawenydd.
Diolch y byddaf am eich partneriaeth yn yr Efengyl o'r dydd cyntaf hyd yn awr;
A rhodded Duw, ffynhonnell pob dyfalbarhad ac anogaeth, i chwi fod yn gytûn eich meddwl ymhlith eich gilydd, yn ôl ewyllys Crist Iesu,
er mwyn ichwi, yn unfryd ac yn unllais, ogoneddu Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.
Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da,
heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â'ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.
O flaen pob peth, cadwch eich cariad at eich gilydd yn llawn angerdd, oherwydd y mae cariad yn dileu lliaws o bechodau.
Y mae hyd yn oed fy nghyfaill agos, y bûm yn ymddiried ynddo, ac a fu'n bwyta wrth fy mwrdd, yn codi ei sawdl yn f'erbyn.
ond ti, fy nghydradd, fy nghydymaith, fy nghydnabod—
buom mewn cyfeillach felys â'n gilydd wrth gerdded gyda'r dyrfa yn nhŷ Dduw.
Wedi i Ddafydd orffen siarad â Saul, ymglymodd enaid Jonathan wrth enaid Dafydd, a charodd ef fel ef ei hun.
Cymerodd Saul ef y dydd hwnnw, ac ni chaniataodd iddo fynd adref at ei dad.
Gwnaeth Jonathan gyfamod â Dafydd am ei fod yn ei garu fel ef ei hun;
Felly, os oes gennych yng Nghrist unrhyw symbyliad, unrhyw apêl o du cariad, unrhyw gymdeithas trwy'r Ysbryd, os oes unrhyw gynhesrwydd a thosturi,
cyflawnwch fy llawenydd trwy fod o'r un meddwl, a'r un cariad gennych at eich gilydd, yn unfryd ac yn unfarn.
Oherwydd fel y mae'r corff yn un, a chanddo lawer o aelodau, a'r rheini oll, er eu bod yn llawer, yn un corff, fel hyn y mae Crist hefyd.
Oherwydd mewn un Ysbryd y cawsom i gyd ein bedyddio i un corff, boed yn Iddewon neu yn Roegiaid, yn gaethweision neu yn rhyddion, a rhoddwyd i bawb ohonom un Ysbryd i'w yfed.
Oherwydd nid un aelod yw'r corff, ond llawer.
Oherwydd y mae hiraeth arnaf am eich gweld, er mwyn eich cynysgaeddu â rhyw ddawn ysbrydol i'ch cadarnhau;
neu yn hytrach, os caf esbonio, i mi, yn eich cymdeithas, gael fy nghalonogi ynghyd â chwi trwy'r ffydd sy'n gyffredin i'r naill a'r llall ohonom.
Fe'ch galwyd chwi, gyfeillion, i ryddid, ond yn unig peidiwch ag arfer eich rhyddid yn gyfle i'r cnawd; yn hytrach trwy gariad byddwch yn weision i'ch gilydd.
un sy'n edrych yn ddirmygus ar yr ysgymun, ond yn parchu'r rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD; un sy'n tyngu i'w niwed ei hun, a heb dynnu'n ôl;
Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn ym mhob peth, ac yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad.
Ymrowch i gadw, â rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae'r Ysbryd yn ei roi.