Mae balchder yn rhywbeth sy’n effeithio ar bawb, ni waeth beth yw ein hoedran, pwy ydym ni, na’n safle mewn bywyd. Meddwl am y Beibl, mae ‘na gymaint o adnodau sy’n ein hannog ni i feddwl am beryglon balchder.
Yn Llyfr y Pregethwr, mae Solomon yn sôn am sut mae bywyd mor fyr a sut mae casglu cyfoeth a bri yn ofer. Mae’n ein hannog ni i roi ein gobaith yn Duw, oherwydd does dim byd sydd gennym ni yma sy’n para am byth.
Yn y Testament Newydd, mae Iesu’n dangos pwysigrwydd canolbwyntio ar bethau tragwyddol, yn hytrach na chwilio am glod gan bobl eraill. Mae e’n ein harwain trwy ei air i ddod o hyd i’n pwrpas go iawn a byw bywyd sy’n werth chweil, bywyd sy’n llawn cariad tuag at Dduw a’n gilydd.
Mae balchder yn ein tynnu ni i ffwrdd o ostyngeiddrwydd ac yn ein gwneud ni’n hunanol. Mae’n ein hatal ni rhag caru eraill a gwneud ewyllys Duw.
oherwydd y cwbl sydd yn y byd—trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid, a balchder mewn meddiannau—nid o'r Tad y mae, ond o'r byd.
Ni ddigonir yr ariangar ag arian, na'r un sy'n caru cyfoeth ag elw. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
Y mae tegwch yn twyllo, a phrydferthwch yn darfod, ond y wraig sy'n ofni'r ARGLWYDD, y mae hon i'w chanmol.
Symud ddicter o'th galon, a thro flinder oddi wrthyt; y mae mebyd ac ieuenctid yn wagedd.
symud wagedd a chelwydd ymhell oddi wrthyf; paid â rhoi imi dlodi na chyfoeth; portha fi â'm dogn o fwyd,
“Peidiwch â chasglu ichwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn torri trwodd ac yn lladrata.Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata.Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon.
Hefyd sylwais ar yr holl lafur a medr mewn gwaith, ei fod yn codi o genfigen rhwng rhywun a'i gymydog. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
oherwydd i Baasa a'i fab Ela bechu cymaint eu hunain a pheri i Israel bechu a digio ARGLWYDD Dduw Israel â'u heilunod.
Bobl, am ba hyd y bydd fy ngogoniant yn warth, ac y byddwch yn caru gwagedd ac yn ceisio celwydd? Sela
Boed ichwi'n addurn, nid pethau allanol fel plethu gwallt, ymdaclu â thlysau aur, ymharddu â gwisgoedd,ond cymeriad cêl y galon a'i degwch di-dranc, sef ysbryd addfwyn a thawel. Dyna sy'n werthfawr yng ngolwg Duw.
Yr oeddent yn gwrthod ei ddeddfau a'r cyfamod a wnaeth â'u hynafiaid a'r rhybuddion a roddodd iddynt, yn dilyn oferedd ac yn troi'n ofer, yr un fath â'r cenhedloedd oedd o'u cwmpas, er i'r ARGLWYDD orchymyn iddynt beidio â gwneud felly.
Rwy'n ddiobaith; ni ddymunaf fyw am amser maith. Gad lonydd imi, canys y mae fy nyddiau fel anadl.
Wele, yr wyt wedi gwneud fy nyddiau fel dyrnfedd, ac y mae fy oes fel dim yn dy olwg; yn wir, chwa o wynt yw pob un byw, Sela
Pa elw a gaiff rhywun os ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Neu beth a rydd rhywun yn gyfnewid am ei fywyd?
Pan gosbi rywun â cherydd am ddrygioni, yr wyt yn dinistrio'i ogoniant fel gwyfyn; yn wir, chwa o wynt yw pawb. Sela
Ac wrth gwrs, y mae cyfoeth mawr mewn bywyd duwiol ynghyd â bodlonrwydd mewnol.A'r ffaith yw, na ddaethom â dim i'r byd, ac felly hefyd na allwn fynd â dim allan ohono.
Yn wir, nid yw gwrêng ond anadl, nid yw bonedd ond rhith; pan roddir hwy mewn clorian, codant— y maent i gyd yn ysgafnach nag anadl.
