Mae rôl Jerwsalem ym weinidogaeth Iesu yn arbennig iawn i mi, fel plentyn Duw. Yn ôl y Testament Newydd, Jerwsalem oedd y ddinas lle cafodd Iesu ei gyflwyno yn y Deml pan oedd yn blentyn bach.
Dyna pam dwi'n teimlo mor gryf am weddïo dros y tir bendigedig hwnnw, fel mae'r Salm yn dweud: "Gofynnwch am heddwch Jerwsalem; bydded i'r rhai sy'n dy garu di ffynnu" (Salm 122:6).
Mae'n bwysig iawn, fel pobl Dduw, ein bod ni'n gweddïo dros Jerwsalem. Dwi'n gofyn i Iesu estyn ei drugaredd i'r ddinas hon, a gwneud ei ewyllys yno.
Dwi'n gweddïo y bydd llygaid ysbrydol pobl Jerwsalem yn cael eu hagor, fel y byddan nhw'n troi at Dduw yn llwyr. Bydded i bob un ohonyn nhw gyffesu mai Crist yw'r Arglwydd, a deall mai Iesu a ddioddefodd cosfa ein heddwch ni. Gobeithiaf y byddan nhw'n cael eu hachub trwy ei aberth ar y groes.
A phob tro dwi'n gweddïo dros Jerwsalem, dwi'n gobeithio teimlo'r un cariad at y ddinas ag sydd gan Dduw ei hun.
Er mwyn Seion ni thawaf, er mwyn Jerwsalem ni fyddaf ddistaw, hyd oni ddisgleiria'i chyfiawnder yn llachar, a'i hiachawdwriaeth fel ffagl yn llosgi.
“Jerwsalem, Jerwsalem, tydi sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r rhai a anfonwyd atat, mor aml y dymunais gasglu dy blant ynghyd, fel y mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd, ond gwrthod a wnaethoch.
Mawr yw'r ARGLWYDD a theilwng iawn o fawl yn ninas ein Duw, ei fynydd sanctaidd.Teg o uchder, llawenydd yr holl ddaear, yw Mynydd Seion, ar lechweddau'r Gogledd, dinas y Brenin Mawr.
Ar dy furiau di, O Jerwsalem, gosodais wylwyr nad ydynt yn tewi ddydd na nos; chwi sy'n galw ar yr ARGLWYDD, peidiwch â distewi,na rhoi llonydd iddo, nes iddo sefydlu Jerwsalem, a'i gwneud yn destun moliant trwy'r byd.
O mor unig yw'r ddinas a fu'n llawn o bobl! Y mae'r un a fu'n fawr ymysg y cenhedloedd yn awr fel gweddw, a'r un a fu'n dywysoges y taleithiau dan lafur gorfod.
“Wele fi'n gwneud Jerwsalem yn gwpan feddwol i'r holl bobloedd oddi amgylch; a bydd yn Jwda warchae yn erbyn Jerwsalem.Yn y dydd hwnnw, pan fydd holl genhedloedd y ddaear wedi ymgasglu yn ei herbyn, gwnaf Jerwsalem yn garreg rhy drom i'r holl bobloedd, a bydd pwy bynnag a'i cwyd yn brifo'n arw.
Yna dywedais wrthynt, “Yr ydych yn gweld y trybini yr ydym ynddo; y mae Jerwsalem yn adfeilion a'i phyrth wedi eu llosgi â thân; dewch, adeiladwn fur Jerwsalem rhag inni fod yn waradwydd mwyach.”
“Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma Jerwsalem; fe'i gosodais yng nghanol y cenhedloedd, gyda gwledydd o'i hamgylch,
Yna bydd pob un a adawyd o'r holl genhedloedd a ddaeth yn erbyn Jerwsalem yn dod i fyny flwyddyn ar ôl blwyddyn i addoli'r brenin, ARGLWYDD y Lluoedd, ac i gadw gŵyl y Pebyll.
Ond dewisais Jerwsalem i'm henw fod yno, a dewisais Ddafydd i fod yn ben ar fy mhobl Israel.’
Ond caiff ef un llwyth er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais allan o holl lwythau Israel.
Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion; ymwisga yn dy ddillad godidog, O Jerwsalem, y ddinas sanctaidd; oherwydd ni ddaw i mewn iti mwyach neb dienwaededig nac aflan.
O Dduw, dangos dy rym, y grym, O Dduw, y buost yn ei weithredu drosom.O achos dy deml yn Jerwsalem daw brenhinoedd ag anrhegion i ti.
Os anghofiaf di, Jerwsalem, bydded fy neheulaw'n ddiffrwyth;bydded i'm tafod lynu wrth daflod fy ngenau os na chofiaf di, os na osodaf Jerwsalem yn uwch na'm llawenydd pennaf.
Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion; ymwisga yn dy ddillad godidog, O Jerwsalem, y ddinas sanctaidd; oherwydd ni ddaw i mewn iti mwyach neb dienwaededig nac aflan.Cod, ymysgwyd o'r llwch, ti Jerwsalem gaeth; tyn y rhwymau oddi ar dy war, ti gaethferch Seion.
