Dw i'n credu bod pawb ohonom ni angen cariad, ac yn hiraethu am gael ein caru. O'n genedigaeth ymlaen, mae'r angen yna i deimlo'n werthfawr, yn bwysig i bobl eraill. Mae cariad yn deimlad pur, diamod, sydd ddim eisiau gwneud niwed, ond yn hytrach yn edrych am les lles y llall.
Pan fyddwn ni'n profi cariad, rŷn ni'n naturiol eisiau caru'n ôl yn yr un ffordd. Mae cariad yn deimlad cryf sy'n mynd y tu hwnt i unrhyw sefyllfa, ac yn gallu cyflawni unrhyw beth. Mae'n ein newid ni, yn ein cynnal ni, ac yn ein gwneud ni'n bobl gwell bob dydd. Mae cariad yn dod â pharch, derbyniad, ac amynedd gydag ef.
Ym mhob gwerth bydd cariad i'w weld, gan mai dyma'r teimlad mwyaf sy'n dod â'r gweddill i gyd ynghyd. Mae cariad rhwng cwpl yn gydfuddiannol - mae'r hyn rŷn ni'n ei deimlo tuag at rywun yn cael ei deimlo'n ôl. Dyma'r math o gariad sy'n gallu creu perthynas iach ac adeiladol.
Yn y Beibl, mae 'na ddarn sy'n disgrifio sut ddylai cariad fod. 1 Corinthiaid 13: "Mae cariad yn amyneddgar, mae cariad yn garedig. Nid yw'n cenfigennu, nid yw'n ymffrostio, nid yw'n ymchwyddo. Nid yw'n ymddwyn yn amhriodol, nid yw'n chwilio am ei beth ei hun, nid yw'n hawdd ei gythruddo, nid yw'n cadw cofnod o gamweddau. Nid yw'n lladdio wrth anwiredd, ond yn llawenhau gyda'r gwirionedd."
O fy Nuw, ynot ti yr wyf yn ymddiried; paid â dwyn cywilydd arnaf, paid â gadael i'm gelynion orfoleddu o'm hachos.
Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm tarian; ynddo yr ymddiried fy nghalon; yn sicr caf gymorth, a llawenycha fy nghalon, a rhof foliant iddo ar gân.
Ond yr wyf fi'n ymddiried yn dy ffyddlondeb, a chaiff fy nghalon lawenhau yn dy waredigaeth; canaf i'r ARGLWYDD, am iddo fod mor hael wrthyf.
Cod fi i fyny yn nydd fy ofn; yr wyf yn ymddiried ynot ti.
Yn Nuw, yr un y molaf ei air, yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni; beth a all pobl ei wneud imi?
Bendigedig yw'r sawl sy'n hyderu yn yr ARGLWYDD, a'r ARGLWYDD yn hyder iddo.
Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd, yn gwthio'i wreiddiau i'r afon, heb ofni gwres pan ddaw, a'i ddail yn ir; ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid â ffrwytho.
Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni, iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel.
Yn Nuw, yr un y molaf ei air, yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni; beth a all pobl ei wneud imi?
Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.
Pâr imi glywed yn y bore am dy gariad, oherwydd yr wyf wedi ymddiried ynot ti; gwna imi wybod pa ffordd i'w cherdded, oherwydd yr wyf wedi dyrchafu fy enaid atat ti.
A hwn yw'r hyder sydd gennym ger ei fron ef: y bydd ef yn gwrando arnom os gofynnwn am rywbeth yn unol â'i ewyllys ef.
Y mae'r ARGLWYDD yn dda—yn amddiffynfa yn nydd argyfwng; y mae'n adnabod y rhai sy'n ymddiried ynddo.
Yr wyt yn cadw mewn heddwch perffaith y sawl sydd â'i feddylfryd arnat, am ei fod yn ymddiried ynot.
fel y bydd i'r rhai sy'n cydnabod dy enw ymddiried ynot; oherwydd ni adewaist, ARGLWYDD, y rhai sy'n dy geisio.
Ond yr wyf fi'n ymddiried yn dy ffyddlondeb, a chaiff fy nghalon lawenhau yn dy waredigaeth; canaf i'r ARGLWYDD, am iddo fod mor hael wrthyf.
Yn awr gorweddaf mewn heddwch a chysgu, oherwydd ti yn unig, ARGLWYDD, sy'n peri imi fyw'n ddiogel.