Gad i ddieithryn dy ganmol, ac nid dy enau dy hun; un sy'n estron, ac nid dy wefusau dy hun.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, na'r cryf yn ei gryfder, na'r cyfoethog yn ei gyfoeth.“Ond y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn hyn: ei fod yn fy neall ac yn fy adnabod i, mai myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n gweithredu'n ffyddlon, yn gwneud barn a chyfiawnder ar y ddaear, ac yn ymhyfrydu yn y pethau hyn,” medd yr ARGLWYDD.
Fe syrth uchel drem y ddynoliaeth, a gostyngir balchder pob un; yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
A dywedodd wrthynt, “Gofalwch ymgadw rhag trachwant o bob math, oherwydd, er cymaint ei gyfoeth, nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau.”
Achub fi oddi wrth y cleddyf creulon; gwared fi o law estroniaid, sy'n dweud celwydd â'u genau, a'u deheulaw'n llawn ffalster.
Peidiwch â gwneud dim o gymhellion hunanol nac o ymffrost gwag, ond mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun.
Llais un yn dweud, “Galw”; a daw'r ateb, “Beth a alwaf? Y mae pob un meidrol fel glaswellt, a'i holl nerth fel blodeuyn y maes.Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo pan chwyth anadl yr ARGLWYDD arno. Yn wir, glaswellt yw'r bobl.Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo; ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth.”
Oherwydd, yn rhinwedd y gras y mae Duw wedi ei roi i mi, yr wyf yn dweud wrth bob un yn eich plith am beidio â'i gyfrif ei hun yn well nag y dylid ei gyfrif, ond bod yn gyfrifol yn ei gyfrif, ac yn gyson â'r mesur o ffydd y mae Duw wedi ei roi i bob un.
Gwelais yr holl bethau a ddigwyddodd dan yr haul, ac yn wir nid yw'r cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt.
Felly, fel y mae'n ysgrifenedig, “Y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.”
Oherwydd, os yw rhywun yn tybio ei fod yn rhywbeth, ac yntau yn ddim, ei dwyllo ei hun y mae.
Yna, pan drois i edrych ar y cyfan a wnaeth fy nwylo a'r llafur yr ymdrechais i'w gyflawni, gwelwn nad oedd y cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt, heb unrhyw elw dan yr haul.
Yna dywedais wrthyf fy hun, “Yr un peth a ddigwydd i mi ac i'r ffôl. Pa elw a gaf o fod yn ddoeth?” Yna dywedais, “Y mae hyn hefyd yn wagedd.”
Yna deuthum i gasáu bywyd, gan fod y cyfan sy'n digwydd dan yr haul yn achosi blinder imi; yn wir y mae'r cyfan yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
Dylai'r credadun distadl ymfalchïo pan ddyrchefir ef,ond yr un cyfoethog ymfalchïo pan ddarostyngir ef, oherwydd diflannu a wna hwnnw fel blodeuyn y maes.
Gwell gweld â'r llygaid na blys anniwall. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
Darostyngir pwy bynnag fydd yn ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pwy bynnag fydd yn ei ddarostwng ei hun.
Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Paid ag edrych ar ei wedd na'i daldra, oherwydd yr wyf wedi ei wrthod; oblegid nid yr hyn a wêl meidrolyn y mae Duw'n ei weld. Yr hyn sydd yn y golwg a wêl meidrolyn, ond y mae'r ARGLWYDD yn gweld beth sydd yn y galon.”
a phawb sy'n cyhuddo dyn o gamwedd, yn gosod magl i'r un sy'n erlyn yn y porth, ac yn atal barn trwy dwyllo'r cyfiawn.
Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Y mae pob un meidrol fel glaswellt, a'i holl ogoniant fel blodeuyn y maes. Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn syrthio,ond y mae gair yr Arglwydd yn aros am byth.” A dyma'r gair a bregethwyd yn Efengyl i chwi.
Yn wir, nid ydych chwi'n ddim, ac nid yw'ch gwaith ond diddim. Ffieiddbeth yw'r un sy'n eich dewis.
Yn wir, nid ydynt i gyd ond dim; llai na dim yw eu gwaith, gwynt a gwagedd yw eu delwau.”
Y mae'r un sy'n ymddiried ynddo'i hun yn ynfyd, ond fe waredir y sawl sy'n dilyn doethineb.
Diau y daw oferedd o gyfeddach y bryniau a'r mynyddoedd, ond yn yr ARGLWYDD ein Duw y mae iachawdwriaeth Israel.