Tyr ymaith y cerbyd o Effraim a'r meirch o Jerwsalem; a thorrir ymaith y bwa rhyfel. Bydd yn siarad heddwch â'r cenhedloedd; bydd ei lywodraeth o fôr i fôr, o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.“Llawenha'n fawr, ferch Seion; bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem. Wele dy frenin yn dod atat â buddugoliaeth a gwaredigaeth, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ar ebol, llwdn asen.
Cyhoedda hefyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd fy ninasoedd eto'n orlawn o ddaioni; rhydd yr ARGLWYDD eto gysur i Seion, a bydd eto'n dewis Jerwsalem.’ ”
Gwaradwyddir y lloer, a chywilyddia'r haul, oherwydd teyrnasa ARGLWYDD y Lluoedd ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem, a'i ogoniant yn amlwg gerbron ei henuriaid.
Ceisiwch heddwch y ddinas y caethgludais chwi iddi, a gweddïwch drosti ar yr ARGLWYDD, oherwydd yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwi.’
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Edrychwch, rwy'n estyn iddi heddwch fel afon, a golud y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol. Cewch sugno, cewch eich cludo ar ei hystlys, a'ch siglo ar ei gliniau.
Siaradwch yn dyner wrth Jerwsalem, a dywedwch wrthi ei bod wedi cwblhau ei thymor gwasanaeth a bod ei chosb wedi ei thalu, ei bod wedi derbyn yn ddwbl oddi ar law'r ARGLWYDD am ei holl bechodau.
“Cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd. A bydd Jerwsalem yn sanctaidd, ac nid â dieithriaid trwyddi eto.
Byddwch lawen, gorfoleddwch yn ddi-baid am fy mod i yn creu, ie, yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a'i phobl yn llawenydd.Gorfoleddaf yn Jerwsalem, llawenychaf yn fy mhobl; ni chlywir ynddi mwyach na sŵn wylofain na chri trallod.
A gwelais y ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, yn disgyn o'r nef oddi wrth Dduw, wedi ei pharatoi fel priodferch wedi ei thecáu i'w gŵr.
Yn y dyddiau hynny achubir Jwda, a bydd Jerwsalem yn ddiogel, a dyma'r enw a roddir iddi: ‘Yr ARGLWYDD yw ein cyfiawnder.’
Pob un o'ch plith sy'n perthyn i'w bobl, bydded ei Dduw gydag ef, ac aed i fyny i Jerwsalem yn Jwda i ailadeiladu tŷ ARGLWYDD Dduw Israel, y Duw sydd yn Jerwsalem.
nac i'r ddaear, gan mai ei droedfainc ef ydyw; nac i Jerwsalem, gan mai dinas y Brenin mawr ydyw.
Rhoddaf un llwyth i'w fab, fel y caiff fy ngwas Dafydd lamp ger fy mron am byth yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi fy hun i osod fy enw yno.
“Gwaedda a gorfoledda, ferch Seion; oherwydd yr wyf yn dod i drigo yn dy ganol,” medd yr ARGLWYDD.
Fel yr adar yn hofran uwchben, felly y bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn Jerwsalem; bydd yn amddiffyn a gwaredu, yn arbed ac achub.”
Ac os na wrandewch arnaf a sancteiddio'r dydd Saboth, a pheidio â chludo baich wrth ddod i mewn i byrth Jerwsalem ar y dydd Saboth, yna mi gyneuaf dân yn y pyrth hynny, tân a lysg balasau Jerwsalem, heb neb i'w ddiffodd.’ ”
Yna gelwir yn sanctaidd bob un sydd ar ôl yn Seion ac wedi ei adael yn Jerwsalem, pob un y cofnodir ei fod yn fyw yn Jerwsalem.Pan fydd yr ARGLWYDD wedi golchi ymaith fudreddi merched Seion, a charthu gwaed Jerwsalem o'i chanol trwy ysbryd barn ac ysbryd tanllyd,
Daeth arweinwyr y bobl i fyw yn Jerwsalem, ond bwriodd y gweddill o'r bobl goelbren i ddod ag un o bob deg i fyw yn Jerwsalem y ddinas sanctaidd, a'r naw arall yn y trefi.Bendithiodd y bobl y rhai a aeth o'u gwirfodd i fyw yn Jerwsalem.
O Arglwydd, yn unol â'th holl weithredoedd cyfiawn, erfyniwn arnat i droi dy lid a'th ddigofaint oddi wrth dy ddinas Jerwsalem, dy fynydd sanctaidd, oherwydd am ein pechodau ni ac am gamweddau ein hynafiaid y mae Jerwsalem a'th bobl yn wawd i bawb o'n cwmpas.
