Mae pobl arbennig mae Duw wedi’u rhoi yn dy fywyd di, pobl sy’n fendith ac yn bleser. Rydw i’n gweddïo am fendith arnyn nhw yn enw Iesu. Mae’r Beibl yn llawn adnodau sy’n ein hannog i ddiolch a bendithio’r rhai sy’n ein hamgylchynu ni.
Dydyn ni ddim ond yn bendithio’r bobl yma, ond ein teuluoedd hefyd, ein gwlad a’n brodyr a’n chwiorydd yng Nghrist. “Bendithia’r ARGLWYDD di, a’th gadwo di: goleuo’r ARGLWYDD ei wyneb arnat ti, a’th druga di: cyfoded yr ARGLWYDD ei wyneb atat ti, a rhoddo heddwch i ti.” (Numeri 6:24-26). Rydyn ni’n bendithio ein bugeiliaid hefyd, sy’n cael eu defnyddio gan Dduw.
“Canys ti, ARGLWYDD, a fendithi’r cyfiawn: amgylchyni ef â ffafr fel â tharian.” (Salm 5:12). A chofiwch, dydyn ni ddim ond i fendithio’r rhai sy’n garedig wrthym ni. Mae Duw yn ein gorchymyn i fendithio’r rhai sy’n ein herlid ni hefyd. “Bendithiwch y rhai sy’n eich erlid; bendithiwch, a pheidiwch â melltithio.” (Rhufeiniaid 12:14).
Yr wyt wedi troi fy ngalar yn ddawns, wedi datod fy sachliain a'm gwisgo â llawenydd,
er mwyn imi dy foliannu'n ddi-baid. O ARGLWYDD fy Nuw, diolchaf i ti hyd byth!
Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear, canwch mewn llawenydd a rhowch fawl.
Canwch fawl i'r ARGLWYDD â'r delyn, â'r delyn ac â sain cân.
Ond y mae'r cyfiawn yn llawenhau; y maent yn gorfoleddu gerbron Duw ac yn ymhyfrydu mewn llawenydd.
“Cadw hefyd ŵyl yr Wythnosau, blaenffrwyth y cynhaeaf gwenith, a gŵyl y Cynnull ar ddiwedd y flwyddyn.
Yr wyt i gyfrif saith wythnos, gan ddechrau o'r diwrnod cyntaf y rhoddir y cryman yn yr ŷd.
Yna byddi'n dathlu gŵyl yr Wythnosau i'r ARGLWYDD dy Dduw, gan roi offrwm gwirfodd drosot dy hun yn ôl fel y bydd yr ARGLWYDD wedi dy fendithio.
“Bydd y dydd hwn yn ddydd i'w gofio i chwi, ac yr ydych i'w gadw yn ŵyl i'r ARGLWYDD; cadwch yr ŵyl yn ddeddf am byth dros y cenedlaethau.
Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd, canwch ei glod o eithaf y ddaear; bydded i'r môr a'i gyflawnder ei ganmol, yr ynysoedd a'r rhai sy'n trigo ynddynt.
Ond i chwi fe fydd cân, fel ar noson o ŵyl sanctaidd; a bydd eich calon yn llawen, fel llawenydd rhai'n dawnsio i sŵn ffliwt wrth fynd i fynydd yr ARGLWYDD, at Graig Israel.
Clywch gân gwaredigaeth ym mhebyll y rhai cyfiawn: “Y mae deheulaw'r ARGLWYDD yn gweithredu'n rymus;
Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear.
Addolwch yr ARGLWYDD mewn llawenydd, dewch o'i flaen â chân.
Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD, oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafedig, ac y mae ei ogoniant ef uwchlaw daear a nefoedd.
Y mae wedi dyrchafu corn ei bobl, ac ef yw moliant ei holl ffyddloniaid, pobl Israel, sy'n agos ato. Molwch yr ARGLWYDD.
O ARGLWYDD, fy Nuw ydwyt ti; mawrygaf di a chlodforaf dy enw am iti gyflawni bwriad rhyfeddol, sy'n sicr a chadarn ers oesoedd.