Oherwydd y sawl sydd â'u bodolaeth ar wastad y cnawd, ar bethau'r cnawd y mae eu bryd; ond y sawl sydd ar wastad yr Ysbryd, ar bethau'r Ysbryd y mae eu bryd.Yn wir, y mae bod â'n bryd ar y cnawd yn farwolaeth, ond y mae bod â'n bryd ar yr Ysbryd yn fywyd a heddwch.
Y mae arferion y bobloedd fel eilun— pren wedi ei gymynu o'r goedwig, gwaith dwylo saer â bwyell;
Oherwydd yr un peth a ddigwydd i bobl ac anifeiliaid, yr un yw eu tynged; y mae'r naill fel y llall yn marw. Yr un anadl sydd ynddynt i gyd; nid oes gan neb dynol fantais dros anifail. Y mae hyn i gyd yn wagedd.Y maent i gyd yn mynd i'r un lle; daethant i gyd o'r llwch, ac i'r llwch y maent yn dychwelyd.
Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes, neu efallai bedwar ugain trwy gryfder, ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder; ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith.
Yr oedd gweledigaethau dy broffwydi yn gelwyddog a thwyllodrus; ni fu iddynt ddatgelu dy gamwedd er mwyn adfer dy lwyddiant; yr oedd yr oraclau a roddasant iti yn gelwyddog a chamarweiniol.
Pwy sy'n rhoi rhagoriaeth i ti? Beth sydd gennyt, nad wyt wedi ei dderbyn? Ac os ei dderbyn a wnaethost, pam yr wyt yn ymffrostio fel pe bait heb dderbyn?
Felly, beth bynnag a wnewch, p'run ai bwyta, neu yfed, neu unrhyw beth arall, gwnewch bopeth er gogoniant Duw.
Oherwydd, er iddynt wybod am Dduw, nid ydynt wedi rhoi gogoniant na diolch iddo fel Duw, ond yn hytrach wedi troi eu meddyliau at bethau cwbl ofer; ac y mae wedi mynd yn dywyllwch arnynt yn eu calon ddiddeall.Er honni eu bod yn ddoeth, y maent wedi eu gwneud eu hunain yn ffyliaid.
Fel y daeth allan o groth ei fam, bydd yn dychwelyd yno yn noeth, yn union fel y daeth; ac ni chaiff ddim am ei lafur i'w gymryd gydag ef.
Rhydd ambell un yr argraff ei fod yn gyfoethog, a heb ddim ganddo; ymddengys arall yn dlawd, ac yntau'n gyfoethog iawn.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Pa fai a gafodd eich hynafiaid ynof, i ymbellhau oddi wrthyf, i rodio ar ôl oferedd, a mynd yn ofer?
Nid oes gan rai fel chwi ddim syniad sut y bydd hi ar eich bywyd yfory. Nid ydych ond tarth, sy'n cael ei weld am ychydig, ac yna'n diflannu.
Felly, gwyliwch eich ymddygiad yn ofalus, gan fyw, nid fel rhai annoeth ond fel rhai doeth.Daliwch ar eich cyfle, oherwydd y mae'r dyddiau'n ddrwg.
Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd. Gochelwch feddyliau mawreddog; yn hytrach, rhodiwch gyda'r distadl. Peidiwch â'ch cyfrif eich hunain yn ddoeth.
Oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun.”
Y mae balchder unrhyw un yn ei ddarostwng, ond y mae'r gostyngedig yn cael anrhydedd.
Hyn, felly, yr wyf yn ei ddweud ac yn ei argymell arnoch yn yr Arglwydd, eich bod chwi bellach i beidio â byw fel y mae'r Cenhedloedd yn byw, yn oferedd eu meddwl;oherwydd tywyllwch sydd yn eu deall, a dieithriaid ydynt i'r bywyd sydd o Dduw, o achos yr anwybodaeth y maent yn ei choleddu a'r ystyfnigrwydd sydd yn eu calon.
Oherwydd y mae chwerthin y ffŵl fel clindarddach drain o dan grochan. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
Ond gwêl fod y doethion yn marw, fod yr ynfyd a'r dwl yn trengi, ac yn gadael eu cyfoeth i eraill.Eu bedd yw eu cartref bythol, eu trigfan dros y cenedlaethau, er iddynt gael tiroedd i'w henwau.Ni all neb aros mewn rhwysg; y mae fel yr anifeiliaid sy'n darfod.
“Ni all neb wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casáu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon.
Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw'n ymffrostio, nid yw'n ymchwyddo.
pan weiddi, ni fyddant yn dy waredu. Bydd y gwynt yn eu dwyn ymaith i gyd, ac awel yn eu chwythu i ffwrdd. Ond bydd y sawl a ymddiried ynof fi yn meddiannu'r ddaear, ac yn etifeddu fy mynydd sanctaidd.”
Gwisgwch yr Arglwydd Iesu Grist amdanoch; a pheidiwch â rhoi eich bryd ar foddhau chwantau'r cnawd.
Y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.Nid y sawl sydd yn ei ganmol ei hunan, ond y sawl y mae'r Arglwydd yn ei ganmol, sy'n gymeradwy.
Y mae amlhau geiriau yn amlhau gwagedd; a pha fantais sydd i neb?Pwy a ŵyr beth sydd dda i neb yng nghyfnod byr ei fywyd gwag, a dreulia fel cysgod? Pwy all ddweud wrtho beth dan yr haul a ddaw ar ei ôl?
A gras mwy y mae ef yn ei roi. Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Y mae Duw'n gwrthwynebu'r beilchion, ond i'r gostyngedig y mae'n rhoi gras.”
Am hynny, y mae balchder yn gadwyn am eu gyddfau, a thrais yn wisg amdanynt.Y mae eu llygaid yn disgleirio o fraster, a'u calonnau'n gorlifo o ffolineb.
Ond beth bynnag oedd yn ennill i mi, yr wyf yn awr yn ei ystyried yn golled oherwydd Crist.A mwy na hynny hyd yn oed, yr wyf yn dal i gyfrif pob peth yn golled, ar bwys rhagoriaeth y profiad o adnabod Crist Iesu fy Arglwydd, yr un y collais bob peth o'i herwydd. Yr wyf yn cyfrif y cwbl yn ysbwriel, er mwyn imi ennill Crist
Dyma'r gwagedd a wneir ar y ddaear: pobl gyfiawn yn derbyn fel pe byddent wedi gweithredu'n anghyfiawn, a phobl ddrwg yn derbyn fel pe byddent wedi gweithredu'n gyfiawn. Dywedais fod hyn hefyd yn wagedd.Yr wyf yn canmol llawenydd, gan mai'r unig beth da i bawb dan yr haul yw bwyta ac yfed a bod yn llawen; oherwydd fe erys hyn gyda hwy pan y maent yn llafurio yn ystod y dyddiau a rydd Duw iddynt dan yr haul.
Bydded inni ymgadw rhag gwag ymffrost, rhag herio ein gilydd, a rhag cenfigennu wrth ein gilydd.
Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ddisgyblaeth mewn doethineb, a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.
Os nad yw'r ARGLWYDD yn adeiladu'r tŷ, y mae ei adeiladwyr yn gweithio'n ofer. Os nad yw'r ARGLWYDD yn gwylio'r ddinas, y mae'r gwylwyr yn effro'n ofer.
Yn yr un modd, chwi wŷr ifainc, ymostyngwch i'r henuriaid. A phawb ohonoch, gwisgwch amdanoch ostyngeiddrwydd yng ngwasanaeth eich gilydd, oherwydd, fel y dywed yr Ysgrythur: “Y mae Duw'n gwrthwynebu'r beilchion, ond i'r gostyngedig y mae'n rhoi gras.”
Unwaith eto, dyma a sylwais dan yr haul: nid y cyflym sy'n ennill y ras, ac nid y cryf sy'n ennill y rhyfel; nid y doethion sy'n cael bwyd, nid y deallus sy'n cael cyfoeth, ac nid y rhai gwybodus sy'n cael ffafr. Hap a damwain sy'n digwydd iddynt i gyd.Ni ŵyr neb pa bryd y daw ei amser; fel y delir pysgod mewn rhwyd ac adar mewn magl, felly y delir pobl gan amser adfyd sy'n dod arnynt yn ddisymwth.
dim ond inni gadw'n golwg, nid ar y pethau a welir, ond ar y pethau na welir. Dros amser y mae'r pethau a welir, ond y mae'r pethau na welir yn dragwyddol.
Yna fe ddarostyngir uchel drem y ddynoliaeth, ac fe syrth balchder y natur ddynol. Yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
Byddwch yn ddiariangar yn eich dull o fyw; byddwch yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Oherwydd y mae ef wedi dweud, “Ni'th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.”