“Llawenhewch gyda Jerwsalem, a byddwch yn falch o'i herwydd, bawb sy'n ei charu; llawenhewch gyda hi â'ch holl galon, bawb a fu'n galaru o'i phlegid,
‘Oherwydd enynnodd y ddinas hon fy nigofaint a'm llid o'r dydd yr adeiladwyd hi hyd heddiw; symudaf hi o'm gŵydd,
Y mae ein traed bellach yn sefyll o fewn dy byrth, O Jerwsalem.Adeiladwyd Jerwsalem yn ddinas lle'r unir y bobl â'i gilydd.
a daw cenhedloedd lawer, a dweud, “Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD, i deml Duw Jacob, er mwyn iddo ddysgu inni ei ffyrdd ac i ninnau rodio yn ei lwybrau.” Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
a daw pobloedd lawer, a dweud, “Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD, i deml Duw Jacob; bydd yn dysgu i ni ei ffyrdd, a byddwn ninnau'n rhodio yn ei lwybrau.” Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
oherwydd fe ddaw gweddill allan o Jerwsalem, a rhai dihangol allan o Fynydd Seion. Sêl ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn.’
A bydd pob un sy'n galw ar enw'r ARGLWYDD yn cael ei achub, oherwydd ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem bydd rhai dihangol, fel y dywedodd yr ARGLWYDD, ac ymysg y gwaredigion rai a elwir gan yr ARGLWYDD.”
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Dyma fi'n adfer llwyddiant i bebyll Jacob, yn tosturio wrth ei anheddau. Cyfodir y ddinas ar ei charnedd, a saif y llys yn ei le.
a dywed wrthi, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth Jerwsalem: O wlad Canaan yr wyt o ran dy dras a'th enedigaeth; Amoriad oedd dy dad, a'th fam yn Hethiad.
Y sawl sy'n gorchfygu, fe'i gwnaf yn golofn yn nheml fy Nuw i, ac nid â allan oddi yno byth. Ac ysgrifennaf arno enw fy Nuw i—ac enw dinas fy Nuw i, y Jerwsalem newydd sy'n disgyn o'r nef oddi wrth fy Nuw i—a'm henw newydd i.
“Llawenha'n fawr, ferch Seion; bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem. Wele dy frenin yn dod atat â buddugoliaeth a gwaredigaeth, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ar ebol, llwdn asen.
Gwnaf Jerwsalem yn garneddau ac yn drigfan bleiddiaid; a gwnaf ddinasoedd Jwda yn ddiffeithwch heb breswylydd.”
“Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr ailadeiledir y ddinas i'r ARGLWYDD, o dŵr Hananel hyd Borth y Gongl,a gosodir y llinyn mesur eto gyferbyn â hi, dros fryn Gareb, a throi tua Goath.A bydd holl ddyffryn y celanedd a'r lludw, a'r holl feysydd hyd nant Cidron, hyd gongl Porth y Meirch yn y dwyrain, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD. Ni ddiwreiddir mo'r ddinas, ac ni ddymchwelir mohoni mwyach hyd byth.”
cadarnhau gair ei was, a chyflawni cyngor ei genhadon; dweud wrth Jerwsalem, ‘Fe'th breswylir’, ac wrth ddinasoedd Jwda, ‘Fe'ch adeiledir cyfodaf drachefn eich adfeilion’;
ac yna dychwelyd atat â'u holl galon a'u holl enaid yng ngwlad y gelynion sydd wedi eu caethgludo, a gweddïo arnat i gyfeiriad eu gwlad, a roddaist i'w hynafiaid, a'r ddinas a ddewisaist, a'r tŷ a godais i'th enw,
Fel y mae'r mynyddoedd o amgylch Jerwsalem, felly y mae'r ARGLWYDD o amgylch ei bobl yn awr a hyd byth.
Ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, yr oeddwn i, Daniel, yn chwilio'r llyfrau ynglŷn â'r hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD wrth Jeremeia'r proffwyd am nifer y blynyddoedd hyd derfyn dinistr Jerwsalem, sef deng mlynedd a thrigain.
Teg o uchder, llawenydd yr holl ddaear, yw Mynydd Seion, ar lechweddau'r Gogledd, dinas y Brenin Mawr.
Ond er mwyn Dafydd rhoddodd yr ARGLWYDD ei Dduw lamp iddo yn Jerwsalem, a sefydlu ei fab ar ei ôl a sicrhau Jerwsalem,
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Dychwelaf i Seion a thrigo yng nghanol Jerwsalem, a gelwir Jerwsalem, Y Ddinas Ffyddlon, a mynydd ARGLWYDD y Lluoedd, Y Mynydd Sanctaidd.’
Oherwydd adferaf iechyd i ti, ac iachâf di o'th friwiau,” medd yr ARGLWYDD, “am iddynt dy alw yn ysgymun, Seion, yr un nad yw neb yn ymofyn amdani.”
Yr adeg honno galwant Jerwsalem yn orsedd yr ARGLWYDD, ac ymgasgla ati'r holl genhedloedd yno at enw'r ARGLWYDD yn Jerwsalem; ac ni rodiant mwyach yn ôl ystyfnigrwydd eu calon ddrygionus.
a bod edifeirwch, yn foddion maddeuant pechodau, i'w gyhoeddi yn ei enw ef i'r holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem.
Mor lluosog â phraidd yr offrwm, mor lluosog â phraidd Jerwsalem ar ei gwyliau penodedig, felly y llenwir y dinasoedd a fu'n adfeilion â phraidd o bobl. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”