Rhoddodd yn fy ngenau gân newydd, cân o foliant i'n Duw; bydd llawer, pan welant hyn, yn ofni ac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
Diolchwch i'r ARGLWYDD! Galwch ar ei enw, gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl; y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.
Molwch yr ARGLWYDD. Molwch enw'r ARGLWYDD, molwch ef, chwi weision yr ARGLWYDD,
sy'n sefyll yn nhŷ'r ARGLWYDD, yng nghynteddoedd ein Duw.
Molwch yr ARGLWYDD, oherwydd da yw ef; canwch i'w enw, oherwydd y mae'n ddymunol.
Llefara fy ngenau foliant yr ARGLWYDD, a bydd pob creadur yn bendithio'i enw sanctaidd byth bythoedd.
Dewch, canwn yn llawen i'r ARGLWYDD, rhown floedd o orfoledd i graig ein hiachawdwriaeth.
Down i'w bresenoldeb â diolch, gorfoleddwn ynddo â chaneuon mawl.
Oherwydd Duw mawr yw'r ARGLWYDD, a brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
Canwch fawl i Dduw, ein nerth; bloeddiwch mewn gorfoledd i Dduw Jacob.
Rhowch gân a chanu'r tympan, y delyn fwyn a'r nabl.
Canwch utgorn ar y lleuad newydd, ar y lleuad lawn, ar ddydd ein gŵyl.
Yna fe ddywedodd wrthynt, “Ewch, bwytewch ddanteithion ac yfwch win melys a rhannwch â'r sawl sydd heb ddim, oherwydd mae heddiw yn ddydd sanctaidd i'n Harglwydd; felly, peidiwch â galaru, oherwydd llawenhau yn yr ARGLWYDD yw eich nerth.”
Pan ddaeth yr amser i gysegru mur Jerwsalem aethant i chwilio am y Lefiaid ymhle bynnag yr oeddent yn byw, a dod â hwy i Jerwsalem i ddathlu'r cysegru â llawenydd, mewn diolchgarwch a chân, gyda symbalau, nablau, a thelynau.
Cyfarchwch eich gilydd â salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol; canwch a phynciwch o'ch calon i'r Arglwydd.
Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. Â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol.
Molwch yr ARGLWYDD. Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd, ei foliant yng nghynulleidfa'r ffyddloniaid.
Bydded i Israel lawenhau yn ei chreawdwr, ac i blant Seion orfoleddu yn eu brenin.
Molwch ei enw â dawns, canwch fawl iddo â thympan a thelyn.
“Llawenha'n fawr, ferch Seion; bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem. Wele dy frenin yn dod atat â buddugoliaeth a gwaredigaeth, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ar ebol, llwdn asen.
Pan oedd yn nesáu at y ffordd sy'n disgyn o Fynydd yr Olewydd, dechreuodd holl dyrfa ei ddisgyblion yn eu llawenydd foli Duw â llais uchel am yr holl wyrthiau yr oeddent wedi eu gweld,
gan ddweud: “Bendigedig yw'r un sy'n dod yn frenin yn enw'r Arglwydd; yn y nef, tangnefedd, a gogoniant yn y goruchaf.”
Ac meddai rhai o'r Phariseaid wrtho o'r dyrfa, “Athro, cerydda dy ddisgyblion.”
Atebodd yntau, “Rwy'n dweud wrthych, os bydd y rhain yn tewi, bydd y cerrig yn gweiddi.”
Diolchaf i ti, ARGLWYDD, â'm holl galon, adroddaf am dy ryfeddodau.
Llawenhaf a gorfoleddaf ynot ti, canaf fawl i'th enw, y Goruchaf.
Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser; bydd ei foliant yn wastad yn fy ngenau.
Yn yr ARGLWYDD yr ymhyfrydaf; bydded i'r gostyngedig glywed a llawenychu.
Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi, a dyrchafwn ei enw gyda'n gilydd.
Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i'ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol.
A pheidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.
Tywalltaf fy enaid mewn gofid wrth gofio hyn— fel yr awn gyda thyrfa'r mawrion i dŷ Dduw yng nghanol banllefau a moliant, torf yn cadw gŵyl.
