Cofio adnodau o’r Beibl yw un ffordd wych o wneud yn siŵr dy fod ti’n barod gyda Gair Duw, beth bynnag yw’r sefyllfa. Ffordd ymarferol o sicrhau bod Gair Duw wrth law bob amser yw dysgu penillion a darnau o’r Beibl ar gof.
Er enghraifft, gelli di adrodd adnod am gariad Duw wrth helpu ffrind, neu ddod i gofio adnod am amynedd os oes rhaid aros yn rhywle. Os wyt ti’n treulio ychydig o amser bob dydd yn gweithio ar gofio adnodau, bydd hi’n llawer haws i ti gofio Gair Duw pan fydd ei angen arnat ti.
Fel mae Josua 1:8 yn dweud, “Bydd y llyfr hwn o’r gyfraith ar dy wefusau bob amser; myfyria arno ddydd a nos, a gwna’n ofalus i gadw popeth sydd wedi ei ysgrifennu ynddo. Yna bydd llwyddiant ar dy ffyrdd, a bydd ffodus.”
Felly, os oes gennych yng Nghrist unrhyw symbyliad, unrhyw apêl o du cariad, unrhyw gymdeithas trwy'r Ysbryd, os oes unrhyw gynhesrwydd a thosturi,
cyflawnwch fy llawenydd trwy fod o'r un meddwl, a'r un cariad gennych at eich gilydd, yn unfryd ac yn unfarn.
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, y Tad sy'n trugarhau a'r Duw sy'n rhoi pob diddanwch.
Y mae'n ein diddanu ym mhob gorthrymder, er mwyn i ninnau, trwy'r diddanwch a gawn ganddo ef, allu diddanu'r rhai sydd dan bob math o orthrymder.
y Duw sy'n fy ngwregysu â nerth, ac yn gwneud fy ffordd yn ddifeius?
Gwna fy nhraed fel rhai ewig, a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd.
Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela, i'm breichiau dynnu bwa pres.
A bydded i'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw ein Tad, yr hwn sydd wedi ein caru ac wedi rhoi i ni ddiddanwch tragwyddol a gobaith da trwy ras,
ddiddanu eich calonnau a'ch cadarnhau ym mhob gweithred a gair da!
“Os pecha dy gyfaill yn dy erbyn, dos a dangos ei fai iddo, o'r neilltu rhyngot ti ac ef. Os bydd yn gwrando arnat, fe enillaist dy gyfaill.
Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm tarian; ynddo yr ymddiried fy nghalon; yn sicr caf gymorth, a llawenycha fy nghalon, a rhof foliant iddo ar gân.
Ie, frawd, mi fynnwn gael ffafr gennyt ti yn yr Arglwydd; llonna fy nghalon i yng Nghrist.
Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd; fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer.
Fe sych bob deigryn o'u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae'r pethau cyntaf wedi mynd heibio.”
cânt weld ei wyneb, a bydd ei enw ar eu talcennau.
Ni bydd nos mwyach, ac ni bydd arnynt angen na golau lamp na golau haul, oherwydd bydd yr Arglwydd Dduw yn eu goleuo, a byddant hwy'n teyrnasu byth bythoedd.
Yr wyf fi'n cyfrif nad yw dioddefiadau'r presennol i'w cymharu â'r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio i ni.
Gwrthsafwch ef yn gadarn mewn ffydd, gan wybod fod eich cyd-Gristionogion yn y byd yn profi'r un math o ddioddefiadau.
Ond wedi ichwi ddioddef am ychydig, bydd Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd i'w dragwyddol ogoniant yng Nghrist Iesu, yn eich gwneud yn gymwys, yn gadarn, yn gryf ac yn ddiysgog.
Oherwydd cefais lawer o lawenydd a symbyliad trwy dy gariad, gan fod calonnau'r saint wedi eu llonni drwot ti, fy mrawd.
Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder.
Felly, nid ofnwn er i'r ddaear symud ac i'r mynyddoedd ddisgyn i ganol y môr,
er i'r dyfroedd ruo a therfysgu ac i'r mynyddoedd ysgwyd gan eu hymchwydd. Sela
Bellach, gyfeillion, ffarwel. Mynnwch eich adfer, gwrandewch ar fy apêl, byddwch o'r un meddwl, a byw'n heddychlon; a bydd Duw'r cariad a'r tangnefedd gyda chwi.
Er i'm calon a'm cnawd ballu, eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth.
Y mae'n rhoi nerth i'r diffygiol, ac yn ychwanegu cryfder i'r di-rym.
Y mae'r ifainc yn diffygio ac yn blino, a'r cryfion yn syrthio'n llipa;
ond y mae'r rhai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD yn adennill eu nerth; y maent yn magu adenydd fel eryr, yn rhedeg heb flino, ac yn rhodio heb ddiffygio.
Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.
Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; rwy'n hyderus, ac nid ofnaf; canys yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth a'm cân, ac ef yw fy iachawdwr.”
Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd; o ble y daw cymorth i mi?
Daw fy nghymorth oddi wrth yr ARGLWYDD, creawdwr nefoedd a daear.
Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid; oddi wrtho ef y daw fy ngobaith.
Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth, fy amddiffynfa, fel na'm symudir.
Oni bai i'r ARGLWYDD fy nghynorthwyo byddwn yn fuan wedi mynd i dir distawrwydd.
Pan oeddwn yn meddwl bod fy nhroed yn llithro, yr oedd dy ffyddlondeb di, O ARGLWYDD, yn fy nghynnal.
Er bod pryderon fy nghalon yn niferus, y mae dy gysuron di'n fy llawenhau.
a ddiffoddodd angerdd tân, a ddihangodd rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a ddaeth yn gadarn mewn rhyfel a gyrru byddinoedd yr estron ar ffo.
Oherwydd nid ysbryd sy'n peri llwfrdra a roddodd Duw i ni, ond ysbryd sy'n peri nerth a chariad a hunanddisgyblaeth.
Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân, ac ef yw'r un a'm hachubodd; ef yw fy Nuw, ac fe'i gogoneddaf, Duw fy nhad, ac fe'i dyrchafaf.
Bydd yn gryf a dewr; paid â'u hofni na dychryn rhagddynt, oherwydd bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn mynd gyda thi, ac ni fydd yn dy adael nac yn cefnu arnat.
Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi.
Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i'ch eneidiau.
Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a'm baich i yn ysgafn.”
A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.
Ond wedi ichwi ddioddef am ychydig, bydd Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd i'w dragwyddol ogoniant yng Nghrist Iesu, yn eich gwneud yn gymwys, yn gadarn, yn gryf ac yn ddiysgog.
Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog,
yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Fy noddfa a'm caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.”
Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?
ac yn gweddïo ar iddo ganiatáu i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, gryfder a nerth mewnol trwy'r Ysbryd,
Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi; a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot. Pan fyddi'n rhodio trwy'r tân, ni'th ddeifir, a thrwy'r fflamau, ni losgant di.
Caraf di, O ARGLWYDD, fy nghryfder.
Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd; fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer.
Gwyn eu byd y rhai yr wyt ti'n noddfa iddynt, a ffordd y pererinion yn eu calon.
Wrth iddynt fynd trwy ddyffryn Baca fe'i cânt yn ffynnon; bydd y glaw cynnar yn ei orchuddio â bendith.
Ânt o nerth i nerth, a bydd Duw y duwiau yn ymddangos yn Seion.
ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu.
Blant, yr ydych chwi o Dduw, ac yr ydych wedi eu gorchfygu hwy; oherwydd y mae'r hwn sydd ynoch chwi yn gryfach na'r hwn sydd yn y byd.