Ond yr wyf fi fel olewydden iraidd yn nhŷ Dduw; ymddiriedaf yn ffyddlondeb Duw byth bythoedd.
Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid; oddi wrtho ef y daw fy ngobaith.
Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth, fy amddiffynfa, fel na'm symudir.
Ar Dduw y dibynna fy ngwaredigaeth a'm hanrhydedd; fy nghraig gadarn, fy noddfa yw Duw.
Ar Dduw y dibynna fy ngwaredigaeth a'm hanrhydedd; fy nghraig gadarn, fy noddfa yw Duw.
Y mae'r medrus yn ei fater yn llwyddo, a'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn ddedwydd.
Rho dy ffyrdd i'r ARGLWYDD; ymddiried ynddo, ac fe weithreda.
Fe wna i'th gywirdeb ddisgleirio fel goleuni a'th uniondeb fel haul canol dydd.
Yr wyt yn cadw mewn heddwch perffaith y sawl sydd â'i feddylfryd arnat, am ei fod yn ymddiried ynot.
Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD o hyd, canys craig dragwyddol yw'r ARGLWYDD Dduw.
Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch.
A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
Am hynny dywedwn ninnau'n hyderus: “Yr Arglwydd yw fy nghynorthwywr, ac nid ofnaf; beth a wna pobl i mi?”
Ac os ydym yn gwybod ei fod yn gwrando arnom, beth bynnag y byddwn yn gofyn amdano, yr ydym yn gwybod bod y pethau yr ydym wedi gofyn iddo amdanynt yn eiddo inni.
Pe bai byddin yn gwersyllu i'm herbyn, nid ofnai fy nghalon; pe dôi rhyfel ar fy ngwarthaf, eto, fe fyddwn yn hyderus.
A bydd fy Nuw i yn cyflawni eich holl angen chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant yng Nghrist Iesu.
A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.
Edrychwch ar adar yr awyr: nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu bwydo. Onid ydych chwi yn llawer mwy gwerthfawr na hwy?
Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun.
Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.
Daw poenau lawer i'r drygionus; ond am y sawl sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD, bydd ffyddlondeb yn ei amgylchu.
Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi; a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot. Pan fyddi'n rhodio trwy'r tân, ni'th ddeifir, a thrwy'r fflamau, ni losgant di.
Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDD nag ymddiried yn neb meidrol.
Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDD nag ymddiried mewn tywysogion.
Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog,
yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Fy noddfa a'm caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.”
Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr, ac oddi wrth bla difaol;
bydd yn cysgodi drosot â'i esgyll, a chei nodded dan ei adenydd; bydd ei wirionedd yn darian a bwcled.
Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; rwy'n hyderus, ac nid ofnaf; canys yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth a'm cân, ac ef yw fy iachawdwr.”
Y mae'r rhai sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD fel Mynydd Seion, na ellir ei symud, ond sy'n aros hyd byth.
Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni, iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel.
Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD, a rhydd iti ddeisyfiad dy galon.
Ni saif neb o'th flaen tra byddi byw; byddaf gyda thi fel y bûm gyda Moses; ni'th adawaf na chefnu arnat.
Gadewch inni ddal yn ddiwyro at gyffes ein gobaith, oherwydd y mae'r hwn a roddodd yr addewid yn ffyddlon.
Nid yw'n ofni newyddion drwg; y mae ei galon yn ddi-gryn, yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
Peidiwch felly â phryderu am yfory, oherwydd bydd gan yfory ei bryder ei hun. Digon i'r diwrnod ei drafferth ei hun.
Y mae'r ARGLWYDD yn agos at bawb sy'n galw arno, at bawb sy'n galw arno mewn gwirionedd.
Gwna ddymuniad y rhai sy'n ei ofni; gwrendy ar eu cri, a gwareda hwy.
Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad.
Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel: “Wrth ddychwelyd a bod yn dawel y byddwch gadwedig, wrth lonyddu a bod yn hyderus y byddwch gadarn. Ni fynnwch chwi hyn, ond dweud,
ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu.
Gwyn ei fyd y sawl sy'n rhoi ei ymddiriedaeth yn yr ARGLWYDD, ac nad yw'n troi at y beilchion, nac at y rhai sy'n dilyn twyll.
“Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD, ac fe'th gynnal di; ni ad i'r cyfiawn gael ei ysgwyd byth.