Paid ag ofni pan ddaw rhywun yn gyfoethog a phan gynydda golud ei dŷ,oherwydd ni chymer ddim pan fo'n marw, ac nid â ei gyfoeth i lawr i'w ganlyn.
a bod y gwragedd, yr un modd, yn gwisgo dillad gweddus, yn wylaidd a diwair, ac yn eu harddu eu hunain, nid â phlethiadau gwallt a thlysau aur a pherlau a gwisgoedd drud,ond â gweithredoedd da, fel sy'n gweddu i wragedd sy'n honni bod yn dduwiol.
Y mae'r cenhedloedd fel defnyn allan o gelwrn, i'w hystyried fel mân lwch y cloriannau; y mae'r ynysoedd mor ddibwys â'r llwch ar y llawr.Nid oes yn Lebanon ddigon o goed i roi tanwydd, na digon o anifeiliaid ar gyfer poethoffrwm.Nid yw'r holl genhedloedd yn ddim ger ei fron ef; y maent yn llai na dim, ac i'w hystyried yn ddiddim.
symud wagedd a chelwydd ymhell oddi wrthyf; paid â rhoi imi dlodi na chyfoeth; portha fi â'm dogn o fwyd,rhag imi deimlo ar ben fy nigon, a'th wadu, a dweud, “Pwy yw'r ARGLWYDD?” Neu rhag imi fynd yn dlawd, a throi'n lleidr, a gwneud drwg i enw fy Nuw.
Oddi uchod y daw pob rhoi da a phob rhodd berffaith. Disgyn y maent oddi wrth Dad goleuadau'r nef; ac iddo ef ni pherthyn na chyfnewid na chysgod troadau'r rhod.
“Dyma'r un na wnaeth Dduw yn noddfa, ond a ymddiriedodd yn nigonedd ei drysorau, a cheisio noddfa yn ei gyfoeth ei hun.”
Trwy hyn y mae ef wedi rhoi i ni addewidion gwerthfawr dros ben, er mwyn i chwi trwyddynt hwy ddianc o afael llygredigaeth y trachwant sydd yn y byd, a dod yn gyfranogion o'r natur ddwyfol.
Felly, fy nghyfeillion annwyl, byddwch yn gadarn a diysgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer.
Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw;nid yw'n dibynnu ar weithredoedd, ac felly ni all neb ymffrostio.
Y mae'r byd a'i drachwant yn mynd heibio, ond y mae'r sawl sy'n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.
Dywedais innau, “Llafuriais yn ofer, a threuliais fy nerth i ddim; er hynny y mae fy achos gyda'r ARGLWYDD a'm gwobr gyda'm Duw.”
Ni all unrhyw was wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casáu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon.”
“Nid pawb sy'n dweud wrthyf, ‘Arglwydd, Arglwydd’, fydd yn mynd i mewn i deyrnas nefoedd, ond y sawl sy'n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.Bydd llawer yn dweud wrthyf yn y dydd hwnnw, ‘Arglwydd, Arglwydd, oni fuom yn proffwydo yn dy enw di, ac yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn dy enw di yn cyflawni gwyrthiau lawer?’Ac yna dywedaf wrthynt yn eu hwynebau, ‘Nid adnabûm erioed mohonoch; ewch ymaith oddi wrthyf, chwi ddrwgweithredwyr.’
Bydd pobl yn hunangar ac yn ariangar, yn ymffrostgar a balch a sarhaus, yn anufudd i'w rhieni, yn anniolchgar ac yn ddigrefydd.Byddant yn ddiserch a digymod, yn enllibus a dilywodraeth ac anwar, heb ddim cariad at ddaioni.Bradwyr fyddant, yn ddi-hid, yn llawn balchder, yn caru pleser yn hytrach na charu Duw,
Nid oedd terfyn ar yr holl bobl, ac yr oedd ef yn ben arnynt i gyd; ond nid oedd y rhai a ddaeth ar ei ôl yn ymhyfrydu ynddo. Yn wir, y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
oherwydd mi wn nad oes dim da yn cartrefu ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd. Y mae'r ewyllys i wneud daioni gennyf; y peth nad yw gennyf yw'r gweithredu.
Y mae dyddiau dyn fel glaswelltyn; y mae'n blodeuo fel blodeuyn y maes—pan â'r gwynt drosto fe ddiflanna, ac nid yw ei le'n ei adnabod mwyach.
Wedi clywed y cyfan, dyma swm y mater: ofna Dduw a chadw ei orchmynion, oherwydd dyma ddyletswydd pob un.Yn wir, y mae Duw yn barnu pob gweithred, hyd yn oed yr un guddiedig, boed dda neu ddrwg.