Ond yr ydych chwi yn hil etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl sanctaidd, yn bobl o'r eiddo Duw ei hun, i hysbysu gweithredoedd ardderchog yr Un a'ch galwodd chwi allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef:
Gadewch inni, felly, drwyddo ef offrymu aberth moliant yn wastadol i Dduw; hynny yw, ffrwyth gwefusau sy'n cyffesu ei enw.
Bloeddiwch mewn gorfoledd i Dduw, yr holl ddaear;
canwch i ogoniant ei enw; rhowch iddo foliant gogoneddus.
Dywedwch wrth Dduw, “Mor ofnadwy yw dy weithredoedd! Gan faint dy nerth ymgreinia dy elynion o'th flaen;
y mae'r holl ddaear yn ymgrymu o'th flaen, ac yn canu mawl i ti, yn canu mawl i'th enw.” Sela
Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd, canwch i'r ARGLWYDD yr holl ddaear.
Canwch i'r ARGLWYDD, bendithiwch ei enw, cyhoeddwch ei iachawdwriaeth o ddydd i ddydd.
Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd, ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.
Bydd fy ngwefusau'n gweiddi'n llawen— oherwydd canaf i ti— a hefyd yr enaid a waredaist.
Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD, a'r cyfan sydd ynof ei enw sanctaidd.
Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD, a phaid ag anghofio'i holl ddoniau:
Ond bydded i bawb sy'n llochesu ynot ti lawenhau, a chanu mewn llawenydd yn wastad; bydd yn amddiffyn dros y rhai sy'n caru dy enw, fel y bydd iddynt orfoleddu ynot ti.
Yna canodd Moses a'r Israeliaid y gân hon i'r ARGLWYDD: “Canaf i'r ARGLWYDD am iddo weithredu'n fuddugoliaethus; bwriodd y ceffyl a'i farchog i'r môr.
Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân, ac ef yw'r un a'm hachubodd; ef yw fy Nuw, ac fe'i gogoneddaf, Duw fy nhad, ac fe'i dyrchafaf.
Canwch i'r ARGLWYDD mewn diolch, canwch fawl i'n Duw â'r delyn.
Y mae ef yn gorchuddio'r nefoedd â chymylau, ac yn darparu glaw i'r ddaear; y mae'n gwisgo'r mynyddoedd â glaswellt, a phlanhigion at wasanaeth pobl.
Y mae'n rhoi eu porthiant i'r anifeiliaid, a'r hyn a ofynnant i gywion y gigfran.
Mor brydferth yw dy breswylfod, O ARGLWYDD y Lluoedd.
Yr wyf yn hiraethu, yn dyheu hyd at lewyg am gynteddau'r ARGLWYDD; y mae'r cyfan ohonof yn gweiddi'n llawen ar y Duw byw.
Molwch yr ARGLWYDD. Fy enaid, mola'r ARGLWYDD.
Molaf yr ARGLWYDD tra byddaf byw, canaf fawl i'm Duw tra byddaf.
Clodforaf di â'm holl galon, canaf fawl i ti yng ngŵydd duwiau.
Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw am dy gariad a'th ffyddlondeb, oherwydd dyrchefaist dy enw a'th air uwchlaw popeth.
Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n trigo yn Seion, cyhoeddwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
Am ysblander gogoneddus dy fawredd y dywedant, a myfyrio ar dy ryfeddodau.
Cyhoeddant rym dy weithredoedd ofnadwy, ac adrodd am dy fawredd.
Dygant i gof dy ddaioni helaeth, a chanu am dy gyfiawnder.
a gofalu am alarwyr Seion; a rhoi iddynt goron yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, mantell moliant yn lle digalondid. Gelwir hwy yn brennau cyfiawnder wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i'w ogoniant.
Ac fel yr oedd yr utganwyr a'r cantorion yn uno mewn mawl a chlod i'r ARGLWYDD ac yn seinio trwmpedau, symbalau ac offer cerdd er moliant iddo, gan ddweud, “Yn wir da yw, ac y mae ei gariad hyd byth”, llanwyd tŷ'r ARGLWYDD gan gwmwl.
Felly ni fedrai'r offeiriaid barhau i weinyddu o achos y cwmwl; yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi tŷ Dduw.